Cert Celf - Arian Sian Lile-Pastore, 2 Mehefin 2011 Neges gyflym i ddangos rhai lluniau o beth fuon ni'n creu yn y Cert Celf dros hanner tymor. Mae'r gweithgareddau yn rhedeg tan ddydd Sul, felly mae digon o amser i chi ymweld a chymryd rhan o hyd. Mae rhai gwisgoedd ffansi Tuduraidd gyda fi hefyd y gall y plant eu gwisgo, a chefndir wedi'i beintio er mwyn tynnu llun o'i flaen.Ceiniogau yw'r thema am fod arddangosfa anhygoel o geiniogau yn yr oriel ar hyn o bryd fel rhan o arddangosfa Creu Hanes. 'Celc Tregwynt' yw'r enw ar y ceiniogau ac fe gawson nhw eu claddu tua 1647 a'u darganfod o'r diwedd ym 1996!Rydyn ni wedi bod yn lliwio ac addurno ceiniogau Tuduraidd yn y cert celf ac wedi bod yn defnyddio cortyn a ffoil i wneud arian 3D.Dwi'n credu eu bod nhw'n edrych yn rhagorol.
Taking Stock of the Block 1 Mehefin 2011 After documentation, the next step was to take stock of the overall condition of the block, and to make a preliminary inventory of the types of archaeological materials I could see. As can be seen in the birds-eye-view photograph, there are some large cracks running across the block: these most likely occurred during lifting and transportation from the site to the museum. Unfortunately, these extend through some of the exposed armour, and areas of thin, mineralized iron plate have broken. This kind of damage, whilst regrettable, couldn’t have been avoided. I wanted to keep the broken pieces in place for as long as possible, as the positioning of the remains is important to our interpretation of the events taking place in these two rooms of the warehouse. In order to ensure that fragments stayed together (at least for the interim) I used a wax-like substance called Cyclododecane, which I melted and brushed onto the artefacts. The Cyclododecane will eventually sublime altogether, and so I will not have to remove it later. In addition to the iron plates, there are also a range of other interesting artefacts visible on the surface of the block. There appears to be a scattering of copper alloy scale armour (see photograph for an example), which would also have been worn by a soldier. At the edge of the block is a large copper alloy stud, its use in antiquity currently unknown: it is not an artefact which has been associated with lorica segmentata. As the photograph shows, the copper has corroded considerably and is very thin. Scattered amongst these exciting finds are the usual types of artefacts found during archaeological excavations: pieces of red ceramic tile, fragments of pottery, bits of animal bone, and crumbly lumps of white plaster (from the building itself). Excavating the block will be both time consuming and challenging: I have selected a number of small tools to use. I am unable to place a microscope over the block, and so will be using an optimizer (a visor with magnification lenses) instead- I do not want to miss any small artefacts or details during the excavation.
