Cymru Hynafol

199 o Geiniogau Arian - Celc y Fenni

Edward Besly, 6 Ionawr 2017

Rhan o gelc y Fenni fel y'i darganfuwyd.

Rhan o gelc y Fenni fel y'i darganfuwyd.

Yn Ebrill 2002 ffeindiodd tri chwilotwr metal (John L Jones, Richard Johns a Fred Edwards) ddarganfyddiad heb ei ail mewn cae ger y Fenni, Sir Fynwy: celc gwasgaredig o 199 o geiniogau arian.

Roedd y celc yn cynnwys darnau arian y brenin Eingl-Sacsonaidd Edward Gyffeswr (1042-66) a Gwilym Goncwerwr, sef y Norman, Wiliam I (1066-87). Cafodd y rhan o Gymru lle y darganfuwyd y darnau arian ei chyfeddiannu yn fuan wedi i'r Normaniaid orchfygu Lloegr. Codwyd cestyll cynnar yng Nghaerllion a Chas-gwent ac mae'r celc yn dyddio o'r cyfnod cyn sefydlu tref gyfagos y Fenni yn y 1080au.

Pan gafodd ei ddarganfod roedd y celc wedi'i orchuddio â chrawen drwchus o waddodion haearn. Yn y gwaddodion hyn cafwyd hyd i olion defnydd oedd yn awgrymu bod y darnau arian mewn cwdyn brethyn yn wreiddiol. Ni wyddys p'un ai a oedd yr arian wedi'i guddio'n fwriadol, neu wedi'i golli, ond yr un peth sy'n sicr yw bod ei berchennog yn dlotach o lawer: byddai un swllt ar bymtheg a saith geiniog (16s 7c, neu £0.83c) gyfwerth â chyflog sawl mis yn hanes y rhan fwyaf o bobl.

Bathu Arian

Mae darnau arian Eingl-Sacsonaidd a Normanaidd yn ffynonellau hanesyddol unigryw: ar bob un datgelir enw'r lle y cafodd ei fathu a'r bathwr arian fu'n gyfrifol am y gwaith. Roedd y boblogaeth o fewn cyrraedd rhwydwaith o fathdai ar hyd a lled Lloegr (nid oedd bathdy yng Nghymru) a bob hyn a hyn câi'r arian a ddefnyddid ei gasglu ynghyd a'i ailfathu gan ddefnyddio cynllun newydd. Wrth reswm, roedd y brenin yn hawlio ei gyfran bob tro.

Mae celc y Fenni'n cynnwys cynnyrch 36 o fathdai hysbys, ynghyd â rhai cyhoeddiadau afreolaidd na ellir mo'u lleoli ar hyn o bryd. Darnau arian o fathdai'r ardal, megis Henffordd (34 darn) a Bryste (24), yw'r rhai mwyaf cyffredin; yn fwy niferus na'r rhai o fathdai mawr fel Llundain (19) a Chaer-wynt (20). Ar y llaw arall, ceir darnau arian unigol o fathdai bach fel Bridport (Dorset), neu rai pell i ffwrdd fel Thetford (Norfolk) a Derby. Mae celciau o orllewin Prydain yn brin iawn ac felly mae celc y Fenni wedi dwyn i'r amlwg nifer o gyfuniadau na chawsant eu cofnodi o'r blaen o ran bathdai, bathwyr arian a chyhoeddiadau.

Yn ôl pob tebyg, ni chawn wybod sut cyrhaeddodd y darnau arian hyn gornel cae yn Sir Fynwy ond, yn ogystal ag ychwanegu at ein gwybodaeth am arian bath, maent yn bwrw goleuni ar faterion ariannol yn yr ardal wedi'r goncwest Normanaidd.

Cafodd y celc, sydd ym meddiant Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, ei ddatgan yn drysor o dan y ddeddfwriaeth gyfoes, ac mae'r darganfyddwyr wedi cael eu gwobrwyo.

Darllen Cefndir

Conquest, Coexistence, and Change. Wales 1063-1415 gan R. R. Davies. Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen (1987).

The Norman Conquest and the English Coinage gan Michael Dolley. Cyhoeddwyd gan Spink and Son (1966).

Ci Da yn Gwella

Penny Hill, 5 Mawrth 2014

Cerflun bach manwl o gi

Cerflun bach manwl o gi heb fod dros 5cm o daldra fyddai wedi’i orchuddio â haen o dun neu arian mwy na thebyg. Mae tyllau yn y gwaelod metel yn awgrymu ei fod yn esitedd ar blinth.

Un o ddau gerflun bach o gŵn a ganfuwyd yn Llys Awel

Un o ddau gerflun bach o gŵn a ganfuwyd yn Llys Awel. Mae ei dafod allan yn barod i lyfu.

Mae’r ci wedi bod yn gyfaill mynwesol i ddyn ers cyn cof. Gwelwyd straeon eto’n ddiweddar am gŵn yn achub bywydau drwy ffroeni cancr, neu wella cylchrediad gwaed drwy lyfu coesau a breichiau.

Ond nid darganfyddiad newydd yw’r cysylltiad rhwng pobl, cŵn ac iechyd. Yn y casgliad archaeoleg, ymhlith grŵp o wrthrychau a ganfuwyd yn llys Awel, Conwy mae dau ffigwr bychan o gŵn. Mae dau blac aloi copr yno hefyd. Addurn pwnsh dot o amlinell ci sydd ar y cyntaf, ond mae’r ail wedi dirywio a gallai fod yn gi arall, neu’n enw duw. Y gred yw taw allor wedi’i gysegru i dduw iachaol oedd y safle, ac mae’r gwrthrychau eu hunain wedi’u dyddio i gyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain, rhwng diwedd y ganrif 1af AD a diwedd y 4edd ganrif AD. Mwy na thebyg i bobl adael y gwrthrychau yn offrwm i’r duw yn y gobaith y byddai’n sicrhau iechyd da ac yn eu gwella rhag afiechyd.

Pam cŵn?

Cai’r duw meddyginiaeth Groegaidd Asklepios (Aesculapius oedd enw’r Rhufeiniaid arno) ei ddangos yn aml yng nghwmni ci. Mwy na thebyg bod pobl wedi gweld cŵn yn iachau eu hunain drwy lyfu a’r cysylltiad wedyn wedi tyfu. Adeiladwyd noddfa fawr i’r cwlt yn y 4edd ganrif CC yn Epidaurus, Groeg. Tyfodd hon yn un o ganolfannau iachau mwyaf yr hen fyd. Un elfen o’r ddefod iachau oedd derbyn llyfiad gan gi dwyfol y noddfa. Yr unig esiampl gyffelyb y gwyddir amdani ym Mhrydain yw cwlt Nodens, y duw Romano-Brydeinig oedd â’i noddfa yn Lydne, Swydd Gaerloyw. Canfuwyd 9 portread o gŵn yno, ac fel yn Llys Awel mwy na thebyg taw pererinion yn chwilio am wellhad rhag afiechyd a’u gadawodd.

Yn 5cm o daldra ac wedi’u gwneud o aloi copr, eistedda’r ddau gi â’u cynffonau rhwng eu coesau a’u tafodau allan yn barod i lyfu. Mae’r manyldeb arnynt yn hynod, gyda’r llygaid a’r clustiau, y trwynau, y pawennau a’r ffwr i gyd yn amlwg. Mwy na thebyg iddynt gael eu creu drwy ddefnyddio’r dull colli cwyr, felly dim ond un cyfle oedd i gastio’r metel. Castiwyd un ci mewn un darn ond mae’r llall yn fwy cymhleth.

Wrth wneud gwaith cadwraeth, dysgwyd sut y cynhyrchwyd y cerflun

Wrth wneud gwaith cadwraeth, dysgwyd sut y cynhyrchwyd y cerflun. Castiwyd darnau ar wahân cyn eu sodro at eu gilydd.

Darlun o blac offrwm gydag arlliwio ychwanegol yn amlygu amlinell ci.

Darlun o blac offrwm gydag arlliwio ychwanegol yn amlygu amlinell ci.

Darlun o blac offrwm

Darlun o blac offrwm. Yw’r llinellau toredig yn yr hanner gwaelod yn sillafu enw duw sydd bellach yn angof, neu ai ci arall sydd yma?

