Blodau i bawb! Catalena Angele, 14 Mawrth 2014 Waw gyfeillion y gwanwyn! Mae cymaint ohonoch chi wedi gweld eich planhigion yn blodeuo ers y blog diwethaf! Mae’n rhaid bod meysydd chwarae a gerddi yr ysgolion yn werth eu gweld. Diolch am eich cofnodion blodau i gyd.Pa ysgolion sydd wedi gweld eu blodau cyntaf?Mae Ysgol Gynradd St Bernadette yn yr Alban ac Ysgol Gynradd WR Abergwili, Ysgol Gynradd Parc Darran, Ysgol Gynradd CIW Henllys, Ysgol Gynradd WR Llanishen Fach, Ysgol Bro Tawe ac Ysgol Gynradd Dolgellau yng Nghymru i gyd wedi gweld eu blodau cyntaf. Yn Lloegr, mae ysgolion Balshaw Lane Community Primary School, Dallas Road Community School, Golden Hill School, Holy Trinity CE Primary School, Manor Road Primary School, Red Marsh School, St Mary’s Catholic Primary School, St Michaels CE (Aided) Primary School, St Nicholas Primary School and The Blessed Sacrament Catholic Primary School i gyd wedi anfon eu cofnodion blodau cyntaf. Llongyfarchiadau i chi gyd!Dim ond 3 wythnos i anfon eich cofnodionFyddwch chi’n ennill tystysgrif Gwyddonydd Gwych eleni? Y dyddiad cau i anfon eich cofnodion blodau yw 28 Mawrth. Os byddwch chi’n anfon eich cofnodion tywydd a blodau ata i (os ydyn nhw wedi agor) byddwch chi’n dod yn Wyddonydd Gwych! Bydd pob Gwyddonydd Gwych yn derbyn Tystysgrif a Phensel. Bydd cyfle i chi hefyd ennill Taith Natur neu hadau i dyfu blodau’r haul eich hun!Ydych chi’n artist? Beth am gymryd rhan yn y Gystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr? 20 Mawrth yw’r dyddiad cau ar gyfer hon hefyd. Rydw i’n chwilio am ddarluniau botanegol – sef darluniau o blanhigion mewn arddull wyddonol. Rwy’n siŵr y gallwch chi dynnu lluniau gwych, ond cofiwch labelu rhannau’r Cennin Pedr yn glir hefyd. Gallwch chi weld yr enillwyr, a’r esiamplau gorau o’r llynedd drwy ddilyn y ddolen hon. Bydd yr enillwyr yn derbyn pecyn gwylio adar gyda binocwlars bach i’r dosbarth, a’r goreuon eraill yn derbyn bag o hadau blodau i’r ardd!Dyw fy mhlanhigion i mewn potiau yn dal heb flodeuo, ond mae’r crocysau draw yng ngardd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn werth eu gweld. Mae’r gwenyn yn eu mwynhau nhw hefyd y ôl y ffotograff yma! Allwch chi weld bod paill melyn dros gorff y gacynen? Pan fydd e’n hedfan at flodyn arall bydd e’n trosglwyddo’r paill o un blodyn i’r llall – dyma sut mae blodau yn cael eu ffrwythloni!Eich cwestiynau, fy atebion:Raglan VC Primary: Still no sign of the flowers this week! We are having some good weather. Prof P: Don’t worry Raglan School, mine haven’t flowered yet either. Hopefully the good weather will help our plants to flower.Cutteslowe Primary School: Monday 17th - school closed, no heating or hot water. Prof P: Brrrr that sounds very chilly.Manor Road Primary School (Lancashire): One of are crocus bulbs are starting to flower. Prof P: Fantastic news Manor Road, Congratulations!Chatelherault Primary School: Wk 10: Most of our plants have started to too grow. It has raining a lot and some snow. Prof P: We didn’t have any snow at all in Cardiff this year, but we did have lots of rain.The Blessed Sacrament Catholic Primary School: It has been so exciting this week as the buds all suddenly started to appear and on Friday some crocus flowers opened! The daffodils have suddenly grown and we know it won't be long before they too flower. They just love the sunshine! Prof P: Hooray! It’s such a lovely feeling to see your flowers open isn’t it?Greyfriars RC Primary School: S - ten of our crocuses have budded. Prof P: Great news S. at Greyfriars, I’m sure the other crocuses won’t be far behind.Dallas Road Community Primary School: Super Fun!!! Prof P: I’m so glad you think so Dallas Road! Science IS Super Fun!Diolch yn fawrAthro'r Ardd
