Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Cwestiwn anodd i'w ateb gan fod cynifer o ffynonellau y mae modd i chi wneud defnydd ohonynt! Cyhoeddir yr arweiniad gorau i'r ffynonellau hyn gan Yr Archifdy Gwladol, sef Records of Merchant Shipping and Seamen (Readers' Guide No. 20) gan Kelvin Smith, Christopher Watts a Michael Watts, sydd ar gael yn ein llyfrgell gyfeiriadurol. Neu gallwch ymweld â gwefan Yr Archifdy Genedlaethol: www.nationalarchives.gov.uk. Cedwir mwy o wybodaeth forwrol a gwybodaeth am longau gan Lloyd's Registers o Fenchurch Street, Llundain ac yn Llyfrgell Neuadd y Gorfforaeth yn Llundain.
Gall fod, os ydych chi'n gwybod enwau'r llongau! Efallai fod ei lyfr rhyddhau yn eich meddiant, llyfr tebyg i basbort a gofnodai ei holl fordeithiau a'r llongau yr hwyliodd arnynt. Mae gennym ffotograffau o bron 6,000 o longau yn ein harchif ffotograffig ond maent wedi'u mynegeio yn ôl enwau'r llongau. Gallwch chwilio drwy'r holl luniau y casgliad yng nghatalog Casgliadau Arlein.
Os am wybodaeth gyffredinol am forwyr enwog a'u llongau, gweler y llyfr Oxford Companion to Ships and the Sea, a olygwyd gan Peter Kemp. Mae'r llyfr ar gael yn ein llyfrgell gyfeiriadurol, neu yn eich llyfrgell leol.
Gan mai o Gaerdydd yr hwyliodd Scott ar fwrdd y Terra Nova yn 1910, mae ein harchif ffotograffig yn cynnwys nifer o luniau o ymadawiad y llong. Mae blaenddelw'r Terra Nova yn ein casgliad hefyd.
Nid oes gan yr Adran Ddiwydiant gofnodion am lowyr unigol (yn wir, nid oes cofnodion o'r math yma i'w cael yn unman) ac, felly, ni fedrwn gynnig ateb i ymholiad o'r math yma. Ond fe fyddai'n bosibl i chi ymgymryd â pheth gwaith ymchwil i hanes eich teulu er mwyn ceisio ateb y cwestiwn hwn. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â'r archifdy lleol sy'n gwasanaethu'r ardal lle roedd eich perthynas yn gweithio, a'r Archifdy Genedlaethol yn Llundain.
Os oes gennych ddiddordeb mewn amodau gwaith glöwr, yna gallwch bori yn yr Inspector of Mines Reports sydd yn ein Llyfrgell.