Conservation of Roman Armour- Opening the Block 10 Mai 2011 After wheeling the large block into the archaeological conservation laboratory, I began the task of removing the plaster bandages covering the top of the block.This proved a simple and satisfying job- the bandages were easily torn off in layers, revealing the Clingfilm barrier underneath. In order to reinforce the sides of the block, yet more bandages were wetted and wrapped around it.The next step in opening up the block was to peel back the Clingfilm. This had to be done very carefully, as I didn't want dust from the plaster covering the archaeological artefacts beneath. Pegs and bulldog clips were very useful in holding back the plastic layers neatly.After much anticipation, the armour was revealed. As I had not been present during removal of the armour from the fort, this was the first time I was able to see the lorica, and I was very impressed by the corroded remains. As I excavate the armour contained within this soil block, I have to document every individual feature, and the physical relationships between all the artefacts. This provides invaluable information for the archaeologists working on the project, who want to tell the story of Isca. This documentation process involves taking many photographs and making copious notes day by day; before I even begin to excavate the block using small hand tools, I drew a plan of the whole block, at a 1:2 scale. It was easiest to do this by laying string across the top of the block, and drawing it in sections. After all this preparation, I cannot wait to get started excavating the soil overlying the armour and other artefacts- though this will take a very long time.
Blogbledren 2: Dysgu drewllyd Sara Huws, 9 Mai 2011 Wel, am benwythnos! Mi rois sawl tro arni, ac, o'r diwedd, mae 'da ni bêl-droed draddodiadol newydd. Ar ddiwedd Gwyl Anrhefn! fe ges i gyfle, gyda rhai o'n hymwelwyr ifanc, i brofi'r bêl-droed. Er gwaetha'r ffaith na ches i'r dechneg yn iawn y tro cyntaf, mi oedd yr hyn gyflawnwyd yn hen ddigon da i'w gicio o amgylch lawnt Gwalia, wrth i ddawnswyr yr Ŵyl Fai droelli o'n cwmpas. Dyma fi'n esbonio o waelod calon pa mor normal ydi fy swydd. Dim ond jocan, fi'n dala pledren mochyn yw e! Rwy'n ymddiehuro na chefais gyfle i ddiweddaru'r blog ar y pryd, ond, fel y gwelwch o'r llun uchod, does dim llawer o le i gadw cyfrifiadur gen i o dan fy sgert. Fe gyrhaeddodd y pledrenni yn y post, wedi'u rhewi. Roedden nhw'n gynnyrch gwastraff, sy'n cael eu taflu, gan amla, pan leddir yr anifail i gael cig. Wrth i mi eu gwagio i fwced o ddŵr hallt, roedden nhw'n edrych yn debyg iawn i wy wedi'i botsio, ond un llipa a llithrig iawn. Mae'r bledren ei hun yn debyg iawn i'r hyn a ddefnyddir i lapio cig selsig, ond ychydig yn fwy gwydn a llai blasus. Roedd y ffermwr yn hapus iawn i weld yr anifail yr oedd wedi'i fagu yn cael ei ddefnyddio, er, roedd e hefyd yn credu ein bod ni i 'gyd yn wallgo'! Mae'n debyg yr aeth y cig o'r moch i wneud salami drud. Fe gefais un tro yn ymarfer adref, gan defnyddio gwelltyn plastig hir (cyrliog) oedd gen i wrth law. Fe sychais y bêl yn yr haul gan ddefnyddio halen i ladd unrhyw facteria. Llwyddiant! Roeddwn i wedi llwyddo i greu pêl newydd, heb orfod rhoi fy ngwefusau ar y bledren. Peth da, am fod rhai ohonyn nhw'n dod gyda ambell i flewyn arnyn nhw hefyd. Dyma hi yn sychu yn yr haul! Byr iawn oedd hoedl honno, ac fe dorrodd, yng nghanol sgwrs, ar fore Gwener. Es i chwilota yn fy mag Aldi (oedd wedi'i guddio, peidiwch â phoeni!), a mynd ati i greu pêl newydd yn defnyddio'r hyn oedd gen i: halen, cortyn a phluen. Dwi'n licio dysgu trwy wneud fel arfer, ond roeddwn i'n awyddus iawn i beidio â mynd yn rhy agos at y bledren. Defnyddiais waelod y bluen, fel fyddai'r Tuduriaid yn gwneud, fel gwelltyn. Roedd yn brofiad anghynnes iawn, iawn! Y bêl orffenedig. Dwi wedi bod yn awyddus i ddysgu mwy am y ffordd yr oedd y Tuduriaid yn defnyddio ac yn gofalu am eu hanifeiliaid, ac felly dwi 'di bod yn siarad gyda llawer o bobl sy'n dal i ddefnyddio technegau traddodiadol yn eu gwaith. Yn eu plith oedd Peg, ddaeth a llond trol (yn llythrennol) o ddeunyddiau a dyfeisiadau Tuduraidd i'r Amgueddfa yr wythnos ddiwetha. Roedd ganddi bob math o bethau, o frwshys wedi'u gwneud o ddraenogod, i ddulliau atal-cenhedlu - a'r rheiny wedi'u gwneud o bledrenni heyfd! Fe fydda i'n postio am yr hyn wnes i ei ddysgu yn y dyfodol agos. Yn y cyfamser, mae esiampl hyfryd, a mwy traddodiadol, mae'n siwr, o waith gyda chynnyrch anifeiliaid, i'w gweld yn arddangosfa Creu Hanes 1500-1700. Roeddwn i wedi fy nghyfareddu gan y menyg lledr yma, o Sir Gaernarfon. Mae'r lledr wedi'i leinio gyda sidan (cynnyrch anifail arall!), ac wedi'i frodio gyda lluniau o, ym, anifeiliaid! Fe ddewisais i'r wiwer, wel, am fy mod yn hoffi wiwerod. Manylyn o faneg ledr, o Neuadd Llanfair, ger Caernarfon. Maent wedi'u gwneud o ledr, eu leinio â sidan a'u brodio gydag edafedd metal a sidan. Ta waeth. Gobeithio yr ymunwch chi â fi ar Blogbledren eto - a rhowch wybod os 'dych chi isie gêm o bêldroed yn y cyfamser! Diweddariad: Fe ymddangosodd y ddwy erthygl yma (yn Saesneg) dros yr wythnos ddiwethaf, sy'n sôn am chwaraeon traddodiadol ac amgueddfeydd. Dwi am eu postio isod, i chi gael dysgu mwy os hoffech chi. Hwyl am y tro! The Lure of Eccentric Sports (BBC) Mummifying Chickens for Fun and Educational Profit (BoingBoing)
Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams 6 Mai 2011 NMW A(L) 606 Ceri Richards The Pianist 1949 Pencil, indian ink and watercolour 38.2 x 56.2 cms On loan from the Derek Williams Trust since 1984 © Estate of Ceri Richards. All rights reserved, DACS 2010 NMW A(L) 561 Josef Herman Three Welsh Miners About 1966 Oil on canvas 66 x 51 cms On loan from the Derek Williams Trust since 1984 Copyright of Artist's Estate NMW A(L) 577 Ben Nicholson 1944-45 (Painting) 1944-45 pencil and watercolour on board 17.2 x 16.8 cms On loan from the Derek Williams Trust since 1984 © Angela Verren Taunt 2010. All rights reserved, DACS. Derek Mathias Tudor Williams F.R.I.C.S. (1929-1984) yw cymwynaswr mwyaf Amgueddfa Cymru ers Gwendoline a Margaret Davies. Dyn diymhongar, preifat oedd Derek Williams, a weithiai fel syrfëwr siartredig yng Nghaerdydd a Phontypridd. Mwynhâi lawer o weithgareddau hamdden, gan gynnwys golff, opera, ffotograffiaeth, ond yn fwy na dim, casglu celfyddyd gyfoes oedd yn mynd â’i fryd. Cafodd foddhad aruthrol yn datblygu ei gasgliad a'i arddangos yn ei gartrefi niferus. Mae'r casgliad yn cynnwys nifer fawr o weithiau gan arlunwyr neo-ramantaidd Prydeinig, gan gynnwys Ceri Richards, John Piper, David Jones a Keith Vaughan. I gefnogi'r rhain, ceir gweithiau gan arlunwyr eraill o'r un cyfnod, megis Lucian Freud, Josef Herman, Ivon Hitchens, Graham Sutherland, Ben Nicholson a Henry Moore. Bu farw Derek Williams yn 1984, a galwai ei ewyllys am i'w gasgliad a gweddill ei ystâd gael eu cadw mewn ymddiriedolaeth, gan adael i'w ymddiriedolwyr ofalu am y gweithiau celf a'u harddangos yn gyhoeddus, ynghyd â chyfrannu at y gwaith o ehangu'r casgliad. Ffurfiwyd Ymddiriedolaeth Derek Williams gan ei ysgutorion ym 1992, a lluniwyd cytundeb ffurfiol rhyngddynt a'r Amgueddfa yn y flwyddyn ganlynol i gydweithio er mwyn cyflawni dymuniadau Derek Williams. Ers hynny, bu casgliad yr Ymddiriedolaeth ar fenthyg hirdymor i'r Amgueddfa ac ychwanegwyd dros hanner cant o weithiau gyda mwy'n parhau i gael eu prynu bob blwyddyn. Nifer o luniau gan arlunwyr blaenllaw'r 1970au, 80au a'r 90au, gan gynnwys Michael Craig-Martin, Craigie Aitchison, Sean Scully a Howard Hodgkin yw nifer dda o'r ychwanegiadau newydd. Caiff casgliad gwreiddiol Derek Williams ei ymestyn a'i gryfhau o hyd drwy brynu gweithiau pwysig gan arlunwyr canol yr ugeinfed ganrif, yn eu plith Ceri Richards, Henry Moore, John Minton ac Edward Burra. Dangoswyd diddordeb mewn celfyddyd gyfoes ryngwladol drwy brynu gweithiau'n gyson gan arlunwyr y gwelir eu gwaith yn Artes Mundi. Nid yw Ymddiriedolaeth Derek Williams yn anghofio'r celfyddydau cymhwysol ac mae ganddi ddiddordeb byw yn y maes hwn. Prynodd unarddeg o weithiau celfyddyd gymhwysol dros yr un mlynedd ar bymtheg ddiwethaf, a chynorthwyodd yr Amgueddfa i brynu nifer o ddarnau celf, yn enwedig ym maes cerameg. Hefyd, mae gan yr Ymddiriedolaeth ddiddordeb mewn gwaith gan arlunwyr cyfoes Cymreig ac arlunwyr sy'n gweithio yng Nghymru, gan gynnwys prynu gwaith gan enillwyr Medal Aur yr Eisteddfod. Mae haelioni a chefnogaeth mawr Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi arwain at alluogi yr Amgueddfa i brynu sawl darn o gelfyddyd ôl-1900 i'w chasgliad celfyddyd fodern, yn cynnwys David Hockney, Stanley Spencer a Pablo Picasso.
Creu Hanes - Y Deddfau Uno Sara Huws, 5 Mai 2011 Gair clou i roi gwybod ichi fod dogfen arbennig iawn wedi cyrraedd Sain Ffagan. Cadwch lygad ar Wedi 7 ar S4C, neu glust ar y Post Prynhawn ar Radio Cymru heno i glywed rhagor! Y Deddfau Uno