Cofnodion blodau cyntaf yr Alban! Catalena Angele, 7 Mawrth 2014 Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Ladywell am fod yr ysgol gyntaf o’r Alban i anfon eu cofnodion blodau! Anfonodd Ysgol Gynradd Lakeside, Caerdydd eu cofnodion blodau cyntaf hefyd – agorodd eu crocws cyntaf a’u cennin Pedr cyntaf yn yr un wythnos! Da iawn chi gyfeillion y gwanwyn.Tair wythnos… Dyddiad cau anfon eich cofnodion tywydd a blodau ata i yw dydd Gwener 28 Mawrth, felly dim ond tair wythnos sydd ar ôl! Os ydych chi wedi bod yn cadw cofnodion ond heb eu hanfon nhw eto cofiwch frysio – mae pob un o’ch cofnodion tywydd a blodau yn bwysig i fi! Bydd pob cofnod anfonwch chi ata i yn gwneud Ymchwiliad Bylbiau’r Gwanwyn yn well ac yn fwy cywir.Os nad ydy’ch blodau wedi agor eto, peidiwch poeni. Gall tipyn ddigwydd mewn tair wythnos, yn enwedig os bydd yr haul yn tywynnu!Hoffech ddefnyddio’ch planhigion i gynnal Astudiaeth Gwyddoniaeth Gwych? Rydw i wedi casglu rhai syniadau ar gyfer arbrofion allwch chi eu cynnal yn y dosbarth! Allwch chi dwyllo eich crocws? All eich cennin Pedr symud? Edrychwch ar Syniadau Athro'r Ardd am brojectau ymchwil. Yn ogystal ag arbrofion cyffrous, gallwch chi hefyd ddarllen fy hoff gerdd Saesneg! Cennin Pedr yw’r testun, a dyma’r pennill cyntaf: DaffodilsI wander’d lonely as a cloudThat floats on high o'er vales and hills,When all at once I saw a crowd,A host, of golden daffodils;Beside the lake, beneath the trees,Fluttering and dancing in the breeze.gan William Wordsworth (1770-1850). Ydych chi erioed wedi meddwl ysgrifennu cerdd am y gwanwyn? Neu beth am gerdd i’ch hoff blanhigyn? Rhowch gynnig ar farddoni!Your questions, my answers:Ladywell Primary School: We have had our computer system upgraded in school and it has been difficult for us to send weekly weather reports because we lost a lot of data which was stored on our apple mac and which we cant convert to PC. However we have been taking temperatures and it has not really been cold and we have had a lot of rain. Some of our plants didn't grow very well but our first daffodil opened today 25th February and it is 28 cm tall. We have another one about to open and some others not far away. We hope this is ok with you and we will send more information soon. Prof P: Sorry to hear you have had computer trouble Ladywell School, don’t worry, I completely understand. Thanks very much for sending your first flower record! Keep up the good work and send in your other flower records when they open.Lakeside Primary: Daffodil comment: Only one is open and the one that has opened has only got half a pot of compost, we think it was knocked over and some soil lost so perhaps less soil has led to quicker flowering, but why? Prof P: Great question Lakeside! Do you have any ideas? This is my theory: A bulb closer to the surface may flower sooner because it warms up quicker and has less soil to push through when it starts to grow. So why don’t we plant them all close to the surface? Well, if there is a very cold winter the frost can damage bulbs that are too close to the surface, and then they may not grow at all.The Blessed Sacrament Catholic Primary School: We all brought our wellies into school this week so that we can go out and look at our bulbs whatever the weather. We went to check on them all on Friday and measured how tall the leaves were, and started recording them in a table like we had been doing in maths. We hope to do this every week now then we can make a graph of the results. Still no sign of flowers yet! Prof P: What a fantastic idea! I love making graphs, they are a great way to see what the numbers are telling me. You must be very dedicated scientists to bring your wellies in to school so you can measure your leaves. Well done, I am very impressed!Diolch yn fawrAthro'r Ardd
Ci Da yn Gwella Penny Hill, 5 Mawrth 2014 Cerflun bach manwl o gi heb fod dros 5cm o daldra fyddai wedi’i orchuddio â haen o dun neu arian mwy na thebyg. Mae tyllau yn y gwaelod metel yn awgrymu ei fod yn esitedd ar blinth. Un o ddau gerflun bach o gŵn a ganfuwyd yn Llys Awel. Mae ei dafod allan yn barod i lyfu. Mae’r ci wedi bod yn gyfaill mynwesol i ddyn ers cyn cof. Gwelwyd straeon eto’n ddiweddar am gŵn yn achub bywydau drwy ffroeni cancr, neu wella cylchrediad gwaed drwy lyfu coesau a breichiau. Ond nid darganfyddiad newydd yw’r cysylltiad rhwng pobl, cŵn ac iechyd. Yn y casgliad archaeoleg, ymhlith grŵp o wrthrychau a ganfuwyd yn llys Awel, Conwy mae dau ffigwr bychan o gŵn. Mae dau blac aloi copr yno hefyd. Addurn pwnsh dot o amlinell ci sydd ar y cyntaf, ond mae’r ail wedi dirywio a gallai fod yn gi arall, neu’n enw duw. Y gred yw taw allor wedi’i gysegru i dduw iachaol oedd y safle, ac mae’r gwrthrychau eu hunain wedi’u dyddio i gyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain, rhwng diwedd y ganrif 1af AD a diwedd y 4edd ganrif AD. Mwy na thebyg i bobl adael y gwrthrychau yn offrwm i’r duw yn y gobaith y byddai’n sicrhau iechyd da ac yn eu gwella rhag afiechyd. Pam cŵn? Cai’r duw meddyginiaeth Groegaidd Asklepios (Aesculapius oedd enw’r Rhufeiniaid arno) ei ddangos yn aml yng nghwmni ci. Mwy na thebyg bod pobl wedi gweld cŵn yn iachau eu hunain drwy lyfu a’r cysylltiad wedyn wedi tyfu. Adeiladwyd noddfa fawr i’r cwlt yn y 4edd ganrif CC yn Epidaurus, Groeg. Tyfodd hon yn un o ganolfannau iachau mwyaf yr hen fyd. Un elfen o’r ddefod iachau oedd derbyn llyfiad gan gi dwyfol y noddfa. Yr unig esiampl gyffelyb y gwyddir amdani ym Mhrydain yw cwlt Nodens, y duw Romano-Brydeinig oedd â’i noddfa yn Lydne, Swydd Gaerloyw. Canfuwyd 9 portread o gŵn yno, ac fel yn Llys Awel mwy na thebyg taw pererinion yn chwilio am wellhad rhag afiechyd a’u gadawodd. Yn 5cm o daldra ac wedi’u gwneud o aloi copr, eistedda’r ddau gi â’u cynffonau rhwng eu coesau a’u tafodau allan yn barod i lyfu. Mae’r manyldeb arnynt yn hynod, gyda’r llygaid a’r clustiau, y trwynau, y pawennau a’r ffwr i gyd yn amlwg. Mwy na thebyg iddynt gael eu creu drwy ddefnyddio’r dull colli cwyr, felly dim ond un cyfle oedd i gastio’r metel. Castiwyd un ci mewn un darn ond mae’r llall yn fwy cymhleth. Wrth wneud gwaith cadwraeth, dysgwyd sut y cynhyrchwyd y cerflun. Castiwyd darnau ar wahân cyn eu sodro at eu gilydd. Darlun o blac offrwm gydag arlliwio ychwanegol yn amlygu amlinell ci. Darlun o blac offrwm. Yw’r llinellau toredig yn yr hanner gwaelod yn sillafu enw duw sydd bellach yn angof, neu ai ci arall sydd yma? Cadwraeth Yn ystod gwaith cadwraeth, gwelwyd bod pedwar cast – pen, corff, cynffon a thafod – wedi’u sodro at eu gilydd i greu cyfanwaith. Awgrym pellach o hyn yw’r rhigolau yn y metel ger uniad y pen a’r corff, fyddai’n gymorth i’r sodrwr ddal y ddwy ran wrth weithio. Ceir tystiolaeth hefyd bod castio’r ffigwr wedi achosi cryn drafferth i’r crefftwr, a’r aloi copr ddim yn llifo ac yn llenwi’r mowld bychan. Bu’n rhaid trwsio’r trwyn a’r goes flaen dde gan dorri’r deunydd oedd heb gastio’n gywir a sodro rhannau newydd yn eu lle. Mae’r trwyn newydd wedi diflannu ond mae’r goes newydd gyda ni o hyd, a gellir gweld nad yw’r gwaith mor gywrain â’r goes chwith. Mwy na thebyg i’r cerflun gael ei orchuddio mewn tun neu arian i guddio’r camgymeriadau a gwella’r golwg terfynol er mwyn dyrchafu pedigri’r ci bach. Ni chafwyd canlyniadau pendant o ddadansoddi’r arwyneb fodd bynnag ac nid yw’r gorchudd, os oedd un yn bodoli erioed, wedi goroesi. Bydd yn rhaid i ni ddychmygu sut olwg oedd ar y ci ar ei newydd wedd, ac a wnaeth yr offrwm ennyn trugaredd y duwiau?
Gwanwyn yn Gwawrio Catalena Angele, 28 Chwefror 2014 Mae’r haul yn disgleirio drwy ffenest fy swyddfa yng Nghaerdydd ac mae’n teimlo fel gwanwyn o’r diwedd! Dyw fy mhlanhigion i ddim yn barod i flodeuo eto – mae’r cennin Pedr talaf yn 80mm o uchder a’r crocws talaf yn ddim ond 30mm o uchder – ond dwi’n siŵr y byddan nhw’n mwynhau’r heulwen! Fe dynnais i lun o’r cennin Pedr a’r crocysau yn eu blodau ym Mharc Bute yng Nghaerdydd y bore ’ma. On’d ydyn nhw’n brydferth?Pa ysgolion sydd wedi cofnodi eu blodau cyntaf?Cofnododd Ysgol Glan Cleddau bod eu crocws cyntaf wedi blodeuo, ac mae Ysgol Gynradd yr Archesgob Hutton yn Lloegr wedi cofnodi bod eu cennin Pedr cyntaf wedi blodeuo.Llongyfarchiadau, a da iawn chi am anfon eich cofnodion!Dyma Ysgol Gynradd Rougemont yn anfon y neges hon: Mae cyffro mawr yma yn Ysgol Rougemont Athro’r ardd ... mae ein BYLBIAU DIRGEL wedi dechrau blodeuo! Mae nhw’n edrych yn iach iawn gyda choesau byrrach na’r cennin Pedr a blannon ni. Rydyn ni’n meddwl taw Narcissus ydyn nhw, Tete a Tete efallai? Byddwn ni’n anfon ffotograff cyn hir. Athro’r Ardd: Mae hynna’n gyffrous iawn Ysgol Rougemont, a da iawn chi am ymchwilio i weld pa fath o Narcissus ydyn nhw – gwyddoniaeth gwych! Rwy’n edrych ymlaen i weld y ffotograffau.Dywedodd Ysgol Arbennig Kilmaron: ARSYLWI BYLBIAU’R LLYNEDD. Rydyn ni wedi bod yn monitro bylbiau crocws a chennin Pedr y llynedd i weld os yw’r hen fylbiau yn blodeuo cyn y rhai newydd. Ar ôl gwyliau hanner tymor dyma ni’n canfod bod bylbiau crocws y llynedd wedi blodeuo tra bod bylbiau eleni wedi blodeuo tua 7-10 diwrnod yn ddiweddarach. Rydyn ni’n gobeithio anfon cofnodion eleni tua diwedd yr wythnos nesaf. Athro’r Ardd:Arsylwi ac ymchwilio arbennig Ysgol Kilmaron! Rydych chi’n iawn bod bylbiau hŷn fel arfer yn blodeuo yn gynt na bylbiau newydd ifanc, ond y rheswm dros hyn yw eu bod nhw wedi cael blwyddyn ychwanegol i dyfu a storio bwyd. Ys gwn i ble fydd y blodau nesaf yn agor? Gallwch chi weld ble mae’r blodau wedi agor hyd yn hyn drwy edrych ar y map yma.Os nad yw eich blodau chi wedi agor eto, gwyliwch nhw’n ofalus. Gallan nhw agor unrhyw ddiwrnod!Cofiwch anfon eich cofnodion blodau ata i cyn gynted fydd y blodau’n agor. Os nad ydych chi’n cofio sut i wneud hyn, defnyddiwch y cyflwyniad PowerPoint Cadw cofnodion blodau, a darllen y dudalen Beth i'w gofnodi a phryd ar y wefan.CYNGOR CRAFF: Gall pob disgybl yn y dosbarth anfon eu cofnodion blodau. Mae’r holl ddata fyddwn ni’n ei dderbyn yn cael ei ddefnyddio i ganfod dyddiad blodeuo cyfartalog pob ysgol. Gwyliwch y siart crocysau a’r siart cennin Pedr i weld y tablau yn newid wrth i fwy o ddata gyrraedd. Mae’n bwysig ofnadwy bod pob disgybl yn anfon eu cofnodion, fel bod y wefan yn gallu cyfrifo dyddiad blodeuo cyfartalog yr ysgol. Bydd y cennin Pedr yn troi ei ben i lawr ychydig cyn blodeuo. Fydd y blodyn ddim wedyn yn llenwi â d?r ar ôl agor. Rhaid i chi gyd anfon eich cofnodion blodau er mwyn ennill y Gystadleuaeth Gwyddonwyr Gwych! Eich cwestiynau, fy atebion:Your questions, my answers:Ysgol Terrig: It snowed heavily on Monday morning and stopped about lunch time. Our bulbs are starting to grow :) Prof P: I’m glad your bulbs are growing, did you go out to play in the snow?Raglan VC Primary: We missed Tuesday because it was raining cat's and dog's, and we had