Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Caiff Amgueddfa Cymru ei chydnabod yn sefydliad ymchwil annibynnol (IRO) gan Ymchwil ac Arloesedd y DU. Mae’n cynnwys saith amgueddfa o bwys ledled Cymru, yn ogystal â’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol yn Nantgarw sy’n storio miloedd o wrthrychau diddorol nad ydynt yn cael eu harddangos yn gyhoeddus.
Mae’r gwahanol leoliadau yn cyfuno i greu Amgueddfa aml-ddisgyblaethol unigryw, sy’n ein galluogi i ddefnyddio ein casgliadau i ymchwilio i ystod eang o bynciau, gan gynnwys daeareg , botaneg a sŵoleg , hanes cymdeithasol , archaeoleg , diwydiant , celf , casgliadau , addysg , a llyfrgelloedd ac archifau – yn syml, ymchwil ar wyddoniaeth, hanes a diwylliant Cymru a thu hwnt.
Mae Amgueddfa Cymru yn aelod o IROC, sef Consortiwm y DU o sefydliadau ymchwil annibynnol, sy’n cyfarfod yn rheolaidd ac sy’n gweithio i wella’r berthynas ymchwil ymysg y sefydliadau sy’n aelodau o’r consortiwm a’u perthynas â’r cyhoedd, cyllidwyr ymchwil a rhanddeiliaid eraill.
Mae ymchwil yn greiddiol i’n gwaith fel amgueddfa genedlaethol. Rydym yn gwneud cyfraniad allweddol i ysgolheictod ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol yn ein meysydd arbenigol allweddol. Ein bwriad yw defnyddio ein hymchwil i feithrin poblogaeth hyddysg a chwilfrydig ac i ddatblygu cymdeithas gref a ffyniannus yng Nghymru a thu hwnt.
Drwy ein hymchwil rydym yn sicrhau bod ein rhaglenni cyhoeddus a’n harddangosfeydd yn gweithio gyda’r wybodaeth ddiweddaraf. Mae’n ein galluogi i gyflwyno ein casgliadau ar-lein at ddefnydd ymchwil ac addysg o bob math. Mae hefyd yn cefnogi ac yn gwella ein gwaith cadwraeth treftadaeth. Cyfraniad pwysicaf ymchwil yw cynyddu ein gwybodaeth am Gymru a’r dealltwriaeth o’r wlad a’i lle yn y byd, cynyddu ymwybyddiaeth o faterion byd-eang, a’n helpu i ateb y cwestiynau pwysig sy’n wynebu ein cymdeithas heddiw.
Drwy hyn, mae ymchwil yn cyfrannu at ein Gweledigaeth : o ysbrydoli pobl i feithrin eu hunaniaeth a’u lles; i ddarganfod, mwynhau a dysgu’n ddwyieithog a deall lle Cymru yn y byd.
Rydym yn ymchwilio drwy casglu, cofnodi, cadw, dehongli a chyflwyno gwrthrychau a gwybodaeth berthnasol, boed yn gysylltiedig â Chymru neu beidio. Mae’n gymorth i ni holi ac ateb cwestiynau allweddol sy’n wynebu Cymru a chymdeithas yn gyffredinol: