Gwanwyn yn gerddi Sain Ffagan Elin Barker - Cadwraethwr gardd dan hyfforddiant, 5 Mawrth 2023 Wrth i'r gwanwyn nesáu, mae pob dydd yn adrodd stori newydd yn yr ardd. Mae’r eirlysiau’n diflannu ac yn gwneud lle i’r crocysau, briallu a’r cennin pedr lliwgar. Mae’r hellebores wedi cyrraedd hefyd, gyda’u blodau pert siâp cwpan a’u patrymau petalau manwl. Maen nhw’n darparu byrst o liw ac maen nhw bob amser i’w gweld yn disgleirio hyd yn oed ar ddiwrnodau mwyaf llwyd y gwanwyn.Fel sy’n arferol yr adeg yma o’r flwyddyn, mae garddwyr Sain Ffagan wedi bod yn gweithio’n galed yn cynllunio borderi newydd ac yn paratoi’r ddaear ar gyfer y tymor newydd. Eleni, fodd bynnag, mae pryderon newid hinsawdd a phrinder dŵr wedi gwthio’r tîm i edrych am ffyrdd newydd o ddylunio gerddi a all arbed dŵr ac fydd yn gwneud cystal mewn hinsawdd sych.Un ateb creadigol rydyn ni wedi datblygu yw'r "ffin arian," bydd yr ardd hon yn arddangos planhigion gyda dail ariannaidd neu lwyd sydd wedi esblygu i ddioddef amodau sych. Mae lliw golau’r dail yn adlewyrchu golau'r haul ac yn amddiffyn y planhigyn rhag ei effeithiau niweidiol. Mae rhai o'r planhigion hyn hefyd yn cynnwys blew man ar eu dail neu goesynnau, syn cadw lleithder yn feinwe'r planhigyn, sydd yn helpu nhw byw mewn hinsawdd sychach. Bydd y border arian yn ffordd ymarferol o arbed dŵr ac ar yr un pryd yn ychwanegiad unigryw a hardd i'r ardd.Ardal arall rydym wedi bod yn datblygu yw’r ffin llwyni bywyd gwyllt sydd ar y ffordd i’r Ardd Eidalaidd. Y syniad tu ôl i'r ardal hon oedd I greu cynefin ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt. Unwaith y bydd wedi'i sefydlu, bydd yr ardal yma yn helpu rhoi cartref i adar, pryfed a mamaliaid. Rydyn ni wedi dewis llwyni, fel Sambucus nigra, Holodiscus discolor a Viburnum opulus sydd â blodau llawn neithdar a fydd yn cynnal peillwyr. Yn ogystal â hyn, wrth i'r llwyni aeddfedu, byddant yn ffynhonnell werthfawr o fwyd i fywyd gwyllt mewn ffurf hadau ac aeron.Mae’n bosibl y byddwch yn sylwi bod yr ardd Iseldiraidd ger y Castell yn mynd trwy drawsnewidiad sylweddol bob gwanwyn wrth i’r gweiriau addurniadol a’r planhigion lluosflwydd gael eu torri’n ôl yn galed cyn i’r tyfiant newydd ddechrau. Yn ystod tymor y gaeaf, rydym yn dewis gadael y pennau hadau a'r coesynnau yn gyfan gan eu bod yn gynefin gwych i fywyd gwyllt ac mae nhw‘n cynnig elfennau strwythurol i'r ardd gydag amrywiaeth o weadau a lliwiau tymhorol. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i gael gwared ar yr holl hen dyfiant o'r flwyddyn flaenorol, bydd hyn yn annog tyfiant newydd iach o waelod y planhigion. Eleni fe benderfynon ni ailddefnyddio’r toriadau gwair gwastraff fel tomwellt ar y gwely pwmpen, bydd hyn yn helpu i atal y chwyn a chadw lleithder yn y ddaear.Wrth i ni symud ymlaen, mae’n hollbwysig ystyried sut gallwn ni ymarfer garddio mewn cydweithrediad â natur. Mae garddio yn golygu ymdrechu i sicrhau cydbwysedd rhwng gwneud i lefydd edrych yn hardd ar yr wyneb ond o dan yr wyneb cael dyluniad cynaliadwy.
