Blwyddyn Ryngwladol Tabl Cyfnodol yr Elfennau Cemegol y Cenhedloedd Unedig: Mis Hydref – Sylffwr Christian Baars, 23 Hydref 2019 Yn 2019 mae Tabl Cyfnodol yr Elfennau Cemegol yn 150 mlwydd oed (gweler UNESCO https://www.iypt2019.org/). Mae hyn yn gyfle i feddwl am wahanol agweddau’r tabl cyfnodol, gan gynnwys effeithiau cymdeithasol ac economaidd elfennau cemegol.Sylffwr yw’r bumed elfen fwyaf cyffredin (yn ôl màs) ar y Ddaear, ac mae’n un o’r sylweddau cemegol gaiff ei ddefnyddio fwyaf. Ond mae sylffwr yn gyffredin tu hwnt i’r ddaear: mae gan Io – un o leuadau Galileaidd y blaned Iau – dros 400 o losgfynyddoedd byw sy’n lledaenu lafa llawn sylffwr, gymaint ohono nes bod arwyneb y lleuad yn felyn.AlcemiCâi halwynau sylffad haearn, copr ac alwminiwm eu galw’n “fitriol”, oedd yn ymddangos mewn rhestrau o fwynau a wnaed gan y Swmeriaid 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Câi asid sylffwrig ei alw’n “olew fitriol”, term a fathwyd gan yr alcemydd Arabaidd Jabir ibn Hayyan yn yr 8fed ganrif. “Brwmstan” oedd yr hen enw am sylffwr yn llosgi, ac arweiniodd hyn at y gred fod Uffern yn arogli fel sylffwr.MwynolegAnaml iawn y gwelir sylffwr pur – mae fel arfer i’w ganfod fel mwynau sylffid a sylffad. Mae sylffwr elfennol i’w weld ger ffynhonnau poeth, daeardyllau hydrothermol ac mewn ardaloedd folcanig lle gellir ei fwyngloddio, ond prif ffynhonnell sylffwr ar gyfer diwydiant yw’r mwyn haearn sylffid, pyrit. Ymysg mwynau sylffwr pwysig eraill mae sinabar (mercwri sylffid), galena (plwm sylffid), sffalerit (sinc sylffid), stibnit (antimoni sylffid), gypswm (calsiwm sylffad), alwnit (potasiwm alwminiwm sylffad), a barit (bariwm sylffad). O ganlyniad, mae’r cofnod Mindat (cronfa ddata wych ar gyfer mwynau) ar gyfer sylffwr yn un go hir: https://www.mindat.org/min-3826.html.CemegMae sylffwr yn un o gyfansoddion sylfaenol asid sylffwrig, gaiff ei alw’n ‘Frenin y Cemegau’ oherwydd ei fod mor ddefnyddiol fel deunydd crai neu gyfrwng prosesu. Asid sylffwrig yw’r cemegyn gaiff ei ddefnyddio amlaf yn y byd, ac mae’n ddefnyddiol yn bron bob diwydiant; gan gynnwys puro olew crai ac fel electrolyt mewn batris asid plwm. Caiff dros 230 miliwn tunnell o asid sylffwrig ei gynhyrchu bob blwyddyn dros y byd.RhyfelPowdr gwn, cymysgedd o sylffwr, siarcol a photasiwm nitrad a ddyfeisiwyd yn Tsieina yn y 9fed ganrif, yw’r ffrwydryn cynharaf y gwyddom amdano. Sylwodd peirianwyr milwrol Tsieina ar botensial amlwg powdr gwn, ac erbyn OC 904 roeddent yn taflu lympiau o bowdr gwn ar dân gyda chatapyltiau yn ystod gwarchae. Mewn rhyfel cemegol 2,400 o flynyddoedd yn ôl, defnyddiodd y Spartiaid fwg sylffwr yn erbyn milwyr y gelyn. Mae sylffwr yn un o gyfansoddion pwysig nwy mwstard, sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio fel arf cemegol ers y Rhyfel Byd Cyntaf.FferylliaethMae gan gyfansoddion sylffwrig bob math o ddefnydd therapiwtig, gan gynnwys trin microbau, llid, feirysau, clefyd siwgr, malaria, canser a chyflyrau eraill. Mae llawer o gyffuriau yn cynnwys sylffwr. Ymysg yr enghreifftiau cynnar mae sylffonamidau, “cyffuriau sylffa”. Mae sylffwr yn rhan o sawl gwrthfiotig, gan gynnwys penisilin, ceffalosborin a monolactam.BywydegMae sylffwr yn un o elfennau hanfodol bywyd. Mae rhai asidau amino (cystein a methionin; asidau amino yw cyfansoddion strwythurol protein) a fitaminau (biotin a thiamin) yn gyfansoddion organosylffwr. Mae deusylffidau (bondiau sylffwr-sylffwr) yn rhoi cryfder mecanyddol ac anhydoddedd i’r protein ceratin (sydd mewn croen, gwallt a phlu). Mae gan lawer o gyfansoddion sylffwr arogl cryf: mae arogl grawnffrwyth a garlleg yn dod o’r cyfansoddion organosylffwr. Nwy hydrogen sylffid sy’n rhoi arogl cryf i wyau drwg.FfermioMae sylffwr yn un o’r prif faetholion ar gyfer tyfu cnydau. Mae sylffwr yn bwysig gydag ymlifiad maetholion, cynhyrchu cloroffyl a datblygiad hadau. Oherwydd hyn, mae asid sylffwrig yn cael ei ddefnyddio’n helaeth fel gwrtaith. Mae tua 60% o’r pyrit gaiff ei