Cadwraeth

Yn ystod gwaith cadwraeth, gwelwyd bod pedwar cast – pen, corff, cynffon a thafod – wedi’u sodro at eu gilydd i greu cyfanwaith. Awgrym pellach o hyn yw’r rhigolau yn y metel ger uniad y pen a’r corff, fyddai’n gymorth i’r sodrwr ddal y ddwy ran wrth weithio. Ceir tystiolaeth hefyd bod castio’r ffigwr wedi achosi cryn drafferth i’r crefftwr, a’r aloi copr ddim yn llifo ac yn llenwi’r mowld bychan. Bu’n rhaid trwsio’r trwyn a’r goes flaen dde gan dorri’r deunydd oedd heb gastio’n gywir a sodro rhannau newydd yn eu lle. Mae’r trwyn newydd wedi diflannu ond mae’r goes newydd gyda ni o hyd, a gellir gweld nad yw’r gwaith mor gywrain â’r goes chwith.

Mwy na thebyg i’r cerflun gael ei orchuddio mewn tun neu arian i guddio’r camgymeriadau a gwella’r golwg terfynol er mwyn dyrchafu pedigri’r ci bach. Ni chafwyd canlyniadau pendant o ddadansoddi’r arwyneb fodd bynnag ac nid yw’r gorchudd, os oedd un yn bodoli erioed, wedi goroesi. Bydd yn rhaid i ni ddychmygu sut olwg oedd ar y ci ar ei newydd wedd, ac a wnaeth yr offrwm ennyn trugaredd y duwiau?

Ogofau Cefn-yr-Ogof: Creaduriaid rhyfedd a dynion cyntaf Cymru

Elizabeth Walker, 7 Mawrth 2013

Ogof Pontnewydd

Ymchwil Ogof Pontnewydd

Danedd Pontnewydd

Danedd o ogof Pontnewydd

Ogof Pontnewydd

Ogof Pontnewydd

Ogofau Cefn-yr-Ogof

Cefn-yr-Ogof edrych allan

Mae'r ogofau yn Cefn, ger Llanelwy, wedi bod yn destun cryn sylw dros y blynyddoedd. Ymwelodd nifer o enwau mawr â'r ogofau i weld yr esgyrn anifeiliaid a chartref y Neanderthaliaid cynnar, gan gynnwys Charles Darwin ym 1831.

Mae'r ogofau ym mhlwyf Cefn Meiriadog, Sir Ddinbych wedi bod yn leoliad o ddiddordeb i wyddonwyr, artistiaid, beirdd a henaduriaid ers blynyddoedd. Arferai'r ffordd rhwng Dinbych ac Abergele basio drwy'r bwa carreg ger Afon Elwy a byddai nifer yn aros yno i edmygu prydferthwch yr olygfa. Ysgrifennodd yr hynafiaethwr John Leland am Cefn yn y 1530au: 'On the farther ripe of Elwy a 3. or 4. miles above S. Asaphes is a stony rok caullid Kereg the tylluaine, i.e. the rok with hole stones, wher a great cave is, having divers romes in it hewid out of the mayne rok.' Roedd yr awduron Thomas Pennant, Richard Fenton ac Edward Pugh hefyd ymhlith yr ymwelwyr ag Ogofau Cefn cyn 1830.

Esgyrn yn y mwd

Ymwelodd Charles Darwin â Cefn yn Awst 1831 yn ystod ei daith ddaearegol gyda'r Athro Adam Sedgwick. Disgrifiodd Darwin y galchfaen yn Cefn ac yn ei lyfr nodiadau mae'n nodi bod Sedgwick wedi gweld esgyrn rhinoseros ym mwd yr ogof; mae nodiadau Sedgwick yn dangos i ddant rhinoseros gael ei ddarganfod. Yn anffodus, wnaeth yr un o'r ddau ymhelaethu ar bwysigrwydd palaeontolegol y darganfyddiad. Ym mha ogof oedd Darwin? Mwy na thebyg taw Ogof Cefn oedd hi, gan fod cofnod o ymweliad y Parchedig Edward Stanley y flwyddyn ganlynol yn nodi bod gwaith tirlunio wedi gadael 'esgyrn yn y mwd i'w cymryd' a bod llawer o esgyrn wedi'u lledu fel gwrtaith ar y tir islaw. Cofnododd Stanley iddo weld dant

rhinoseros yng nghasgliad perchennog y tir – ai dyma ddant Sedgwick a Darwin? Fyddwn ni byth yn gwybod i sicrwydd.

