Yr oerfel mawr

Chris Owen, 18 Ionawr 2010

Am newid yn y tywydd ers fy mlog diwethaf! Cyn Nadolig roeddem yn sôn am y tywydd gwlyb a thwym a sut roedd y bylbiau wedi dechrau tyfu'n gynnar fel canlyniad.

Ers hynny syrthiodd y tymheredd a daeth eira dros y wlad. Caewyd y rhan  fwyaf o'r ysgolion a chafodd ein gwyddonwyr ifainc gyfle i chwarae yn yr eira. Ar gyfer yr ysgolion a oedd ar agor roedd problemau cofnodi gyda thermomedrau rhewedig a bylbiau dan eira dwfn.

Felly beth mae'r tywydd oer hwn yn ei feddwl ar gyfer ein bylbiau, y ffermwyr a chynhesu byd-eang?

Ar gyfer y bylbiau: Os dechreuodd eich b?lb dyfu cyn Nadolig bydd fwy na thebyg yr un uchder heddiw. Peidiodd â thyfu nes i'r tywydd gynhesu. Mae'n bosibl bod rhai planhigion wedi'u niweidio gan y rhew ac felly ni flodeuant ond dylai'r rhan fwyaf flodeuo'n iawn.

Dywedodd ffermwyr o'r fferm Really Welsh: ‘Fel arall byddem wedi dechrau pigo'r math cynharaf o gennin Pedr yn barod ac erbyn hyn byddent wedi mynd i'r archfarchnadoedd. Ond fel y gwelwch o'r llun a dynnwyd o'r fferm, nid ydynt yn agos at fod yn barod. 

'Roedd rhai o'r cennin Pedr ryw wythnos neu ddwy ar y blaen ddiwedd Tachwedd ond nid ydynt wedi tyfu o gwbl ers cyn Nadolig. Mae angen ar gennin Pedr dymheredd uwch na 6 gradd er mwyn iddynt dyfu. Os yw'r tywydd yn parhau ni fydd gennym unrhyw gennin Pedr am ychydig o wythnosau.’

Ydy cynhesu byd-eang yn digwydd o hyd? Camgymeriad hawdd yn y tywydd oer byddai anghofio bod ein planed yn cynhesu ond yn anffodus mae'n wir o hyd y bydd y tymheredd ar y cyfan yn codi fel bod lefelau carbon deuocsid yn cynyddu. Y tymheredd ar y cyfan yw'r allwedd i ddeall cynhesu byd-eang. Bydd rhai gaeafau o hyd yn oerach a rhai hafau o hyd yn dwymach. Amrywiaeth naturiol yw hynny. Ond wrth edrych ar dymheredd ein planed ar gyfartaledd dros y ganrif ddiwethaf mae'n bendant yn codi ac nid oes gan wyddonwyr unrhyw amheuaeth na fyddant yn parhau i godi.

Ar gyfer Cymru nid yw cynhesu byd-eang yn golygu mwy o haul ond hafau twymach a gwlypach a thywydd mwy cyfnewidiol fydd yn cynnwys llifogydd sydyn a stormydd.

Cennin Pedr o Daiwan. Dyma lun a anfonwyd atom gan Chao-mei, athrawes o Daiwan sy'n dysgu am yr amgylchedd. Dywed: Hylo, Athro'r Ardd. A wyddoch chi fod y cennin Pedr wedi blodeuo yn Nhaiwan? Mae'n f'atgoffa o wanwyn prydferth Prydain. Dangosais i blant yn Nhaiwan sut i gadw dyddiadur natur drwy edrych ar eich blog. Mae'n gymorth mawr. Dysgaf blant yng Nghanolfan Addysg Tir Gwlyb Cheng-long a dyma'n tudalen blog, mae'n flog Tsieinëeg yn unig mae arnaf ofn.

Bwydo'r adar. Ewch i'n blog coedwigoedd i weld lluniau o fywyd gwyllt Sain Ffagan yn yr eira. Cewch wybod hefyd sut i helpu adar eich gardd oroesi'r gaeaf neu gymryd rhan yn y Big Schools' Birdwatch.

