: Oes y Cerrig a Phobl Cynnar

Beddrodau Oes y Cerrig yn ne-ddwyrain Cymru

14 Mai 2007

Blaengwrt a siambr  Castell Carreg (Bro Morgannwg).

Blaengwrt a siambr Castell Carreg (Bro Morgannwg). Gellir ymweld â siambr y gofeb drawiadol hon a adeiladwyd yn null Cotswold-Severn heddiw. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

Adluniad dychmygol o seremoni gladdu yng Nghastell Carreg, gan Alan Sorrell.

Adluniad dychmygol o seremoni gladdu yng Nghastell Carreg, gan Alan Sorrell.

Plan o feddrod Gwernvale (Powys).

Plan o feddrod Gwernvale (Powys). Mae'r plan hwn o'r beddrod yn nodweddiadol o'r math Cotswold-Severn, ond yn yr achos hwn, nid oes modd cyrraedd y siambrau drwy'r blaengwrt, ond yn hytrach o ochrau'r beddrod.

Powlen o'r Tŷ-Isaf (Powys). 24.6cm (9.8 modfedd) mewn diamedr. Cafwyd hyd i'r bowlen syml hon mewn darnau ac mae'n fwy nodweddiadol o nwyddau claddu'r cyfnod.

Powlen o'r Tŷ-Isaf (Powys). 24.6cm (9.8 modfedd) mewn diamedr. Cafwyd hyd i'r bowlen syml hon mewn darnau ac mae'n fwy nodweddiadol o nwyddau claddu'r cyfnod.

Mae beddrodau'r Oes Cerrig yn gymharol gyffredin yng Nghymru. Mae'r henebion 6,000 oed hyn yn cynnwys un siambr neu fwy wedi eu hadeiladu o gerrig anferth (megalithau). Byddai'r rhain o dan orchudd o bridd neu gerrig yn wreiddiol, ond anaml iawn mae hyn yn goroesi.

Gwnaed llawer o'r beddrodau hyn yn ôl dyluniad cyffredin, ac yn ne-ddwyrain Cymru mae hyn yn aml ar ffurf twmpath trapesoid, gyda'r pen lletaf yn pwyntio tua'r dwyrain ac yn agor i flaengwrt. Mae llwybrau byrion yn arwain at y siambrau mewnol o'r blaengwrt neu ochrau'r twmpath.

Mae'r dyluniad hwn i'w weld ledled ardal y Cotswolds (Lloegr), ac ar lanau afon Hafren, a hyn sy'n gyfrifol am yr enw archaeolegol y beddrodau sef Cotswold-Severn.

Mae gwaith cloddio ar y beddrodau hyn fel yr un yn Gwernvale (Powys) wedi dangos bod rhai ohonynt wedi cael eu hadeiladu dros ben setliadau cynharach, gan awgrymu y bu'n bwysig claddu'r meirw ar dir a fu ym meddiant y byw yn ystod y cyfnod hwn.

Yn Pipton a'r Tŷ-Isaf (y ddau ym Mhowys), mae archaeolegwyr wedi darganfod bod rhai beddrodau wedi cael eu hadeiladu fesul tipyn, gan ymgorffori cofeb lai i un mwy o faint yn aml iawn.

Mae rhai o'r cofebion lle digwyddodd hyn yn anferth — er enghraifft, mae Penywyrlod, Talgarth (Powys), yn mesur 60m x 25m x 3m (65 x 27 x 3.2 llathen) i fyny — ac mae'n debygol mai bwriad y tai mawr hyn i'r meirwon oedd hawlio tir, gan bwysleisio i bobl oedd yn pasio bod y tir wedi'i feddiannu.

Ar ôl eu hadeiladu, byddai'r beddrodau Cotswold-Severn yn cael eu defnyddio am genedlaethau. Er enghraifft, cafodd cyrff eu claddu ym Mharc le Breos Cwm (Gŵyr) am dros bum can mlynedd. Mae'r safle yn rhoi cip i ni ar ddefodau claddu'r beddrodau hyn, ac mae'n debyg i rai cyrff gael eu cadw y tu allan i'r beddrod nes eu bod wedi pydru rhywfaint — arfer digon erchyll i ni heddiw, ond mae'n debyg iddi fod yn ran cyffredin o'r ddefod gladdu ar y pryd.