bike training. Prof P: I love that saying! Can you imagine what it would be like if it really did rain cats and dogs? How would we measure that in our rain gauge?Chatelherault Primary School: Sorry we did not record information on Thursday because we were away all day at a school trip. We were excited to see little green shoots in some of the plants. Prof P: Thanks for letting me know Chatelherault, I hope you had fun on your school trip.Greyfriars RC Primary School: The plants are growing well and it's wonderful seeing them grow up. The mystery bulbs are really a mystery. from A and A :) Prof P: I hope your mystery will soon be solved Greyfriars!Arkholme CE Primary School: Unfortunately the plant pots are standing in water this week. Let's hope next week is drier. The mystery bulbs are growing better than the others. Flower buds just appearing. From H. Prof P: I am sure your plants will survive the rain Arkholme, keep watching those flower buds!Diolch yn fawrAthro'r Ardd
A Window into the Industry Collections Mark Etheridge, 27 Chwefror 2014 This month we have been donated six lamp checks to add to our very comprehensive collection of checks. Lamp checks informed colliery management of who was in work and became vital when rescue services needed to know how many men were actually underground during an incident such as a fire or explosion. Colliery check systems apparently became common during the late nineteenth century and became mandatory in 1913 after an amendment to the 1911 Coal Mines Act. The two lamp checks shown here were manufactured by E. Thomas & Williams at their Cambrian Works in Aberdare in 2013 using original dies owned by the company. The one on the left was produced to celebrate the 30th anniversary of Big Pit operating as a museum. Read more information on checks and tokensYou can also see a selection of checks and tokens from our collection on our online database ‘Images of Industry’.http://museumwales.ac.uk/industry/images/?action=browse_category&category=1716 This ophthalmoscope was used by colliery nurse Sister Iris Evans for checking ears and eyes in Pochin and Oakdale Collieries. After completing her training in 1952 Sister Evans joined the National Coal Board as a nursing officer at Pochin Colliery in 1955. Later she was transferred to Oakdale Colliery. She retired in 1985 finishing her career as Senior Nursing Officer for South Wales Area NCB. During her career she helped out during the Six Bells Colliery disaster in 1960. She also vaccinated many miners at Lady Windsor Colliery during a smallpox outbreak in South Wales in the 1950s. This large 15 ton piece of coal is now located at Bedwellty Park, Tredegar, and is Grade II listed. It was cut at the Yard Level, Tredegar as a single block with the intention to display it at the Great Exhibition of 1851. It was originally 20 tons, however, after a 5 ton piece broke away in transportation it was decided not to transport it to London as it might not survive the journey. It was subsequently set up in the grounds of Bedwellty House. The smaller block of 2 tons (to the left) was cut in 1951 from the same seam as the earlier one. It was exhibited at the Festival of Britain in London, before being placed next to the earlier block in Bedwellty Park. Follow us on Twitter - @IndustryACNMW