Straeon y Streic: Meinir Morris
27 Rhagfyr 2024
,Yn y gyfres yma o Straeon y Streic fe glywn ni am y gorau a gwaetha o fywyd yn ystod y flwyddyn a newidiodd fywydau glowyr, eu teuluoedd, yr heddlu a gwleidyddion wrth iddynt hel atgofion am beth oedd bywyd fel rhwng 84-85.
Mae Straeon y Streic yn rhan o arddangosfa Streic 84-85 Strike sydd i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan Ebrill 27 2025.
Roedd fy nhad yn gweithio mewn gwaith tanwydd di-fwg phurnacite yn Abercwmboi, a oedd angen tunelli o lo bob wythnos i gyflenwi’r ffyrnau a phethau eraill. Dwi’n cofio’r mwg o’r gwaith fwy neu lai yn flanced ar bopeth, holl ffordd ar draws canol y cwm.
Roeddwn i’n tua deg oed pan ddechreuodd y streic. Roedden ni’n byw tua phum munud i ffwrdd o gatiau’r gwaith, felly byddai dad yn arfer cerdded yno erbyn 6am ac yn dod adref tua 6pm. Ond newidiodd popeth yn fwyaf sydyn. Roedd dad o gwmpas. Byddai’n cerdded gyda fi at y bws ysgol. Roedd yn rhaid i bawb ddod o hyd i ffordd i ddod â deupen llinyn ynghyd ac fe wnaeth y gymuned ddod at ei gilydd. Cafodd dad waith achlysurol o amgylch y pentref, yn paentio a gwneud gwaith DIY. Bu’n paentio teulu, ffrindiau a thai cydweithwyr, y capel, beth bynnag. A pe bai yn gwneud rhywbeth, byddai’n cael rhywbeth yn ôl. Felly, byddai’n fy nanfon i i’r ysgol ac yna’n cerdded ymlaen ychydig filltiroedd i rywle arall, ar gyfer gwahanol jobsys.
Es i i’r ysgol Gymraeg, oedd dwy filltir i ffwrdd, taith ar fws. Tra bod gan yr holl blant yn Abercwmboi deulu’n gweithio yn y gwaith glo, roedd fy ysgol i yn wahanol, roedd teuluoedd yn gweithio mewn llefydd eraill, felly roedd y plant oeddwn i’n cymysgu gyda ddim yn wynebu’r hyn oedden ni’n ei wynebu yn fy mhentref i. Fe wnaethon nhw lawer o bethau caredig ar gyfer cymunedau glofaol lleol.
Fe gawson ni gyfleoedd oherwydd y sefyllfa - roedd pobl mor hael. Roedd gan deulu fy ffrind dyddyn bach yn Ystradfellte ac fe aethon nhw â fi yno am wythnos fel y byddwn yn cael gwyliau dros yr haf. Ymhell o bobman. Roedden ni’n rhedeg yn rhydd, roedd yn hyfryd. Cyrhaeddodd nain fy ffrind gyda sach enfawr o afalau. Canolbwynt bywyd oedd pei afal, crymbl afal, am wythnosau ar y tro - byddai mam yn gwneud rhai ar gyfer pobl eraill hefyd. Roedd ffatri gacennau Ferrari’s yn arfer gwneud cacennau eisin ‘tray-bake’, ond doedden nhw ddim yn gallu gwerthu’r ochrau - felly bydden ni’n cael rheini. Fe wnaeth ein cymdogion hŷn gnocio ar y drws a rhoi bag mawr o fwyd o’r Co-op i ni - dwi’n cofio bocs enfawr o gorn fflecs. Roedd gan bob teulu focs wythnosol fyddai’n cael ei roi at ei gilydd gan y gymuned drwy gyfraniadau a byddwn i’n arfer mynd i’r clwb pêl-droed lleol a helpu ar y ‘llinell gynhyrchu’, a gwneud pethau fel rhoi tun o ffa ym mhob bocs.
