Cymru Hynafol

Celc arian Llanfaches

15 Gorffennaf 2011

Llanvaches coin hoard

Yn 2006, daeth un o'r casgliadau gorau o geiniogau arian o Brydain Rufeinig yr ail ganrif i'r wyneb ger Llanfaches, Casnewydd.

Darganfuwyd celc o 599 denarii arian wedi'u cuddio mewn llestr coginio a wnaed yn lleol. Maen nhw'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru bellach.

Saif Llanfaches rhwng caer yr ail lynges Awgwstaidd yng Nghaerllion a phencadlys y llwythi lleol, Venta Silurum, yng Nghaerwent.

Mae'r 599 denarii arian, sy'n dangos Ymerawdwyr Rhufeinig fel Hadrian a Nero, yn dyddio'n ôl i OC 160, a chyhoeddwyd eu bod yn drysor ym mis Gorffennaf 2007.

Y Denarius, neu Denarii (lluosog), yw'r darn arian Rhufeinig enwocaf, mwy na thebyg. Dyma'r llythyren 'd' a oedd yn rhan o hen system arian '£-s-d' Prydain. Roedd 1 denarius rywbeth tebyg i gyflog diwrnod ar y pryd, i weithiwr cyffredin (meddyliwch am ddameg y winllan yn y Beibl) neu lengfilwr Rhufeinig. Roedd y denarius, felly, yn ddarn gwerthfawr o arian.

Byddai 600 denarii yn swm aruthrol - tybed faint o amser fyddai hi'n ei gymryd i chi gynilo gwerth dwy flynedd o gyflog gros, tybed?

Cliciwch ar y mân-luniau isod i bori trwy ddetholiad o'r celc arian.

Llanvaches coin hoard

Pegasus

Pennau

Yn wahanol i'n darnau arian ni heddiw - sydd ag un llywodraethwr yn unig arnynt ac ychydig iawn o gynlluniau gwahanol - roedd arian bath ymerodraeth Rhufain yr ail ganrif yn llawn amrywiaeth: mae celc Llanfaches yn cynnwys ceiniogau â llun 12 ymerawdwr gwahanol a phedair o'u gwragedd neu gariadon.

Cynffonnau

Roedd dwsinau o gynlluniau gwahanol ar gefnau'r ceiniogau - a oedd fel cronicl o amcanion, gwerthoedd a llwyddiannau ymerodrol (i'r rhai a oedd yn ddigon brwd neu lythrennog hyd yn oed, i'w deall). Roeddynt yn cynnwys: hanes a chwedloniaeth, yr ymerawdwr a'i orchestion, y fyddin, yr ymerodraeth, duwiau Rhufeinig, ymgnawdoliad o gysyniadau haniaethol, a'r byd naturiol hyd yn oed.

Felly, dyma gyfle i ddod i adnabod y llywodraethwyr Rhufeinig, eu gwragedd a'u cariadon yn well, a deall y negeseuon y tu ôl i rai o'r ceiniogau mwyaf diddorol yn y casgliad.

Y cyd-destun ehangach

Mae'n ymddangos mai arian wedi'i gynilo oedd celc Llanfaches (yn hytrach nag arian nad oedd mewn defnydd ar y pryd) - felly ai rhan o gynilion gorfodol a dewisol ychwanegol milwr Rhufeinig oedden nhw? Neu gynilion yn sgil oes o fasnachu yn nhref gyfagos Caerwent? Beth bynnag oedden nhw, roedd cyflog milwrol yn hollbwysig i wasgaru'r arian bath newydd; mae wyth celc o gyfnod Antoninus Pius (138-61 OC) wedi'u darganfod yma yng Nghymru, a chelc Llanfaches yw'r mwyaf o bell ffordd.

Mwy craff na'r Edwardiaid? Canfod bwcl gwregys Rhufeinig

Evan Chapman, 14 Medi 2010

Bwcl gwregys o'r cyfnod Rhufeinig hwyr o Gaerwent

Bwcl gwregys o'r cyfnod Rhufeinig hwyr o Gaerwent

Yr unig esiampl arall o Gymru y gwyddom amdani — o fryngaer Pen y Corddyn, Conwy.

Yr unig esiampl arall o Gymru y gwyddom amdani — o fryngaer Pen y Corddyn, Conwy. Addurn o bysgod a phâr o beunod yn wynebu coeden arddulliedig.

