Data Tywydd ar gyfer Rhagfyr

Megan Naish, 14 Ionawr 2026

Helo Cyfeillion y Gwanwyn– 2026 Hapus!

Da iawn am barhau i gofnodi eich data fis diwethaf cyn eich gwyliau, mae wedi bod yn wych darllen eich sylwadau am y math o dywydd a gawsoch chi yn fis Rhagfyr. Rydw i hefyd wedi darllen llawer o sylwadau yn nodi eich bod chi'n dechrau gweld eich bylbiau'n tyfu – anhygoel!

Ar y cyfan, roedd mis Rhagfyr yn wlyb ac yn wyntog, ond yn fwyn ar y cyfan am dywydd arferol yn y DU, gyda'r tymereddau'n oeri ar ddiwedd y mis.

Cawson ni Storm Bram yn pasio’n agos tua’r 8fed o Ragfyr, gan ddod â gwyntoedd cryf a glaw trwm i ogledd yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhannau o Gymru. Arweiniodd hyn at lifogydd, toriadau pŵer a chau ffyrdd mewn sawl ardal, fel yr adroddwyd gan y Met Office. 

Unwaith i Storm Bram fynd heibio, dechreuodd y tywydd newid am y 10 diwrnod olaf neu fwy o fis Rhagfyr, pan ddaeth yn sychach, ond yn oerach. 

Mae'r tymereddau oerach wedi parhau i mewn i 2026, gyda rhai rhybuddion eira a rhew, a rhai ysgolion ar gau! Mae gen i ddiddordeb mewn darllen eich sylwadau ar y tymereddau oerach hyn wrth i fis Ionawr barhau.

Dyma rai o’ch sylwadau o’r mis diwethaf!

-

Sylwadau Tymheredd a Thywydd:

Henllys Church in Wales School:

This week was a rainy and cold week

Irvinestown Primary School:

We had so much heavy rain on Friday that we didn’t get outside to play and we were very sad

Ysgol Pentreuchaf:

Mae wedi bwrw glaw mawr yma wythnos yma ond tydi hi ddim yn oer yma.

Athro’r Ardd:

Da iawn am ychwanegu'r manylion hyn at eich data – hyd yn oed pan nad oeddech chi'n gallu mynd allan i chwarae! Mae'n bwysig sylwi ar y newidiadau yn y tywydd a'r tymheredd, ac ystyried sut y gallai hyn effeithio ar eich bylbiau. Gallai'r glaw a'r tywydd mwyn olygu y gallai'r bylbiau flodeuo ychydig yn gynharach na'r disgwyl!-

-

Twf Planhigion!

Gavinburn Primary School:

We have attached a photo of our bulbs which are beginning to peek through the soil. We've seen lots of roots underneath too!

Cornist Park C.P:

It has been very cold this week. We had lots of rain in the middle of the week. We are beginning to get very excited because our first spring bulbs have started to come through the soil.

Mountain Lane School:

Green growth noticed in our bulb planters.

Pil Primary School:

-It has been cold this week. Our spring bulbs are shotting up.

-It has been raining a lot this week. We like checking the rainfall and temperature.

Llanmartin Primary School:

Our bulbs are starting to grow, approximately 1.5cm of growth.

Athro’r Ardd:

Wow! Mor gyffrous eich bod chi'n adrodd eich bod chi'n gweld eich bylbiau'n tyfu! Da iawn am gofnodi hyn a chadw llygad ar eich planhigion. Dros y misoedd nesaf, efallai y byddwch chi'n gallu dechrau cofnodi eich data blodeuo, os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw flodau'n agor!

-

Sut mae'r prosiect yn mynd?

Pinehurst Primary School:

We love going and checking our data every day.

Athro’r Ardd:

Rwyf mor falch o glywed eich bod chi'n mwynhau casglu data! Mae eich arsylwadau'n werthfawr iawn, felly daliwch ati gyda'r gwaith gwych. Da iawn!

-

Rwyf wedi bod wrth fy modd yn darllen drwy eich data a'ch arsylwadau dros fis Rhagfyr. Daliwch ati gyda'r gwaith anhygoel Cyfeillion y Gwanwyn, rwy'n edrych ymlaen at weld beth sy'n digwydd nesaf ym mis Ionawr! 