Newid yn y tymhorau Penny Dacey, 3 Mawrth 2023 Helo Gyfeillion y Gwanwyn,Diolch i bob ysgol sydd wedi rhannu eu data tywydd hyd yn hyn. Cofiwch gysylltu â mi os oes angen unrhyw help gyda hyn. Bydd pob ysgol sy'n cofnodi data i wefan Amgueddfa Cymru yn derbyn gwobrau ar ddiwedd y prosiect, gan gynnwys pensiliau a thystysgrifau gwyddonwyr gwych!Mae gwanwyn yn y DU yn dechrau yn fis Mawrth. Mae pryd ym Mawrth yn dibynnu ar ba ddiffiniad rydych chi'n ei ddefnyddio. O'r diffiniad Meteoroleg mae gwanwyn yn dechrau ar 1 Mawrth ac o'r diffiniad Seryddol mae'n dechrau ar 20 Mawrth (Cyhydnos y Gwanwyn). Dyma'r tymor y bydd y rhan fwyaf o blanhigion yn blodeuo ac anifeiliaid bach yn cael eu geni. Mae oen bach yn y caeau yn arwydd da bod y gwanwyn wedi cyrraedd! Dilynwch Sgrin Wyna Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan i weld faint o ŵyn sydd yn cael eu geni yno!Mae yna bedwar tymor mewn blwyddyn: gaeaf, gwanwyn, haf a hydref. Mae hi’n dal yn aeaf ar hyn o bryd, y tymor oeraf.Mae’r gwanwyn yn dechrau o gwmpas Mawrth yr 20fed (Cyhydnos y Gwanwyn) a dyma’r tymor lle bydd y rhan fwyaf o blanhigion yn blodeuo ac anifeiliaid bach yn cael eu geni wrth i’r tywydd gynhesu. Mae ŵyn bach yn y caeau yn arwydd da bod y gwanwyn wedi cyrraedd!O fis Mehefin tan fis Medi bydd hi’n haf – y dyddiau’n hir a’r tywydd yn gynnes. Yn lwcus i chi, byddwch yn cael gwyliau hir o’r ysgol!Bydd yr hydref yn gafael o ddiwedd Medi ymlaen – y dyddiau yn byrhau, y tywydd yn oeri, a’r dail yn troi’n oren, coch a brown cyn syrthio o’r coed. Daw’r gaeaf unwaith eto ym mis Rhagfyr a bydd yn aros efo ni tan ganol Mawrth.Ydych chi’n gwybod pam ein bod yn cael tymhorau? Beth sy’n achosi i’r tywydd newid mor ddramatig yn ystod y flwyddyn? Mae’n digwydd achos bod y Ddaear yn troi o amgylch yr Haul ar ongl. Mae’r llun isod yn dangos y Ddaear a’r Haul. Mae’r Ddaear yn cylchdroi ar echel (dychmygwch linell yn cysylltu Pegwn y Gogledd â Phegwn y De) wrth symud o amgylch yr Haul.Mae’n cymryd 365 diwrnod i’r Ddaear deithio unwaith o amgylch yr Haul. Hyd blwyddyn ar blaned yw’r amser mae’n gymryd i deithio o amgylch ei seren unwaith. Felly mae blwyddyn ar y Ddaear yn para 365 diwrnod.Mae’r llun uchod yn dangos llwybr y Ddaear o amgylch yr Haul. Yr echel yw’r llinell wen trwy’r ddau begwn. Mae’r echel ar ongl wahanol i lwybr y Ddaear o amgylch yr Haul (y llinell wen doredig). Mae hyn yn golygu ein bod ar ongl fymryn yn wahanol i’r Haul bob dydd. Dyma sy’n achosi’r newid yn hyd y dydd. Mae dyddiau byrrach (gaeaf) yn golygu llai o olau a llai o wres, sy’n gwneud y gaeaf yn oerach. Mae dyddiau hirach (haf) yn golygu mwy o olau a gwres, sy’n ei gwneud yn gynhesach!Mae’r DU yn ‘Hemisffer y Gogledd’ sy’n golygu ein bod yn nes at Begwn y Gogledd nag at