Llais i'r ddoli glwt Andrew Deathe, 23 Mai 2011 Y frwydr dros y bleidlais Mae'r ddol fwdw gwrth-swffragetaidd hon yn wawdlun creulon o ferch sy'n ymgyrchu dros yr hawl i bleidleisio. Defnyddiai'r mudiad gwrth-swffragetiaid ddelweddau fel hyn mewn cartwnau a phosteri i fychanu merched oedd yn mynnu'r bleidlais. Fel llawer o fenywod eraill ym mhedwar ban y byd, bu angen i fenywod Prydain frwydro dros yr hawl i bleidleisio. Er ein bod ni'n cymryd y fraint yma’n ganiataol heddiw, nid fel yna fuodd pethau erioed. Ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, bu mudiad swffragetaidd y merched yn brwydro dros hawl menywod i bleidleisio mewn Etholiadau Cyffredinol. Menywod oedd y rhan fwyaf o'r ymgyrchwyr ac fe'u galwyd yn Swffragetiaid. Ysgrifennwyd nifer fawr o lyfrau amdanynt. Ond peth sydd wedi denu llai o sylw yw'r mudiad gwrth-swffragetaidd, oedd yn ceisio atal menywod rhag cael y bleidlais. Bu'r gwrthwynebwyr hyn yn ceisio argyhoeddi pobl nad oedd modd i feddwl menyw deall gwleidyddiaeth. A phan fethodd hyn, troesant at dactegau fel anfon y 'ddoli fwdw' yma. Aeth rhai ohonynt mor bell ag ymosod ar yr ymgyrchwyr a phoeri arnynt yn y stryd. Gwawdlun cas a grotesg o Swffraget yw'r ddoli. Byddai'r mudiad gwrth-swffragetaidd yn defnyddio delweddau fel yr un yma mewn cartwnau a phosteri. Roedden nhw’n gwawdio ac yn sarhau menywod oedd am gael yr hawl i bleidleisio. Bu'r safbwyntiau hyn yn estyniad o'r syniad taw'r 'cartref yw'r lle i'r ferch'. Câi menywod eu portreadu'n aml fel pobl oedd angen eu hamddiffyn rhag ‘byd y dynion’ sef byd o waith a gwleidyddiaeth. Eu rôl oedd edrych ar ôl eu gwŷr, eu cartrefi a’u plant. Newidiodd rôl menywod yn y gymdeithas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Tra bod y dynion i ffwrdd yn ymladd, y menywod oedd yn gwneud llawer o’u swyddi. Rhoddodd hyn gyfle iddynt wrthbrofi’r ystrydeb mai nhw oedd y rhyw gwannaf, a phrofi eu bod yn gyfartal â'r dynion. Rhoddodd hyn ddadl gref arall dros roi’r bleidlais iddynt. Er gwaethaf cadernid y gwrthwynebiad a ddangosir trwy'r ddoli yma, yn y pen-draw enillodd cannoedd o filoedd o fenywod yng Nghymru'r pŵer i fynegi eu barn gwleidyddol trwy'r blwch pleidleisio. Diolch i ymroddiad y mudiad swffragetaidd, mae gan bob oedolyn ym Mhrydain heddiw yr hawl i fwrw pleidlais mewn etholiadau. Gweld y ddol yn 3D ar Casgliad y Werin Cymru
Gwarcheidwad y Cymoedd 20 Mai 2011 Six Bells ger Abertyleri Yn haf 1960, profodd cymuned Six Bells ger Abertyleri, drychineb fyddai'n aros gyda nhw am weddill eu dyddiau. Ar 28 Fehefin achosodd ffrwydrad danddaear ym mhwll glo 'Arrael Griffin' farwolaeth 45 o lowyr, pob un yn ŵyr lleol - tadau, meibion, gwŷr a brodyr. Hanner can mlynedd i'r diwrnod yn ddiweddarach, wedi gwaith diflino gan y gymuned a sefydliadau lleol, codwyd cerflun dur dros 60tr o daldra gan Sebastien Boyesen, er cof am y sawl fu farw. Mae enw pob un o'r 45 wedi'i naddu ar y gwaelod. Oherwydd pryderon diogelwch, doedd y breichiau wedi'u lledu heb eu gosod ar gyfer y seremoni agoriadol, ond cwblhawyd y cerflun erbyn 28 Gorffennaf. Gwarcheidwad y Cymoedd Mae'r ffilm fer hon gan Alun Jones ac Ian Smith yn cofnodi'r digwyddiad coffa a chyflwyno 'Gwarcheidwad y Cymoedd' a saif yn falch er cof am lowyr Six Bells a glowyr ym mhobman.
Canlyniadau 2006-2011 Danielle Cowell, 19 Mai 2011 Mae project ‘Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion’ yn gyfle i filoedd o wyddonwyr ysgol weithio gydag Amgueddfa Cymru i archwilio newid yn yr hinsawdd a'i ddeall.Ers mis Hydref 2005, mae gwyddonwyr ysgol o bob cwr o Gymru wedi bod yn cadw cofnod o'r tywydd a phryd mae eu blodau'n agor, fel rhan o astudiaeth hirdymor o effeithiau'r tymheredd ar fylbiau'r gwanwyn.Mae rhagor o fanylion yn adroddiadau Athro'r Ardd neu gallwch chi lawrlwytho'r daenlen i astudio'r patrymau! Diolch yn fawr Athro'r Ardd