:

Creu pecyn hyfforddi 'Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion: Pecyn cymorth i ymwelwyr sydd wedi eu heffeithio gan ddementia’ – dull cydweithredol

Gareth Rees a Fi Fenton, 10 Gorffennaf 2024

Fel rhan o Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion, ein project partneriaeth tair blynedd gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru, rydyn ni wedi bod yn gweithio ar y cyd â'r gymuned dementia ledled Cymru i ddatblygu pecyn hyfforddi a fydd yn helpu staff - yn Amgueddfa Cymru ac ar draws y sector treftadaeth - i gynorthwyo pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia, sy'n dod i'n hamgueddfeydd.

Mae'r blog hwn yn rhoi cipolwg ar ein dull cydweithredol dros y deunaw mis diwethaf, i ddatblygu a threialu ein hadnodd hyfforddi staff, gan arwain at lansio'r pecyn hyfforddi yn Sain Ffagan ar 2 Mai 2024.

Ymgynghori â'r gymuned dementia 

Ers dechrau'r project, rydyn ni wedi ceisio sicrhau bod profiadau personol rhai sydd wedi'u heffeithio gan ddementia yn rhan flaenllaw o'n gwaith.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf (rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Mawrth 2023), cynhaliwyd 30 ymgynghoriad ledled Cymru, gan wahodd pobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'u cefnogwyr, cydweithwyr yn y sector treftadaeth a gweithwyr proffesiynol o sefydliadau cynrychioliadol, i gymryd rhan.

Cynhaliwyd y digwyddiadau hyn yn ein hamgueddfeydd, mewn lleoliadau cymunedol a lleoliadau gofal ac iechyd. Ymunodd 270 o bobl â ni, ac roedd eu cyfraniadau i'r sgwrs yn sail i ddechrau llunio cynnwys ein pecyn hyfforddi. Yn ystod yr ymgynghoriadau hyn, gwnaethom strwythuro sgyrsiau gyda chyfres o gwestiynau gyda'r nod o gymell pobl i rannu eu profiadau o ymgysylltu ag amgueddfeydd. Gofynnwyd:  

Beth sy'n atal pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia rhag ymgysylltu ag amgueddfeydd, eu casgliadau ac adnoddau ar-lein? 

Pa anghenion gofal a chymorth allai fod eu hangen ar ein safleoedd? 

Sut allen ni wella mynediad i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia? 

Pa anghenion hyfforddi sydd ar gael i ofalwyr/staff gofal a staff/gwirfoddolwyr y sector treftadaeth? 

  

Datblygu'r pecyn hyfforddi staff 

Gan ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd o'r ymgynghoriadau hyn, aethom ati i ddatblygu strwythur posibl ar gyfer ein pecyn hyfforddi, gan gasglu syniadau a phrofiadau pobl dan 5 thema eang: ‘Cyflwyniad', 'Beth yw dementia', 'Rhwystrau a phryderon y gymuned', 'Bod yn gefnogol' a 'Cyfleoedd a gwybodaeth bellach’. O dan bob thema, fe wnaethom ddatblygu is-benawdau i ddisgrifio'r wybodaeth a fyddai'n cael ei chynnwys ym mhob adran. 

Mireinio'r pecyn hyfforddi staff 

Ar ôl creu strwythur 'drafft' posibl, fe wnaethom ddatblygu'r pecyn hyfforddi trwy ragor o sesiynau a sgyrsiau cymunedol, a daeth yn ffocws yn ystod ein cyfarfodydd gyda'r Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth.

Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth yw grŵp llywio ein project.  Mae grŵp yn cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, partneriaid gofalwyr, gofalwyr cyflogedig, gweithwyr cymorth, cydweithwyr o sefydliadau cysylltiedig (megis Cymdeithas Alzheimer) a chydweithwyr o Amgueddfa Cymru a sefydliadau eraill yn y sector treftadaeth. Rydyn ni’n cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein bob deufis, ac rydyn ni’n strwythuro ein cyfarfodydd fel bod pawb yn gallu cyfrannu a siapio datblygiad agweddau canolog ar ein gwaith.

Ym mis Hydref a mis Rhagfyr 2023 fe wnaethom ymrwymo cyfarfodydd ein grŵp i ddatblygu'r pecyn hyfforddi staff. 