Begwn y De. Yn y llun, mae Pegwn y Gogledd (y llinell wen sy’n pwyntio am i fyny) yn gwyro i gyfeiriad yr Haul ym mis Mehefin ac oddi wrth yr Haul ym mis Rhagfyr. Yr ongl hon sy’n achosi’r newid yn hyd y dyddiau wrth i’r Ddaear droi o amgylch yr Haul.Mae gwledydd eraill yn profi’r newidiadau hyn ar wahanol adegau. Yn Awstralia mae’n haf ym mis Rhagfyr! Ac yng Ngwlad yr Iâ mae’n olau dydd am ddyddiau ar y tro yn yr haf, ac yn dywyll am ddyddiau yn y gaeaf... dychmygwch yr haul yn tywynnu am hanner nos!Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn,Athro’r Ardd
Mary Anning – casglwraig ffosilau arloesol Cindy Howells a Caroline Buttler, 2 Mawrth 2023 Mae Mary Anning yn cael ei chofio fel un o fenywod eiconig y 19eg Ganrif. Fe wnaeth y fenyw o gefndir gweithiol ganfyddiadau gwyddonol mawr oedd cystal â gwaith unrhyw ddynion oedd yn ddaearegwyr ar y pryd.Ganwyd Mary ar 21 Mai 1799 yn nhref fechan Lyme Regis, yn Dorset. Saer oedd ei thad, ond bu farw pan oedd hi'n 11 oed gan adael y teulu mewn dyled a heb incwm sefydlog. Roedden nhw wedi bod yn ychwanegu at eu hincwm ers rhai blynyddoedd drwy gasglu ffosilau ar gyfer twristiaid, a daeth Mary yn dda iawn yn gwneud hyn. Roedd ganddi lygad dda am ddarnau bychan o esgyrn ffosil yn y graig, ac fe ddatblygodd hi dechneg o'u tynnu nhw'n ofalus o'r graig gyda chŷn a morthwyl. Dechreuodd ei Mam, Molly, y busnes o werthu'r ffosilau, a dyma'r ddwy yn adeiladu siop lwyddiannus oedd yn denu twristiaid a gwyddonwyr. Roedd hi'n waith caled, casglu ffosilau o'r traeth ym mhob tywydd a'u cario adref i'w glanhau a'u gwerthu. Pan oedd Mary yn 12 dyma hi a'i brawd, Joseph, yn canfod darnau o sgerbwd ymlusgiad 5m o hyd. Cafodd y darn ei brynu am £23 (cyflog 6 mis i lafurwr ar y pryd). Cyn hyn, roedd pawb yn meddwl taw gweddillion crocodeilod oedd y ffosilau ymlusgiaid mawr oedd i'w gweld yn yr ardal. Doedd neb yn gwybod am anifeiliaid arall tebyg. Cafodd sbesimen Mary ei astudio gan sawl gwyddonydd a daeth yn sylfaen i waith ar fath newydd o ymlusgiad morol o'r enw ichthyosaur (madfall-bysgodyn yn Lladin).Dros y degawdau nesaf dyma Mary yn canfod nifer o ffosilau newydd ac anarferol, gan gynnwys y plesiosaur cyntaf, y pterosaur cyntaf (madfall hedegog) y tu allan i'r Almaen, a sawl pysgodyn newydd. Drwy sylwi'n glyfar ar yr hyn oedd hi'n ei ganfod, roedd hi'n gallu dehongli pethau'n wahanol. Doedd neb yn gwybod beth oedd y talpiau cyffredin o garreg galed oedd yn cael eu galw'n Gerrig Besoar, ond drwy sylwi pa mor agos oedden nhw i'r sgerbydau ichthyosaur dyma Mary'n sylweddoli taw gweddillion ffosil dom anifeiliaid oedden nhw – coprolitau. Lledodd y sôn amdani, a cyn hir roedd daearegwyr blaenllaw yn galw ac yn gofyn ei barn hi.Roedd Mary'n gymeriad rhyfedd oedd ddim yn ffitio mewn i gategoriau arferol. Dim ond ychydig flynyddoedd o addysg yn yr ysgol Sul leol gafodd hi, ond roedd hi'n gallu ysgrifennu'n