Datganiadau i'r Wasg
Safle Amgueddfa Lechi Cymru i gau y drysau am y tro
Ar 4 Tachwedd 2024 bydd Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis yn cau y drysau tan 2026 tra bod yr Amgueddfa yn cael ei hailddatblygu!
Bwyd stryd, stondinau a cherddoriaeth fyw i’w mwynhau yng Ngŵyl Fwyd flynyddol Amgueddfa Cymru
Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 7 ac 8 Medi, gyda gwledd o stondinau bwyd, cerddoriaeth fyw a hwyl i bawb o bob oed.
1984 - 1985: Y flwyddyn aeth Margaret Thatcher benben â’r cymunedau glofaol
Mae tocynnau yn nawr ar werth ar gyfer arddangosfa newydd sbon Amgueddfa Cymru, Streic ’84-'85 Strike, sy’n agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 26 Hydref. Mae’r arddangosfa yn taflu goleuni ar stori hanesyddol Streic y Glowyr a’i effaith hynod ar ein gwlad.
Ar Frig y Don – Dathlu 200 mlynedd o’r RNLI
Bydd dwy arddangosfa newydd gyffrous yn agor y mis hwn i nodi carreg filltir arbennig yn hanes yr RNLI. Bydd Ar Frig y Don yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 22 Mehefin a Calon a Chymuned yn agor yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi ar 29 Mehefin.
Y Cymoedd - Arddangosfa Newydd yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Beth yw’r Cymoedd i chi? Mae arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cyflwyno tirwedd, pobl a chymunedau cymoedd de Cymru.
Datgan bod canfyddiadau o’r Oes Efydd a’r Canoloesoedd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn Drysor
Cafodd dau ganfyddiad o’r Oes Efydd a chelc ceiniogau o’r canoloesoedd eu datgan yn drysor ar ddydd Gwener 22 Mawrth 2024 gan Grwner E.F. Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, Mr. Paul Bennett.