Cod egwyddorion moesegol a pholisi ar gyfer ymchwil
Yn draddodiadol, cynnal ymholiadau a gwneud gwaith academaidd ynghylch gwrthrychau fu canolbwynt gwaith ymchwil mewn amgueddfeydd. Yn hynny o beth, rhaid wrth ethos o ofal, hygyrchedd a dehongli wrth ymdrin â gwrthrychau a sbesimenau. Mae ymchwil ar weddillion dynol hefyd yn faes ymchwil amgueddfaol allweddol y mae gofyn am ymdriniaeth foesegol benodol yn ei gylch. Rydym hefyd yn cynnal gwaith ymchwil lle bydd pobl fyw yn cymryd rhan (‘ymchwil pobl ddynol’), lle bydd y materion moesegol dan sylw yn wahanol eto. Mae’r Polisi hwn yn cwmpasu’r tair ffynhonnell ddata: gwrthrychau a sbesimenau, gweddillion dynol a phobl ddynol.
Cod egwyddorion moesegol a pholisi ar gyfer ymchwil (PDF) Ffurflen Gymeradwyo Foesegol ar gyfer Projectau Ymchwil Amgueddfa Cymru (PDF)