Datganiadau i'r Wasg
72 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 6 7 8 9 10 11 12
Saethyddion ledled y byd yn dewis targed Cymreig
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i gynnal Pencampwriaeth Byd Saethyddiaeth Maes
Gwefan newydd i ddatguddio ein trysorau "cudd"
Am 12 o'r gloch ar ddydd Gwener 31 Awst bydd Amgueddfa Cymru'n lansio Rhagor - gwefan newydd a fydd yn datgelu nifer o'r trysorau o gasgliadau ein saith amgueddfa genedlaethol am y tro cyntaf.
Baddonau Pen Pwll yw trysor mwyaf y genedl
Yr wythnos hon datguddiwyd hoff wrthrych y Cymry yn ystod rhaglen National Treasures gan BBC Cymru oedd yn proffilio’r eiconau mwyaf o gasgliadau Amgueddfa Cymru.
Amgueddfa Cymru’n dathlu’r ganrif gyntaf
Bu Amgueddfa Cymru'n parhau â'i dathliadau canmlwyddiant heddiw (dydd Mercher 8 Awst) drwy lansio llyfr newydd sbon sy'n darlunio uchafbwyntiau'r casgliadau cenedlaethol.
Cafodd ‘Amgueddfa Cymru - dathlu'r ganrif gyntaf' ei lansio'n swyddogol
am 12pm ar stondin Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar
faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Cerddoriaeth ar y Patio, yr olaf yn y gyfres
Bydd Band Oakdale yn cwblhau cyfres o ddigwyddiadau ‘Cerddoriaeth ar y Patio' Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru dydd Sadwrn yma (4 Awst) am 2 pm. Byddant yn dilyn dau berfformiad llwyddiannus gan Fand Tref Tredegar a Phedwarawd Jazz Graham Watkins a ddiddanodd cannoedd o ymwelwyr ym mis Gorffennaf.