Adeg eu gadael, roedd y beddrodau Cotswold-Severn yn aml yn dal gweddillion nifer fawr o bobl. Ym Mharc le Breos Cwm, ffeindiodd archaeolegwyr dros 40 o gyrff, ac yn Nhŷ-Isaf a Castell Carreg (Bro Morgannwg) ffeindiwyd dros 30 a 50 yn ôl eu trefn.

Mae natur ddarniog y cyrff hyn yn awgrymu nad y gladdedigaeth unigol oedd yn bwysig i adeiladwyr y beddrodau, ond creu pentwr esgyrn teuluol.

Prin iawn yw'r nwyddau claddu a geir yn y beddrodau hyn — ychydig o botiau drylliedig a llond dwrn o offer fflint ar y mwyaf. Mae'n debygol y byddai'r seremoni i anrhydeddu'r meirwon yn digwydd y tu allan i'r siambrau eu hunain.

Mewn cyfuniad, y nwyddau claddu prin hyn, yr esgyrn a'r beddrodau eu hunain yw un o'r prif ffynonellau gwybodaeth am fywyd a marwolaeth yn ne-ddwyrain Cymru yn ystod y cyfnod anghysbell hwn.

Darllen Cefndir

The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006.

The megalithic chambered tombs of the Cotswold-Severn region by T. C. Darvill. Vorda Publications (1982).

Glud hynafol o Burry Holms, Gŵyr

14 Mai 2007

Pen saeth

Pen saeth yn dangos rhesi o adfachau cerrig, a elwir yn ficrolithau, wedi'u gosod yn y goes. Defnyddid pennau saethau â blaenau microlith yng Nghymru rhwng 9000 a 4000CC.

Microlith

Microlith (yn llai na 40mm [1.6 modfedd] o hyd) a ddarganfuwyd ar Burry Holms. Gellir gweld y smotiau o dar ar waelod y llun.

Dar rhisgl y fedwen

Llun o smotyn o dar rhisgl y fedwen a dynnwyd gyda chymorth microsgop sganio electron. Ymddengys y cafodd y tar ei dwymo rywbryd neu'i gilydd, gan roi iddo wedd wydrog.

Er nad oes cysylltiad amlwg rhwng gwyddoniaeth yr unfed ganrif ar hugain a gwrthrychau 11,000 o flynyddoedd oed, mae gwaith ymchwil yn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru yn dal i ddangos sut y gall yr hen elwa ar y newydd.

Yn ystod y cyfnod Mesolithig (9200-4000CC), tryferi a gwaywffyn oedd dewis arfau helwyr-gasglwyr Cymru. Defnyddiwyd yr arfau hyn i hela ceirw ac i drywanu pysgod, dwy ffynhonnell hollbwysig o fwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Câi'r tryferi a'r gwaywffyn hyn eu gwneud o bren, asgwrn neu gorn carw, ac i lawr eu hochrau gosodid rhesi o adfachau cerrig, a elwir yn ficrolithau. Dros y canrifoedd, mae'r coesau pren ac asgwrn wedi pydru gan adael y microlithau cerrig yn unig yn wrthrychau i'w darganfod gan archaeolegwyr.

Cafwyd hyd i gannoedd o'r microlithau hyn yng Nghymru, ond nid oes yr un ohonynt wedi bod o gymorth i ateb y cwestiynau canlynol: Sut y gosodwyd y microlithau'n sownd yn eu coesau? Beth oedd yn eu rhwystro rhag cwympo allan?

Hynny yw, dim un hyd nes y cafwyd hyd i enghraifft ac arno smotiau microsgopig ar ei wyneb, wrth gloddio ar Burry Holms yng ngorllewin Gŵyr.

Aed â'r microlith hwn i Brifysgol Caerdydd er mwyn ei osod dan ficrosgop sganio electron oedd yn caniatáu astudiaeth fanwl o'r smotiau, a modd i baratoi proffil cemegol ohonynt.