fwyngloddio yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu gwrtaith – gallech ddweud mai pyrit sy’n bwydo’r byd.Yr Amgylchedd Mae anfanteision i ddefnyddio sylffwr: mae llosgi glo ac olew yn creu sylffwr deuocsid, sy’n adweithio gyda dŵr yn yr atmosffer i greu asid sylffwrig, un o brif achosion glaw asid, sy’n troi llynnoedd a phridd yn asidig ac yn difrodi adeiladau. Mae draeniad asidig o fwyngloddiau, un o ganlyniadau ocsideiddio pyrit wrth fwyngloddio, yn broblem amgylcheddol fawr, ac yn lladd llawer o fywyd mewn afonydd ledled y byd. Yn ddiweddar, defnyddiwyd carreg galchaidd yn cynnwys llawer o pyrit fel ôl-lenwad ar gyfer stadau tai o gwmpas Dulyn. Achosodd hyn ddifrod i lawer o dai wrth i’r pyrit ocsideiddio. Cafodd yr achos ei ddatrys gan y “Pyrite Resolution Act 2013” a roddodd iawndal i berchnogion tai.Cadwraeth Sbesimenau AmgueddfaOherwydd bod sylffidau haearn yn fwynau hynod adweithiol, mae’n anodd eu cadw mewn casgliadau amgueddfeydd. Am ein bod ni’n gofalu am ein casgliadau, sy’n cynnwys gwella arferion cadwraeth o hyd, rydym wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o warchod mwynau bregus. Mae ein project diweddaraf, ar y cyd â Phrifysgol Rhydychen, yn cael ei gynnal gan ein myfyriwr ymchwil doethurol, Kathryn Royce. https://www.geog.ox.ac.uk/graduate/research/kroyce.html.Dewch i’n gweld ni!Os yw hyn wedi codi awydd arnoch i ddysgu mwy, dewch i weld ein sbesimenau sylffwr a pyrit yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. amgueddfa.cymru/caerdydd, neu gallwch ddysgu am fwyngloddio a diwydiannau tebyg yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru https://amgueddfa.cymru/bigpit/ ac Amgueddfa Lechi Cymru https://amgueddfa.cymru/llechi/.
The Romans have returned! Sarah Parsons, 23 Hydref 2019 The National Roman Legion Museum in Caerleon will be open from 24th October 2019 – just in time for the half term holidays! Getting a new roof is never straightforward, especially for a museum with 1,700 objects on display.We’ve been closed to the public for a year while the gallery was turned into a building site. We now have a brand new roof, new lights, display panels and a lick of paint; everything’s looking shiny and new! Now all we need is visitors to come and enjoy it.What happened to the artefacts?While the builders have been working, the artefacts have been looked after at National Museum Cardiff.For some of these objects, it’s the first time they have been out of the display cases for 30 years, so now is the ideal opportunity to have them checked and treated by the archaeology conservator, and photographed so that they can go into Collections Online – our online catalogue where you will be able to see images and details of all of the objects that are on display. Museum photographer Robin Maggs photographing a Roman glass bottle Some objects are too big to move and had to stay where they are, so they have been boxed in and kept safe throughout the building work. Gallery during the works Before the objects were returned, those display cases needed a thoroughly good clean, and there’s only one way to really clean the inside of a case – that is to get inside it! Museum Assistant Paul cleaning inside a display case Ever looked closely at how objects in museums have been held up, or positioned on display? Hopefully not! It’s thanks to the curators that you don’t notice these things, so that your attention is drawn to the objects themselves. It can be painstaking work, but it’s worth it in the end. Curator Jody Deacon placing the skeleton back in his coffin Curator Alastair Willis re-displaying Roman coins What next?Now the objects are back in their display cases, back home where they belong, ready for you to come and enjoy them. We’re really looking forward to sharing our wonderful collections with you.We also have all manner of activities, crafts and storytelling going on in half term, not to mention, of course, your opportunity to meet a Roman soldier.
