Modrwyau Arysgrif
, 9 Mai 2017
Modrwyau Arysgrif o Henllys
Modrwyau Arysgrif: 'God is my Cumford'
Modrwyau Arysgrif o Llandudoch
Nid peth modern yw cyfnewid modrwyau fel arwydd o serch. Bu modrwyau â moto neu ychydig eiriau’n datgan cariad neu ffyddlondeb yn boblogaidd ers y Canol Oesoedd. Er ein bod yn cysylltu rhoi modrwyau ag achlysuron ffurfiol fel dyweddïo neu briodi erbyn hyn, yn y gorffennol roedd modrwyau arysgrif yn cael eu rhoi ar unrhyw adeg mewn perthynas, gan y naill bartner neu’r llall. Gall y modrwyau fod yn rhai plaen neu wedi’u haddurno mewn gwahanol ffyrdd ond nid eu golwg allanol oedd y peth pwysicaf amdanynt ond y neges oedd arnynt, wedi’i dewis yn ofalus i atgoffa’r derbynnydd yn barhaus am deimladau’r rhoddwr. Mae rhai o’r arysgrifau mewn Lladin neu mewn Ffrangeg, a gâi ei chysylltu â sifalri a serch cwrtais, ond ymadroddion Saesneg sydd ar lawer o’r rhai a ganfuwyd yn ddiweddar gan ddefnyddwyr datgelyddion metal yng Nghymru, y rhan fwyaf ohonynt yn datgan ffyddlondeb.
Ym mis Awst 2013, daeth Mr Simon Harrison ar draws enghraifft arbennig o gywrain ac addurnol o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg yn Henllys, Sir Fynwy. Fe'i gwnaed o gylchigau aur cydgysylltiedig a chalonnau wedi'u llenwi ag enamel coch, gwyn a gwyrdd. Ar y tu mewn, arysgrifwyd y geiriau 'My ♥ is onely yours’. Mae arysgrifau sy’n cyfleu gwahanol deimladau i’w gweld ar nifer o fodrwyau eraill - pedair ohonynt wedi’u caffael yn ddiweddar gan y prosiect Hel Trysor; Hel Straeon ar gyfer casgliadau cenedlaethol a lleol - ond nid pob un ohonynt sydd mor amlwg ramantus â modrwy Henllys. ‘Forget not the gift’ yw neges y fodrwy aur addurnedig a ganfuwyd ger Llandudoch, Sir Benfro, gan Mr Tom Baxter-Campbell ym Mehefin 2011. Mae hyn yn awgrymu y dylai’r fodrwy atgoffa’r sawl a’i cafodd am y rhoddwr: a oedd ar fin mynd i ffwrdd i rywle? A oedd gan y rhoddwr ryw amheuaeth am deimladau’r derbynnydd?
Mae modrwy debyg, hon hefyd o aur ac yn perthyn i ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg, a ganfuwyd gan Mr David Hughes yn Llanilltud Fawr ym mis Ebrill 2013, yn datgan yn enigmatig ‘Such is my love.’ Nid yw union ystyr y geiriau yn glir ond efallai bod y rhoddwr am gyfleu’r syniad fod ei gariad yn gadarn ac yn werthfawr, fel aur, ac yn fythol, fel siâp y fodrwy sydd heb ddechrau na diwedd. Gallwn dybio y byddai’r derbynnydd yn deall yn iawn sut i ddehongli’r neges.
Er bod modrwyau arysgrif yn cael eu cysylltu â negeseuon cariadus gan amlaf, canfuwyd rhai mwy difrifol yng Nghymru yn ddiweddar. Mae modrwy o arian wedi’i oreuro o ddiwedd yr 17eg ganrif neu ddechrau’r 18fed, a ganfuwyd ger Caerffili ym Mehefin 2013 gan Mr T.M. Davies yn edrych yn debyg i fodrwy briodas fodern blaen. Mae yng nghasgliad Amgueddfa’r Tŷ Weindio yn Nhredegar erbyn hyn. Y tu mewn, gwelir yr arysgrif ‘Keep faith tell [till] death’, sydd braidd yn drymaidd ac yn wahanol i’r cyfarchion modern ysgafn ond mae’n hollol gydnaws â’r gred ar y pryd na ellid dad-wneud priodas. Mewn oes pan oedd ysgariad bron yn amhosibl, roedd priodasau i fod i bara am byth. Nid negeseuon cariadus oedd ar bob modrwy arysgrif: y datganiad ar fand plaen o arian wedi’i oreuro a ganfuwyd yn Llangybi, Sir Fynwy, gan Mr Glen Flynn yn 2012 yw ‘God is my cumford [comfort]’. Ydi hyn yn awgrymu bod y fodrwy wedi’i rhoi’n rhodd i rywun oedd yn mynd trwy gyfnod o ofid, tristwch neu salwch, ynteu a yw'n ddim ond arwydd o dduwioldeb?
Un peth nodedig am y modrwyau hyn i gyd, a nifer o’r rhai isod, yw mai y tu mewn i’r band, yn hytrach nag ar y tu allan, y mae’r arysgrif. Ond pam y byddai’r rhoddwyr cariadus yn awyddus i guddio eu datganiad o gariad yn hytrach na’i roi mewn man lle gallai pawb ei weld? Mae’n debygol mai'r rheswm oedd bod y rhain yn negeseuon preifat, rhwng y rhoddwr a'r gwisgwr, ac y byddai'r neges yn cyffwrdd â'r cnawd, gan bwysleisio agosrwydd y berthynas.