dda a mynegi'i hun yn rhugl. Ond oherwydd ei dosbarth, allai hi ddim cymysgu'n gymdeithasol â phobl oedd ar yr un lefel ddeallusol. Fel menyw, roedd hi wedi ei gwahardd yn llwyr o Gymdeithas Ddaearegol Llundain, lle byddai hi wedi gallu rhannu a thrafod ei syniadau gwyddonol. Ac er bod ei henw i'w gweld mewn traethodau gwyddonol, chafodd hi byth ei chydnabod fel un o'r awduron.Mae hi wedi cael ei disgrifio fel menyw annibynnol, hyderus, balch a pharod ei barn, ac mae ei llythyrau yn dangos pa mor chwerw oedd hi'n teimlo am ei sefyllfa. Ond gallai hi hefyd fod yn garedig a hael, a byddai'n helpu ei chymdogion pan y gallai hi.Roedd ymwelwyr â Lyme Regis yn gallu mynd i weld ei charreg fedd a'r ffenest wydr yn ei choffau yn yr eglwys, ond yn 2022 dadorchuddiwyd cerflun iddi. Roedd hyn yn benllanw ymgyrch ryfeddol merch naw oed o'r enw Evie Swire. Dyma hi’n gofyn i'w mam, Anya Pearson, ble oedd y cerflun o Mary, a deall bod dim un i gael wnaeth ysbrydoli ymgyrch Mary Anning Rocks, wnaeth gasglu dros £100,000 i dalu am gerflun. Comisiynwyd yr artist Denise Dutton i greu'r cerflun sydd i'w weld ar lan y môr, yn dangos Mary Anning a'i chi yn camu'n bwrpasol tua'r traeth yn barod i wneud canfyddiadau cyffrous newydd.
Ar daith gyda Cranogwen Norena Shopland, 21 Chwefror 2023 Wrth geisio creu darlun o fywydau pobl, yn enwedig rhai o’r gorffennol, y pethau bach sy’n aml yn dod â nhw'n fyw – broets neu docyn darlith efallai – ac mae dwy eitem yng nghasgliad Amgueddfa Cymru yn sicr yn gwneud hynny. Mae'r ddwy yn perthyn i Cranogwen – enw barddol Sarah Jane Rees (1839–1916), capten llong, bardd, llenor, golygydd ac ymgyrchydd dirwest wnaeth fyw rhan fwyaf o'i hoes yn nhref fechan Llangrannog, Sir Aberteifi. Yno y cafodd hi’i geni, ac oddi yno fe deithiodd hi drwy gydol ei hoes nes dod erbyn troad yr 20fed ganrif yn un o ferched mwyaf adnabyddus Cymru. Dyma hefyd lle roedd hi’n byw gyda’i phartneriaid – Fanny Rees “Phania” (1853-1874) fu farw yn 21 oed, a Jane Thomas (1850-?) sy’n cael ei disgrfio yn y rhan fwyaf o’i datganiadau cyfrifiad fel ‘gweithiwr domestig’, ‘morwyn’ neu ‘glanhawraig’. Byddai Cranogwen yn aml oddi cartref, yn cyfrannu at fyrdd o brojectau ac yn darlithio, ond aeth ar ei thaith gyntaf ym 1866. Roedd hyn flwyddyn ar ôl ennill gwobr farddoniaeth yr Eisteddfod – oedd yn ddadleuol pan ddatgelwyd bod menyw wedi curo’r dynion. Felly, pan ddechreuodd ar ei theithiau roedd hi eisoes yn adnabyddus, fel y nododd un o newyddiadurwyr Y Gwladgarwr:“Fe gofia y darllenydd mai y ferch ieuanc hon a gymerodd y wobr yn Eisteddfod Aberystwyth am y gan i'r Fodrwy Briodasol. Wedi clywed hynny, a deall hefyd bod ein beirdd blaenllaw, megys Islwyn a Ceiriog yn cystadlu, braidd nad oeddwn yn hanner credu fod rhyw 'faw yn y caws' yn rhywle.” [i]Canolbwynt taith Cranogwen oedd ei darlith Ieuenctyd a Diwylliant eu Meddyliau, ond dyma hi’n ddiweddarach