Blwyddyn Ryngwladol Tabl Cyfnodol yr Elfennau Cemegol y Cenhedloedd Unedig: Awst – Arsenig Julian Carter & Jennifer Gallichan, 21 Hydref 2019 I barhau â Blwyddyn Ryngwladol Tabl Cyfnodol yr Elfennau Cemegol y Cenhedloedd Unedig, rydym wedi dewis arsenig ar gyfer mis Awst.Cadw’r Bwystfilod – Arsenig a ThacsidermiMae’r anifeiliaid tacsidermi yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Amgueddfa. Daw’r gair ‘tacsidermi’ o taxis (trefnu) a derma (croen), ac mae’n golygu mowntio neu atgynhyrchu sbesimenau anifeiliaid er mwyn eu harddangos neu eu hastudio.Mae’r dechneg o greu tacsidermi wedi bod yn datblygu ers dros 300 mlynedd. Yn wreiddiol, doedd y technegau hyn ddim yn cadw’r sbesimenau’n dda iawn, a châi’r mowntiau eu colli oherwydd dirywiad neu drychfilod.Gwnaed sawl ymgais i wella dulliau cadw, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunyddiau fel perlysiau, sbeisys a halen ar ffurf powdrau, pastau a thoddiannau. Fodd bynnag, aflwyddiannus oedd y dulliau hyn ar y cyfan.Yn y 1700au dechreuodd rhai tacsidermwyr ddefnyddio cemegau gwenwynig fel mwynau arsenig neu fercwri clorid i gadw eu sbesimenau. Oherwydd eu natur wenwynig, roedd y cemegau hyn yn atal dirywiad a difrod trychfilod ac yn gwneud i’r tacsidermi bara’n hirach.Arweiniodd llwyddiant y cemegau hyn at ddatblygu triniaeth ‘sebon arsenig’ i helpu i gadw croen anifeiliaid. Roedd y sebon yn gymysgedd o gamffor, powdr arsenig, halwyn tartar, sebon a phowdr calch – fyddwn i ddim yn defnyddio hwn i ymolchi! Roedd y sebon yn galluogi i’r arsenig weithio mewn ffordd ymarferol drwy rwbio mewn i ochr isaf croen wedi’i lanhau a’i baratoi. Roedd hwn yn ddull poblogaidd iawn ac yn cael ei ddefnyddio mor ddiweddar â’r 1970au.Nid yw arsenig yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r driniaeth erbyn hyn. Mae hyn oherwydd ei fod yn wenwynig ac yn beryglus i iechyd pobl, ond hefyd oherwydd bod technegau newydd wedi’u darganfod.Elfen lwyd yr olwg yw arsenig anorganig (As, rhif atomig 33). Mae’n feteloid, sy’n golygu fod ganddo nodweddion metelig ac anfetelig. Mae pobl wedi bod yn ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd ers canrifoedd – mewn meddyginiaeth, fel pigment ac fel plaladdwr. Mae arsenig a’i gyfansoddion yn wenwynau cryf iawn, yn ddrwg i’r amgylchedd ac yn garsinogenig. Mae’n wenwynig i bethau byw am ei fod yn tarfu ar weithgarwch ensymau sy’n rhan o gylch egni celloedd byw.Yw hyn yn golygu fod ein sbesimenau tacsidermi hŷn, sy’n cynnwys arsenig, yn beryglus? Mae hynny’n bosibl os yw’r sbesimen wedi’i ddifrodi ac ochr isaf y croen yn dangos, ond ychydig iawn o risg sydd i sbesimenau cyfan cyn belled â bod camau synhwyrol yn cael eu cymryd megis gwisgo cyfarpar amddiffynnol wrth symud neu wneud gwaith ar sbesimen.Heddiw, mae’r rhan fwyaf o sbesimenau sy’n cael eu harddangos gennym yn cael eu trin heb ddefnyddio cemegau gwenwynig, ond mae mwy o risg i’r sbesimenau hyn gael eu difrodi gan drychfilod. Felly rydym yn monitro ein casgliadau er mwyn cadw golwg am arwyddion o bla trychfilod, ac yn eu trin gyda dulliau diogel a chynaliadwy megis rhewi os yw hyn yn digwydd.Ond mae’n rheswm da arall i beidio cyffwrdd y sbesimenau...
