7-8 Medi 2024

Y Rhaglen

Digwyddiad: Cyfieithwyr ar y Pryd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) Symudol

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
7 a 8 Medi 2024 , 10am-6pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Archebu lle Gellir archebu cyfieithwyr ar y pryd symudol ar y diwrnod o'r babell cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghae Cilewent (gyferbyn ag adeilad rhif 46)
Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd Iaith Arwyddion Prydain (British Sign Language) ar gael yn y digwyddiad. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu gan gyfieithwyr ar y pryd cwbl gymwysedig a rhai cyfieithwyr ar y pryd dan hyfforddiant / Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu (CSWs).
 
Mae cyfieithwyr ar y pryd symudol ar gael yn y digwyddiad i dywys ymwelwyr B/byddar o amgylch yr ŵyl, mynychu gweithdai gyda nhw, ac i'w helpu i archebu bwyd a diod. Gellir archebu cyfieithwyr ar y pryd symudol ar y diwrnod o'r babell cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghae Cilewent (gyferbyn ag adeilad rhif 46).
 
Bydd rhai gweithgareddau a pherfformiadau yn cael eu cynnal a'u perfformio gan hwyluswyr a pherfformwyr byddar - bydd mwy o wybodaeth am y rhaglen yma'n cael ei gyhoeddi yn fuan.
 
Os oes angen cymorth neu gefnogaeth arnoch chi ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn cael eu darparu gan hwyluswyr byddar, ewch i'r babell cyfieithwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i archebu cyfieithydd ar y pryd symudol.
 
Digwyddiadau