Dangosai'r canlyniadau mai tar rhisgl y fedwen, yn ôl pob tebyg, yw'r smotiau arwynebol, resin gludiog a ddefnyddid fel glud. Gwyddys am y defnydd o dar rhisgl y fedwen o safleoedd Mesolithig ledled Ewrop, ond dyma'r tro cyntaf iddo gael ei gofnodi yng Nghymru - cipolwg ar dechnoleg ein cyndeidiau na fyddai wedi dod i'r fei oni bai am gymorth gwyddoniaeth gyfoes.

Darllen Cefndir

'Identification of hafting traces and residues by scanning electron microscopy and energy-dispersive analysis of x-rays' gan A. F. Pawlik. Yn Lithics in action gan E. A. Walker, F. Wenban-Smith a F. Healy. Cyhoeddwyd gan Oxbow books (2004).

'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 40, tt88-89 (2000).

'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 41, tt126 (2001).

Beddau cyntedd Oes y Cerrig yng Nghymru

14 Mai 2007

Oes y Cerrig

Bryn Celli Ddu

O ran ei gyflwr, Bryn Celli Ddu (Ynys Môn) yw un o'r beddau cyntedd gorau yng Nghymru. Llun: Cadw (Hawlfraint y Goron).

5,500 o flynyddoedd yn ôl lledaenodd diwylliant cyffredin ar hyd a lled arfordir gorllewin Ewrop gan gydgysylltu Llydaw, Cernyw, Cymru, de'r Alban ac Iwerddon.

Heddiw, mae'r dystiolaeth am y diwylliant hwn wedi goroesi ar ffurf beddau cyntedd - tomenni claddu crwn ac ynddynt dramwyfeydd wedi'u leinio â cherrig sy'n arwain i siambrau canolog.

Adeiladwyd y beddau hyn gan gymunedau amaethyddol cynnar i gadw gweddillion amlosgedig y meirw, ac fe'u defnyddid am genedlaethau. Mae'n rhaid eu bod yn dirnodau pwysig a gysylltai'r byw â'u cyndadau.

Yng Nghymru, Ynys Môn yw'r lle gorau i weld beddau cyntedd ac mae Barclodiad y Gawres a Bryn Celli Ddu, dwy enghraifft bwysig, mewn cyflwr mor dda fel bod modd caniatáu mynediad i'r cyhoedd.

Barclodiad y Gawres

Cynllun Bryn Celli Ddu

Cynllun Bryn Celli Ddu yn dangos y dramwyfa sy'n arwain i ganol y twmpath crwn.

Pan adeiladwyd Barclodiad y Gawres crëwyd un brif siambr ac, o boptu iddi, dair siambr ystlys y câi'r meirw eu gosod ynddynt. Yng nghanol y brif siambr roedd aelwyd a byddai'r tân a gyneuid yma yn goleuo'r bedd yn ystod defodau.

Er mawr syndod i'r archaeolegwyr a fu'n cloddio'r bedd, cafwyd hyd i 'gymysgedd anghynnes' o esgyrn ymlusgiaid, pysgod ac amffibiaid ar safle'r aelwyd hon. Er na chawn ni fyth wybod y rheswm am y fath gymysgedd, ceir cipolwg pwysig ar un agwedd ar ddiwylliant adeiladwyr Barclodiad y Gawres drwy astudio'r celfwaith anghyffredin sydd wedi'i naddu ar y meini sy'n leinio'r dramwyfa a'r siambr. Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys troellau a phatrymau igam-ogam dolennog anghyffredin.

O ystyried y safle hwn yn unig, gellid diystyru'r patrymau a'u priodoli i ffansi'r adeladwyr, ond ceir cerfiadau o'r math yma mewn beddau cyntedd mor bell i ffwrdd ag Iwerddon a Llydaw.

Mae rhai wedi awgrymu bod y cerfiadau, o bosibl, yn cynrychioli'r patrymau chwyrlïol a gysylltir â pherlewygon.

Bryn Celli Ddu

Maen cerfiedig y tu mewn i siambr Barclodiad y Gawres (Ynys Môn).

Maen cerfiedig y tu mewn i siambr Barclodiad y Gawres (Ynys Môn). Mae'r dull o gerfio a welir yn y bedd cyntedd hwn i'w ganfod mewn nifer o feddau yn Iwerddon.