yn cynnwys dwy ddarlith arall, Anhebgorion Cymeriad da ac Elfennau Dedwyddwch – pob un yn trafod gwella cymeriad pobl. Gan ei bod hi'n darlithio yn Gymraeg, cafodd y darlithiau sylw yn y wasg Gymraeg a braidd dim sylw yn y wasg Saesneg. Dechreuodd Cranogwen ei thaith yn ardal Aberystwyth, felly gobeithio bod Jane wedi gallu mynd gyda hi i gynnig rhywfaint o gefnogaeth. Ond wrth i’w darlithoedd ddod yn fwy poblogaidd roedd Cranogwen yn teithio ymhellach oddi cartref, ac o fewn deufis daeth bron i fil o bobl i wrando arni yng Nghapel Brynhyfryd Abertawe – tipyn o her i unrhyw un felly gobeithio bod Jane yno i i’w chefnogi.Lledodd y sôn amdani’n gyflym, ac fel y nododd un o newyddiadurwyr Baner ac Amserau Cymru: ‘Nid oes angen yn y byd myned i drafferthu rhoddi canmoliaeth i'r ddarlithyddes hon, o herwydd mae ei henw wedi myned eisoes yn eithaf adnabyddus bron trwy Gymru.[ii]Roedd yn cael ei chanmol ym mhobman gan wneud i un newyddiadurwr feddwl i ddechrau na fedrai fod cystal ag yr oedd pobl yn ei ddweud: ‘a chan ein bod wedi clywed y fath ganmoliaeth iddi, yr oeddym yn dysgwyl ei bod yn dda. Ond ni ddaeth erioed un ddychymyg i galon neb o honom ei bod mor gampus ag y mae, ac mor feistrolgar ar ei gwaith.’ [iii]Dro ar ôl tro cafodd adolygiadau gwych a tyfodd ei darlith awr yn ddwy awr a mwy wrth i bwysigion lleol ymddangos ar y llwyfan ochr yn ochr â hi, gan fynnu siarad hefyd. Heidiai beirdd lleol ati, gan ysgrifennu englynion iddi, a llawer o'r rheini'n cael eu cyhoeddi yn y papurau. Roedd merched hefyd yn dilyn ôl ei throed ac yn camu i’r llwyfan. Roedd hyn yn achosi pryder. Ddylai merched, yn enwedig ‘merched ifanc’ (roedd hi’n 27 ar y pryd) ddim darlithio, meddai’r dynion oedd yn cwyno bod merched yn siarad yn gyhoeddus ynamhriodol. ‘The inhabitants of South Wales,’ meddai'r Cardiff Times, ‘are running wild with the young ladies who are lecturing about the country [and] in the opinion of many eminent men this is going too far.At the recent meeting of the Association of the Calvinistic Methodists held at Caernarvon, the Rev. Henry Rees, and eminent minister, whose name is known through the Principality, spoke against female preachers, and stated that it would be far more becoming in those who are fond of preaching to attend to those duties which belong to their sex. We are glad that a gentleman of Mr Rees’s standing has set his face against this new mania.[iv]‘Ai nid gartref mae lle y merched hyn?’ gofynnodd Seren Cymru 'a ydym yn barod i weled ein heglwysi yn cael eu britho, os nad yn gorlifo â merched yn darlithio.’