Dyddodiad Paill Arwynebol mewn amgylchedd arctig-alpaidd
Mae'r berthynas rhwng llystyfiant a dyddodiad paill arwynebol yn gymhleth, a heb ei ddeall yn dda. Mae nifer o ffactorau yn effeithio ar ddyddodiad paill, gan gynnwys swm y paill a gynhyrchir, sy'n amrywio o rywogaeth i rywogaeth, y pellter y mae gronynnau paill unigol yn teithio cyn cael eu gollwng a natur yr arwynebedd casglu.
Mae'r project hwn yn edrych ar ddyddodiad paill arwynebol ar 26 penrhyn rhewlifol yn Norwy drwy gymharu paill yn y mwsog gyda'r llystyfiant lleol. Mae'r canlyniadau'n datgelu bod y mwyafswm o spectra paill yn baill coed sy'n debygol o fod wedi teithio am nifer o gilomedrau cyn cael eu gollwng. Serch hynny, gan ddefnyddio technegau dadansoddi aml-amrywedd soffistigedig, mae'n bosibl gwahaniaethu rhwng cymunedau planhigion cyferbyniol, a chael mewnwelediad i batrymau dyddodiad paill. Gellir cymharu'r canlyniadau gyda diagramau paill Holosenaidd i wella ein dehongliad o newidiadau llystyfiant yn y gorffennol.