Cafwyd hyd i faen patrymog tebyg ym Mryn Celli Ddu (Ynys Môn). Fodd bynnag, yn yr achos hwn cafwyd hyd i'r maen yn gorwedd ar ei wyneb mewn twll o dan siambr y bedd, lle mae'n rhaid y cafodd ei gladdu cyn y dechreuwyd codi'r bedd. A gafodd ei gladdu er mwyn sancteiddio'r safle, neu a gladdwyd y maen er mwyn ei guddio? - dyma ddirgelwch arall sydd heb ei ddatrys.

Nid beddau cyntedd Môn yw'r unig rai yng Nghymru. Ceir enghreifftiau eraill yng Ngwynedd a Sir Benfro, er nad yw'r rhain mewn cyflwr mor dda.

Am y beddau cyntedd mwyaf a mwyaf cymhleth, y mae'n rhaid teithio i Iwerddon. Yma, dengys safleoedd megis Newgrange a Knowth pa mor uchelgeisiol y gallai cynlluniau adeiladwyr y beddau fod.

Iwerddon

Maen addurnedig y cafwyd hyd iddo o dan Fryn Celli Ddu (Ynys Môn).

Maen addurnedig y cafwyd hyd iddo o dan Fryn Celli Ddu (Ynys Môn). 1.5m (4.9 troedfedd) o uchder. Mae'r patrymau chwyrlïol ar y garreg hon yn nodweddiadol o gelfwaith beddau cyntedd.

Yn Knowth, gerllaw'r bedd canolog, ceir mynwent ac ynddi o leiaf 18 o enghreifftiau llai, ac yn Newgrange aliniwyd y dramwyfa yn union ar linell codiad yr haul ganol gaeaf (Alban Arthur) gan y peirianwyr medrus a'i cododd.

Yn y mannau hynny lle ceir beddau cyntedd, maent i gyd ychydig yn wahanol o ran eu cynllun. Eto i gyd, maent i gyd yn ddigon tebyg i'w gilydd i ddangos bod Môr Iwerddon yn dramwyfa brysur ar ddiwedd Oes y Cerrig, gyda chymunedau o Lydaw hyd yr Alban yn rhannu syniadau a dulliau o barchu'r meirw.

Darllen Cefndir

Newgrange, Co. Meath (Iwerddon)

Newgrange, Co. Meath (Iwerddon), a chylch pydew yn y blaendir. Mae bedd cyntedd adluniedig Newgrange yn un o blith nifer o feddau enfawr yn Nyffryn Boyne.[Llun © Steve Burrow].

The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006.

Barclodiad y Gawres: the excavation of a megalithic chamber tomb in Anglesey, 1952-1953 gan T. G. E. Powell a G. E. Daniel. Gwasg Prifysgol Lerpwl (1956).

Irish Passage Graves: Neolithic tomb builders in Ireland and Britain 2500 BC gan M. Herity. Gwasg Prifysgol Dulyn (1974).

'The chambered cairn of Bryn Celli Ddu' gan W. J. Hemp. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 86, tt216-58 (1931).

Beddrodau megalithig Oes y Cerrig yng Nghymru

14 Mai 2007

Beddrodau megalithig

Pentre Ifan

Pentre Ifan (Sir Benfro), un o'r beddrodau megalithig mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn wreiddiol, roedd ynghladd dan dwmpath o dywyrch a cherrig.

Yng Nghymru ceir un o'r casgliadau gorau o feddrodau megalithig yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â bod yn weledol ddramatig, mae'r henebion hyn yn ffynonellau pwysig o wybodaeth am fywyd a marwolaeth 5,500 o flynyddoedd yn ôl.

Mae tirwedd Cymru yn gyforiog o henebion. Fil o flynyddoedd yn ôl, cestyll oedd y nodweddion mwyaf trawiadol; fil o flynyddoedd cyn hynny caerau Rhufeinig oedd amlycaf, a chyn hynny, bryngaerau'r Oes Haearn. Ond yr henebion cynharaf i oroesi hyd heddiw yw beddrodau megalithig - siambrau claddu cerrig sy'n dal i greu ymdeimlad o'r gorffennol pell.