Yr Hipo, y Rhino a'r Eliffant

Disgrifiodd Stanley y gwaith tirlunio ar Cefn a'r llwybrau cerdded a adeiladwyd yn y dyffryn, lle bu'n rhaid gwaredu rhannau o graig Cefn-yr-Ogof oedd yn ymwthio. Crëwyd cyfres o risiau graddol o waelod y dyffryn drwy Ogof Cefn. Symudwyd cyfaint anferth o rwbel o'r ogof er mwyn creu un llwybr yn cysylltu'r ddwy fynedfa. Dyma Stanley yn cloddio yn Ogof Cefn ym 1832 gan ddarganfod esgyrn eliffant ag ysgithrau syth, rhinoseros a hipopotamws o'r oes ryngrewlifol ddiwethaf (tua 125,000 o flynyddoedd oed), a gwaddodion oedd o ddiddordeb i nifer o ddaearegwyr a gwyddonwyr eraill a ymwelodd â'r ogofau.

Yng nghymdeithas ddysgedig y cyfnod, roedd y ddadl am hyd oes dyn ar y ddaear a'u perthynas ag anifeiliaid diflanedig ar ei hanterth. Felly pan ymddangosodd erthygl ym mhapur newydd The Times, ar 20 Hydref 1870 yn honni bod amffibiad rhyfedd yn byw yn Ogof Cefn, fe achosodd gryn ddiddordeb. Dyma'r erthygl yn galw ar naturiaethwyr i ymchwilio i oroesiad creadur hynafol yng Ngogledd Cymru. Mae erthygl yn The Flintshire Observer ar 4 Tachwedd 1870 yn sôn am fadfall fyw, pedair troedfedd saith modfedd o hyd, tebyg iawn i grocodeil yn cropian o ddyfnderoedd Ogof Cefn. Yn ôl y sôn, Cymro dewr a welodd yr anifail, Mr Thomas Hughes, ysgubwr simneiau o'r Rhyl. O ailadrodd yr hanes, mae'n annhebygol bod y crocodeil wedi cyrraedd Cefn o gwbl – mae'n debyg taw un o atyniadau sioe anifeiliaid a fu farw ar ymweliad â'r Rhyl oedd e. Wedi clywed yr hanes, dyma Mr Hughes yn dyfeisio'r stori am ei ddal yn yr ogof, ac wedi ei brynu, dyma ei arddangos fel madfall hynod Cefn.

Ogof Pontnewydd

Ym 1872 ymwelodd yr Athro Syr William Boyd Dawkins â Cefn a chloddio yn

Ogof Pontnewydd Cave . Pan ddarganfu Stanley yr ogof ar ochr y dyffryn ychydig i'r gogledd-orllewin o Ogof Cefn, nododd ei bod yn hollol ddigyffwrdd. Wnaeth Stanley ddim cloddio yno, ond credir bod y gweinidog lleol y Parchedig Thomas, Mrs Williams Wynn (perchennog y tir), a Boyd Dawkins wedi cloddio yno. Ym 1874 cloddiodd Thomas McKenny Hughes yn helaeth yn yr ogof gan ddarganfod asgwrn dynol hynod o fawr ynghyd ag offer carreg ac esgyrn anifeiliaid.

Prin oedd y diddordeb yn Ogofau Cefn wedi hyn tan y 1940au pan trowyd Ogof Pontnewydd yn storfa ffrwydron tir a ffrwydron tanddwr, gan adeiladu'r wal galchfaen, y drysau dur a siambr y gard gyda'i stôf golosg i gadw'r gwyliwr yn gynnes. Byddai pobl yn parhau i ymweld â Cefn, gan dreulio penwythnosau a Gwyliau'r Banc yn archwilio'r ogofau.

Ym 1978 dechreuodd Amgueddfa Cymru broject ymchwil i ymchwilio i ogofau Cefn gan ddechrau drwy gloddio yn Ogof Pontnewydd cyn symud i Cefn yn ddiweddarach. Mae Pontnewydd wedi dod yn safle o bwys rhyngwladol yn cynnwys gweddillion math esblygol cynnar o Neanderthal oedd yn defnyddio'r ogof tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl.

Heddiw mae'r ogofau ar dir preifat Plas-yn-Cefn a does dim mynediad i ymwelwyr.

Yn y Ddaear: O dan Eisteddfod 2012, mae tir sanctaidd

3 Awst 2012

sketch from Cyril Fox archive notebooks

Yn yr union fan hwn, 4,000 o flynyddoedd yn ôl, claddodd trigolion Bro Morgannwg rai aelodau o'u cymuned. Adeiladwyd casgliad o domenni claddu cymhleth a thrawiadol i nodi man gorffwys neu fan preswyl eu (ac ein?) cyndeidiau.

