Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Mae Amgueddfa Cymru yn ymroi i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 4A Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae’r Safonau hyn yn gosod disgwyliadau pendant arnom i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd ac i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
Hyd yn hyn rydyn ni wedi adrodd yn flynyddol ar weithrediad ein Cynllun Iaith. O hyn allan, byddwn yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ein cydymffurfiad gyda’r Safonau Iaith.
Rydym ni wedi llunio Polisi Iaith er mwyn sicrhau ein bod fel corff cyhoeddus yn cydymffurfio â’r Safonau ac yn hyrwyddo’r Gymraeg.
Mae’r ddogfen hon yn nodi pa Safonau y mae’n rhaid i Amgueddfa Cymru gydymffurfio â nhw.
Bob blwyddyn, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy’n esbonio sut rydym yn cydymffurfio â’r safonau iaith, ynghyd â datblygiadau eraill ynghylch y Gymraeg a’n gwaith.
Rydym wedi cynhyrchu canllawiau er mwyn defnyddio cyfieithydd ar y pryd gyda system fideogynadledda Zoom. Cawsant eu dylunio ar gyfer cyfarfodydd Amgueddfa Cymru ond mae croeso i chi eu defnyddio er mwyn hwyluso cyfarfodydd neu ddigwyddiadau dwyieithog. Cofiwch eu defnyddio law yn llaw â chanllawiau diogelwch ar gyfer Zoom.