We have nestlings! Peter Howlett, 5 Mai 2011 At long last the female has been seen carrying food into the nest so we know at least one egg has now hatched.As the eggs are incubated as soon as she lays them the others should hatch at 1-2 day intervals.
Natural History galleries now open Peter Howlett, 5 Mai 2011 After 18 months the Natural History galleries have finally reopened. The seacliff and woodland dioramas have received a thorough clean and now look just as they did when they first opened in 1994.Further back we now have a new gallery - Insight - which explores some of the scientific research which goes on in the Department of BioSyB and Department of Geology.Beyond the Insight gallery the science education space has also received a major revamp and reopens as the Clore Learning Space.
Archwilio Natur yn Sain Ffagan! Hywel Couch, 26 Ebrill 2011 Wedi misoedd o gynllunio a pharatoi, lansiwyd project Archwilio Natur yn Sain Ffagan yn swyddogol yn gynharach y mis hwn. Ar 2 Ebrill, cynhaliwyd diwrnod yn llawn gweithgareddau natur a bywyd gwyllt. Roedd y tywydd yn wych a bu cannoedd o ymwelwyr â’r amgueddfa wrthi yn edrych ar adar, gwylio ystlumod, archwilio’r pwll ac yn gwneud gweithgareddau celf a chrefft. Rwy’n gobeithio i bawb fwynhau’r diwrnod cymaint ag y gwnaethon ni! Hoffwn ddiolch i bawb alwodd draw, yn enwedig Daniel, sy’n torri’r rhuban ar y guddfan adar yn y ffotograff. Gan fod y gwanwyn gyda ni ers tipyn bellach, mae Sain Ffagan yn llawn bywyd gwyllt unwaith eto! Mae’r ystlumod pedol lleiaf wedi dychwelyd i’r Tanerdy, fe gyfrais i 25 ohonyn nhw ddoe! Yn ddiweddarach yn yr haf bydd y benywod yn geni eu cenawon gan taw dyma eu man clwydo mamolaeth. Beth am ddod draw i’r Tanerdy a’u gwylio ar y camera is-goch arbennig? Mae’r pyllau yn y Tanerdy’n llawn bywyd unwaith eto. Mae’r fadfall dd?r, y cychwr bolwyn, hirheglyn y d?r, gwas y neidr a llawer mwy yno yn eu cannoedd. Mae’n si?r taw’r Tanerdy yw’r adeilad gorau am fywyd gwyllt ar y safle. Dychwelodd y gwenoliaid sy’n clwydo yno dros yr haf yr wythnos ddiwethaf. Mae’n wych gallu gweld cymaint o fywyd gwyllt mor agos. Fel rhan o’n project Archwilio Natur, byddwn yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol misoedd y gwanwyn a’r haf, o deithiau cerdded boreol i weld yr adar i deithiau yn yr hwyr i weld yr ystlumod. Cadwch lygad ar wefan yr Amgueddfa am ragor o wybodaeth. Gan fod y Tanerdy yn lle mor dda am fywyd gwyllt, bydda i’n treulio’r diwrnod yno ar ddydd Sadwrn 30 Ebrill. Dewch draw i ddysgu mwy am yr ystlumod, y madfallod d?r a’r bywyd gwyllt arall sydd wedi ymgartrefu yn yr adeilad hwn!http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?event_id=4792
Plant mewn Pyllau Glo 11 Ebrill 2011 Yn unig yn y tywyllwch Roedd Mary Davis yn 'ferch fach bert' chwe mlwydd oed. Daeth Archwiliwr y Llywodraeth o hyd iddi yn cysgu'n sownd yn erbyn carreg fawr dan y ddaear ym Mhwll Glo Plymouth, Merthyr. Wedi cael ei dihuno dywedodd: "Fe es i gysgu oherwydd bod fy lamp wedi diffodd am nad oedd digon o olew ar ôl. Roedd ofn arna i am fod rhywun wedi dwyn fy mara a caws. Dwi'n credu taw'r llygod mawr wnaeth." Dywedodd Susan Reece, oedd hefyd yn chwe mlwydd oed ac yn geidwad drws yn yr un pwll glo: "Dwi wedi bod dan y ddaear am chwech neu wyth mis a dydw i ddim yn ei hoffi rhyw lawer. Rwy'n dod yma am chwech y bore ac yn gadael am chwech y nos. Pan fydd fy lamp yn diffodd, neu fy mod i'n llwgu, bydda i'n rhedeg adref. Dydw i heb gael niwed eto." Mewn perygl Roedd pwll glo yn lle peryglus iawn i oedolion, felly does dim syndod bod nifer o blant wedi cael eu hanafu'n wael dan y ddaear. "Roedd damwain bron i flwyddyn yn ôl a cafodd y rhan fwyaf ohonon ni ein llosgi. Cefais i fy nghario gartref gan ryw ddyn. Roedd yn boenus iawn am fod y croen wedi llosgi o fy wyneb. Doeddwn