Datglodd yng Nghaerwent yn gynnar yn yr 20fed ganrif

Datglodd yng Nghaerwent yn gynnar yn yr 20fed ganrif

Ail-ddatgloddio y ffosydd Edwardaidd yng Nghaerwent

Ail-ddatgloddio y ffosydd Edwardaidd yng Nghaerwent

Dechreuodd Archeolegwyr ddatgloddio'r forum-basilica yng Nghaerwent yn Sir Fynwy ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Dychwelodd staff yr Amgueddfa yn ddiweddar i ddatgloddio'r safle eto, a chanfod eitemau gafodd eu methu yn wreiddiol, yn cynnwys y bwcl a phlât aloi copr o ddiwedd y bedwaredd ganrif.

Mae pâr o bennau dolffin yn wynebu am i mewn ar ddolen y bwcl ynghyd â phâr o bennau ceffyl yn wynebu am allan. Yn wreiddiol byddai'r plât llenfetel wedi'i glymu i wregys ledr gyda dau rybed ar y pen. Mae border o gebl addurniadol iddo a thri motif cylchog gyda rhosglwm melyn Mair ar gefndir o ddotiau. Mae'r ymwthiadau crwm sy'n codi o'r rhain yn edrych fel pennau a gyddfau adar, sy'n awgrymu taw peunod yw'r motifau.

Ar ragfur gorllewinol bryngaer Pen y Corddyn, Conwy y canfuwyd yr unig blât bwcl tebyg yng Nghymru. Addurniadau o bysgod a phâr o beunod yn wynebu coeden arddulliedig sydd ar yr esiampl honno.

Peunod anfarwol a phren y bywyd

Mae peunod yn symbol o anfarwoldeb (dywedir bod eu cnawd yn anllygradwy), a gellir dehongli'r pysgod a phren y bywyd fel symbolau Cristnogol. Mae hyn wedi arwain rhai i feddwl taw byclau Cristnogol yw'r rhain, ond mae'n bosib taw motifau addurniadol cyffredin ydyn nhw.

Gwregys Filwrol Rufeinig

Mae'n debyg bod platiau bwcl fel hwn yn offer milwrol swyddogol. Roedd y 'wregys filwrol' yn symbol bwysig o reng, er ei bod yn amlwg i wregysau o'r un arddull ddod yn boblogaidd y tu hwnt i'r fyddin. Gallai'r esiampl hon fod yn fersiwn lled swyddogol ar gyfer y 'gwasanaeth sifil', yn hytrach na'r fyddin. Mae'n debyg fodd bynnag, i'w poblogrwydd ledu ymhellach fel symbol o statws i rai oedd yn gweld eu hunain fel gweision y wladwriaeth. Maent wedi cael eu canfod mewn beddrod sawl gwraig, sy'n awgrymu bod merched yn eu gwisgo hefyd.

Ni ddylid ystyried bwcl Caerwent yn ddim mwy nag eitem ddillad sy'n dangos chwaeth bersonol y perchennog. Nid yw'n dangos rheng na chenedl y perchennog yn uniongyrchol hyd yn oed, er y gall awgrymu bod gan y perchennog awydd i edrych fel un o 'fawrion y gymdeithas'.

Atgynhyrchu Pennau Saethau Rhufeinig

Evan Chapman, 14 Medi 2010

Pen saeth Rhufeinig â thair asgell o Dinorben, gogledd Cymru

Pen saeth Rhufeinig â thair asgell o Dinorben, gogledd Cymru

Pen saeth Rhufeinig â phedai asgell o Gaerllion, de Cymru

Pen saeth Rhufeinig â phedai asgell o Gaerllion, de Cymru

Copïau o bennau saethau

Copïau o bennau saethau

Jig a ddefnyddiwyd i ffurfio pen saeth â phedair asgell.

Jig a ddefnyddiwyd i ffurfio pen saeth â phedair asgell.

Defnyddiai'r Rhufeiniaid sawl math gwahanol o bennau saethau. Roedd gan y rhai mwyaf nodweddiadol gyfres o esgyll: tair asgell oedd gan rai cynnar, ond mae enghreifftiau o rai â phedair asgell wedi'u canfod sy'n perthyn i'r drydedd ganrif OC. Un rheswm posibl am y newid hyn yw ei bod hi'n haws cynhyrchu'r fersiwn â phedair asgell.

Yn 2008 cynhaliwyd Pencampwriaeth Saethyddiaeth Maes y Byd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a cynhaliodd yr Amgueddfa sawl arddangosfa fach ar saethyddiaeth. Cynhyrchwyd nifer o bennau saethau Rhufeinig yn arbennig ar gyfer yr arddangosfa saethyddiaeth Rufeinig i ddangos sut fyddai pennau saethau Rhufeinig newydd sbon yn edrych.