Roedd fy anti yn byw gerllaw gyferbyn â gatiau’r safle phurnacite felly roedd yn lle prysur iawn gyda’r llinell bicedu. Roeddwn i’n cael mynd i lawr yno pryd bynnag oeddwn i eisiau ... tan i hynny newid. Byddech chi’n clywed seirenau’r heddlu. Byddai trais. Roedd ei thad yng nghyfraith yn yr heddlu, a’i gŵr yn gweithio yn y gwaith, a achosodd rywfaint o broblemau. Roedd yr heddlu wedi dechrau cuddio tu ôl i’w wal hi, byddech chi’n gweld eu hetiau yn ymddangos dros y wal. Ond roedd rhaid iddi siarad gyda’i thad yng nghyfraith i ofyn iddyn nhw stopio, gan ei fod yn creu gormod o densiwn. Doedd gen i ddim syniad pam nad oeddwn i’n cael mynd lawr i dŷ Anti Eryl, ond wnes i ddechrau gwrando ar y sgyrsiau ac wrth i mi ddod yn hŷn, fe wnaeth pethau ddechrau gwneud synnwyr.
Fe wnaethom ddechrau byw yn llai gwastraffus. Cafodd y teledu lliw a rentwyd ei newid am un du a gwyn. Byddem yn ychwanegu finegr at y sôs coch fel ei fod yn para hirach. Mae’r agwedd o beidio gwastraffu yn dal gen i heddiw. Un peth dwi’n cofio’n dda oedd bod yr ysgol leol yn gwneud prydau am ddim i blant streicwyr, gan gynnwys ar benwythnosau. Gan fy mod i’n mynd i hen ysgol Fictoraidd, dwi’n cofio bod yn llawn cyffro gan ein bod yn cael mynd i ysgol newydd sbon i fusnesu a chael bwyd ar y penwythnos - roedd fy nghefndryd, oedd yn gorfod mynd yno bob dydd, ddim mor gyffrous.
Roedd fy mam wedi bod yn fam oedd yn aros gartref, ond gorfododd y streic iddi gael gwaith, yn gwneud gwaith shifft yn y ffatri gacennau Memory Lane yng Nghaerdydd i’n cadw ni i fynd. Doedd hi ddim yn ei hoffi ryw lawer ac fe wnaeth hi symud i weithio yn Tesco - ac fe wnaeth hi gario ymlaen yno ar ôl i’r streic ddod i ben.
Roedd dad yn poeni am y Nadolig, ond rydyn ni’n ei gofio fel un gwych. Roedd bocs bwyd ychwanegol ac anrhegion a theganau wedi’u cyfrannu nid yn unig gan ein cymuned, ond o bob cwr o’r DU a thu hwnt, roedd pobl wedi cyfrannu o lefydd mor bell â Rwsia a Gwlad Pwyl. Fe glywais stori un tro am rywun yn cael amlen fach o bowdr rhyfedd yn eu bocs bwyd. Yn hwyrach ymlaen, daethant i ddeall mai powdr borscht oedd e.
Mae fy nhad yn dal i gredu ym mhopeth wnaethon nhw frwydro dros - roedd dros gymuned gyfan a’i bywoliaeth, er ei bod yn llygredig dros ben ac na fyddai’n cael ei ganiatáu heddiw. Roedd y gwaith am yr hwyl, brawdoliaeth a’r jôcs - roedd yn colli hynny. Ond roedd yn gwybod na allai’r gwaith phurnacite oroesi, ac yn y pen draw fe wnaeth orfod newid gyrfa. Dim ond 30 oedd e, yn ifanc. Felly aeth i ysgol nos i wneud ei Saesneg lefel ‘O’ ac fe astudiodd gymdeithaseg yr un pryd, ac yn y pen draw, roeddwn i ac ef yn y brifysgol ar yr un adeg. Cafodd radd mewn gwaith cymdeithasol ac aeth ymlaen i ddilyn gyrfa lwyddiannus, hollol newydd. Mae’n hynod falch o bopeth mae wedi gwneud.
Meinir Morris, merch streiciwr, Abercwmboi