Sut i fesur eira Penny Dacey, 8 Mawrth 2023 Helo Cyfeillion y Gwanwyn,Diolch am rannu eich sylwadau gyda'r data tywydd wythnos dwytha. Rwy'n disgwyl y bydd rhai o sylwadau tywydd dydd Gwener yn sôn am eira, gan y bydd sawl ardal ar draws y DU wedi deffro i eira a rhew'r bore 'ma. Roeddwn i'n meddwl y gallai hyn fod yn amser da i esbonio sut mae meteorolegwyr (gwyddonwyr tywydd) yn mesur eira. Mae mesur faint o law sy’n disgyn yn hawdd o’i gymharu â mesur faint o eira sy’n disgyn. Fydd eira ddim yn bihafio! Bydd yn aml yn cael ei chwythu gan y gwynt ac yn lluwchio, sy’n golygu bod yr eira’n ddwfn mewn mannau ond yn llawer llai dafliad carreg i ffwrdd. Oherwydd bod yr eira’n disgyn yn anghyson, bydd y mesuriadau o’r llefydd yma’n anghywir. Dyna pam mae’n rhaid mesur mewn mannau gwastad, agored a ymhell o ble fydd eira’n lluwchio. Bydd eira hefyd yn chwarae gemau gyda’r Meteorolegwyr sy’n ceisio ei fesur, bydd yn toddi’n ddŵr, cyn rhewi fel iâ. Felly dyw’r eira sy’n cael ei fesur ddim bob tro yn cyfateb i faint o eira sydd wedi disgyn. Mae eira newydd yn disgyn ar ben eira hen hefyd, ac mae’n anodd dweud faint o eira sydd wedi disgyn o un diwrnod i’r llall. Mae’n rhaid i’r meteorolegwyr gofio holl driciau’r eira a meddwl am ffyrdd i ddarganfod faint o eira sydd wedi disgyn. Byddan nhw’n edrych ar gwymp eira (faint o eira sy’n disgyn mewn diwrnod) a dyfnder eira (cyfanswm dyfnder yr eira, hen a newydd). Un ffordd o fesur cwymp eira yw gyda ffon bren. Bydd y meteorolegwr yn gosod y pren mewn lleoliad agored lle na fydd eira’n lluwchio ac yn mesur yr eira bob chwech awr. Drwy glirio’r eira o’r pren ar ôl ei fesur, dim ond eira’r diwrnod hwnnw fydd yn cael ei fesur, a gall y gwyddonydd ddweud faint o eira sydd wedi cwympo ar y diwrnod hwnnw. Gallwn ni hefyd fesur eira wedi toddi ar ffurf ddŵr. Gallwch chi felly ddefnyddio’ch mesurydd glaw i fesur cwymp eira. Os taw dim ond ychydig o eira sy’n cwympo, bydd yn toddi yn y mesurydd beth bynnag, ond os yw hi’n bwrw’n drwm, ewch â’r mesurydd i mewn ac aros iddo doddi’n ddŵr. Gallwch chi wedyn fesur y ddŵr fel rydych chi wedi’i wneud bob wythnos, a’i gofnodi fel glawiad yn eich cofnodion tywydd. Os oes eira ar lawr a bod digon o amser i arbrofi, beth am fynd ati i fesur dyfnder yr eira? Y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw pren mesur (neu pren eira os ydych chi am siarad fel gwyddonydd gwych!). Gwthiwch y pren i’r eira tan ei fod yn cyffwrdd y ddaear a chofnodi pa mor ddwfn yw’r ddaear fesul centimetr. Rhaid i chi fesur o arwyneb gwastad (fel mainc) mewn lle agored lle nad yw’r eira’n lluwchio. Rhaid i chi gofnodi o leiaf tri mesuriad i gyfrifo dyfnder cyfartalog yr eira lleol. Cyfrifwch y cyfartaledd drwy adio’r cofnodion gwahanol a’u rhannu gyda’r nifer o gofnodion. Os ydw i’n cofnodi tri dyfnder o 7cm, 9cm a 6cm, rhaid i fi adio pob rhif (7 + 9 + 6 = 22) cyn rhannu gyda 3 (22 / 3 = 7.33). Dyfnder cyfartalog yr eira felly yw 7.33cm. Mae gorsafoedd tywydd fel y Swyddfa Dywydd (MET Office) wedi troi at dechnoleg i ddyfeisio dulliau newydd o fesur dyfnder eira. Edrychwch ar y llun o un o orsafoedd eira’r Swyddfa Dywydd. Mae nhw’n defnyddio synwyryddion laser i fesur dyfnder yr eira ar yr arwyneb gwastad. Gall meteorolegwyr gasglu data o bob cwr o’r wlad wrth wasgu botwm, llawer haws a mwy dibynadwy nag anfon pobl allan i’r oerfel gyda phren eira! Mae pob un o orsafoedd eira’r Swyddfa Dywydd i’w gweld ar y map, oes un yn agos atoch chi? Os yw hi wedi bwrw eira, cofiwch fesur y cwymp gyda’r mesurydd glaw neu’r dyfnder gyda phren eira a nodi’r canlyniadau fel ‘sylwadau’ wrth uwchlwytho eich cofnodion wythnosol. Bydd yn ddiddorol cymharu dyfnder yr eira â chwymp yr eira yn y mesurydd glaw! Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn, Athro’r Ardd
