Hanes Llystyfiant

Ailgread o gorsydd glo De Cymru diwedd y cyfnod Carbonifferaidd. Celf gan A. Townsend.

Astudiaeth yw hon o fywyd planhigion y gorffennol fel y'i cofnodwyd ar ffurf ffosilau, yn cynnwys y cofnod sborau/paill.

Mae bioamrywiaeth planhigion yn sensitif iawn i newidiadau amgylcheddol yn enwedig newidiadau yn yr hinsawdd. Mae astudiaeth hanes planhigion yn ffordd ardderchog i ddatgelu sut y mae ein byd ni wedi newid dros gyfnod.

Mae'r cofnod ffosilau hefyd yn gymorth i ni i ddeall hanes esblygol bywyd planhigion, a'r berthynas rhwng gwahanol grwpiau planhigion. Mae gwaith o'r fath yn cadarnhau yr astudiaeth o fioamrywiaeth planhigion modern, gan roi iddo'r pedwerydd dimensiwn sef amser.

Mae'r Adran yn canolbwyntio ar lystyfiant yn ystod y ddau gyfnod diweddaraf yn hanes y Ddaear pan oedd lefelau sylweddol o iâ pegynol: diwedd y cyfnod Carbonifferaidd a dechrau'r cyfnod Permaidd (310-290 miliwn o flynyddoedd yn ôl) a'r cyfnod Pleistosenaidd a modern (y 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf). Mae tipyn o esiamplau yng Nghymru o hanes ffosiledig planhigion o'r ddau gyfwng amser hwn.

Casgliadau

Printiadau a lluniadau

Casgliad gwych o ryw 9000 o brintiadau a lluniadau, o ysgythriadau proffesiynol i ddyfrliwiau amaturaidd. Mae'n cynnwys gweithiau gan feistri darlunio botanegol fel Ehrer, Redouté a Fitch. Mae'r casgliad wedi'i ddogfennu a'i gadw'n dda a cheir lefel uchel o arbenigedd oddi mewn i'r Adran. Mae catalog cynhwysfawr yn cael ei baratoi. Ar hyn o bryd, mae ymchwil yn canolbwyntio ar gryfderau'r casgliadau, yn enwedig gwaith gan arlunwragedd botanegol, a hefyd Tablau Botanegol unigryw Bute gan John Miller.

Fformat ffotograffeg canolig

Tua 47,000 o sleidiau 35mm a fformat ffotograffeg canolig. Cryfderau'r casgliad hwn yw fflora ac amgylchedd Cymru, planhigion alpaidd a darluniau botanegol.

Casgliad ffilatelig botanegol.

Dros 23,000 o stampiau, taflenni miniatur, gorchuddion diwrnod cyntaf a maxicards o bedwar ban byd yn dangos ystod eang o blanhigion, ffwng a ffosilau planhigion. Caiff y rhain eu defnyddio mewn arddangosfeydd ac arddangosiadau.

Adnabod

Fel rhan o sefydliad dan nawdd cyhoeddus, bydd yr Adran yn gwneud gwaith adnabod ffosilau planhigion am ddim yn unol â statws. Cadwn yr hawl i wrthod darparu gwasanaeth os yw'r cais yn afresymol, e.e. yn rhy fawr, yn cymryd gormod o amser, neu nad oes gennym yr arbenigedd priodol. Bydd yr Adran yn gwneud gwaith adnabod masnachol dan gytundeb. Dylai cleientiaid posibl roi manylion y project a gofyn am bris y gwaith gan aelod o staff yr Adran.