Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

72 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12

Dewch i fwynhau’r Sioe Rheilffyrdd Model wych yn ystod hanner-tymor

15 Chwefror 2007

Bach, mawr, go iawn neu fodel - bydd rhywbeth i bawb yn y Sioe Rheilffyrdd Model yn Amgueddfa Lechi Cymru yn ystod hanner tymor, o'r 22ain i'r 25ain o Chwefror. 

Paentio’r Maes Glo

15 Chwefror 2007
Mae bywyd glöwr wedi ysbrydoli nifer o arlunwyr dros y blynyddoedd. Yn ystod hanner tymor, bydd Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn rhoi cyfle i ymwelwyr i greu darluniau ac astudio gweithiau arlunwyr a ddylanwadwyd gan y thema, gan gynnwys rhai a weithiodd mewn maes glo eu hunain.

Cynhelir gweithdau yn Big Pit ar 19, 21 a 23 Chwefror (11:00 y  bore - 4:00 y prynhawn) er mwyn i ymwelwyr allu dysgu mwy am y diwydiant a dylunio neu paentio'u syniadau nhw eu hunain am fywyd yn y maes glo.

Yn eisiau: Gwybodaeth am byllau glo yng Nghymru ar ol 1947

15 Chwefror 2007

Mae Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru yn gobeithio cynhyrchu llyfryn â darluniau fydd yn adrodd hanes rheini ddaeth i weithio ym mhyllau glo yng Nghymru o dramor, ar ol yr Ail Ryfel Byd. Rydyn ni'n awyddus i gyfweld â chyn-lowyr yn hanu o Wlad Pwyl, Wcráin, Latfia, Yr Almaen, Yr Eidal a'r hen Iwgoslafia.

Rhaglen Gyffrous ar gyfer Hanner Tymor yn Sain Ffagan

15 Chwefror 2007

Wrth i Gymru ymbaratoi i wynebu'r tair wlad sydd yn weddill ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, paratoi at agoriad oriel newydd sbon, Oriel 1 y mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru gyda chyfres o ddigwyddiadau ym mis Chwefror sydd yn addas ar gyfer cefnogwyr brwd rygbi Cymru.

Mae gweithgareddau hanner tymor yr amgueddfa awyr agored wedi eu trefnu ynghylch beth sy'n ein gwneud ni'n falch i fod yn Gymry - thema sy'n cael sylw yn Oriel 1, fydd yn agor yn Sain Ffagan yn hwyrach yn y Gwanwyn.  

Diwrnod o ddathlu a chofio am Teilo Sant

8 Chwefror 2007

Mae dathliad blynyddol Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i nodi Diwrnod Sant Teilo yn achlysur poblogaidd ond â'r gwaith o ailgodi ac adnewyddu Eglwys Sant Teilo ar y safle yn dirwyn i ben, bydd y digwyddiad a gynhelir yn yr Eglwys ar 9 Chwefror hyd yn oed yn fwy arwyddocâol.

Nyddwch edafedd i weu stori yn Amgueddfa Wlân Cymru

30 Ionawr 2007

Mae gan Amgueddfa Wlân Cymru, sydd wedi ei lleoli yng nghanol harddwch Dyffryn Teifi oedd yn ganolfan lewyrchus i'r diwydiant gwlân, stori hudolus i'w hadrodd.  Ond wythnos yma, a hithau'n Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori (27 Ionawr - 3 Chwefror) rydyn ni'n rhoi cyfle i ymwelwyr ddweud stori am ddiwrnod yn yr Amgueddfa.