Minecraft eich Amgueddfa – hoff weithgaredd teuluol y cyfnod clo Danielle Cowell, 22 Hydref 2020 Mae Amgueddfa Cymru wedi ennill clod am ddarparu gweithgareddau llawn hwyl yn ystod y cyfnod clo yng Ngwobrau Cartref Amgueddfa Groesawgar Plant Mewn Amgueddfeydd.Roedd yr amgueddfa yn un o bump a enillodd y wobr uchaf heddiw mewn seremoni wobrwyo ar-lein dan ofal yr wynebau cyfarwydd, Philip Mould a’r Athro Kate Williams.Mae elusen Plant mewn Amgueddfeydd wedi cynnal ei Gwobrau Amgueddfa Groesawgar ers 15 mlynedd, gan gydnabod y lleoliadau treftadaeth mwyaf croesawgar i deuluoedd yn y DU. Eleni, fe grëwyd gwobr arbennig i gydnabod gwaith ac ymdrech rhyfeddol amgueddfeydd i addasu i’r cyfnod clo a pharhau i gefnogi teuluoedd. Dyma nhw’n gofyn i deuluoedd a sefydliadau rannu eu hoff weithgareddau cartref – ffilm, cwis, gêm, gweithdy crefft a llawer mwy!Derbyniwyd dros 400 o enwebiadau o bob cwr o’r byd, ac ym mis Gorffennaf crëwyd rhestr fer o 26 amgueddfa gan banel o arbenigwyr. Dros yr haf bu teuluoedd yn profi’r gweithgareddau, a chyfunwyd eu hadborth a barn y panel arbenigwyr i ddewis enillwyr pob categori.Amgueddfa Cymru enillodd wobr Gweithgaredd Cyfryngau Cymdeithasol Gorau am ein cystadleuaeth Minecraft dy Amgueddfa. ‘Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cydnabyddiaeth am y fenter! Roedd y gwaith a gynhyrchodd y plant yn rhagorol! Mae’n amlwg eu bod nhw wedi rhoi cymaint o ymdrech i greu eu hamgueddfeydd eu hunain, a defnyddio cymaint o sgiliau. Yn bwysicach fyth, roedd y plant i gyd yn dweud cymaint oedden nhw wedi mwynhau creu eu hamgueddfeydd, a’r beirniaid i gyd wedi mwynhau ymweld!’ Danielle Cowell - Pennaeth Dysgu Digidol Amgueddfa Cymru.Er bod y gystadleuaeth wedi dod i ben, gallwch chi gymryd rhan o hyd a chreu amgueddfa eich hun yn Minecraft. Lawrlwythwch y pecyn adnoddau a rhannwch eich amgueddfeydd ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn i bawb fwynhau.Dadlwythwch becyn adnoddau yma.Rhannwch eich creadigaethau gyda ni ar gyfryngau cymdeithasol - fel y gall eraill fwynhau!Mae'r fideo isod yn dangos cofnodion gan ein holl gyfranogwyr ac yn tynnu sylw at y ceisiadau buddugol.Gellir gweld ceisiadau unigol ar wefan Casgliad Y Werin.Dywedodd Philip Mould, gwerthwr celf, darlledwr a Llywydd Plant Mewn Amgueddfeydd: ‘Mae’n bleser dathlu heddiw sut mae amgueddfeydd a lleoliadau treftadaeth wedi camu i’r adwy a dod â diwylliant at deuluoedd yn y cyfnod anodd hwn. Yr hyn sy’n gyffredin rhwng ein henillwyr i gyd yw eu bod wedi dod â’r gorau o’i hamgueddfeydd i gynulleidfaoedd adref. Mae’r projectau yma wedi helpu gyda dysgu adref, yn ogystal â chefnogi lles a helpu pawb i fwynhau gyda’i gilydd. Llongyfarchiadau mawr i’n henillwyr teilwng i gyd.’ Rhestr lawn o hoff weithgareddau teuluol y cyfnod clo: Gweithgaredd Cyfryngau Cymdeithasol GorauClod Uchel· Ditchling Museum of Art + Craft – Virtual Museum ClubEnillydd· Amgueddfa Cymru - Minecraft dy Amgueddfa Ffilm OrauClod Uchel· University Museum of Zoology, Cambridge - Zoology Live! Online FestivalEnillydd· Cooper Gallery, Barnsley - Wow Wednesdays Gweithgaredd Gwefan GorauClod Uchel· National Galleries Scotland – Home is Where the Art isEnillydd· National Videogame Museum, Sheffield – Create Your Own Pixel Art Character Gweithgaredd Digidol Rhyngwladol GorauClod Uchel· Andy Warhol Museum, USA – Warhol Making It VideosEnillydd· The Glucksman, Republic of Ireland – Creativity at Home Ymdrech YchwanegolClod Uchel· Colchester and Ipswich Museums – Museum From Home Activity Packs· Seven Stories: The National Centre for Children’s Books, Newcastle Upon Tyne – Something to Smile About: Supporting Families in East NewcastleEnillydd· The Whitworth, Manchester – Still Parents