Datganiadau i'r Wasg
Datgan canfyddiadau’r Oes Efydd o Went yn drysor
Cafodd tri o ganfyddiadau eu datgan yn drysor ddydd Gwener 3 Mai 2024 gan uwch Grwner Gwent, Ms. Caroline Saunders.
Lansiad Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth
Amgueddfa Cymru yn lansio Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth newydd
Datgan naw canfyddiad o Ogledd Ddwyrain Cymru yn Drysor
Cafodd naw canfyddiad, o’r Oes Efydd Ddiweddar hyd at yr ail ganrif ar bymtheg, eu datgan yn drysor ddydd Mawrth 30 Ebrill 2024 gan Grwner Cynorthwyol Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol), Ms Kate Robertson.
Datgan wyth canfyddiad o Dde Cymru a Phowys yn Drysor
Cafodd wyth canfyddiad trysor, gan gynnwys pedwar canfyddiad o’r Oes Efydd, grŵp o geiniogau Rhufeinig, grŵp o geiniogau canoloesol, ingot arian canoloesol cynnar a chrogaddurn bath ôl-ganoloesol eu datgan yn drysor ddydd Mawrth 23 Ebrill gan Grwner Ardal Canol De Cymru, Ms. Patricia Morgan.
Gwesty’r Vulcan yn agor yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym mis Mai 2024
Bydd Gwesty’r Vulcan Hotel yn agor i ymwelwyr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 11 Mai 2024.
Canfod Trysor Rhufeinig ar Ynys Môn
Cafodd pâr o freichledau Rhufeinig eu datgan yn drysor ar ddydd Mercher 13 Mawrth gan Ddirprwy Grwner Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol), Kate Robertson.
Cafodd dwy freichled aloi copr (Achos Trysor 23.68) eu canfod gan Mr Andrew Hutchinson wrth ddefnyddio datgelydd metel yng Nghymuned Llanddyfnan, Sir Fôn, ym mis Medi 2023. Gan eu bod yn Drysor, cafodd y breichledau eu trosglwyddo i Sean Derby yn Ymddiriedolaeth Archaeoleg Dyfed cyn cael eu cludo i’w hadnabod a’u dehongli gan guraduron arbenigol Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.