Yn ystod gaeaf garw 1939-40, datgloddiwyd yr henebion archaeolegol hyn gan Syr Cyril Fox, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa Genedlaethol.

O'i gwmpas, roedd y teirw dur eisoes yn paratoi'r tir cyn adeiladu maes awyr yr Ail Ryfel Byd yma yn Llandaw. Syr Cyril Fox, y Foneddiges Fox a "hanner dwsin o ddynion caib a rhaw" yn archwilio olion y gorffennol.

Roedd y gaeaf hwnnw ym 1939-40 gyda'r oeraf ar gofnod. Roedd y dyfodol yn edrych yn llwm iawn.

Oedd pobl yr Oes Efydd yn dathlu cylch bywyd, neu'n galaru?

A yw'r cylchoedd defodol hyn yn cynrychioli cylchoedd bywyd a marwolaeth?

 

Tarddiad Cerrig Gleision Côr y Cewri

Richard Bevins, 21 Chwefror 2012

Pont Saeson, Mehefin 2011.

Pont Saeson, Mehefin 2011.

Pont Saeson, Mehefin 2011.

Pont Saeson, Mehefin 2011.

Mae tarddiad cerrig gleision Côr y Cewri wedi bod yn destun dyfalu a dadlau ers blynyddoedd. Cafodd tarddiad un math o'r garreg las ei ganfod yng ngogledd Sir Benfro ddechrau'r 1920au, ond erbyn hyn mae daearegwyr Amgueddfa Cymru wedi canfod cysylltiad uniongyrchol rhwng math arall o'r garreg a rhan wahanol o ogledd Sir Benfro. Tybed a fydd modd i ni ganfod syniadau newydd am sut y cafodd y cerrig eu cludo i Gôr y Cewri?

Côr y Cewri

Côr y Cewri, ar Wastadeddau Caersallog, yw un o henebion mwyaf eiconig y byd. Mae'n un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO ac mae'r un mor gyfarwydd ym mhedwar ban ag y mae safleoedd enwog fel Machu Picchu yn Peru a Rhyfelwyr Terracotta Xian yn Tsieina.

Mae Côr y Cewri'n safle cymhleth. Mae fwyaf adnabyddus am ei feini hirion, sy'n cynnwys y Cylch Allanol, y Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Garreg Sawdl ac, o fewn y strwythur, yr 'Allorfaen'. O amgylch y cylch cerrig mae twmpathau a ffosydd, a chyfres o 'dyllau' y tybir iddynt gynnwys meini hirion corau eraill. Mae'r tyllau hyn, sy'n cael eu galw'n Dyllau Aubrey, yn bwysig am eu bod yn cynnwys malurion (neu 'naddion' mae rhai archaeolegwyr yn eu galw) nad yw ei litholeg i'w weld ymhlith y meini hirion cyfredol. Fodd bynnag, rhan yn unig yw Côr y Cewri fel y sefyll heddiw, o ystod ehangach o nodweddion cyfoes sy'n cynnwys y Rhodfa, y Cwrsws, a'r diweddaraf i'w bennu, Côr Gorllewin Amesbury (y'i gelwir yn 'Bluestonehenge' — Côr y Cerrig Gleision). At ei gilydd, dyma Dirwedd Côr y Cewri.

Yr enw ar gerrig mawr y Cylch Allanol yw 'Sarsenau'. Dyma gerrig o dywodfaen caled a gwydn y credir iddynt gael eu casglu o amgylchedd lleol Gwastadeddau Caersallog. Mae tarddiad cerrig llai'r Cylch Mewnol, y Bedol Fewnol a'r Allorfaen, sef y Cerrig Gleision, yn fath 'egsotig' yn ardal Gwastadeddau Caersallog. Am flynyddoedd lawer, bu archwilwyr Fictoraidd blaengar yn pendroni yn eu cylch. Dyma litholeg y Cerrig Gleision, fel y'i gelwir.

Y Cerrig Gleision

Fodd bynnag, yn ei bapur a gyhoeddwyd yn The Antiquaries Journal ym 1923, roedd H. H. Thomas o'r Arolwg Daearegol yn honni iddo ganfod tarddiad dolerit smotiog y Cerrig Gleision ym mrigiadau creigiog, neu 'tyrrau', uchelfannau'r Preseli, i'r gorllewin o Grymych. Yn benodol, credai mai'r tyrrau yng Ngharn Menyn a Cherrig Marchogion oedd y tarddleoedd tebygol. Aeth ymlaen i ystyried sut y cludwyd y cerrig gan bobl i Wastadeddau Caersallog gan fwrw amcan ar ddull cludo ar dir yn hytrach na siwrnai ar fôr a thir.