Mae cyfraniadau aelodau grŵp i'r pecyn hyfforddi wedi bod yn werthfawr ac yn sylweddol. Mae aelodau'r grŵp wedi siarad am eu profiadau cadarnhaol eu hunain o ymweld ag amgueddfeydd, pwysigrwydd a gwerth amgueddfeydd i bobl sy'n byw gyda dementia, a beth sydd angen i staff yr amgueddfa ei wybod er mwyn cynorthwyo pobl sy'n byw gyda dementia. Dywedwyd wrthym pa mor bwysig yw hi fod pobl sy'n byw gyda dementia yn cael cymorth i deimlo'n ddiogel, eu gwerthfawrogi a'u croesawu: 

Er y gall rhywun adael amgueddfa heb gofio'r holl fanylion, efallai y bydd yn cofio'r teimlad a brofodd yn ystod yr ymweliad”  Person sy’n byw gyda dementia 

Yn olaf, pwysleisiwyd pwysigrwydd cynnwys pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia wrth gyflwyno'r hyfforddiant staff. 

Ein sesiynau hyfforddi staff peilot: Profi ein pecyn hyfforddi gyda chydweithwyr 

Ar ôl cynnwys cyfraniadau gwerthfawr y Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth yn y pecyn hyfforddi staff, aethom ati wedyn i holi barn cydweithwyr yn Amgueddfa Cymru, mewn adrannau amrywiol. Er enghraifft, fe wnaethom ymgynghori â'r Adran Ddysgu yn ystod diwrnod hyfforddi adrannol, a chwrdd â thimau Blaen Tŷ yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.   

Roedd y sgyrsiau hyn yn bwysig i fesur dealltwriaeth pobl am anghenion ymwelwyr sydd wedi'u heffeithio gan ddementia (dywedodd rhai staff eu bod yn teimlo nad oedd ganddyn nhw ddigon o wybodaeth am ddementia) ac asesu pa mor hyderus yr oedd pobl yn teimlo am gynorthwyo pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia (dywedodd rhai staff eu bod yn poeni 'am ddweud rhywbeth anghywir’).  O'r trafodaethau hyn, fe wnaethom fireinio'r cynnwys ymhellach a datblygu sesiwn hyfforddi ddwyawr. 

Rydyn ni wedi treialu'r sesiwn hyfforddi mewn tair amgueddfa erbyn hyn: Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru, gydag aelodau o'r timau Dysgu, Cynnal a Chadw, Crefftau, Blaen Tŷ ac Arlwyo yn cymryd rhan, ac rydyn ni wedi cael adborth cadarnhaol ganddyn nhw. 

Lansio'r pecyn hyfforddi

Ar 2 Mai, lansiwyd y pecyn hyfforddi’n ffurfiol yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Gwahoddwyd pobl y buon ni'n yn gweithio gyda nhw dros y deunaw mis diwethaf, gan gynnwys Gymdeithas Alzheimer Cymru, aelod o’r Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth ac aelod o fwrdd ein project, i siarad am eu profiadau o gyfrannu at ddatblygu'r sesiwn hyfforddi. 

Daeth 29 o bobl i'r lansiad, i glywed y cyflwyniadau ysbrydoledig hyn ac i ddysgu am sut mae'r gwaith wedi datblygu mewn partneriaeth â'r gymuned. Nod y pecyn hyfforddi yw archwilio'r hyn y gallwn ni, yn ein rolau gwahanol ar draws y sector treftadaeth, ei wneud i gynnig profiad cadarnhaol i unrhyw ymwelydd sydd wedi'i effeithio gan ddementia. Bydd y pecyn ar gael i unrhyw un yn y sector treftadaeth, p'un ai fel man cychwyn i ddechrau ar eu taith i fod yn fwy ystyriol o ddementia neu er mwyn ategu'r hyn sy’n digwydd eisoes.

Er nad yw pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia wedi bod yn rhan o gyflwyno'r sesiynau hyfforddi peilot eto, rydyn ni wrthi'n gweithio gyda'n partneriaid oedd yn rhan o'r broses greu, ac yn cynllunio sut i'w helpu i gynnal, arwain a / neu gyfrannu at ein sesiynau hyfforddi yn y dyfodol.

Wrth i'n project fynd rhagddo dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn parhau i gydweithio a sicrhau bod llais dementia wrth wraidd yr hyn a wnawn.

Os ydych chi'n aelod o sefydliad yn y sector treftadaeth a bod gennych ddiddordeb yn y ffordd rydyn ni wedi datblygu ein cynnig hyfforddiant, os ydych eisiau dysgu mwy am ddefnyddio'r pecyn yn eich lleoliad, neu os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r sesiynau hyn yn ein hamgueddfeydd, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio mims@museumwales.ac.uk   neu ffonio 029 2057 3418.       

Gweithgareddau dementia gyfeillgar yn Amgueddfa Cymru – Memory Jar yn ymweld â Sain Ffagan

Gareth Rees a Fi Fenton, 11 Hydref 2023

Yn ddiweddar dyma Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru yn croesawu Memory Jar, grwp cymorth i bobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia yn y Bont-faen. Roedd yr ymweliad yn rhan o Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion⁠, project partneriaeth tair mlynedd rhwng Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer Cymru sy'n defnyddio amgueddfeydd, casgliadau ac adnoddau Amgueddfa Cymru i ddatblygu dulliau ymarferol o wella iechyd a lles pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia. ⁠

Mae'r fenter bellach yn ei hail flwyddyn, ac un o'r amcanion yw datblygu rhaglen fwy cynhwysfawr a chynaliadwy o weithgareddau dementia gyfeillgar, yn ein hamgueddfeydd ac yn y gymuned. Rydyn ni wrthi'n datblygu a threialu gweithgareddau, ac yn gwahodd grwpiau cymunedol i gymryd rhan a lleisio'u barn. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i lywio a datblygu ein adnoddau a'n rhaglen cyn lansio yn y Gwanwyn.

Yr ymweliad 

Ar 9 Awst, ymunodd 29 o aelodau Memory Jar â ni ar daith drwy orielau Cymru... a Byw a Bod yn Sain Ffagan, cyn mwynhau te, coffi a theisen wrth drafod yr ymweliad. Dyma ni'n gofyn beth oedd y grŵp wedi'i fwynhau, ac am unrhyw awgrymiadau ar wella gweithgareddau yn y dyfodol.

Yn oriel Cymru... dyma'r grŵp yn cael eu tywys gan Gareth Rees (Arweinydd Llais Dementia, Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion) a Loveday Williams (Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli).⁠ Fe gyflwynodd Gareth a Loveday rai o'r gwrthrychau yn yr oriel, sydd wedi ei churadu i gyflwyno beth mae Cymru yn ei olygu i wahanol bobl, gan gynnwys Cymru ‘Amlddiwylliannol’, ‘Balch’, ‘Gwleidyddiaeth’ a ‘Gwrthdaro’.

Yn oriel Byw a Bod y tywysydd oedd Gareth Beech (Uwch Guradur Economi Wledig).⁠⁠⁠ Yn yr oriel hon mae gwrthrychau wedi'u curadu i ddangos gwahanol agweddau o fywyd yng Nghymru drwy'r canrifoedd, o gaffis i goginio, o fywyd gwledig i ddiwydiant, o wyliau i blentyndod. Un o'r gwrthrychau poblogaidd oedd ffwrn ffrio pysgod haearn bwrw Preston â Thomas, wnaeth danio nifer o atgofion yn y grŵp.

Ar ôl crwydro'r orielau dyma ni gyd yn dod at ein gilydd fel grŵp mawr. Yn ogystal â chael sgwrs gyffredinol, dyma ni'n gofyn i bob bwrdd ddefnyddio sticeri i roi eu barn ar gwestiwn penodol: ‘Sut oedd ymweld â'r oriel yn gwneud i chi deimlo heddiw?’ Darparodd y tîm dri opsiwn positif (Hapus, Diddordeb, Ysbrydoliaeth), a thri opsiwn negatif (Anhapus, Diflastod, Anghyfforddus) a lle i esbonio unrhyw deimladau ymhellach. Gallai pobl hefyd gynnig adborth drwy rannu eu hoff wrthrychau yn yr orielau gan ddefnyddio post-its, beiros a lluniau o rai o'r gwrthrychau. Dyma ni hefyd yn gofyn i'r grŵp beth wnaethon nhw ei fwynhau am yr ymweliad, ac ydyn nhw'n mwynhau amgueddfeydd yn gyffredinol?

Roedd yr adborth ar y cyfan yn bositif iawn – nifer yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau, yn teimlo'n hapus, wedi eu hysbrydoli ac yn gweld y teithiau drwy'r orielau yn ddiddorol. ⁠Roedd eraill yn dweud eu bod nhw'n teimlo 'hiraeth' ac yn 'wladgarol'. Roedd rhai o'r gwrthrychau yn sbarduno sgyrsiau ac atgofion am fywyd teuluol, gan gynnwys hen fangl wnaeth atgoffa un fenyw o'i mam a'i mam-gu yn golchi dillad.