Diwrnod plannu 2019 Penny Dacey, 18 Hydref 2019 Helo Cyfeillion y Gwanwyn,Mae'n diwrnod plannu ar gyfer ysgolion yn Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon! Bydd ysgolion yn Yr Alban yn plannu wythnos nesa.Cliciwch yma ar gyfer adnoddau i'ch paratoi ar gyfer heddiw ac am ofalu amdan eich bylbiau dros y misoedd nesaf!Dylech ddarllen y dogfennau hyn:• Mabwysiadu eich Bwlb (trosolwg o’r gofal fydd angen ar eich Bylbiau)• Plannu eich bylbiau (canllawiau ar gyfer sicrhau arbrawf teg)A dylech gwblhau'r gweithgareddau hyn:• Tystysgrif Mabwysiadu Bylbiau• Creu Labelai BylbiauMae'n bwysig eich bod yn darllen y rhain oherwydd maent yn cynnwys gwybodaeth bwysig! Er enghraifft, ydych chi'n gwybod i labelu eich potiau fel mae’n glir lle mae'r Cennin Pedr a Chrocws wedi eu plannu?Cofiwch dynnu lluniau o'ch diwrnod plannu i gystadlu yn y gystadleuaeth ffotograffydd!Cadwch lygad ar dudalen Twitter Athro'r Ardd i weld lluniau o ysgolion eraill.Pob lwc! Gadewch i ni wybod sut mae'n mynd!Athro'r Ardd a Bwlb Bychan
Artists Project: Robin’s time as artist in residence Robin Bonar-Law, 17 Hydref 2019 Earlier this year I was presented with the chance of a lifetime, a paid opportunity to develop my professional career and expand my portfolio. I applied for an artist in residency with Amgueddfa Cymru - National Museum Wales, to work with their museum volunteers up and down the country, to create a project that would celebrate 10 years of the volunteering program. After a thoroughly exciting interview process, I was asked to join the team.Fast forward 6 months and my Artist Residency has now reached a close. I’m very happy with the work I have created; it showers the volunteering hub in colour and celebrates the amazing contribution volunteers have given to the museum. It fills me with joy to share my work with such an enthusiastic cohort of volunteers from all walks of life.I started designing the mural at the same time as touring the country and running creative workshops with volunteers. I had collected a long list of volunteer roles but understanding them in a way that helped me generate genuine visuals required meeting volunteers in person, visiting the sites and experiencing what they do first hand. Over a month or two, I managed to construct flowing imagery to turn into celebratory hanging banners - a design format that stood out during my research.I created the design by hand, as I feel more comfortable using traditional techniques, then started the daunting task of rendering a digital copy of the work using Adobe Illustrator. Including this step was somewhat of a learning curve for me, but it’s been a valuable experience. Having a digital copy of the design meant that we could create prints for all the museum sites and a printed gift for each of the volunteers. It also sped up the painting process because it allowed me to use a projector.Using string, pins and painters tape I divided the wall up into segments. Piece by piece I projected and copied details of the design upon the walls rough surface. The wall is made of lime rendering, which it turns out is not a very cooperative surface to paint on. It’s dry, so moisture from the paint is quickly absorbed which increases the amount of paint needed, the stroke count and the time it takes. It’s also rough, which slowly ruins brushes and pens.Once the design was cartooned upon the wall, I chose to fill in large areas using low-pressure spray paint. This part of the process saved time and had the lucky benefit of creating a smoother plastic wrap over the wall. After filling the space with basic flat shapes I used brushes and pens to add details and definition with regular acrylic paints.My goal was to create a design that was not only on brief, but functional, aesthetically pleasing and contained other layers of depth hidden below the surface. The hanging banner format is supposed to connote a sense of celebration and heraldry. The colour palette is reminiscent of the dyes used in the tapestries sewn by volunteers for Llys Llewelyn. I wanted the illustration style to be subtly influenced by welsh traditional craft and contain subtle suggestions of embroidery, slip-on cast tiles patchwork etc. I created the typeface used for the quotes contained in the artwork from some of the earliest welsh stone carvings found on a cross near Ogmore.I’d been looking forward to the painting process since the very beginning, it was long and laborious but oh-so rewarding. Despite the fact that a large percentage of my wardrobe is speckled with a rainbow of vibrant acrylic, I really enjoyed physically crafting something.I want to say the biggest thank you to everyone in the volunteering & community engagement department - especially Ffion & Haf - for checking in on me and giving me guidance and support, thank you to all the kind staff at St Fagans for making me feel welcome, thank you to the National Lottery Heritage Fund for providing the funding for this amazing opportunity, thank you to my partner Elin for driving me everywhere, but most of all the volunteers who have truly enriched my experience.The last 6 months have been the best of my life. It has been so rewarding to work in a creative role where I feel valued. I’m going to miss working at Amgueddfa Cymru. If you'd like to know more about the project as it was happening you can have a look at Robin's previous blog https://museum.wales/blog/2019-06-20/ARTISTS-PROJECT-Celebrating-10-Years-of-Volunteering/