Adnabod mwynau yn Amgueddfa Cymru Amanda Valentine a Jana Horak, 7 Rhagfyr 2009 Y peiriant diffreithio â phelydr ecs yn yr Adran Ddaeareg Rhoi pelydr ecs drwy sampl o garreg o'r tarddiant hyd y synhwyrydd Crisial cwarts Graffit Diamwnt Langit Wroewolfeit Un o weithgareddau'r Adran Ddaeareg yn Amgueddfa Cymru yw dogfennu pob mwyn hysbys yng Nghymru. Gellir adnabod mwynau drwy edrych arnynt ond i gadarnhau'n derfynol defnyddiwn broses a elwir yn ddadansoddiad diffreithio â phelydr ecs. Mae'r dechneg hon yn rhoi i ni ôl bys fel petai o fwynau naturiol ac o waith dyn ac mae modd ei gymharu â chronfa ddata o samplau hysbys. Dadansoddiad diffreithio â phelydr ecs Mae'r rhan fwyaf o fwynau'n grisialaidd sy'n golygu eu bod wedi'u gwneud o fframwaith rheolaidd o atomau sy'n creu 'delltwaith crisialaidd' unigryw. Pan aiff pelydrau ecs drwy fwyn mae'r atomau'n peri bod y pelydrau ecs yn cael eu diffreithio neu eu plygu i sawl gwahanol gyfeiriad. Gellir cofnodi patrwm y pelydrau ecs wedyn i gynhyrchu ôl bys. Nid oes gan unrhyw ddau fwyn yr un trefniant o atomau ac felly mae eu holion bysedd (neu batrymau diffreithio delltwaith) yn unigryw. Gellir defnyddio'r patrymau hyn felly i adnabod mwynau. I ddadansoddi sampl fach o fwyn drwy ddefnyddio diffreithio â phelydr ecs mae'n cael ei falu'n bowdwr a'i pheledu â phelydrau ecs. Cofnodir y data fel graff o'r enw diffreithogram sy'n ffurf hwylus i weld y canlyniad. I adnabod y mwyn cymherir y canlyniad â chronfa ddata o batrymau miloedd o fwynau hysbys. Mwynau sy'n edrych yr un ffunud Mae adnabod wrth weld yn bwysig o hyd am ei bod yn bosibl i ddau fwyn gwahanol feddu ar yr un cyfansoddiad cemegol ond i ymddangos yn wahanol iawn. Er enghraifft mae gan ddiamwnt a graffit (ill dau yn garbon pur) yr un cyfansoddiad cemegol ond maent yn amlwg yn wahanol nid o ran golwg yn unig ond hefyd o ran caledwch a ffurf grisial. Ar y llaw arall mae wroewolfeit a langit yn ddau fwyn copor sydd yr un ffunud yn gemegol ac mae'r ddau ohonynt yn ffurfio nodwyddau glas. Fel canlyniad maent yn anodd iawn gwahaniaethu drwy edrych arnynt yn unig. Ond oherwydd bod ganddynt wahanol strwythurau crisialau maent yn cynhyrchu gwahanol batrymau diffreithio ac felly mae dadansoddiad diffreithio â phelydr ecs yn ffordd gyflym a dibynadwy o wahaniaethu rhyngddynt. Nid oes gan rai mwynau strwythur crisial rheolaidd ac felly ni chynhyrchant batrymau diffreithio. 'Mwynau amorffaidd' yw'r enw arnynt ac ni ellir eu hadnabod drwy ddadansoddiad diffreithio â phelydr ecs. Defnyddio dadansoddiad diffreithio â phelydr ecs Mae'r dechneg yn cael ei defnyddio'n eang ym maes daeareg ac mewn ystod o ddisgyblaethau cysylltiedig. Er enghraifft fe'i defnyddir i adnabod mwynau mewn lliwiau arlunwyr a chyfansoddiad rhwd ar wrthrychau archeolegol. Gall cadwraethwyr wedyn benderfynu ar y driniaeth briodol i sbesimenau mewn amgueddfa.