Diolch yn fawr

Athro'r Ardd

O Gymru i Seland Newydd

Dafydd James, 13 Ionawr 2010

Fel y gwelsoch efallai yn y wasg, rwyf wedi penderfynnu cymryd swydd fel Prif Weithredwr Amgueddfa Seland Newydd, Te Papa Tongarewa. Bu hyn yn benderfyniad anodd iawn i mi am nifer o resymau personol a phroffesiynol; mae’n gam mawr a dweud y lleiaf.

Bu’n anrhydedd gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, rwyf wedi dod i werthfawrogi pa mor ganolog yw diwylliant i seice cenedlaethol Cymru, ac ni ddylid anghofio ei bwysigrwydd i gynnal cymdeithas Cymru a llunio dyfodol y genedl. Mae ein gwaith diweddar ynglyn a'r cyfraniad cadarnhal mae ein hamgueddfeydd yn ei wneud i Gymru yn tanseilio hyn, ac rydym wedi ymrwymo fel sefydliad i weithio gyda sefydliadau diwyllianol eraill i fynd a'r ymchwil yma yn ei flaen. Mae gan Gymru gyfoedd o adnoddau diwyllianol, ac mae yna waith i'w wneud i ddatblygu rhain mewn i 'frand' cadarnach fel ein bod yn medru marchnata Cymru yn fwy effeithiol, o fewn Cymru a tu hwnt. Mae yna berygl go iawn i anghofio ynglyn a diwylliant yn ystod dirwasgiad, ond mae’n hynod bwysig o ran y wlad a hefyd yr economi.

'Rwyf yn teimlo'n gyffrous am y sialensiau a’r persbectifau gwahanol y byddaf yn eu hwynebu yn y rôl newydd hon, ond heb-os bydd fy agwedd yn cael ei llunio gan fy mhrofiadau yma yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon. Ni all amgueddfeydd osgoi adrodd straeon cenedlaethol, waeth pa mor gymhleth neu ddadleuol ydyn nhw, ac mae Te Papa yn fyd-enwog am ei dull blaengar o ddangos sut mae diwylliant a chof cymunedol wedi mowldio hanes a hunaniaeth cymunedau Seland Newydd.

Ni fyddaf yn gadael yn syth. Dros y chwe mis nesaf, rwyf yn edrych ymlaen i barhau gyda’r blog hwn ac i fod yn rhan o’n holl brosiectau, gan gynnwys Sain Ffagan ac ail-ddatblygiad Adain Orllewinol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Sain Ffagan dan eira: Teithiau tywys o Eglwys Teilo Sant am fynd yn eu blaen yfory - os fydd yr eira'n cadw draw!

David Thorpe, 11 Ionawr 2010

Dyw safle Sain Ffagan ddim mor dawel â hyn fel arfer. Ar bnawn anghynnes ym mis Tachwedd, hyd yn oed, gallwch ddod o hyd i'r ymwelwyr mwya' penderfynol yn cerdded hyd y safle ym ymweld â'r orielau a'r tai hanesyddol. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, yr unig ymwelwyr sydd 'di bod yn heidio i'r safle yw'r adar sydd wedi ymgartrefu yn y grwychoedd, a mentro at y swyddfeydd â'r prif adeilad i chwilio am fwyd. Bnawn Gwener, cefais weithio yng nghwmni dwy gornchwiglen oedd wedi mentro i'r brif fynedfa i fwynhau gweddill haul y prynhawn.

