Gwaith y Gaeaf yn Ngerddi Sain Ffagan
, 9 Ionawr 2026
Efallai bod y gaeaf yn ymddangos yn gyfnod tawel yn yr ardd, ond mae digon yn dal i ddigwydd y tu ôl i'r llenni. Wrth i'r dyddiau fynd yn fyrrach ac yn oerach, mae'r tîm garddio yn dechrau paratoi ar gyfer y tymor sydd i ddod. Rhai o'r ardaloedd prysuraf yw gerddi'r Castell, lle rydym yn tocio rhosod a choed, yn gorchuddio'r gwelyau gyda ‘mulch’, ac yn torri'r gwrychoedd yn ôl.
Mae'r castell wedi'i amgylchynu gan wrychoedd uchel a thrwchus. Maen nhw’n creu ‘ystafelloedd gardd’, gerddi bach gyda themâu gwahanol, wedi’u cuddio oddi wrth ei gilydd. Roedd y steil yma'n boblogaidd iawn yn ystod cyfnod Edwardaidd. Roedd gan bob ardal ei chymeriad ei hun, ac roedd y wrychoedd uchel yn ychwanegu elfen o syndod a diddordeb wrth droi pob cornel.
Yn y gorffennol, roedd y wrychoedd hyn yn cael eu torri i gyd gyda llaw, ond bellach, diolch byth, rydyn ni hefyd yn defnyddio torrwyr trydanol!
Rydyn ni hefyd yn gweithio ar y lôn o goed leim sy’n arwain at y castell, a blannwyd yn 1901. Rydyn ni’n eu pollardio - dull arbennig o docio sy’n golygu torri’r canghennau uchaf i ffwrdd ond cadw’r prif foncyff. Mae’n waith caled, ond mae’n cadw’r siâp trawiadol ac yn helpu’r coed i edrych fel yr oeddent ers canrifoedd.
Yn y gerddi bwthyn, rydym yn dechrau rhoi'r gerddi i'r gwely ar gyfer y gaeaf. Mae hyn yn golygu torri planhigion nôl, tacluso'r gwelyau a throi’r pridd - sy’n dod a llawenydd mawr i’r robin goch lleol, sy’n ein dilyn yn y gobaith o ddod o hyd i fwydyn! Rydyn ni hefyd yn ychwanegu tail sydd wedi pydru'n dda i wella'r pridd, er mwyn tyfu cnydau iach a chryf yn y flwyddyn newydd.
Job arall yw casglu deunyddiau ar gyfer torchau Nadolig. Bob blwyddyn, rydyn ni’n gwneud torchau traddodiadol i addurno drysau ein tai hanesyddol (gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr erthygl ar-lein o’r Nadolig diwethaf!). Rydyn ni’n defnyddio deunyddiau naturiol o amgylch y safle.
Rydyn ni’n copïo cyll a helyg i greu sylfeini cryf a hyblyg ar gyfer y torchau. Mae copïo’n ddull traddodiadol a chynaliadwy o reoli coetiroedd, lle mae coed ifanc yn cael eu torri’n ôl i’r ddaear fel bod canghennau newydd yn tyfu. Roedd hyn yn arfer cyffredin yng ngerddi a choetiroedd Cymru. Rydyn ni hefyd yn defnyddio planhigion hyblyg eraill fel wisteria a gwinwydd cochion (crimson glory vine) sy’n creu troellau prydferth ar y torchau.
Er bod y blodau wedi mynd, mae digon o hud dal yn y gerddi. Mae’r rhew yn disgleirio ar benau hadau a choesynnau rydyn ni wedi’u gadael i ddarparu bwyd a lloches i fywyd gwyllt. Mae canghennau wedi'u gorchuddio a chen yn creu patrymau hardd yn erbyn awyr y gaeaf. Mae aeron coch yn tywynnu yng ngolau isel yr haul. Ac os ydych chi'n lwcus, efallai y byddwch chi hyd yn oed yn gweld glas y dorlan yn plymio'n isel dros y pyllau trwy niwl y bore.
Mae cymaint i'w weld a'i fwynhau o hyd wrth i ni groesawu’r gaeaf yng ngerddi Sain Ffagan.