Trafnidiaeth
Mae’r casgliad trafnidiaeth yn cynrychioli trafnidiaeth ar dir, môr ac awyr yng Nghymru, a rhwng Cymru â llefydd eraill. Mae’r casgliad yn cynnwys gwrthrychau yn ymwneud â thrafnidiaeth a diwydiannau Cymru, yn enwedig y broses o gludo glo ar y rheilffyrdd i’w allforio. Mae maint llongau yn golygu fod trafnidiaeth y môr yn cael ei chynrychioli gan ffotograffau, paentiadau, ffilmiau a modelau.
Casgliadau nodedig:
- Offer llaw ac eiddo personol gweithwyr trafnidiaeth a morwyr.
- Modelau o rai o’r llongau oedd i’w gweld oddi ar arfordir Cymru dros y ddwy ganrif ddiwethaf.
- Paentiadau dyfrlliw, gouache ac olew o longau o bob math.
- Darnau o draciau rheilffyrdd a thramffyrdd, gan gynnwys platiau tram, rhiniogau, barrau clymu, cledrau a chadeiriau.
- Yr awyren hynaf o Gymru, y Robin Goch a adeiladwyd tua 1908.
- Casgliad o gychod gweithio bychan.
- Ffotograffau hanesyddol o reilffyrdd, dociau a llongau Cymru.
- Enghreifftiau o gerbydau ffordd a rheilffordd, gan gynnwys –
- Ail-gread damcaniaethol sy’n gweithio o locomotif Penydarren Richard Trevithick, a wnaed ym 1804, sef locomotif stêm cyntaf y byd.
- Y car cynharaf oedd yn berchen i Gymry, Benz 1900.
- Tair enghraifft o’r Gilbern, yr unig gar i gael ei gynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol yng Nghymru.