Diwydiant
Mae’r casgliad diwydiannol yn cynrychioli bywyd diwydiannol Cymru. Mae’n cynnwys y diwydiannau smeltio copr, haearn a dur, mwyngloddio metel, cynhyrchu tunplat a’r diwydiannau ategol. Mae maint peiriannau diwydiannol yn golygu fod llawer o’r prosesau yn cael eu cynrychioli gan ffotograffau, ffilmiau, cynlluniau a modelau.
Casgliadau nodedig:
- Amrywiaeth eang o gynnyrch o ddiwydiannau prosesu metel Cymru.
- Offer llaw ac eiddo personol crefftwyr o amrywiaeth o ddiwydiannau Cymru.
- Enghreifftiau o ddeunyddiau crai diwydiannau Cymru, a chynnyrch y diwydiannau hyn.
- Enghreifftiau o frics, teils, pibelli a deunyddiau anhydrin o Gymru.
- Peiriannau sefydlog oedd yn gyrru peirianwaith mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.
- Tystysgrifau cyfrannau o ddiwydiannau a thrafnidiaeth Cymru; yn arbennig cwmnïau mwyngloddio anfferrus.
- Pamffledi a gynhyrchwyd gan gwmnïau dur a thunplat Cymru, o’r 1950au i’r 1970au yn bennaf.
- Ffilmiau a ffotograffau hanesyddol o ddiwydiannau dur a thunplat Cymru.
- Ffotograffau o safleoedd archaeolegol diwydiannol yng Nghymru.
- Gweisg argraffu a chyfarpar cysylltiedig gan gynnwys yr unig wasg gyffredin bren o Gymru sydd wedi goroesi.