[v]Anwybyddodd y rhan fwyaf o newyddiadurwyr y cwyno, a pharhau i ganmol Cranogwen. Roedd y sgyrsiau fel arfer yn cychwyn am 7pm gyda thocynnau yn 6d (tua £2 heddiw). Roedd y cynulleidfaoedd yn enfawr a nifer yn nodi sut y byddai gwrandawyr yn aml yn eistedd wedi'u cyfareddu am ddwy awr yn nodio mewn cytundeb, cyn rhoi cymeradwyaeth fyddarol iddi. Nodwyd bod elw bron pob un o'i sgyrsiau yn mynd i dalu dyledion capeli. Parhaodd Cranogwen i deithio drwy gydol 1867 ac mae dyddiad 2 Ionawr ar y tocyn sydd yn Amgueddfa Cymru. Does dim adroddiad papur newydd ar y ddarlith ym Mrynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr, ond gyda cymaint o ddarlithoedd a’r daith erbyn hyn yn flwydd oed, fyddai pob noson ddim yn cael yr sylw. Ym 1869–1870 aeth Cranogwen ar daith i’r Unol Daleithiau gan draddodi'r un math o ddarlithoedd – byddai angen i ni archwilio’r cofnodion mewnfudo i weld a aeth Jane gyda hi. Parhaodd Cranogwen â’i gwaith da ar ôl dychwelyd i Gymru, ac ar ddechrau’r ugeinfed ganrif dechreuodd ymwneud â'r mudiad dirwest, fel llawer o wragedd amlwg eraill. Roedd meddwdod, yn enwedig ymhlith merched, yn endemig wrth iddyn nhw geisio dianc rhag eu bywydau caled, a sefydlwyd nifer o undebau i geisio mynd i’r afael â hyn gan gynnwys Undeb Merched y Rhondda, a sefydlwyd ym mis Ebrill 1901. Roedd y mudiad mor llwyddiannus fe benderfynwyd ei ehangu, a Cranogwen, fel yr Ysgrifenyddes Defnyddol gyda’i chyfeiriad yn Llangrannog, yn allweddol yn newid yr enw i Undeb Dirwestol Merched y De (UDMD). Unwaith eto, roedd Cranogwen yn teithio'n helaeth gyda'r Undeb. Wrth gyrraedd pob tref byddai aelodau’r Undeb yn gorymdeithio drwy’r strydoedd gan gario baneri, cyn aros mewn capel i weddïo, canu emynau a darllen o'r Beibl cyn gwrando ar areithiau gan aelodau blaenllaw. Byddai siaradwyr gwadd hefyd gan gynnwys menywod adnabyddus o Gymru fyddai’n denu'r cynulleidfaoedd yn eu cannoedd. Ar ôl y digwyddiad byddai te a theisen a chyfle i gymdeithasu, arian yn cael ei gasglu, a byddai pamffledi a bathodynnau ar gael i'w prynu. Yn dechnegol, broets yw’r enghraifft yng nghasgliad Amgueddfa Cymru, ac nid yw’n glir ai’r broetsys hyn oedd y bathodynnau fyddai Cranogwen yn eu gwerthu. Erbyn Rhagfyr 1901, roedd canghennau newydd o UDMD yn ymddangos ledled de Cymru ac erbyn i Cranogwen farw ym 1916 roedd 140 o ganghennau ar draws y De.Roedd Cranogwen yn ddiflino, ac allwn ni ond rhyfeddu at ei hegni. Yn ogystal â’i holl weithredoedd da, roedd hi’n esiampl i gymaint o ferched ifanc i fod yn llenorion ac areithwyr, dim ots beth ddwedai’r dynion. Bu farw Cranogwen yn 1916 yn nhŷ ei nith yn Wood Street Cilfynydd, Rhondda Cynon Taf. ‘No other woman enjoyed popularity in so many public spheres'[vi] nododd y Cambrian Daily Leader. Yn anffodus, wyddon ni ddim pryd fu Jane farw, ond gobeithio y bydd y cofiant sydd i ddod gan Jane Aaron yn datgelu mwy. Prin bum mlynedd ynghynt roedd y ddwy yn dal i fyw gyda’i gilydd yn Llangrannog a thŷ yn y dref honno oedd y cyfeiriad a ddefnyddiodd Cranogwen am y rhan fwyaf o’i hoes. Waeth pa mor bell y byddai’n teithio, byddai bob amser yn mynd adref at Jane. Cofeb i Sarah Jane Rees, Llangrannog (WikiCommons) [i]Y Gwladgarwr, 5 Mai, 1866 [ii]Baner ac Amserau Cymru, 14 Ebrill 1866[iii]Cardiff Times, 5 Hydref 1866[iv]Seren Cymru, 4 Ionawr 1867[v]Y Tyst Dirwestol Cyf. XIII rhif. 154 - Hydref 1910[vi]Cambrian Daily Leader, 28 Mehefin 1916