Athro’r Ardd

Gwaith y Gaeaf yn Ngerddi Sain Ffagan

Elin Barker, Cadwraethydd Gardd , 9 Ionawr 2026

Efallai bod y gaeaf yn ymddangos yn gyfnod tawel yn yr ardd, ond mae digon yn dal i ddigwydd y tu ôl i'r llenni. Wrth i'r dyddiau fynd yn fyrrach ac yn oerach, mae'r tîm garddio yn dechrau paratoi ar gyfer y tymor sydd i ddod. Rhai o'r ardaloedd prysuraf yw gerddi'r Castell, lle rydym yn tocio rhosod a choed, yn gorchuddio'r gwelyau gyda ‘mulch’, ac yn torri'r gwrychoedd yn ôl.

Mae'r castell wedi'i amgylchynu gan wrychoedd uchel a thrwchus. Maen nhw’n creu ‘ystafelloedd gardd’, gerddi bach gyda themâu gwahanol, wedi’u cuddio oddi wrth ei gilydd. Roedd y steil yma'n boblogaidd iawn yn ystod cyfnod Edwardaidd. Roedd gan bob ardal ei chymeriad ei hun, ac roedd y wrychoedd uchel yn ychwanegu elfen o syndod a diddordeb wrth droi pob cornel.

Yn y gorffennol, roedd y wrychoedd hyn yn cael eu torri i gyd gyda llaw, ond bellach, diolch byth, rydyn ni hefyd yn defnyddio torrwyr trydanol!

Rydyn ni hefyd yn gweithio ar y lôn o goed leim sy’n arwain at y castell, a blannwyd yn 1901. Rydyn ni’n eu pollardio - dull arbennig o docio sy’n golygu torri’r canghennau uchaf i ffwrdd ond cadw’r prif foncyff. Mae’n waith caled, ond mae’n cadw’r siâp trawiadol ac yn helpu’r coed i edrych fel yr oeddent ers canrifoedd.

Yn y gerddi bwthyn, rydym yn dechrau rhoi'r gerddi i'r gwely ar gyfer y gaeaf. Mae hyn yn golygu torri planhigion nôl, tacluso'r gwelyau a throi’r pridd - sy’n dod a llawenydd mawr i’r robin goch lleol, sy’n ein dilyn yn y gobaith o ddod o hyd i fwydyn! Rydyn ni hefyd yn ychwanegu tail sydd wedi pydru'n dda i wella'r pridd, er mwyn tyfu cnydau iach a chryf yn y flwyddyn newydd.

Job arall yw casglu deunyddiau ar gyfer torchau Nadolig. Bob blwyddyn, rydyn ni’n gwneud torchau traddodiadol i addurno drysau ein tai hanesyddol (gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr erthygl ar-lein o’r Nadolig diwethaf!). Rydyn ni’n defnyddio deunyddiau naturiol o amgylch y safle.

Rydyn ni’n copïo cyll a helyg i greu sylfeini cryf a hyblyg ar gyfer y torchau. Mae copïo’n ddull traddodiadol a chynaliadwy o reoli coetiroedd, lle mae coed ifanc yn cael eu torri’n ôl i’r ddaear fel bod canghennau newydd yn tyfu. Roedd hyn yn arfer cyffredin yng ngerddi a choetiroedd Cymru. Rydyn ni hefyd yn defnyddio planhigion hyblyg eraill fel wisteria a gwinwydd cochion (crimson glory vine) sy’n creu troellau prydferth ar y torchau.

Er bod y blodau wedi mynd, mae digon o hud dal yn y gerddi. Mae’r rhew yn disgleirio ar benau hadau a choesynnau rydyn ni wedi’u gadael i ddarparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt. Mae canghennau wedi'u gorchuddio a chen yn creu patrymau hardd yn erbyn awyr y gaeaf. Mae aeron coch yn tywynnu yng ngolau isel yr haul. Ac os ydych chi'n lwcus, efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gweld glas y dorlan yn plymio'n isel dros y pyllau trwy niwl y bore.

Mae cymaint i'w weld a'i fwynhau o hyd wrth i ni groesawu’r gaeaf yng ngerddi Sain Ffagan.

Goleuo’r Ffordd – Pennod Nesaf Neuadd Weston

Dafydd Newton-Evans, 19 Rhagfyr 2025

Mae newid yn dod i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Efallai eich bod wedi gweld newidiadau bach o gwmpas yr amgueddfa yn barod. Ond mae Neuadd Weston, calon modern yr amgueddfa, ar fin cael ei drawsnewid i fod yn ganolbwynt i weledigaeth newydd yr amgueddfa fydd yn adrodd stori Cymru a’i pherthynas gyda’r môr. 