Cafodd beddrodau megalithig eu hadeiladu bron 6,000 o flynyddoedd yn ôl, ar adeg pan oedd trigolion Cymru yn byw mewn cymunedau bach, yn defnyddio offer cerrig ac yn rhoi prawf ar ddulliau hollol newydd o ffermio'r tir a chadw da byw. Heddiw, mae'r fath fywyd yn swnio'n syml ac yn ansoffistigedig o'i gymharu â'n ffordd ni o fyw. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth y beddrodau megalithig nad oedd bywyd pawb yn syml yn ystod y cyfnod hwn.

At ei gilydd, mae beddrodau megalithig Cymru ar ffurf siambrau cerrig sy'n cynnwys maen capan mawr yn gorwedd ar ben nifer o feini unionsyth. Yn wreiddiol, byddai'r rhain wedi'u gorchuddio dan dwmpath o dywyrch a cherrig. Yn fynych, roedd i bob siambr flaengwrt lle arferid cynnal seremonïau.

Maint y megalithau yw eu nodwedd amlycaf. I greu siambr Maen Ceti ym Mro Gŵyr bu'n rhaid codi un maen dros 4m (14tr) o hyd a 2m (7ft) o drwch. Mae maen capan enfawr Tinkinswood (Bro Morgannwg) yn pwyso 36 tunnell fetrig.

Gartref i gyndadau'r gymuned

Adluniad o fywyd bob dydd yng Nghymru 6,000 o flynyddoedd yn ôl

Adluniad o fywyd bob dydd yng Nghymru 6,000 o flynyddoedd yn ôl, yn seiliedig ar gloddiadau ar safle Clegyr Boia (Sir Benfro). Canolbwyntiai arferion dyddiol y rhan fwyaf o'r bobl ar dyfu cnydau, hel planhigion gwyllt a bugeilio defaid a gwartheg.

Mae'r ffaith yr aeth pobl Oes y Cerrig i'r fath drafferth i adeiladu eu beddrodau yn arwydd o'u pwysigrwydd i gymunedau'r cyfnod hwn.

Yn orffenedig, gweithredai'r beddrod fel crypt yr oes hon a châi'r siambr ei lenwi'n raddol â chyrff y meirw gyda threiglad y blynyddoedd. Mewn gwirionedd, roedd y siambr yn gartref i gyndadau'r gymuned.

Ambell un heb ei ddarganfod?

Dyffryn Ardudwy

Darlun o Ddyffryn Ardudwy (Gwynedd), gan David Gunning. Adeiladwyd y cofadail hwn fesul cam; y rhan gyntaf a godwyd oedd y siambr ar y chwith.

Ceir beddrodau tebyg i'r rhain mewn sawl rhan o Gymru. Yn ne-ddwyrain y wlad mae grŵp pwysig ohonynt i'w gael yng nghyffiniau'r Mynyddoedd Duon yn ogystal ag enghreifftiau eraill ym Mro Morgannwg. Yn ne-orllewin Cymru ceir clystyrau ohonynt yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Ond ceir y beddrodau mwyaf trawiadol ym Môn, ardal sy'n nodedig am eu niferoedd a'u hamrywiaeth.

Y beddrodau hyn yw'r ychydig sydd wedi goroesi'r gwaith o glirio'r tir i ateb gofynion byd amaeth, a'r ysbeilio a fu er sicrhau cyflenwadau o gerrig adeiladu - yn ddiau, roedd mwy o lawer yng Nghymru ar un adeg ac mae'n bosibl fod ambell un heb ei ddarganfod.

Darllen Cefndir

Maen Ceti

Maen Ceti, ar Benrhyn Gŵyr. Roedd gosod maen capan enfawr y siambr hon ar ben nifer o feini unionsyth llai yn un o gampau peirianyddol mawr Oes y Cerrig.

The Tomb Builders: In Wales 4000-3000BC gan Steve Burrow. Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2006.

Megalithic tombs and long barrows in Britain gan F. Lynch. Shire Publications (1997).

Pen brysgyll Maesmor - un o gampweithiau Oes y Cerrig

14 Mai 2007

Pen brysgyll Maesmor.

