Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
37 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7
Yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i lawer, mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar 9 a 10 Medi, gyda gwledd o stondinau bwyd, cerddoriaeth a hwyl i’r teulu cyfan.
Mae Safbwynt(iau) yn gydweithrediad newydd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy'n ceisio sicrhau newid sylweddol i sut mae sector y celfyddydau gweledol a threftadaeth yn dangos amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas. Cefnogir y prosiect gan Lywodraeth Cymru fel rhan o gydymdrech i gyflawni nodau diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Mae Amgueddfa Cymru wedi caffael gwaith gan un o’r artistiaid Cymreig cyfoes mwyaf cyffrous. Mae Blod (2022), gan yr artist Cymreig Ghanaidd Anya Paintsil, yn portreadu Blodeuwedd o’r Mabinogi. Cyflwynwyd y gwaith gan y Gymdeithas Gelf Gyfoes gyda chymorth ychwanegol gan Ymddiriedolaeth Derek Williams.
Ar ddydd Sadwrn 29 Ebrill, bydd yr Amgueddfa yn dathlu croesawu Diwrnod Ymwelydd Rhif Pedwar Miliwn, a phob ymwelydd yn cael pice bach am ddim wrth brynu diod yn y caffi.
Mae Amgueddfa Cymru yn diolch i chwaraewyr y People's Postcode Lottery am eu cefnogaeth barhaus.