 

Mae treftadaeth morwrol Cymru llawer mwy na rhaffau, angorau a modeli o longau. Felly, mae ein gweledigaeth am Neuadd Weston llawer mwy deinamig – gofod fydd yn ysbrydoli, yn annisgwyl ac yn sbardino trafodaethau. Lle bydd storiau pobol, masnach, ymfudo, dyfeisio, celfyddid a noddfa yn cwrdd ger y dŵr.

 

 

Fflam Newydd

Un o’r gwrthrychau cyntaf fydd yn dal eich llygaid wrth gamu mewn i’r amgueddfa fydd optig goleudy yn dyddio nol I ganol y 19fed ganrif.

 

Mae’r cawr o wydr wedi bod yn gorffwys mewn storfa am ddegawdau, ei prismau yn fud ac yn llonydd. Ond, bydd y fflam yn gael ei danio eto, gan ddod a’r gwrthrych yn fyw a’i drawsnewid i fod yn symbol o obaith. Bob dydd, bydd ymwelwyr yn gallu gwylio’r mecanwaith cywrain yn cael ei droelli – defod fydd yn pweru’r optig i droi a disgleirio. 

 

Nid yn unig y neuadd fydd yn cael ei oleuo gan y goleudy, ond mi fydd hefyd yn goleuo gydag ystyr. Bydd yr optig yn cynrychioli bywydau a dreuliwyd ar y môr a’r diogelwch roedd goleudai Cymru yn ei roi. Yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, mi fydd hefyd yn sefyll fel symbol o noddfa, gan adlewyrchu statws yr amgueddfa fel Amgueddfa Noddfa, a’n ymrwymiad i fod yn ofod croesawgar i bawb. 

 

O’r man yma, bydd ymwelwyr yn cael eu gwahodd i deithio ymhellach, i galon stori morwrol Cymru, a’r bobl gafodd eu siapio gan lanw a thrai’r moroedd.

 

 

Siwrne ar hyd y Traciau 

 

Wrth symud ymhellach i mewn i Neuadd Weston, daw rhywbeth annisgwyl i’r golwg: cerbyd Rhymni Rail wedi’i hadfer – yr unig enghraifft sydd wedi goroesi o dros 300 o gerbydau o’r fath a fu’n eiddo i’r cwmni rheilffordd Cymreig hwn. Bydd yn sefyll unwaith eto ar y traciau gwreiddiol sy’n torri drwy lawr yr amgueddfa hyd heddiw.

 

 

I ddod â hanes ein cartref hanesyddol yn fyw, bydd y fan yn helpu i ddehongli’r fasnach a fu’n digwydd yn y warws ac yn rhoi cyd-destun i’r colonâd a’r traciau rheilffordd sydd wedi’u hymgorffori yn y llawr.

 

 

Pan fydd yn cymryd ei lle yn Neuadd Weston, bydd yn ein hatgoffa nad yw cysylltiad Cymru â’r môr yn dechrau ar y lan, ond gyda’r diwydiant a’r dyfeisgarwch a fu’n rhan annatod o’n tirwedd a’n cymunedau o’r gogledd i’r de.

 

 

Celf ar y Gorwel

 

O’r hen i’r newydd, bydd ein comisiwn celf cyffrous yn codi uwch ein pennau cyn bo hir, i’w ddatgelu yn gynnar yng ngwanwyn 2026. Yn hongian o do Neuadd Weston, bydd y darn gweledol gan Jacqui Symons yn archwilio cysylltiad Cymru â’r môr drwy grefft, creadigrwydd ac emosiwn. Bydd yn herio ymwelwyr i edrych ar ddyfroedd cyfarwydd drwy olau newydd.

 

 

 

Jacqui Symons oedd yr artist llwyddiannus o dros 300 o gynigion llawn ysbrydoliaeth a chreadigrwydd – ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld y weledigaeth yn trawsnewid o bapur i realiti.

 

 

Llunio’r Stori Gyda’n Gilydd

 

Mae trawsnewid Neuadd Weston yn nodi dechrau taith newydd i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Felly, ymunwch â ni ar y fordaith – gwyliwch y cerbyd yn cymryd ei lle, teimlwch y tonnau creadigol yn codi, a darganfyddwch straeon y môr a’r bobl a gafodd eu siapio gan ei lanw a’i thrai.

 

Data Tywydd ar gyfer Tachwedd

Megan Naish, 5 Rhagfyr 2025

Helo Cyfeillion y Gwanwyn,

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r holl ysgolion sydd wedi uwchlwytho eu data tywydd i'r wefan hyd yn hyn. Mae wedi bod yn dywydd cymysg iawn ym mis Tachwedd, felly mae'n ddiddorol gweld beth rydych chi i gyd wedi'i gofnodi!