Pen brysgyll Maesmor.

Wedi'i ddarganfod yn 1840, arferid credu bod y gwrthrych hwn naill ai'n forthwyl aberthol Archdderwydd, neu'n frysgyll rhyfel a oedd yn eiddo i bennaeth Celtaidd.

Manylyn o'r cerfwaith ar ben brysgyll Maesmor, sy'n dangos nam anghyffredin yn y cynllun, sef dau gwplws wedi'u torri (gweler canol y llun).

Manylyn o'r cerfwaith ar ben brysgyll Maesmor, sy'n dangos nam anghyffredin yn y cynllun, sef dau gwplws wedi'u torri (gweler canol y llun).

Pennau brysgyll

Pennau brysgyll o Gwm Ogwr (Bro Morgannwg), Y Fron (Sir y Fflint), a Thŷ'r Sger (Pen-y-bont ar Ogwr). Mae'r rhan fwyaf o'r pennau brysgyll a luniwyd tua 2500CC yn gymharol syml a diaddurn. Cafwyd hyd i enghreifftiau tebyg i hwn ledled Cymru.

Mae'n hawdd meddwl am Oes y Cerrig fel cyfnod pan oedd bywyd yn fyr, yn greulon ac yn fwystfilaidd. Mae pen brysgyll Maesmor yn brawf nad felly yr oedd hi drwy'r amser.

Arferid gweithio pennau brysgyll fel hwn tua 2500CC, cyn bod sôn am drin metel ac ar adeg pan oedd cymunedau yn ennill eu bywoliaeth drwy ffermio'r tir gyda chymorth offer cerrig.

Cafwyd hyd i nifer o bennau brysgyll yng Nghymru. At ei gilydd, fe'u darganfuwyd yn ddamweiniol, wedi i ryw weithgaredd eu dwyn i'r golwg gerllaw'r fan lle cawsant eu colli neu eu gwaredu. Fodd bynnag, fe'u ceir weithiau mewn claddiadau, gan gynnwys un enghraifft o Wiltshire y cafwyd hyd iddo ar bwys corff oedd wedi'i addurno ag addurniadau aur ac asgwrn.

Mae hyn wedi arwain at yr awgrym bod pennau brysgyll yn symbolau o rym – gwrthrychau a roddai statws i'w perchennog. Mae'n hawdd dychmygu mai dyna beth oedd y pen brysgyll hwn, oherwydd pe bai ei berchennog am gael rhywbeth i'w ddefnyddio fel pastwn yn unig, byddai wedi arbed llawer iawn o ffwdan iddo ef ei hunan drwy dyllu carreg a'i gosod ar ben coes bren.

Yn lle hynny, cymerodd ddarn mawr o gallestr wen – sydd yn anghyffredin yn Sir Ddinbych lle cafwyd hyd i'r pen brysgyll – gan ei naddu a'i braslunio. Yna, tyllwyd y garreg galed, gan ddefnyddio, yn ôl pob tebyg, ddril bwa ynghyd â llawer o ddŵr a thywod i'w helpu i greu'r twll ar gyfer y goes.

Ond y gamp oedd torri a chaboli'r ffasedau ar ochrau'r pen brysgyll er mwyn creu'r cynllun cywrain. Cyflawnwyd hyn hefyd, yn ôl pob tebyg, drwy ddefnyddio ochr dril bwa i greu'r rhigolau sy'n gorgyffwrdd â'i gilydd.

Mae'n swnio'n waith digon rhwydd ond mae'n rhaid bod gwneuthurwr y pen brysgyll hwn wedi bod wrthi am ddegau o oriau.

Y canlyniad yw pen brysgyll hardd sydd wedi goroesi mil o flynyddoedd, gwrthrych oedd yn destun edmygedd ei berchennog – efallai hynafgwr neu bennaeth cymuned, neu grefftwr cyffredin a ymfalchïai yn ei allu ef ei hun.

Pwy bynnag oedd yn berchen ar ben brysgyll Maesmor, mae'n dangos y bu adegau, hyd yn oed yn ystod Oes y Cerrig, pan gâi celfweithiau eu creu a'u gwerthfawrogi.