"Atgof hyfryd o'r gorffennol"

"Mae'n gwneud i fi feddwl pa mor agos mae fy atgofion, o ble dwi'n dod yn wreiddiol yn Swydd Efrog, a Chymru wedyn am dros 40 mlynedd. Dylai Cymru fod yn falch o'i thraddodiad a pharhau i groesawu eraill."

⁠"Roedd yr arddangosiadau a'r wybodaeth ar lefel cadair olwyn. Da." 

⁠"Fy ffefryn oedd y delyn a'r gwrthrychau cerddoriaeth. Byddai clywed cerddoriaeth Gymraeg wedi bod yn braf." ⁠

"Roedd e'n brofiad llawn hiraeth."

"Mwy o gadeiriau!"

(Peth o'r adborth)

"Roedd y sgwrs yn byrlymu yn y bws yr holl ffordd nol i'r Bont-faen. Awyrgylch llawn hwyl a phobl yn mwynhau eu diwrnod mas. Nol yn Memory Jar, roedd cyfle i edrych ar ffotograffau o'r diwrnod a siarad am y pethau wnaethon ni eu cofio yn yr Amgueddfa. Roedd llawer o'r sylwadau positif yn sôn sut oedd pobl wedi'u sbarduno i fyfyrio ar eu hanes eu hunain, gan ennyn atgofion braf o'u gorffennol. Roedd un sylw yn gwneud y cyfan yn werth chweil: John, un o'r aelodau tawelaf, oedd y cyntaf i ymateb yn y drafodaeth grŵp. 'Dwi eisiau mynd eto!' meddai John gyda gwen fawr, gyda gweddill y grŵp i gyd yn cytuno."

(e-bost gan Colin, trefnydd Memory Jar, ar ôl yr ymweliad)

Diolch yn fawr 

Mae'r tîm am ddiolch i Memory Jar am eu help gyda'r gwaith datblygu – roedd hi'n bleser eu tywys nhw drwy'r orielau a chlywed eu barn ar sut i wneud ein hamgueddfeydd yn fwy dementia gyfeillgar yn y dyfodol. Hoffen ni ddiolch hefyd i Glwb Rotary y Bont-faen am ddarparu cludiant, ac i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth hael i broject Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion.

Roedd ymweliad grŵp Memory Jar yn gyfle gwerthfawr i'r tîm gael blas o sut fydd ein harlwy yn effeithio ar y gymuned. Roedd yr ymateb brwdfrydig a'r adborth positif yn dangos fod gan dreftadaeth rôl bwysig i chwarae ym mywydau pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia. Wrth i'r gwaith o brofi a datblygu ein harlwy ar draws ein saith amgueddfa barhau dros y misoedd nesaf, rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio eto gyda Memory Jar a grwpiau ac unigolion eraill ar draws Cymru.

Cysylltwch â ni 

Am ragor o wybodaeth, gallwch chi gysylltu â'r tîm drwy e-bostio mims@amgueddfacymru.ac.uk neu drwy ffonio (029) 2057 3418. Gallwch chi hefyd gofrestru i dderbyn ein cylchlythyr chwarterol yn yr un modd.

Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion – ein blwyddyn gyntaf!

Sharon Ford, Gareth Rees a Fi Fenton, 22 Mawrth 2023

Ym mis Ebrill 2022, cafodd Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion, project partneriaeth tair blynedd rhwng Amgueddfa Cymru a Chymdeithas Alzheimer's Cymru. Mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, a'i nod yw archwilio sut y gallwn ni ddefnyddio ein saith amgueddfa a’n casgliadau i wella iechyd a lles pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia.

Pam mae'r project hwn yn bwysig

 Yn aml, gall pobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n eu cefnogi ac yn gofalu amdanyn nhw brofi llai o gyswllt cymdeithasol, ynysigrwydd cymdeithasol, diffyg hyder, gorbryder a phryderon iechyd meddwl eraill. Mewn ymateb, mae ymchwil wedi dangos bod ymyriadau sy'n seiliedig ar amgueddfeydd yn ffordd bwysig o hyrwyddo ymgysylltiad a lles pobl sy'n byw gyda dementia.[1] 

"Mae yna deimladau ac emosiynau rwy’n eu cael wrth weld pethau mewn amgueddfeydd, fel y tai teras yma yn Sain Ffagan. Mae’r teimlad yn fy llethu mewn ffordd sydd ond yn bosib pan allwch chi gyffwrdd â rhywbeth neu weld pethau bywyd go iawn – fel atgofion am fy mam-gu a thad-cu sy’n llifo’n ôl. Mae amgueddfeydd mor bwysig i bobl â dementia. Maen nhw'n llefydd bendigedig ond yn eich llethu ar yr un pryd."

Person sy'n byw gyda dementia

Beth sydd wedi cael ei wneud eisoes?

Dechreuodd Amgueddfa Cymru ar ei thaith i fod yn sefydliad sy’n deall dementia yn ôl yn 2015. Rhwng hynny a 2018, gwahoddwyd pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia i fod yn rhan o archwiliadau hygyrchedd mewn tair o'n hamgueddfeydd. Yn dilyn hyn, datblygwyd ein teithiau tanddaearol dementia -gyfeillgar yn Big Pit, gyda phobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia ac ar eu cyfer nhw hefyd.  Ymhlith y darnau eraill o waith, mae Grŵp Cerdded Dementia Cynnar yn Sain Ffagan a Grŵp Pontio'r Cenedlaethau yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.

Ein hymgynghoriadau

Rhwng mis Rhagfyr 2022 a mis Mawrth 2023, mae’r tîm Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion wedi bod yn gwahodd pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr (di-dâl ac o'r sector), cydweithwyr yn y sector treftadaeth a chydweithwyr o sefydliadau cynrychiadol i ymgynnull â ni yn ein hamgueddfeydd ac mewn lleoliadau cymunedol ledled Cymru. Mae'r tîm hefyd wedi bod allan yn siarad gyda grwpiau cymunedol a phreswylwyr cartrefi gofal. Hyd yma, mae 183 o bobl wedi ymuno â ni.

Mae'r sgyrsiau hyn wedi bod yn gyfle gwirioneddol i ddefnyddio profiadau bywyd pobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia a'r rhai o fewn y sector treftadaeth, darganfod mwy am y rhwystrau sy'n wynebu pobl sy'n cael eu heffeithio gan ddementia wrth ymwneud ag amgueddfeydd, ac edrych ar sut y gallwn ddatblygu ein safleoedd a’n staff i ddod yn fwy cefnogol o ddementia. 

Dyma ychydig o ddyfyniadau gan y rhai a ymunodd â ni, pan ofynnwyd iddyn nhw beth wnaethon nhw ei fwynhau am yr ymgynghoriad:

"Clywed barn pobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr a'r rhai sy'n gweithio gyda'r rhai sydd â dementia. Roedd yn addysgiadol ac yn gwneud i rywun feddwl" Aelod o sefydliad cynrychioladol

"Cwrdd â phobl eraill a chymharu eu hanghenion a'u problemau gyda’n rhai ni" Person sy'n cael ei effeithio gan ddementia

 "Rwyf wedi mwynhau cwrdd â phawb a'r staff brwdfrydig sy'n arwain y project. Rwy'n teimlo'n hynod o falch fy mod wedi gallu cyfrannu. Rwy'n edrych ymlaen at glywed sut mae'r project yn datblygu" Gofalwr

"Mae ystod y project yn drawiadol gyda holl gyfleusterau'r Amgueddfeydd ar gael. Er, dim ond un gwrthrych syml oedd ei angen i sbarduno atgofion ac annog sgyrsiau yn y digwyddiad y bues i ynddo ym Mlaenafon. Hen gerdyn post oedd e gydag ambell lun o Borthcawl ar y blaen. Arweiniodd hyn yn syth at gymaint o atgofion am wyliau haf, tripiau ysgol Sul, teithiau undydd. Roedd un o'r grŵp yn cofio blas y toesenni wedi ffrio! Un cerdyn post syml ac roedden ni'n ôl yno... pob un yn siarad am y peth – yn ofalwyr ac yn bobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia fel ei gilydd.

"Rwy'n gobeithio y bydd y project hwn yn ffynnu gan y bydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Rwy'n falch o'i gefnogi a'i hyrwyddo wrth weithio ledled y De."

Chris Hodson, Gweithiwr Gwybodaeth yng Nghymdeithas Alzheimer’s Cymru

Y camau nesaf

Dros y misoedd nesaf byddwn yn gwahodd pobl i ymuno â'n Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth. Bydd hyn yn cynnwys pobl sy'n byw gyda dementia, gofalwyr di-dâl, staff y sector gofal, cydweithwyr yn y sector treftadaeth, a gyda'i gilydd byddan nhw’n helpu i lywio gwaith y project dros y ddwy flynedd nesaf wrth i ni ddatblygu a chyflwyno rhaglen ystyrlon o weithgareddau, yn ein hamgueddfeydd ac mewn cymunedau.