Nid dolerit smotiog yw'r holl Gerrig Gleision sy'n sefyll yng Nghôr y Cewri heddiw fodd bynnag. Tyffiau llif lludw yw pedair ohonynt, o gyfansoddiad dacitig neu ryolitig. Mae malurion a ganfuwyd yn Nhyllau Aubrey ac mewn cloddiadau archaeolegol eraill yng Nghôr y Cewri a'i Dirwedd yn cynnwys dolerit smotiog a rhagor o ddeunydd dacitig a rhyolitig gwahanol iawn.

Cynllun o Gôr y Cewri

Cynllun o Gôr y Cewri

Plan of Stonehenge showing archaeological detail

Cynllun o Gôr y Cewri

 Tirlyn Gôr y Cewri

Tirlyn Gôr y Cewri

Canfyddiadau diweddar

Yn 2009, cychwynnodd Amgueddfa Cymru archwiliadau petrolegol newydd. O astudio malurion o Gae'r Cwrsws, ger y Cwrsws, gwelwyd presenoldeb samplau gafodd eu pennu'n dyffiau llif lludw, gyda phwmis tiwb, darnau crisial a chlastau lithig ar batrwm matrics graen mân wedi'i ailgrisialu. Maent yn gymharol debyg i'r pedair maen hir dacitig a rhyolitig, ond mae gwahaniaethau allweddol. Hefyd yn bresennol oedd samplau y'u gelwyd gynt yn anffurfiol yn 'rhyolit â ffabrig'. Diffinnir y litholeg hon gan ffabrig datblygedig iawn, sy'n bresennol ar raddfa milimetrau. O ddilyn y gwead nodedig hwn, mae gwyddonwyr yr Amgueddfa wedi pennu Pont Saeson, sydd yn y tiroedd isel tua'r gogledd i Fynydd Preseli, fel tarddiad y garreg.

Anweddu'r Cerrig Gleision

I brofi'r tarddiad ymhellach, casglwyd tystiolaeth feintiol drwy ddadansoddi cyfansoddiad mân grisialau sircon, maint micron, o Gôr y Cewri, a samplau rhyolit o Bont Season. Defnyddiwyd techneg o'r enw 'sbectromeg màs anwythiad abladiad laser cypledig' ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Canolbwyntir pelydr laser pwerus iawn sydd â diamedr o 10 micron yn unig ar y crisialau sircon (sy'n ddim mwy na 100 micron) a'u 'habladu' — sef eu hanweddu fwy neu lai — gan adael y crisialau sircon yn frith o dyllau bach. Yna, caiff yr anwedd a gynhyrchir yn y broses ei ddadansoddi yn y sbectromegydd màs, sy'n dangos cemeg y crisialau sircon. Dyma'r tro cyntaf i gemeg sircon gael ei defnyddio i ganfod tarddiad deunydd archaeolegol.

Yn ogystal â sirconiwm (a haffniwm, elfen sy'n perthyn yn agos iddo) roedd y crisialau'n cynnwys crynodiadau digonol i'w hadnabod o ystod o elfennau gan gynnwys sgandiwm, tantalwm, wraniwm, thoriwm a'r elfennau daear prin. Roedd dadansoddiad y ddau set o samplau bron yr union yr un peth, gan ddarparu 'ôl bys' geogemegol.

Mae'r canlyniad o bwys sylweddol ac fe'i gyhoeddwyd yn 2011 mewn cyfnodolyn o bwys rhyngwadol, Journal of Archaeological Science.

Ym mis Mehefin 2011, cynhaliwyd gwaith samplo manylach gan bennu'r brigiad a elwir yn Graig Rhos-y-felin ger Pont Saeson fel tarddiad y rhan fwyaf o'r malurion rhyolit a ganfuwyd yn ystod gwaith cloddio yng Nghôr y Cewri a gerllaw.

Cyhoeddwyd canlyniadau'r cloddiadau diweddaraf hyn yn y cyfnodolyn Archaeology in Wales ym mis Rhagfyr 2011.