Digwyddiad:Sinema Amgueddfa
Mae Amgueddfa Cymru yn eich gwahodd i gyfres o ffilmiau unigryw a chyfareddol o oes aur y sinema!
Ymgollwch mewn profiad sinematig o’r oes a fu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, wrth i ddarlithfa hanesyddol Reardon Smith gael ei thrawsnewid yn lleoliad o oes aur byd y ffilmiau ar gyfer noson allan cwbl unigryw.
Mae Sinema Amgueddfa yn fwy na dim ond gwylio ffilm - mae’n cyfuno sinema eiconig â pherfformiad byw, naws arbennig ac atgofion lu o’r oes a fu. Ar ôl cyrraedd, cewch eich croesawu gan dywyswyr Kitsch & Sync Collective a’ch tywys i fwynhau noson o ffilmiau clasurol, adloniant ac adrodd straeon heb ei ail.
Yn ystod Calan Gaeaf eleni, gall selogion y sgrin fawr fwynhau dwy o ffilmiau iasol mwyaf dylanwadol Alfred Hitchock, un ar ôl y llall – ‘The Birds’ a ‘Psycho’ – cyn cyflwyno’r clasur Nadoligaidd ‘Miracle on 34th Street’ ar gyfer tymor yr ŵyl, ac yna chwibanu drwy gerddoriaeth hudol ‘Singin’ in the Rain’ i groesawu 2027.
Felly beth allwch chi ei ddisgwyl?
- Cewch eich tywys i’r sinema gan dywyswyr Kitsch & Sync Collective, gyda’u perfformiad gwych yn siŵr o’ch diddanu cyn y sioe wrth iddyn nhw eich hebrwng i’ch sedd!
- Gwledd heb ei hail o oes aur y sgrin arian, gyda detholiad o ffilmiau byrion
- Rhywbeth at ddant pawb gyda phopcorn, melysion a diodydd o’n bar gwib.
- Theatr wedi’i thrawsnewid: o gerddoriaeth nodweddiadol o’r cyfnod i ddelweddau o’r amgueddfa yn ei hanterth
Os ydych chi’n chwilio am brofiad sinematig a noson llawn hud yng nghwmni ffrindiau, neu’ch bod yn awyddus i roi cynnig ar rywbeth mymryn yn wahanol yn ystod yr hydref a’r gaeaf, rydych chi’n siŵr o gael noson i’r brenin, gan fwynhau ffilmiau oesol ar y sgrin fawr mewn ffordd cwbl unigryw. Byddwn yn dangos:
31 Hydref 2026 | The Birds & Psycho (15)
13 Rhagfyr 2026 | Miracle on 34th Street (U)
27 Chwefror 2027 | Singin’ in the Rain (U)
Gwybodaeth Ychwanegol:
- Mae Darlithfa Reardon Smith wedi’i lleoli yng nghefn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’r manylion llawn, gan gynnwys gwybodaeth lleoliad a hygyrchedd, ar gael yma.
- Bydd drysau’r theatr yn agor 30 munud cyn i’r ffilmiau ddechrau.
- Bydd y ffilmiau’n cael eu dangos gyda chapsiynau Saesneg.
- Mae hwn yn ddigwyddiad eistedd i lawr. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n prynu tocyn i bob person sy’n mynychu.
- Rhaid i unrhyw blant sy’n mynychu fod yng nghwmni deiliad tocyn sy’n oedolyn.
- Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.
Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein digwyddiadau yn fwy hygyrch i bawb. Rhowch wybod os oes gennych chi unrhyw anghenion mynediad ychwanegol. Am ragor o wybodaeth am gyrraedd yr Amgueddfa, ewch i: Hygyrchedd – Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd | Amgueddfa Cymru
Mae ein rhaglen gyhoeddus yn cael ei chefnogi’n hael gan chwaraewyr Postcode Lottery.
Gwybodaeth
Credyd: IVY Promotions
Digwyddiadau perthnasol
Ymweld
Mynediad
Am Ddim
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb, ac mae mynediad i'r Amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru.
Trwy archebu tocyn diwrnod am ddim ymlaen llaw, byddwch yn derbyn gwybodaeth a diweddariadau allweddol cyn eich ymweliad, gan eich helpu i wneud y gorau o'ch profiad.
Mae’n bosibl y codir tâl am rai digwyddiadau a gweithgareddau.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Oriau Agor
Mynediad
Os yw’n well gennych chi ymweld pan ry’n ni’n llai prysur, mae llai o bobl yn yr Amgueddfa ar ôl 3pm bob dydd.
Canllaw MynediadParcio
Mae maes parcio i ymwelwyr tu ôl i’r Amgueddfa, ar Rodfa’r Amgueddfa. Mae parcio yn costio £6.50 a gall ymwelwyr talu gan ddefnyddio peiriannau yn y maes parcio.
Mae parcio am ddim i bobl â bathodyn anabledd. Mae mannau parcio i bobl anabl hefyd ar gael o flaen yr Amgueddfa, ar Heol Gerddi'r Orsedd.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Mae caffi'r Amgueddfa yn y Brif Neuadd ar agor bob dydd rhwng 10yb-4yp ac yn cynnig byrbrydau a diodydd.
Ystafell aml-ffydd
Archebwch amser yn ystafell aml-ffydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae hon yn ardal lân a thawel ar gyfer myfyrio, ystyried ac addoli.
Cofiwch fod yr ardal hon ar gyfer pobl a rhaid ei chadw'n lân.
Mae sgriniau preifatrwydd ar gael, gofynnwch i aelod o staff.
Lleoliad
Map safle
Map SafleClywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd