Datganiadau i'r Wasg
57 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 5 6 7 8 9 10
Rhowch gynnig ar blethu rhaffau traddodiadol
Wnaethoch chi erioed feddwl sut mae rhaffau sgipio traddodiadol? Gallwch alw drai i Amgueddfa Genedlaethol y glannau drwy gydol yr wythnos i roi cynnig arni (1-4pm tan ddydd Gwener 13 Awst).
Datgelu stori anhygoel Capten Scott
Ar 15 Mehefin 1910, ymgasglodd torf fawr gyffrous a swnllyd yng Nghaerdydd i ffarwelio â llong lwythog wrth iddi adael Doc Bute. Ei throi hi tua’r de oedd y Terra Nova – i Antarctica.
Dŵr a Thân: y daith anhygoel sydd nawr i'w gweld yn Amgueddfa'r Glannau
Mae stori anhygoel dau ddyn tân a rwyfodd 75 diwrnod 20 awr ac 17 munud ar draws yr Iwerydd nawr yn cael ei hadrodd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Galw Miss Robeson!
Bydd Susan Robeson, wyres un o ymgyrchwyr hawliau sifil cyntaf America, Paul Robeson, yn ymweld â Big Pit ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf i siarad am berthynas ei thaid â Chymru ac i gyflwyno darllediad arbennig o’r ffilm ‘The Proud Valley’, a leolir mewn cymuned lofaol yng Nghymru.
Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn adlewyrchu ar ddyfodol diwylliant yng Nghymru wrth adael
Bu Michael Houlihan, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru sydd ar fin gadael i ddechrau swydd newydd yn Seland Newydd, yn adlewyrchu ar ei amser fel pennaeth y corff drwy ddarlithio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd heno (14 Gorffennaf 2010).
Wedi saith mlynedd yn y rol allweddol yma, bydd Mr Houlihan yn gadael yn yr wythnosau nesaf i ymgymryd a'r swydd fel Prif Weithredwr Amgueddfa Seland Newydd Te Papa Tongarewa. Cyhoeddodd Amgueddfa Cymru'n gynharach yr wythnos hon bod David Anderson, Cyfarwyddwr Addysg a Dehongli Amgueddfa Victoria and Albert wedi ei apwyntio fel ei olynydd.