Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

79 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14

Allech CHI helpu i ofalu am ddeinosoriaid, campweithiau artistiaid mwya’r byd a phwll glo?

25 Mehefin 2015

Deinosor cigysol 200 miliwn oed o Gymru; gwerth 500 mlynedd o baentiadau o safon rhyngwladol; crwban môr cefn lledr mwya’r byd; y casgliad mwyaf o emwaith a ganfuwyd unrhyw le yn Ewrop Rufeinig; craig a gasglwyd o’r lleuad gan griw Apollo 12, a phwll glo sy’n dal i weithio.

Cregynbysgod trofannol yn fygythiad i fywyd gwyllt Prydain

25 Mehefin 2015

Mae arbenigwyr Amgueddfa Cymru yn rhybuddio y gall rhywogaethau deufalfog (fel  cregyn bylchog a wystrys) sydd wedi’u canfod ar arfordir Prydain ac Iwerddon yn ddiweddar gael effaith andwyol ar fywyd gwyllt morol.

Canfod trysor ger Bronington, Wrecsam

18 Mehefin 2015

Datgan celc o aur ac arian o ddiwedd yr oesoedd canol yn drysor

Dan Gyfaredd Gwlân

12 Mehefin 2015

Mae Amgueddfa Wlân Cymru, yng nghalon dyffryn Teifi, yn falch o groesawu arddangosfa newydd sbon – Dan Gyfaredd Gwlân – fydd i’w gweld tan 30 Mehefin.

Canfod deinosor Cymreig newydd ger Caerdydd

9 Mehefin 2015

Arddangos y deinosor Jwrasig cigysol cyntaf i’w ganfod yng Nghymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Cofnod Dyddiadur: Cyfarfod Agored Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

8 Mehefin 2015

Yng Ngwesty y Seiont Manor, Llanrug ger Caernarfon

10.45am-1pm, Dydd Iau 18 Mehefin 2015