Adran y Gwyddorau Naturiol
Ysbrydoli pobl a denu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr
Yn Amgueddfa Cymru mae casgliad mwyaf a mwyaf cynhwysfawr y byd o sbesimenau daeareg, sŵoleg a botaneg Cymreig – cofnod unigryw o hanes Cymru a'i newid esblygiadol ac amgylcheddol dros 700 miliwn o flynyddoedd.
Mae ein gwyddonwyr yn gwneud gwaith ymchwil gaiff ei gydnabod yn rhyngwladol a'i rannu drwy sawl cyfrwng, gan gynnwys papurau wed'i cymedroli gan gymheiriaid, canllawiau a basau data adnabod ar-lein a chyfryngau cymdeithasol.
Rydym yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag amryw grwpiau a chymunedau ac yn dod â gwyddoniaeth a chanfyddiadau gwyddonol at gynulleidfa ehangach drwy ein casgliadau a'n harddangosfeydd.
Mae ein casgliadau o Gymru a phedwar ban byd yn cynnwys dros 3.5 miliwn o sbesimenau hanes natur.
Cysylltwch â ni
Rydym ni bob amser yn helpu gydag unrhyw ymholiadau gwyddonay naturiol sydd gennych chi. Mae'r manylion cyswllt isod:
Gellir cyfeirio ymholiadau cyffredinol ysgrifenedig neu llafar at:
Yr Adran Gwyddonau Naturiol
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NP
Cymru, DU
Ffôn: +44 (0)300 1112333
Departmental Staff
Erthyglau Diweddaraf
Cofnodion Blog
-->
Erthyglau Diweddaraf
Cofnodion Blog