Hawliau a Defodau; project newydd i ddigideiddio ac i archwilio sbesimenau botanegol o Dde Asia Nathan Kitto a Heather Pardoe, 21 Chwefror 2023 Mae gwaith wedi dechrau ar broject a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau y DU (AHRC) sef Hawliau a Defodau, sydd, ynghyd â grwpiau cymunedol yn archwilio planhigion a chynhyrchion planhigion sy'n tarddu o Dde Asia, yn bennaf India, Pacistan a Sri Lanka. Mae casgliadau bioddiwylliannol Amgueddfa Cymru (sy'n cynnwys tua 5,500 o sbesimenau), yn cynnwys amrywiaeth eang o blanhigion meddyginiaethol, yn enwedig planhigion sy'n bwysig mewn systemau meddyginiaethol Ayurveda a Siddha traddodiadol, cynhyrchion bwyd a deunyddiau crai. Rhoddwyd y sbesimenau yn y casgliad yn wreiddiol gan unigolion a sefydliadau, megis Gardd Fotaneg Frenhinol Kew a'r Imperial Institute. Mae'r sbesimenau bioddiwylliannol, ynghyd â sbesimenau llysieufa cysylltiedig a darluniau botanegol yn cael eu harchwilio mewn gweithdai sy'n cynnwys curaduron a grwpiau cymunedol lleol sydd â chysylltiadau â gwledydd tarddiad y sbesimenau hyn. Nod y project cydweithredol hwn yw cyfuno gwybodaeth wyddonol y staff curadurol ac ymchwil gydag arbenigedd aelodau lleol o'r diaspora Asiaidd, er mwyn rhoi cyd-destun diwylliannol i sbesimenau yng nghasgliadau'r Amgueddfa. Ein nod yw cydweithio i gynyddu gwybodaeth am rywogaethau planhigion a ddefnyddir mewn meddygaeth, seigiau, seremonïau a diwylliant traddodiadol. Yn sgil y project, rydym yn cyd-guradu dehongliadau newydd ar gyfer sbesimenau De Asiaidd, gan fanteisio ar brofiad byw a dealltwriaeth ddiwylliannol pobl o wlad tarddiad y sbesimenau. Mae’r cofnodion diwygiedig yng nghronfeydd data ein casgliadau yn dangos y wybodaeth fotaneg wyddonol wedi’i hategu gan wybodaeth gyd-destunol am briodweddaumeddyginiaethol a choginio.Mae hyn yn ymestyn yr hyn a wyddom am y casgliadau, gan gyfuno manylion gwyddonol â gwybodaeth am y defnydd traddodiadol a wneir o gynhyrchion y planhigion. Mae mynediad i’r sbesimenau yn y casgliad yn cael ei wella drwy ddigideiddio sbesimenau De Asia yn y casgliad a hefyd drwy gynhyrchu sganiau 3D o'r detholiad o sbesimenau. Yn ogystal, rydym yn ymchwilio i darddiad y sbesimenau botanegol dan sylw ac yn creu cofnodion parhaol newydd gyda’r cynnwys newydd a gyd-grëwyd. Rydym yn bwriadu gwneud y casgliad botaneg economaidd yn fwy hygyrch i gymunedau lleol, sefydliadau eraill a gwyddonwyr ledled y byd.Mae'r project yn defnyddio offer sganio newydd, wedi'i brynu gan ddefnyddio grant AHRC, i sganio sbesimenau. Bydd y sganiau'n gweithredu fel catalydd i ysgogi deialog a chyfnewid gwybodaeth am fflora o India rhwng curaduron a'r gymuned ac yn y gymuned diaspora leol.