Yr unig bobl ar y safle heddiw yw'n Gofalwyr, Crefftwyr ac Amaethyddwyr, sy'n brysur yn clirio lluwchiau a halltu llwybrau. Mae seiniau, lliwiau ac aroglau ein 'Nosweithiau Nadolig'* wedi hen ddiflannu, prin y byddech yn gallu credu eu bod wedi bod yma yn y lle cynta'. Mae'r safle yn rhyfedd o dawel - ac er ei bod hi'n eithriadol o brydferth yma, 'dyw hi heb fod yn ddigon diogel i agor y safle i ymwelwyr ar sawl achlysur yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

Yn yr eira, mae Eglwys Teilo Sant yn edrych yn llawer llai llachar nag yr oedd hi yn ystod yr haf. Fel yr arferir gydag adeiladau hanesyddol, mae'r gwyngalch sy'n gorchuddio'r waliau allanol wedi derbyn y gwaethaf o effeithiau'r gaeaf, yn hytrach na'r adeilad ei hun, a chaiff ei ail-beintio ar y muriau pan fydd y tywydd yn fwynach. Mae'r tu fewn, fodd bynnag, mor llachar ag yr oedd ar achlysur agor yr adeilad ar y safle ym 2007 - ac, fe obeithiwn, mor llachar ag yr oedd ym 1500-1530.

Mae cynllun y murluniau bron wedi'i gwblhau, er bod rhai o'r arysgrifiadau Lladin yn llawer anoddach i'w dadansoddi na'r disgwyl. Mae Capel y Gogledd wedi'i addurno i gynnwys murluniau o Dewi a Theilo Sant, yn ogystal a ffigwr o beth dybiwn ni yw noddwyr lleol o oes y Tuduriaid. Cyfansoddwyd y cynllun gan ddefnyddio darnau brau o'r plaster yr achubwyd o safle gwreiddiol yr Eglwys ym Mhontarddulais. Ble 'roedd plastr wedi dirywio, neu'r pigment wedi pylu, defnyddiwyd esiamplau o furluniau tebyg mewn eglwysi Cymreig fel ffynonellau, i sicrhau bod yr ail-addurno mor gywir ac y gall fod.

Er nad yw Capel y Gogledd yn hygyrch i'r ymwelydd (yn bennaf am fod rhai o ddodrefn hynaf ein casgliad yma yn Sain Ffagan yn cael eu harddangos ym mhen dwyreiniol yr Eglwys), gellir gweld y murluniau hyn trwy'r sgriniau cerfiedig. Mae'r rheiny hefyd wedi cael eu lliwio yn ddiweddar, gan Fleur Kelly, artist sydd wedi gweithio gyda ein tîm o grefftwyr i addurno sawl cerfiad yn yr adeilad.

Os bydd yr eira yn cadw draw, bwriedir gynnal y teithiau tywys a hysbysebwyd yfory a dydd Gwener (14-15 Ionawr), gan gychwyn yn yr Eglwys am 12:00, 13:00 a 14:00. Erfynwn arnoch, fodd bynnag, i alw o flaen llaw i wneud yn siwr bod yr amgueddfa ar agor, a'r Eglwys yn hygyrch ar (029) 2057 3500. Gallwch gerdded i'r Eglwys mewn 10 munud ar ddiwrnod clir, felly cofiwch ystyried hyn pan yn dewis pa 'sgidie i'w gwisgo!
Cadwch yn gynnes, a gobeithio y gwelaf i chi yn yr Eglwys!

*taffi triog; bandiau pres; dail llawryf; mwg coed a sgidie gwlyb, rhag ofn eich bod eisiau gwybod!

Cert Celf Nadolig

Chris Owen, 22 Rhagfyr 2009

Rydyn ni wedi bod yn brysur iawn ar y cert celf yn ddiweddar yn gwneud papur lapio, angylion allan o blatiau papur, cardiau Nadolig,  meddal ac addurniadau. Gwnaeth pawb a gymerodd rhan bethau tlws dros ben! Yn anffodus anghofiais ddod â chamera i mewn i dynnu lluniau, felly os ydych wedi addurno'r ty efo'ch gwaith o'r cert celf, danfonwch llun ataf!

Nadolig Llawen a gwelai chi gyd yn y flwyddyn newydd!

Calennig

Chris Owen, 22 Rhagfyr 2009

Ymunwch â ni ar Ragfyr 30 a 31 i greu eich Calennig eich hun, cyn ymuno mewn sesiwn o ganu am 2 o'r gloch! Hwre!