Straeon y Streic: Les Jackson
10 Ionawr 2025
,Yn y gyfres yma o Straeon y Streic fe glywn ni am y gorau a gwaetha o fywyd yn ystod y flwyddyn a newidiodd fywydau glowyr, eu teuluoedd, yr heddlu a gwleidyddion wrth iddynt hel atgofion am beth oedd bywyd fel rhwng 84-85.
Mae Straeon y Streic yn rhan o arddangosfa Streic 84-85 Strike sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ebrill 27 2025.
Les Jackson (glöwr, Glofa Maerdy)
Gadewais yr ysgol yn 16 oed i fod yn godwr tolciau ar £9 yr wythnos. Ond cefais sgwrs gyda fy mrawd yng nghyfraith a deall ei fod yn gwneud £80 yr wythnos. Felly es i i’r pwll glo ar unwaith. Cefais fy nerbyn yn 17 oed, wedi fy nghyffroi gan yr arian, ac roeddwn i eisiau cychwyn cyn gynted ag y gallwn i.
Cychwynnais yn ‘78, ‘79. Fe wnes i fy hyfforddiant sylfaenol yn Nhondu, roedd yna ganolfan efelychu yno. Maen nhw’n eich dysgu chi sut i wneud pac - llenwi’r ochrau lle rydych chi’n gweithio fel nad oes nwyon perygl yn dianc. Ond ni wnaeth unrhyw beth godi ofn arnaf i, mynd lawr yn y gawell, dim byd. Byddech chi weithiau’n gorfod tynnu eich belt i ffwrdd, gan ei bod hi mor dynn. Weithiau roeddech chi’n sâl yn gorfforol, doeddech chi ddim yn ei ddisgwyl.
Y rhan nesaf oedd hyfforddi ar ffas bedair troedfedd. Bydden nhw’n anfon ni’r hogiau main gan ei bod hi mor dynn. Ar un adeg, yn yr hyfforddiant ar y ffas, roeddwn i’n gweithio ar ffas is, dim ond bar uwch eich pen. Bydden ni’n torri’r uchder i mewn a byddai’r hogiau mwy yn mynd i mewn ar ôl hynny. Unwaith rydych chi wedi cael hyfforddiant, cyn gynted ag y mae yno le, rydych chi i mewn. Roeddwn i’n adnabod pawb ar y ffas ac y tro cyntaf es i lawr, gwnaethon nhw ffỳs fawr ohonof i. Mae pawb yn edrych ar ôl ei gilydd. A’r ymdeimlad hwnnw o gymuned oedd beth oedden ni’n brwydro i’w achub, dan ddaear ac ar y wyneb. Roedd yn fwy na jobyn.
Pan wnes i ymuno, o’n i’n meddwl y byddai’n jobyn am byth. Gwnes i weithio tan y diwrnod y caeodd y pwll.
Yn ‘84, roedd Thatcher eisiau i ni fynd ar streic. Roedd hi wedi storio glo, cael popeth yn barod, ac wedi cyhoeddi bod pyllau’n cau. Roedd yn bryfociad bwriadol i gael yr holl undebau llafur i gydymffurfio. Roedd hi’n meddwl os fyddai’n gallu ein torri ni, byddai pawb arall yn ufuddhau hefyd. Ond doedd hi heb ddisgwyl i ni gael undeb mor gryf. Y pwll cyntaf i mi ei bicedu oedd Caerffili. Fe wnaethon ni gerdded i fyny a chawson ni lond ceg gan y gwragedd ar y ffordd i fyny at gatiau’r lofa. Ond fe wnaethon ni ffurfio’r llinell a siarad â’r bois drodd fyny i weithio - fe wnaethon nhw droi’n ôl, a pheidio mynd i’r gwaith. Er, fe wnaethon ni glywed fod rhywfaint wedi mynd i mewn dros y mynydd. Ond doedd hi ddim wastad fel hynny - un tro, fe ddaethon nhw i weithio, cyn stopio i siarad â ni, cytuno cael cyfarfod rheoli i benderfynu a dod allan i adael i ni wybod eu bod am ymuno â ni ar y llinell. Unwaith oedden ni wedi mynd, dechreuodd y shifft prynhawn fel yr arfer!
Fe wnaethon ni deithio ar draws y wlad. Orgreave oedd yr un a newidiodd popeth. Roedd yn dywydd braf a chynnes. Diwrnod gogoneddus. Roedden ni wedi cysgu ar y pafin tu allan i’r adeilad NUM. Roeddwn i’n dreifio fan transit. Fel arfer, bydden ni’n cael ein stopio gan yr heddlu. Y tro hwn, fe wnaethon nhw stopio a siarad â ni a dywedon nhw ‘Rydyn ni’n gwybod lle rydych chi’n mynd.’ Ond yn hytrach na’n troi ni ffwrdd neu rwystro’r ffordd, fe wnaethon nhw ein hel ni ymlaen a’n cyfeirio at le parcio. Trap oedd e.