Yn sgil gwaith cadwraeth gofalus ar rai o bennau saethau Rhufeinig yr Amgueddfa, gwelwyd digon o fanylion gwreiddiol i ddatgelu'r broses gynhyrchu a ddefnyddiodd y Rhufeiniaid. Roedd gof Amgueddfa Sain Ffagan am greu copïau yn yr un modd a bu'n arbrofi nes ei fod yn medru creu copïau oedd yn debyg iawn i'r gwreiddiol.

Dangosodd y gwaith arbrofol hyn ei bod yn haws ac yn gynt cynhyrchu'r math â phedair asgell oherwydd bod modd creu'r esgyll mewn jig. Gan fod mwy o ofod rhwng yr esgyll ar y fersiwn tair asgell roedd yn rhaid taro'r esgyll i siâp yn unigol, ac roedd un asgell yn y ffordd wrth geisio gweithio ar un arall. Ai dyma pam y dechreuwyd cynhyrchu fersiynau pedair asgell?

Os yw hyn yn wir, pam oedd y Rhufeiniaid yn cynhyrchu pennau saethau â thair asgell yn y lle cyntaf? Seiliwyd offer saethyddiaeth Rhufeinig ar dechnoleg y Dwyrain Agos. Yno, cai'r pennau saethau metel gwreiddiol eu castio mewn efydd. Copïo ffurf tair asgell y pennau saethau efydd yma wnaeth y Rhufeiniaid yn syml iawn.

Andrew Murphy yn defnyddio'r jig i greu pennau saethau Rhufeinig yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Andrew Murphy, gof Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn defnyddio'r jig i greu pennau saethau Rhufeinig

Darllen Pellach

Bishop, M.C.&Coulston, J.C.N. 2006 Roman Military Equipment, from the Punic Wars to the Fall of Rome (Rhydychen: Oxbow Books)

Chapman, E.M. 2005 A Catalogue of Roman Military Equipment in the National Museum of Wales, BAR British Series 388 (Rhydychen)

Diwylliant Yfed Hynafol: Tancard Langstone

1 Ebrill 2010

Tancard Langstone

Tancard Langstone

Cymryd samplau pren o'r tancard

Cadwraethwr yr Amgueddfa, Mary Davis a'r archeolegydd amgylcheddol Nigel Nayling (Prifysgol Llambed) yn cymryd samplau pren o'r tancard. Dengys dadansoddiad microsgop fod y tancard wedi'i wneud o bren ywen, rhywogaeth o goeden sy'n tyfu'n araf iawn, ac a ddewiswyd yn arbennig.

Archwilio safle darganfod y tancard

Y darganfyddwr, Craig Mills, ac archeolegydd yr Amgueddfa, Mark Lewis (Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion), yn archwilio safle darganfod y tancard

Ym mis Rhagfyr 2007, daeth Craig Mills o hyd i dancard pren cyflawn wrth chwilio am fetel mewn cae ger Langstone, Casnewydd. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno'r llestr prin, tua 2000 oed, sydd wedi goroesi'n arbennig o dda, gan ddangos sut mae cadwraeth ac ymchwil yr Amgueddfa yn cynorthwyo i ddatgelu ei stori...

Y tancard

Pan yn llawn, byddai'r tancard wedi dal bron i bedwar peint o gwrw neu seidr. Byddai'n cael ei ddal â dwy law a'i basio o amgylch grŵp, fwy na thebyg, fel llestr yfed cymunedol. Gwnaed y llestr o chwe astell bren, wedi'u gosod o amgylch gwaelod crwn. O amgylch yr wyneb allanol mae dau fand o efydd. Mae gan y llestr ddolen aloi copr cast, gyda dau bâr o rybedion yn ei chysylltu gyda'r tancard.

Yn dyddio i ddiwedd yr Oes Haearn neu ddechrau'r cyfnod Rhufeinig, yr unig reswm y goroesodd y tancard oedd gan iddo gael ei gladdu mewn pridd dyfrlawn, heb gysylltiad o gwbl gyda'r aer. Cyn gynted ag iddo gael ei godi o'r tir, cychwynnodd sychu gyda pherygl gwirioneddol y gallai grebachu, cracio ac anffurfio tu hwnt i adnabyddiaeth. Treuliodd y cadwraethwyr lawer o amser a gofal wrth ei fonitro, cyn medru ei gadw. Cyflawnwyd hyn drwy ei osod mewn alcohol (unwaith eto!) er mwyn disodli'r dŵr o'r celloedd yn y pren. Yna disodlwyd yr alcohol gydag ether (sylwedd anweddol), a anweddodd yn hawdd o arwyneb y pren i adael y gwrthrych yn 'sych'. Yn olaf, cafodd y ffitiadau eu glanhau a'u sefydlogi'n ofalus.