Mae'r MET Office wedi nodi bod Tachwedd 2025 wedi dod â thywydd amrywiol iawn ledled y DU, gyda glawiad uwch na'r cyfartaledd. Y mis hwn roedd glawiad y DU 31% yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer mis Tachwedd, sydd yn ei wneud y mis mwyaf gwlyb o 2025 hyd yn hyn!

Daeth Storm Claudia ym mis Tachwedd â glaw trwm, yn enwedig i Loegr a Chymru, gyda'r MET Office yn adrodd bod Canolbarth Lloegr, Swydd Lincoln, a Swydd Efrog wedi gweld mwy na dwbl eu glawiad cyfartalog ym mis Tachwedd. Arweiniodd y glaw hwn at lifogydd ac aflonyddwch mewn rhai ardaloedd, sy'n cael ei adlewyrchu yn eich sylwadau!

Roedd y tymheredd ym mis Tachwedd hwn yn amrywiol hefyd, lle dechreuodd y mis yn gynhesach nag arfer ond gostyngodd y tymheredd yn gyflym iawn yn ystod ail hanner y mis. Mae llawer o ysgolion wedi sôn am y newid hwn yn eu sylwadau, gyda rhai yn gweld rhew a chyfnodau byr o eira!

Gadewch inni edrych ar eich sylwadau i weld sut mae'r prosiect yn mynd mewn ysgolion ledled y DU.

-

Mae llawer o Gyfeillion y Gwanwyn wedi gwneud arsylwadau tywydd gwych:

Church Cowley St James CE Primary

Bitter cold week but glorious sunshine on Friday.

Church Cowley St James CE Primary

14/11/25 - Storm Claudia yn cychwyn

Cornist Park C.P

The start of the week began really mild. As the week has gone on the rain has become more persistent resulting in 12mm of rainfall while we were in school on Friday.

Mary Immaculate R.C. School

On Tuesday 4th November we had really heavy rain. Resulting in our playground flooding and lots of children and staff struggling to get home after school One of our teachers in Tenby had no water in her house for the evening.

Pil Primary School

There has been a lot of rain this week.

Athro’r Ardd:

Mae'n wych gweld cymaint o fanylion yn eich sylwadau, gan nodi faint mae'r tywydd wedi newid mewn un wythnos yn unig. Mae'r glawiad dros fis Tachwedd wedi bod yn wych ar gyfer helpu eich bylbiau i dyfu!

Fodd bynnag, gall stormydd fod yn aflonyddgar iawn, felly diolch i chi am rannu'r effaith a gafodd y storm ar eich ysgolion ac yn y cartref.

-

Rydych chi hefyd wedi bod yn gwneud sylwadau ar newidiadau yn y tymheredd:

Pil Primary School

It has been very cold this week, and we have had hardly any rainfall.

St John's Primary School

Light snow and frost on Wednesday Thursday

Irvinestown Primary School

We had lots of ice this week and it was very cold There was even a little bit of snow

Gavinburn Primary School

Very cold week

St Peter's CE Primary School

A flurry of snow fell for 10 minutes today

Ysgol Pentreuchaf

Y tywydd wedi oeri lot wythnos yma.

Athro’r Ardd:

Mae mor ddiddorol darllen am y newidiadau mewn tymheredd rydych chi wedi'u gweld dros fis Tachwedd, gyda rhai ohonoch chi hyd yn oed yn gweld rhywfaint o eira! Daliwch ati i gofnodi'r manylion hyn, gan y bydd yn gyffrous gweld pa dymheredd y bydd mis Rhagfyr yn ei gynnig.

 

-

Rydyn ni hyd yn oed wedi cael rhai Cyfeillion y Gwanwyn yn adrodd ar dwf planhigion yn barod:

Rhayader Primary

Our mystery bulbs have started growing, as have some of our other pots.

St Patrick's RC Primary - Newport

The temperature dropped immensely over the weekend. We also have begun to see early growth in our crocus plants.

Athro’r Ardd:

Mae'n gyffrous iawn clywed bod rhai ysgolion wedi dechrau gweld rhywfaint o dwf planhigion yn barod! Da iawn am gofnodi hyn a chadwch lygad ar eich planhigion i weld beth sy'n digwydd nesaf.

-

Rwyf wedi bod wrth fy modd yn darllen eich sylwadau a'ch arsylwadau a gweld eich holl ddata yn cael ei uwchlwytho. Daliwch ati gyda'r gwaith anhygoel Cyfeillion y Gwanwyn, ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth sy'n digwydd nesaf ym mis Rhagfyr!

Athro’r Ardd