i ddim yn gallu gweithio am chwe mis." Phillip Phillips, 9 oed, Pyllau glo Plymouth, Merthyr "Cafodd fy mhen i ei wasgu beth amser yn ôl gan ddarn o'r to yn cwympo..." William Skidmore, 8 oed, Pwll Glo Buttery Hatch, Mynydd Islwyn "..cafodd fy nghoesau i eu gwasgu beth amser wedyn, wnaeth fy nghadw o'r gwaith am rai wythnosau." John Reece, 14 oed, Pwll Glo Hengoed Plant o lowyr a gyrwyr ceffylau Byddai rhai plant yn treulio hyd at 12 awr ar eu pen eu hunain, ond roedd brawd Susan Reece, John yn gweithio gyda'i dad ar y ffas: "Rydw i'n helpu fy nhad ac rydw i wedi bod yn gweithio yma am ddeuddeg mis. Rydw i'n cario ei offer drosto ac yn llenwi'r dramiau â'r glo mae wedi ei gloddio neu ei ffrwydro. Fe es i i'r ysgol am rai diwrnodau a dysgu'r wyddor." John Reece, 8 oed, Pyllau Glo Plymouth, Merthyr Roedd gan Philip Davies geffyl yn gwmni. Roedd yn welw a heb fawr o gig amdano ac yn gwisgo dillad carpiog wedi treulio. Doedd 'e ddim yn gallu darllen: "Rydw i wedi bod yn gyrru ceffylau ers oeddwn i'n saith ond roeddwn i'n gweithio ar ddrws aer am flwyddyn cyn hynny. Byddwn i'n hoffi mynd i'r ysgol ond rydw i wedi blino gormod gan fy mod i'n gweithio deuddeg awr." Philip Davies, 10 oed, Pwll Glo Dinas, y Rhondda Byddai dramwyr yn tynnu eu certi gyda chadwyn wedi'i chlymu o amgylch y canol. Bydden nhw'n gweithio yn y twnneli isel rhwng y ffasau glo a'r prif dwneli uwch lle gallai ceffylau gael eu defnyddio. Roedd y ceirt yn pwyso tua 1½cwt. o lo ac roedd yn rhaid ei dynnu am bellter o tua 50 llath mewn twnnel tua 3 troedfedd o uchder. "Fy swydd i yw cludo glo o'r pen i'r brif ffordd; mae'r pellter yn 60 llath; does dim olwynion ar y ceirt; rydw i'n eu gwthio nhw o fy mlaen; weithiau, bydda i'n eu llusgo nhw am fod y cert weithiau yn cael ei dynnu arnon ni, ac rydyn ni'n cael ein gwasgu'n aml." Edward Edwards, 9 oed, Pwll Glo Yskyn, Llansawel Byddai dramiwr yn ennill tua 5c y diwrnod am hyn. Y Tair Chwaer Roedd gwaith dur Dowlais hefyd yn berchen ar byllau glo a haearn; nhw oedd y mwyaf yn y byd ar y pryd ac yn darparu cynnyrch i bob rhan o'r byd. Roedden nhw yn dal i ddibynnu ar blant am eu helw fodd bynnag. Roedd tair chwaer yn gweithio yn un o'u pyllau glo: "Rydyn ni'n gofalu am y drysau yn y lefel pedair troedfedd. Rydyn ni'n gadael y tŷ cyn chwech bob bore ac rydyn ni yn y lefel tan saith o'r gloch, neu'n hwyrach weithiau. Rydyn ni'n ennill 2p y diwrnod ac mae ein golau yn costio 2½c yr wythnos. Roedd Rachel mewn ysgol ddydd ac mae hi'n gallu darllen rhywfaint. Cafodd hi ei gwasgu dan ddram amser yn ôl ac roedd hi adref yn sal am amser hir, ond fe wellodd hi." Elizabeth Williams, 10 oed a Mary a Rachel Enoch, 11 a 12 oed, Pyllau Dowlais, Merthyr. Yn Dilyn y Deddfu Roedd hi'n anochel y byddai deddf yn cael ei phasio wedi'r dicter cyhoeddus a glywyd yn sgil cyhoeddi'r Adroddiad. Pasiwyd y Ddeddf Rheoli Pyllau Glo o'r diwedd ar 4 Awst 1842. O 1 Mawrth 1843 roedd hi'n anghyfreithlon i fenywod neu unrhyw blentyn o dan ddeg oed weithio dan y ddaear ym Mhrydain. Doedd dim iawndal i'r sawl a gollodd eu swyddi ac a achosodd hyn galedi mawr. Ond roedd hi'n hawdd osgoi'r Ddeddf — dim ond un arolygwr oedd ym Mhrydain gyfan ac roedd yn rhaid iddo roi rhybudd cyn ymweld âr pyllau glo. Mae'n debyg bod nifer o fenywod wedi parhau i weithio yn anghyfreithlon am sawl blwyddyn, a dim ond wrth iddynt gael eu lladd neu eu hanafu fyddai pobl yn dod i glywed. Daeth hi'n llai derbyniol i fenywod ennill cyflog yn y diwydiant glo wrth i amser basio. Er hyn, roedd nifer fechan o fenywod yn gweithio ar yr wyneb yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Ym 1990 diddymwyd y ddeddf warchod gan roi'r hawl unwaith eto i fenywod weithio o dan y ddaear.
pockets Sian Lile-Pastore, 8 Ebrill 2011 More pictures of some of the decorated pockets we made last half term