Arwyddocâd y darganfyddiad

Roedd tancardiau yn llestri yfed poblogaidd ledled gorllewin a de Prydain ar ddiwedd yr Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig. Dyma un o'r chwe thancard cyflawn sydd wedi goroesi ym Mhrydain ac Iwerddon. Yr enghraifft arall o Gymru yw tancard Trawsfynydd (Gwynedd), sydd wedi'i addurno'n helaeth, a ganfuwyd tua 1850 ac a oedd hefyd wedi'i gadw mewn mawn dyfrlawn. Mae darganfyddiadau o ddolenni efydd tancardiau yn fwy cyffredin. Mae'n anodd dyddio tancard Langstone yn gywir. Mae'r ddolen a oroesodd yn debyg iawn i ddolen tancard a ganfuwyd yn y gaer Rufeinig yn Llwchwr (Abertawe). Roedd wedi'i chladdu mewn ffynnon, a lenwyd yn ystod yr ail ganrif OC. Fodd bynnag, awgryma archwiliad manwl o dancard Langstone fod y ddolen hon, nad oedd wedi'i ffitio'n dda, wedi'i gosod yn ddiweddarach yn lle'r un gwreiddiol, sydd bellach ar goll. Y darn blaenfain ar yr ymyl a'r pinnau efydd cain sydd ar ôl yn wal ganol y tancard yw'r dystiolaeth sydd wedi goroesi o'r ddolen gynnar hon. Awgryma hyn fod y tancard wedi'i wneud yn y ganrif gyntaf neu ddechrau'r ail ganrif OC (1-150 OC).

Ychydig fetrau i ffwrdd o'r fan lle canfuwyd y tancard, daeth Craig Mills o hyd i

ddwy ddysgl efydd a hidlen win tua'r un pryd. Gwnaed y llestri hyn, sydd bron yn gyflawn, yn ystod diwedd yr Oes Haearn, ac fe'u haddurnwyd yn arddull Celf Geltaidd. Cawsant eu claddu mewn haenen fawnog dyfrlawn debyg, fwy na thebyg yn ystod canol y ganrif gyntaf OC. Mae'r defnydd tebyg hwn, ar gyfer hidlo a dal hylif, megis gwin neu foddion, yn awgrymu fod y lleoliad hwn yn arbennig o arwyddocaol i'r perchnogion, a ddewisodd gladdu eu hoffer yfed yma.

Ysgrifennwyd gan Adam Gwilt, gyda chyfraniadau gan Evan Chapman, Mary Davis, Mark Lewis, Mark Lodwick, Craig Mills a Nigel Nayling

Dysglau yn y Gors: Datgelu Trysor Langstone

23 Mawrth 2010

Y celc o ddwy ddysgl a hidlydd gwin

Y celc o ddwy ddysgl a hidlydd gwin

Y ddolen addurnedig (arfbais) ar y ddysgl fawr

Y ddolen addurnedig (arfbais) ar y ddysgl fawr

Archwilio'r man dyfrlawn lle canfuwyd y dysglau a'r hidlydd gwin.

Archwilio'r man dyfrlawn lle canfuwyd y dysglau a'r hidlydd gwin. Cyflawnwyd fel rhan o achos o drysor gan staff Cynllun Henebion Cludadwy Cymru ac Amgueddfa Cymru

Ym mis Rhagfyr 2007, daeth Craig Mills o hyd i ddwy ddysgl efydd a hidlydd efydd o ddiwedd yr Oes Haearn, wedi'u haddurno mewn arddull Celfyddyd Geltaidd. Gwnaed y darganfyddiadau wrth chwilio am fetel mewn cae isel ger Langstone, Casnewydd. Mae'r erthygl hon yn cyflwyno'r canfyddiadau prin ac yn dangos sut mae gwaith maes ac ymchwil yr amgueddfa yn cynorthwyo i adrodd eu stori.....

Y llestri efydd

Roedd y celc hwn o ddysglau a 'hidlydd gwin' ar un adeg yn set yfed, ar gyfer ardywallt a hidlo hylifau. Efallai iddynt gael eu defnyddio ar gyfer paratoi ac yfed y gwin Canoldirol ffasiynol newydd. Neu efallai bod iddynt ddefnydd meddygol neu grefyddol.

