Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
39 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7
Bydd Arddangosfa Deithiol Dinas Noddfa Abertawe: Adref Oddi Cartref yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe o ddydd Sadwrn 18 Mehefin tan ddydd Sul 17 Gorffennaf 2022.
Yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn i lawer, mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 10 ac 11 Medi, gyda gwledd o gynhyrchwyr lleol, cerddoriaeth a hwyl i'r teulu cyfan.
Artes Mundi yw arddangosfa bob dwy flynedd a gwobr gelf gyfoes ryngwladol blaenaf y DU. Fel un o bartneriaid allweddol Artes Mundi 10 gyda'i bartner cyflwyno Bagri Foundation, mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn falch iawn o gyhoeddi'r rhestr fer o saith artist gweledol cyfoes rhyngwladol a phum partner lleoliad cenedlaethol ar gyfer degfed rhifyn Artes Mundi.
Ar ddydd Gwener 27 Mai cafodd tri chanfyddiad o gyfnod yr Oes Efydd a'r cyfnod ôl-ganoloesol eu cadarnhau yn drysor gan Ddirprwy Uwch Grwner Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, Mr Paul Bennett. Canfuwyd pob gwrthrych gan ddefnyddwyr datgelyddion metel, ac yn eu plith mae celc o’r Oes Efydd, broetsh arian canoloesol a chrogdlws arian gilt Tuduraidd.
Bydd arddangosfa fyd-enwog Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn, ar fenthyg o'r Amgueddfa Hanes Natur yn Llundain, yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Gwener 27 Mai gan roi llwyfan i luniau rhagorol sy’n dal ymddygiad diddorol anifeiliaid ac amrywiaeth rhyfeddol byd natur.
Ar Fai 25ain eleni fydd yr Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn dathlu ei phenblwydd yn 50oed a mae nifer o weithgareddau ar droed i ddathlu’r achlysur arbennig!