Ymweliadau Addysg: Telerau ac Amodau
Ymweliadau Addysg: Telerau ac Amodau
Mae pob ymweliad addysg yn cael ei werthu o dan yr amodau hyn. Darllenwch yr amodau hyn yn ofalus cyn archebu. Drwy brynu gweithdy, rydych chi’n gwneud cytundeb gydag Amgueddfa Cymru ar y telerau hyn.
Bydd yr holl gyfathrebiadau ar gyfer eich ymweliad yn cael eu hanfon drwy’r e-bost: gofalwch fod gennych fynediad i'r cyfeiriad e-bost y byddwch chi’n ei roi yn ystod y broses archebu.
Gwiriwch y neges e-bost gewch chi yn cadarnhau’ch archeb yn ofalus gan nad oes modd cywiro camgymeriadau bob amser ac nad oes ad-daliadau ar gael heblaw yn unol â'r Amodau hyn.
Os oes yna broblem ynglŷn â’ch archeb, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu adborth, cysylltwch â ni.
Ymweliadau addysg
Drwy archebu ymweliad addysg, rydych chi’n cadarnhau y bydd pob plentyn/myfyriwr 16 oed neu lai yn cael ei oruchwylio bob amser, yn unol â'r cymarebau oedolion/plant canlynol:
- Meithrin i Flwyddyn 2 (3 i 7 oed): 1 oedolyn cyfrifol am bob 6 o blant
- Blynyddoedd 3 i 6 (7 i 11 oed): 1 oedolyn cyfrifol am bob 10 o blant
- Blwyddyn 7 ymlaen (11+ oed): 1 oedolyn cyfrifol am bob 15 o blant
Bydd angen gwybodaeth ychwanegol, megis anghenion mynediad, gofynion ynglŷn ag alergeddau a dewis iaith cyn ichi ddod.
Prisiau a ffioedd prosesu
Mae'r Amgueddfa yn codi tâl am weithgareddau wedi'u hwyluso yn unig, a gallwch edrych ar y rhain ar ein gwefan: Archwilio gweithgareddau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru | Amgueddfa Cymru
Mae yna dâl am sesiynau sy'n canolbwyntio ar y cwricwlwm dan arweiniad staff yr Amgueddfa.
Ceir tri phris gwahanol (heb gynnwys TAW):
- Sesiynau o hyd at 30 munud ar gyfer hyd at 35 o ddisgyblion – £40
- Sesiynau o hyd at 1 awr ar gyfer hyd at 15 o ddisgyblion – £40
- Sesiynau o hyd at 1 awr ar gyfer hyd at 30 o ddisgyblion – £60
- Sesiynau o hyd at hanner diwrnod ar gyfer hyd at 35 o ddisgyblion – £100
Gall rhai grwpiau ag Anghenion Ychwanegol gael sesiynau am ddim.
Nid yw’r prisiau a hysbysebir yn cynnwys TAW ond gall y rhan fwyaf o ysgolion hawlio hyn yn ôl oddi wrth eu Hawdurdod Lleol.
Gellir talu â cherdyn credyd adeg archebu neu drwy gyfrwng anfoneb. Bydd ein Hadran Gyllid yn anfon anfoneb i'ch ysgol ar ôl eich ymweliad.
Ar ôl ichi dalu, wnawn ni ddim cynyddu pris eich tocynnau. Gall y prisiau a ddangosir ar y wefan newid heb rybudd.
Polisi Canslo a Diwygio
Rhaid ichi roi gwybod inni cyn gynted â phosibl os oes angen ichi newid neu ganslo’ch ymweliad.
Gall gweithgareddau wedi'u hwyluso sy’n cael eu canslo gyda llai nag wythnos o rybudd arwain at ffi weinyddol o £50.
Bydd grwpiau sy’n canslo gweithgaredd ar ôl 10am ar y diwrnod, a grwpiau sy'n cyrraedd yn hwyr neu'n methu eu sesiwn, yn gorfod talu pris llawn y sesiwn. Ar ben hynny, gall unrhyw newidiadau yn yr archeb neu ganslo’r archeb arwain at ffi weinyddol o £25.
Os bydd yr Amgueddfa yn canslo gweithdy, byddwn ni’n ceisio cysylltu â chi (drwy neges e-bost i'r cyfeiriad e-bost sydd wedi’i roi yn eich archeb) ymlaen llaw i drefnu tocynnau gwahanol. Edrychwch ar eich mewnflwch e-bost cyn teithio i'r Amgueddfa er mwyn osgoi siwrnai ddiangen os bydd hyn yn digwydd.
Sylwch na fydd costau teithio neu lety yn cael eu digolledu os bydd digwyddiad neu weithgaredd yn cael ei ganslo neu ei aildrefnu ar gyfer dyddiad arall.
Eich Data
Gall y data rydyn ni’n ei gasglu i gyflawni’ch archeb gynnwys eich enw, eich cyfeiriad dosbarthu, eich cyfeiriad e-bost, eich rhif ffôn a rhifau cerdyn debyd a/neu gerdyn credyd. Dydyn ni ddim yn cadw unrhyw wybodaeth am eich cerdyn credyd neu ddebyd.
Efallai y byddwn ni’n gofyn am ddata ychwanegol ynglŷn â’r digwyddiad penodol neu’n gofyn ichi ateb amryw o gwestiynau cyffredinol amdanoch chi'ch hun, gan gynnwys unrhyw weithgareddau neu ddigwyddiadau y mae gennych ddiddordeb ynddyn nhw er mwyn i’ch ymweliad a hyrwyddiadau yn y dyfodol gael eu teilwra i gynnwys y meysydd a allai fod o ddiddordeb i chi.
Mae ein polisi preifatrwydd llawn i’w weld yma
Mae gennym ni hawl i adolygu a diwygio'r Amodau hyn o bryd i'w gilydd i adlewyrchu newidiadau yn amodau'r farchnad sy'n effeithio ar ein busnes, newidiadau mewn technoleg, newidiadau mewn dulliau talu, newidiadau yn y deddfau a’r gofynion rheoleiddiol perthnasol a newidiadau yng ngalluoedd ein system.