Pwy sy'n dyfod dros y bryn â chennin Pedr yn ei sach? Chris Owen, 5 Rhagfyr 2009 Nadolig llawen cyfeillion y bylbiauMae nifer ohonoch wedi gweld egin newydd a hynny yn bell cyn y Nadolig. Yr wythnos hon daeth f'egin i hefyd. Maent yn 2cm o uchder a gallwch eu gweld yn y llun.Mae'r hydref eleni llawer yn dwymach na'r llynedd. Mae'r tymheredd ar gyfartaledd yng Nghymru ar gyfer mis Hydref a Thachwedd bron 1.5 gradd yn dwymach nag oedd yn 2008. Fel canlyniad mae llawer o gennin Pedr wedi dechrau tyfu'n barod. Dywedodd ffermwyr Really Welsh: 'Gwelsom lawer o egin cennin Pedr yn dechrau tyfu. Mae'r tywydd twym a gwlyb yn golygu bydd ein cennin Pedr yn barod ar gyfer y siopau yn y gwanwyn. Efallai bydd y blodau'n agor ychydig o wythnosau'n gynharach na'r llynedd'.Os bydd rhew adeg y gwanwyn sy'n dod gall fod yn niweidiol i'r cennin Pedr a ddechreuodd dyfu. Ond mae'r cennin Pedr yn wydn iawn a byddent mwy na thebyg yn blodeuo'n hardd. Bydd yn ddiddorol i weld a fydd egin cynnar yn tyfu'n flodau cynnar. Daliwch i ddisgwyl.Diolch i chi wyddonwyr ifainc am gadw cofnodion mor gywir o'r tywydd. Maent yn ein helpu i ddeall y tymhorau a byd natur. Rhowch wybod os gwelwch unrhyw blanhigion eraill yn tyfu'n gynnar.Peidiwch ag anghofio mai'r wythnos hon y bydd cannoedd o wyddonwyr ac arweinyddion y byd yn cyfarfod yn Nenmarc i geisio dod i gytundeb i achub y blaned. Un o'r cyfarfodydd pwysicaf yn y byd o bosib. Ewch i newsround am y newyddion diweddaraf a gadewch i mi wybod beth yw'ch barn.Yr wythnos nesaf fydd yr wythnos olaf i'w chofnodi cyn y Nadolig wedyn gallwch fwynhau eich gwyliau.Mwynhewch y Nadolig!Athro'r Ardd
Cert Celf - 5,12,19,21,22,23 Rhagfyr Chris Owen, 4 Rhagfyr 2009 Dewch draw Ddydd Sadwrn yma i ymweld â’r cert celf. Bydd y cert yn Oriel 1, Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, rhwng 11-1 a 2-4. Byddwn yn paratoi at y Nadolig drwy greu papur lapio, tagiau ac addurniadau, a bydd taflenni lliwio i’r rhai bach.
Plannu coeden gyda Tree o'clock Chris Owen, 23 Tachwedd 2009 Gyda dyfodiad y gwyntoedd cryfion a'r glaw trwm wythnos diwethaf dwi'n ymbaratoi at ddiwedd yr hydref a dechrau'r gaeaf. Mae'n drueni gorfod ffarwelio â'r tywydd mwyn a bydd colled ar ôl lliwiau cynnes y dail yn Sain Ffagan. Ond mae'r tywydd garw wedi llarpio'r coed o'u dail sy'n gorwedd yn swp ar lawr.Er nad ydynt ar eu prydferthaf, ar goed byddaf yn canolbwyntio wrth ddathlu Wythnos Genedlaethol y Goeden. Dros benwythnos olaf Tachwedd edrychwn ar y gwahanol fathau o goed yn Sain Ffagan a'u hadnabod wrth graffu ar y dail, yr hadau, y rhisgl a'r blagur. Bydd yr RSPB yma hefyd yn cynnal gweithgareddau sy'n ystyried pwysigrwydd y coed i'n hadar brodorol. Gan son am adar mae'r bwydo adar-gam yn brysyr iawn ar y foment, ac fe allwch dilyn y datblygiadau diweddaraf trwy'r tudalen Twitter yma.Dewch i ymuno â ni ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr pan fyddwn yn ceisio gosod record newydd y byd yn Llyfr Guinness ar gyfer plannu'r nifer uchaf o goed mewn awr. Mae'r ymdrech ar y cyd â llefydd i natur y BBC. Gallwch aros wedyn i greu addurniadau Nadolig cynaliadwy o'r perthi yn y T? Gwyrdd.Nadolig cynaliadwy hefyd fydd thema fy ngweithgareddau yn y
Egin yn barod? Danielle Cowell, 19 Tachwedd 2009 Gofynnodd disgyblion o Ysgol Gynradd Oakfield yng Nghaerdydd: 'Pryd bydd y bylbiau'n egino?'Fel arfer 'nid tan ar ôl Nadolig' fyddai f'ateb ond mae rhai wedi dechrau egino'n barod.Dywedodd disgyblion o Ysgol Gynradd Pentre-poeth yn Abertawe: 'Cawsom syndod o weld egin ac erbyn hyn gwelsom rai yn y gwelyau blodau. Dyma lun i chi eu gweld.'O edrych ar y llun er nad wyf gant y cant yn si?r maent yn ymddangos fel egin cennin Pedr. Edrychwch ar fy llun o'r llynedd - beth ydych chi'n ei feddwl?Gadewch sylwadau os gwelwch unrhyw egin cynnar. Danfon lluniau at scan@aocc.ac.ukDiolch, Athro'r Ardd