Gweithio Dramor - Ymfudo o Gymru
9 Chwefror 2010
Dylanwad yr ymfudwyr Cymreig
Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, symudodd miliynau o bobl o bob cwr o'r byd i wledydd eraill i chwilio am waith. Roedden nhw am newid eu bywydau, blasu arferion gwaith newydd neu gael antur mewn gwlad wahanol.
Aeth llawer ohonyn nhw o Cymru â'n sgiliau diwydiannol traddodiadol gyda nhw. Helpodd rhai i greu llwyddiant economaidd parhaol yn eu gwledydd newydd. Aeth eraill ati i addasu eu sgiliau neu i ddysgu sgiliau newydd. Llwyddodd rhai i ennill arian a bri mawr. Cafodd eraill fywydau llwyddiannus mwy di-nod, gan ymgartrefu a magu teuluoedd. Daeth rhai nôl adref wedyn, ond ni welodd eraill eu mamwlad byth eto.
Yma byddwn yn dangos y gwahanol ddiwydiannau o Gymru a allforiodd weithwyr ac arbenigedd i bedwar ban y byd. Beth oedd y diwydiannau a'r sgiliau hyn? I le aeth y gweithwyr? Pam oedd pobl yn gadael, a sut? Pa werthoedd a thraddodiadau aeth gyda nhw? Pa effaith gafodd eu hymadawiad ar Gymru?
Glofa Cymreig, Kentucky
Glo
"Roedd ein diwydiant glo'n llewyrchus dros ben tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Roedd y byd cyfan yn troi aton ni am arbenigedd a chyngor."
Mwynglawdd copr Burra Burra, 1874.
Copr
"Cymru oedd yn arwain y diwydiant mwyndoddi copr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd y gweithfeydd yn ardaloedd Abertawe a Threffynnon yn cynhyrchu mwy na hanner copr y byd i gyd."
John Davies o Dalsarnau, Gwynedd, gyda'i frawd a'i gyfaill. Reoddynt yn chwilio am aur yn Queensland, Awstralia yn y 188au
Aur
"Mae pobl wedi bod yn mwyngloddio aur yng Nghymru'n ysbeidiol ers miloedd o fynyddoedd, ond ni chyfogodd y diwydiant lawer o weithwyr erioed. Serch hynny, ymunodd llawer o Gymry â'r 'Rhuthrau am Aur' enwog yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."
Gweithwyr Cymreig yn y gweithfeydd haearn yn Hughesovka. John Hughes yw'r ail o'r dde yn y rhes flaen
Haearn
"Cymru oedd yn arwain y ffordd yn y gwaith o ddatblygu'r diwydiant haearn ym Mhrydain ac nid yw'n syndod felly mai ymfudwyr o Gymru oedd llawer o arweinwyr y diwydiant rhyngwladol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg."
Bangor, Pennsylvania
Llechi
"Defnyddiwyd llechi fel deunydd toi yn Ewrop. Allforiwyd llechi o Gymru i bob cwr o'r byd ar gyfer projectau adeiladu pwysig. Roedd y ffaith i lechi gael eu darganfod mewn llawer o wledydd gwahanol yn un o nifer o ffactorau economaidd a barodd i weithwyr o Gymru symud i'r ardaloedd hynny."
Gwaith Dur Lithgow, New South Wales, Awstralia, 1920s
Dur
"Addaswyd llawer o'r canolfannau haearn i greu dur, sy'n ddeunydd cryfach, mwy amlbwrpas. Nid yw'n syndod i'r Cymry wneud cyfraniad pwysig at y newid hwn."
a adeiladwyd ar gyfer William Thomas ym 1885.
Llongau
"Mae gan Gymru 1,200km (750 milltir) o arfordir a hanes morwrol hir. Teithiodd morwyr o Gymru dros y byd i gyd yn allforio nwyddau o Gymru ac yn mewnforio deunyddiau crai ar gyfer diwydiant. Roedd llongau Cymreig ymysg y mwyaf adnabyddus ym maes masnach forwrol ac roedd perchnogion y cwmnïau ymysg y bobl fwyaf cefnog."
Carreg chwarela, Randolph, Wisconsin
Mwyngloddio Metel
"Roedd y gweithwyr Cymreig yn enwog am eu harbenigedd ym maes mwyngloddio. Yn ogystal â glo, roedden nhw'n gallu cloddio am aur, haearn, plwm a chopr."
John Williams
Tunplat
"Cymru hefyd oedd un o brif gyfenwyr y byd ym maes cynhyrchu tunplat. Ar ddechrau'r 1890au cynhyrchwyd dros 80% o dunplat y byd yn ne Cymru."
Morgan C. Jones, (ar y dde), nai Morgan Jones oedd yn gweithio dros yr un cwmni
Diwydiannau Eraill
"Nid pawb yng Nghymru oedd yn gweithio yn y diwydiannau trwm 'traddodiadol' wrth gwrs. Roedd llawer yn gweithio mewn diwydiannau eraill ac aethant ati i drosglwyddo'r sgiliau roedden nhw wedi eu dysgu mewn pyllau, ffowndrïau a gweithfeydd i weithleoedd eraill."
Cartŵn o'r Western Mail, 1928
Patrymau Ymfudo
"Nid pawb a adawodd Gymru am fywyd newydd dramor ffarweliodd â'u mamwlad am byth. Daeth llawer o bobl adref am bob math o resymau. Yr enw am hyn yw mudo yn ôl."
Bois Breaker yn Pennsylvania. Dechreuodd nifer o fechgyn ifanc o Gymru weithio'n ifanc iawn yn America.
Radicaliaeth
"Roedd gweithwyr diwydiannol o Gymru'n dod o ardaloedd lle'r oedd yr undebau llafur trefnus iawn. Roedden nhw'n adnabyddus am sefyll dros eu hawliau, amodau gwaith diogel a chyfogau teg."
Eglwys Hen Saron, yr eglwys Gymreig gyntaf yn Minnesota, 1856
Diwylliant Cymraeg
"Fel llawer o ymfudwyr eraill, aeth y Cymry â'u diwylliant i'r gwledydd newydd gyda nhw. Mewn lle dieithr a newydd, roedd cadw caneuon, straeon, ieithoedd a thraddodiadau cyfarwydd yn helpu ymfudwyr i ymdopi â'r anghyfarwydd."
Paratoi bwyd ar gyfer Cymanfa Ganu, Eglwys Peniel, Pickett, Wisconsin,1946.
Menywod
"Er taw dynion oedd y mwyafrif o'r gweithwyr diwydiannol, roedd menywod yn bwysig iawn i'r cymunedau mudol."
California, UDA
Enwau llefydd
"Roedd hi'n gyffredin i ymfudwyr o bob gwlad enwi eu haneddiadau newydd ar ôl llefydd yn eu mamwlad. Roedd hyn yn ffordd o ddathlu eu hunaniaeth a chadw cysylltiad â'u mamwlad."