Mae gan y dysglau waelod crwn, ac ymylon wedi'u ffurfio'n ofalus. Er bod un ychydig yn fwy na'r llall, mae'r hidlydd yn eistedd yn gysurus yn y ddau. Mae gan y dysglau ddarnau addurnedig o dan yr ymyl, lle'r oedd modrwyau yn cael eu gosod ar gyfer eu hongian a'u storio. Mae gan yr hidlydd ymyl llydan a chorff crwn, gyda modrwy i'w hongian. Addurnwyd y gwaelod â phatrwm hidlo wedi'i gynllunio'n ofalus, wedi'i gyflawni drwy dorri tyllau bychain crwn yn ofalus. Mae'r patrwm tyllau yn ffurfio tri siâp trymped, o amgylch patrwm trisgell tair coes. Gwelir y cynllun trisgell yn aml mewn Celfyddyd Geltaidd ar waith metel Oes Haearn yng Nghymru.

Arwyddocâd y darganfyddiad

Gwnaed y ddwy ddysgl efydd o Langstone yn ystod diwedd yr Oes Haearn (50 CC-60 OC). Daethpwyd o hyd i enghreifftiau blaenorol ledled de orllewin a de ddwyrain Lloegr, weithiau mewn mannau dyfrol ac weithiau mewn beddau. Mae'r rhain, ac adroddiadau am ddarn o ddysgl debyg yn ddiweddar o Llandeilo Gresynni (Sir Fynwy), yn dangos eu bod yn cael eu defnyddio ledled de Cymru. Mae darganfyddiadau Langstone yn darparu cyfle prin i astudio darganfyddiad diweddar gan ddefnyddio technegau archeolegol modern.

Yn y gorffennol, ystyriwyd hidlwyr gwin o'r math hwn fel rhai o'r cyfnod Rhufeinig cynnar (75-150 OC), gydag enghreifftiau hysbys o Maenorbŷr (Sir Benfro) a Coygan (Sir Gaerfyrddin). Fodd bynnag, mae'r enghraifft hon, a ganfuwyd gyda set o ddysglau o ddiwedd yr Oes Haearn, yn awgrymu eu bod wedi cychwyn cael eu gwneud a'u defnyddio ychydig yn gynharach, rhwng 40-70 OC yn ôl pob tebyg.

Pam fod llestri gwerthfawr a chyflawn yn cael eu claddu mewn cors?

Rhai metrau i ffwrdd o'r fan lle canfuwyd y celc, daethpwyd o hyd i

dancard pren cyflawn o oedran tebyg ar yr un pryd. Awgryma hyn fod arwyddocâd arbennig i'r lle, yn gysylltiedig gydag yfed a chladdu llestri yfed.

Cloddiwyd dau bwll prawf bychan, a datgelwyd union leoliad y canfyddiadau hyn, o fewn yr un haenen fawnog. Roedd y llestri wedi cael eu gosod yn ofalus ar ymyl y gors isel neu lyn bas. Gerllaw, yng nghanol y gors, ar ynys fechan o raean, mae safle fila Rufeinig hysbys. Fodd bynnag, mae'r ynys anghysbell hon yn safle anarferol ar gyfer aneddiad. Efallai iddo gael ei ddewis yn y lle cyntaf fel man o bwysigrwydd crefyddol, cyn dod yn drigfan o bwysigrwydd yn y cyfnod Rhufeinig.

Rhoddion i'r duwiau

Roedd claddu gwrthrychau gwerthfawr mewn llynnoedd, afonydd a chorsydd yn arfer cyffredin ledled gogledd orllewin Ewrop yn ystod yr Oes Haearn. Dewiswyd y mannau hyn ar gyfer seremonïau i roi eitemau gwerthfawr i'r duwiau a oedd yn trigo yno. Efallai mai'r rhesymeg dros y weithred hon oedd y straen a brofwyd gan y gymuned Oes Haearn lleol. Yn ystod canol y ganrif gyntaf OC, roedd llwyth Silures de Cymru ynghanol gwrthdaro chwerw a pharhaus gyda byddin Rufeinig. Efallai bod rhoddion o'r fath yn arwydd o fesur brys, galwad ar rym y duwiau Celtaidd i gynorthwyo yn erbyn y llu ymosodol.

Ysgrifennwyd gan Adam Gwilt, gyda chyfraniadau gan Evan Chapman, Mary Davis, Mark Lewis, Mark Lodwick, Craig Mills a Nigel Nayling