Unwaith roedd pawb wedi ymgynnull, roeddwn i yn y tu blaen. Roeddwn i’n fachgen ifanc, ges i fy nghario i ffwrdd, fy nhraed oddi ar y llawr. Roedd cerrig yn cael eu hyrddio tuag atom ni. Agorodd yr heddlu i fyny yn sydyn, bwlch enfawr, ac roedd yna geffylau yn dod yn syth amdanaf i. Fe wnes i droi a rhedeg, cyn gynted ag y gallwn i. Neidiais i mewn i’r llwyni. Neidiodd eraill ar fy mhen. Roedd mwy o heddlu yn ein taro gyda ffyn. Roedd y dyn ar fy mhen i yn cael ei guro. Llwyddais i ddianc a rhedeg. Roedd wal dair troedfedd ac fe neidiais drosti - cyn gweld ei bod yn chwe throedfedd yr ochr arall. Ac yno, o fy mlaen i roedd llwythi o gŵn heddlu ar denynnau hir. Rhedais tuag at y dref - gwaeddodd ddynes ‘Sydyn, dere i mewn’ ac fe wnes i ddianc drwy gefn ei thŷ hi i mewn i’r ganolfan siopa leol lle ges i ddal fy ngwynt. Trodd Scargill i fyny yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, daeth i lawr y llethr gwelltog tuag at y protest. Cafodd ei arestio am annog terfysg.
Roeddwn i fod i briodi ar 22 Gorffennaf a chael fy mharti stag yn Bierkeller Coed-duon. Rhai dyddiau ynghynt, roedd rhai lorïau glo o gwmni lleol wedi cael eu llosgi, gan rai o’r picedwyr yn ôl y sôn - roedd yr heddlu wedi fy marcio am dipyn, am ryw reswm. Roedden nhw’n sicr mai fi wnaeth ac roedden nhw eisiau fi allan o’r ffordd. Roedd 45 ohonom ni yn y parti stag - bu ffeit, ac roedd heddlu mewn dillad cyffredin yn rhan ohoni. Fe wnes i anelu ambell i ergyd a chefais fy arestio a fy ngharcharu am wythnos nes dau ddiwrnod cyn y briodas tra’r oedden nhw’n trio rhoi’r bai arnaf i. Fe wnes i briodi - roedd fy nheulu i gyd wedi cyfrannu i sicrhau bod y briodas yn digwydd ac y bydden ni’n cael mis mêl braf, er gwaethaf mor anodd oedd hi i bawb yn ariannol.
Felly i ffwrdd â ni ar ein mis mêl a tra roeddwn i ffwrdd, gollyngodd yr heddlu siaced ledr yn fy nhŷ a dweud wrth y lojar eu bod wedi dod o hyd i fy siaced. Dim fy siaced i oedd hi. Daethon nhw’n ôl y diwrnod ar ôl i mi gyrraedd yn ôl i chwilio fy nhŷ a fy arestio am ddwyn siaced ledr. Yna ges i ddirwy o £200 am y parti stag - ac fe gytunon nhw i ohirio’r taliad am ychydig gan nad oedd gen i arian. Dau fis wedyn roedden nhw wrth y drws eto, yn ceisio fy arestio eto am beidio talu’r ddirwy wnaethon nhw ‘gytuno’ i’w ohirio. Roedden nhw’n benderfynol o fy nghosbi, un ffordd neu’r llall.
Mae gen i deulu mawr. Fe wnaethon nhw sicrhau nad oedden ni’n gwneud heb ac fe fenthycodd fy chwaer yr arian i mi dalu’r ddirwy a fy nghadw allan o’r carchar. Roeddwn i’n un o’r rhai lwcus - roedd gen i lojar a oedd yn helpu i dalu llog y morgais ac roeddwn i’n gallu cael morgais arall i dalu’r gweddill - mae honno’n sgandal arall yn ei hun.
Roedden ni’n dechrau clywed fod rhai aelodau NUM wedi bod yn cael cyfarfodydd i geisio ein cael ni i ddychwelyd i’r gwaith gan eu bod yn gwybod na allen ni ennill. Pan ddaeth y newyddion fod y streic yn dod i ben a chawson ni ein gorchymyn i fynd yn ôl i’r gwaith, roeddwn i’n torri fy nghalon. Ni chawson ni bleidlais, dim ond gorchymyn i ddychwelyd. Roeddwn yn teimlo embaras am bopeth o’n i wedi rhoi pawb trwyddo. Wedi cael ein gadael i lawr gan y pwerau uwchben - roedd gen i bob math o deimladau. Roeddwn i’n teimlo’n uffernol gan ein bod wedi colli.
Os fyddwn i’n gorfod troi’r cloc yn ôl, buaswn i’n ei wneud i gyd eto. Dyna wnaeth fy ffurfio i.