Gyda phwy ddylech chi gysylltu

Dyma'r Tîm Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion yn Amgueddfa Cymru: 

Sharon Ford – Rheolwr Rhaglen      

Gareth Rees – Arweinydd Llais Dementia 

Fi Fenton – Swyddog Gweinyddol

Os hoffech chi ddysgu mwy am waith y project hwn, neu gael gwybod pa gyfleoedd sydd ar gael i gymryd rhan, e-bostiwch Gareth (gareth.rees@amgueddfacymru.ac.uk) neu ffoniwch 029 2057 3418, neu e-bostiwch ein tîm - MIMS@amgueddfacymru.ac.uk


 


[1]  Zeilig, H, Dickens, L & Camic, P.M. “The psychological and social impacts of museum-based programmes for people with a mild-to-moderate dementia: a systematic review.” Int. J. of Ageing and Later Life, 2022 16 (2); 33-72

Taith Danddaearol Gyfeillgar i Dementia yn Big Pit, Amgueddfa Lofaol Cymru

Sharon Ford, 14 Gorffennaf 2020

Ym mis Mai 2017 lansiwyd taith danddaearol newydd a ddatblygwyd gyda phobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Mae'r Daith Danddaearol Gyfeillgar i Dementia yn dilyn yr un egwyddorion a’r deithiau eraill, ond gydag ychydig o addasiadau. Mae’r daith ychydig yn fyrrach nag arfer gyda llai o ffigyrau a rhifau a mwy o hanes. Cynhelir y teithiau gan ein tywyswyr sydd wedi cael hyfforddiant penodol ac mae gan lawer ohonynt brofiad uniongyrchol o bobl sy'n byw gyda dementia. Hyd yma mae dros 200 o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr wedi cymryd rhan yn y teithiau. Ein bwriad yw i drefnnu mwy o'r teithiau rhad ac am ddim yma, ar ôl i'r Amgueddfa ail-agor. Dyma rai dyfyniadau gan ein tywyswyr a phobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr, sydd wedi cymryd rhan yn ein Teithiau Tanddaearol Cyfeillgar i Ddementia:

"Mae'n wych pan fyddwch chi'n gweld rhywun â dementia yn siarad ac yn cofio o'u gorffennol."

"Doeddwn i ddim yn gwybod ei fod wedi bod yn löwr ers 23 o flynyddoedd a dywedodd ei ffrind mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw glywed cymaint ganddo mewn oesoedd!"

"Daeth y daith yn ôl yr holl atgofion o ymgloddio."

Grŵp Cerdded Dementia Cynnar yn Sain Ffagan

Nia Meleri Evans, 19 Mehefin 2020

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi sefydlu Gwasanaeth Dementia Cynnar sy’n cyfarfod yn rheolaidd, gan ddarparu gwahanol weithgareddau a chefnogaeth i unrhyw un sy’n cael diagnosis o ddementia cynyddol cyn cyrraedd 65 mlwydd oed.

Mae’r grŵp yn cyfarfod ar ddydd Gwener bob mis i fynd am dro mewn lleoliad gwahanol yng Nghaerdydd, ac mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn falch iawn o fod yn un o’r lleoliadau hynny. Mae staff Addysg yn cyfarfod â’r grŵp bedair gwaith y flwyddyn i fynd am dro tymhorol o gwmpas y safle. Rydym yn edrych ar natur, anifeiliaid, sut mae’r tymhorau’n newid ac wrth gwrs yr adeiladau hanesyddol a’r casgliadau. Ar ôl ein taith, rydym yn dod ynghyd am sgwrs dros baned a bisged.

Dywedodd arweinydd y grŵp fod y teithiau cerdded ‘yn arbennig o boblogaidd, gyda llawer o bobl yn eu mynychu. Maent yn darparu cyfle i bobl ddod ynghyd a dysgu nad ydynt ar eu pennau eu hunain yn yr heriau maent yn eu hwynebu, a chael cefnogaeth a chyfeillgarwch rhwng y naill a’r llall.’

Mae’r sesiwn yn hamddenol a chyfeillgar, ac yn ofod diogel i’r grŵp gobeithio, yn eu galluogi nhw i deimlo’n hyderus i ddod yn ôl yn eu hamser eu hunain.