Cydweithio i drwsio Una
, 26 Ionawr 2026
Mae Una wrthi'n cael ei thrwsio yn Boston Lodge, gweithdai peirianyddol Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri. Ym mis Rhagfyr a Ionawr, fu grŵp o wirfoddolwyr draw i helpu efo’r gwaith!
Adeiladwyd Una ym 1905 gan gwmni Hunslet o Leeds a bu’n gweithio yn Chwarel Mhen-yr-Orsedd tan tua 1960, yn cael ei defnyddio’n bennaf i gludo wagenni o rwbel y tu mewn i’r Chwarel. Yn anffodus methodd ei phrofion perfformiad ychydig flynyddoedd yn ôl ac mae wedi gorfod aros yn segur ers hynny oherwydd rheolau iechyd a diogelwch, er mawr siom i staff ac ymwelwyr.
Fu'r cyfle i helpu gyda'r gwaith atgyweirio yn rhan o'r cydweithrediad rhwng Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac Amgueddfa Lechi Cymru - oedden ni'n gwybod byddai pobl yn neidio ar y cyfle i fod yn rhan o stori Una!
Dros ddau benwythnos, helpodd sawl gwirfoddolwr i ‘sandio’, crafu, glanhau a pharatoi darnau metel oddi ar Una, yn barod i'w ail-baentio. Mae hyn yn rhan hanfodol o adfer Una a sicrhau bod yr injan stêm yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, gan fod paent ffres yn helpu i amddiffyn y metel.
"Mae'r diwrnod a dreuliais yn gweithio ar Una wedi fy arwain at ddilyn y cyfle i wirfoddoli ar brosiectau eraill o fewn Safle Treftadaeth Lechi Gogledd-orllewin Cymru... Fe wnes i fwynhau'r diwrnod yn fawr"
- David, gwirfoddolwr
Diolch yn fawr i bawb ddoth draw i Finffordd ar ddyddiau oer gaeafol i helpu ni efo Una. Braf oedd cael rhannu hanes yr injan stêm bach, a gweld eich brwdfrydedd.
Wrth i'r gwaith barhau ar Una, rydym yn gobeithio cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ymgysylltu â'r daith! Ymunwch â'n rhestr bostio i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd diweddaraf:
Tanysgrifiwch i'r rhestr bostio
Ariennir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU drwy Gyngor Gwynedd fel rhan o brosiect Llewyrch o'r Llechi, Llywodraeth Cymru gan gynnwys y Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol, Sefydliad Wolfson a Sefydliad Garfield Weston a chyllidwyr eraill. Rydym yn hynod ddiolchgar i'n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth.