Microlithau o Burry Holms 11 Mai 2007 Microlithau Microlithau o Burry Holms, Gŵyr. Mae pob microlith a bortreadir yma yn llai na 50mm (2 modfedd) o hyd. Defnyddiwyd microlithau ledled Ewrop yn ystod y cyfnod Mesolithig. Mae'r cyfnod hwn yn dyddio o ddiwedd Oes yr Iâ (tua 9200CC) hyd nes y cafodd arferion amaethyddol eu cyflwyno i Gymru (4000CC). 9,000 o flynyddoedd yn ôl un o'r arfau pwysicaf a ddefnyddid i chwilio am fwyd oedd microlithau - adfachau a wnaed o gerrig a gafodd ddylanwad mawr ar fywyd yn ystod y cyfnod Mesolithig. Rhwng 9200 a 4000CC (yn ystod y cyfnod Mesolithig) roedd trigolion Cymru yn ennill eu bywoliaeth drwy hela anifeiliaid, pysgota a chasglu planhigion bwytadwy. Roedd tryferi a gwaywffyn yn arfau cyffredin a gallai'r adfachau cerrig (microlithau), oedd yn rhan annatod ohonynt, glwyfo prae ac achosi archoll ddifrifol. Câi microlithau eu cynhyrchu o lafnau fflint a châi pob un ei drin yn ofalus er mwyn creu blaen llym. Ar ei ben ei hun mae microlith yn rhy fach i achosi unrhyw niwed difrifol, ond pan gaiff dwy res ohonynt eu gosod a'u gludio ar goes gwaywffon gwnânt arf effeithiol. Rhwng 1923 a 2001 darganfuwyd dros bedwar ugain o ficrolithau ar safle Burry Holms, ynys fechan ar arfordir gogledd-orllewinol Penrhyn Gŵyr. Yma, arferai grŵp o helwyr-gasglwyr dreulio rhan o'r flwyddyn yn hela ceirw coch, yn pysgota dyfroedd afonydd cyfagos, ac yn hela cnau. Burry Holms Cloddiadau ar safle Burry Holms Er bod cloddiadau diweddar gan archaeolegwyr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi dangos nad yw coesau pren nac asgwrn arfau'r helwyr hyn yn goroesi ym mhriddoedd Burry Holms, mae gan y microlithau y cafwyd hyd iddynt stori ddifyr i'w hadrodd. Mae pennau nifer ohonynt wedi torri, gan adael ar ôl graith ddadlennol sydd, o bosibl, yn dystiolaeth o'r niwed a achoswyd ganddynt pan drawodd yr arf anifail yn ystod helfa. Yn ôl pob tebyg, byddai gwaywffyn oedd wedi torri eu cario nôl i'r gwersyll lle byddai microlithau newydd yn cael eu gosod yn lle'r rhai toredig. Yn achos ail ficrolith, sy'n cynnwys toriad gwrthdaro, y pen sydd wedi goroesi. Yn ogystal â hynny, ar wyneb y pen ceir patrwm sy'n awgrymu y bu mewn tân, rywbryd neu'i gilydd. Mae'n bosibl y cyflawnodd y microlith fflint hwn ei waith drwy ladd carw coch, ac yna goroesodd ei ben yng nghanol y cig pan gafodd hwnnw ei goginio a'i fwyta - digwyddiad tebyg heddiw fyddai dod o hyd i belen blwm mewn pastai gwningod! Darllen Cefndir Microlith yn dangos toriad gwrthdaro ar draws ei ben blaenllym (pen ucha'r llun). Mae'n bosibl y cafodd y niwed hwn ei achosi adeg yr helfa. 'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 40, tt88-89 (2000). 'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 41, tt126 (2001). Late Stone Age Hunters of the British Isles gan C. Smith. Cyhoeddwyd gan Routledge (1992).
Fflintiau o goedwigoedd Cymru 11 Mai 2007 Phil Shepherd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda rhai o'r darganfyddiadau y mae wedi eu casglu dros y 25 mlynedd diwethaf. Casgliad bach o fflintiau Mesolithig diweddarach o Gefn Rhos-gwair (Rhondda Cynon Taf); maent yn dyddio o 7500-4000CC. Casgliad o grafelli fflint o Garn-y-bwlch (Rhondda Cynon Taf). Pen saeth o Luest Wen (Rhondda Cynon Taf), yn dyddio o'r cyfnod Neolithig diweddar (3400-2500CC). Mae gwaith un gŵr wedi ein helpu ni i ddeall yn well sut fywyd oedd hi ar ucheldiroedd de Cymru yn ystod y cyfnod cynhanesyddol cynnar. Dros gyfnod o 25 mlynedd, mae'r coedwigwr Phil Shepherd wedi chwilio'n systematig am arfau fflint cynhanesyddol wrth iddo baratoi tir y Comisiwn Coedwigaeth ar gyfer plannu neu dorri coed. Yn ystod y cyfnod hwn, mae Phil wedi darganfod 1,636 o ddarnau unigol o fflint ac aeth â phob un ohonynt i'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd, fel rhodd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru. Yn 2000, enillodd Phil Wobr Darganfyddwr y Flwyddyn Tarmac yn seremoni Gwobrau Archaeolegol Prydain am ei ofal wrth sicrhau bod yr holl fflintiau y mae ef a'i gydweithwyr yn eu darganfod yn ystod eu gwaith yn cael eu cofnodi'n gywir a'u dwyn i sylw arbenigwyr. Mae llawer o'r fflintiau y mae Phil wedi eu darganfod yn rhychau'r coedwigoedd yn amrywio o ran eu hoedran o'r cyfnod Mesolithig cynnar (9200CC) hyd yr Oes Efydd (tua 2000CC). Mae cyfanswm nifer y safleoedd Mesolithig hysbys ar ucheldiroedd de Cymru wedi cynyddu'n sylweddol o ganlyniad i'w ddarganfyddiadau niferus. Yn ystod y cyfnod Mesolithig roedd yr hinsawdd yn gynhesach ac yn fwy gwlyb ac roedd cyfran helaeth o'r dirwedd dan orchudd o goed derw, llwyfain, bedw a chyll. Prin iawn fyddai'r conwydd a gysylltir â choedwigoedd Cymru heddiw. Dim ond tua diwedd y cyfnod hwn (tua 4000CC) y dechreuodd pobl ddifa'r coedwigoedd at ddibenion ffermio cynnar, ac o ganlyniad dinoethwyd llawer o'r ucheldiroedd nes y crëwyd y planhigfeydd coedwigaeth mwy diweddar. Gall darganfyddiadau ar wyneb y tir, fel y rhai y mae Phil a'i gydweithwyr yn eu ffeindio, ddarparu gwybodaeth bwysig ynglŷn â'r ffordd o fyw mewn rhannau arbennig o'r wlad. Mae pob darn yn adrodd ei stori ei hun, fel yr hanesion a groniclir gan gapsiynau lluniau'r erthygl hon. Darllen Cefndir Treasure gan R. Hobbs. Cyhoeddwyd gan Wasg yr Amgueddfa Brydeinig (2003). Prehistoric Wales gan F. Lynch, S. Aldhouse-Green a J. L. Davies. Cyhoeddwyd gan Sutton (2000).
Oesoedd Iâ a Phreswylwyr Ogofâu 11 Mai 2007 Oes yr Iâ Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yn yr ogof hon y ffeindiwyd yr olion dynol hynaf yng Nghymru, yn dyddio o oddeutu 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r cyfnod Palaeolithig yn cyfateb i'r cyfnod a elwir yn aml yn 'Oes yr Iâ'. Dyma pryd yr oedd yr hinsawdd yn pendilio rhwng cyfnodau oer iawn (a elwir yn gyfnodau rhewlifol), adegau pan oedd Cymru gyfan dan orchudd o iâ, a chyfnodau cynnes (cyfnodau rhyngrewlifol), fel y cyfnod presennol. Yn ystod hinsoddau cyfnewidiol y cyfnod Palaeolithig yr esblygodd ein hynafiaid cynnar o'u gwreiddiau yn Affrica, ymfudo ar draws Ewrop ac Asia, a datblygu'n fodau dynol modern. Yng Nghymru, daw'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth sydd gennym am fodolaeth cymunedau Palaeolithig o ogofâu. Mae'r rhain i'w canfod lle ceir calchfaen; er enghraifft, mewn rhannau o Sir Ddinbych, Bro Gŵyr a de Sir Benfro. Daw'r dystioaeth sydd gennym am fodau dynol yng Nghymru o safle Ogof Pontnewydd (Sir Ddinbych). Yma, mae cloddiadau wedi dwyn i'r amlwg weddillion ffurfiau cynnar pobl Neanderthalaidd, a oedd yn byw tua 230,000 o flynyddoedd yn ôl. Neanderthalaidd Ogof Coygan (Sir Gaerfyrddin). Ni chafwyd hyd i weddillion dynol yma, dim ond llond dwrn o offer sy'n dangos y câi'r ogof ei defnyddio dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd. Roedd pobl Neanderthalaidd yn helwyr ac mae eu hoffer yn dangos y bu'n rhaid iddynt fod yn agos i'w prae er mwyn ei ladd. Nodweddir sgerbydau Neanderthalaidd, a gloddiwyd ar hyd a lled Ewrop, gan nifer fawr o esgyrn toredig, sy'n awgrymu mai'r helwyr eu hunain a gâi eu hanafu'n wael yn aml wrth iddynt hela eu prae. Gwnâi pobl Neanderthalaidd Ogof Pontnewydd offer drwy ddefnyddio cerrig lleol a gesglid yng nghyffiniau'r ogof; mae'r rhain yn cynnwys offeryn nodweddiadol a elwir yn naddyn Levallois. I greu'r rhain, paratoir darn mawr o garreg (a elwir yn graidd) drwy guro darnau oddi ar ei hymylon. Yna, caiff un naddyn Levallois ei fwrw oddi ar y craidd parod. Gellid defnyddio hwn naill ai fel offeryn torri neu, o'i gymhwyso ryw ychydig, fel crafell. Offeryn carreg nodweddiadol arall a ddefnyddid gan bobl Neanderthalaidd oedd llawfwyell 'bout coupé' — llawfwyell o wneuthuriad da ac iddi ben gwastad yn hytrach nag un pigfain. Lawfwyeill Llawfwyeill 'bout coupé' (Ogof Coygan). Mae'r offer hyn yn nodweddiadol o dechnoleg Neanderthalaidd. Cafwyd hyd i lawfwyeill 'bout coupé' yn Ogof Coygan, Sir Gaerfyrddin, safle sydd bellach wedi'i ddinistrio gan waith cloddio mewn chwarel. Cafodd Ogof Coygan ei defnyddio fel gwylfan dros gyfnod byr gan bobl Neanderthalaidd rywbryd rhwng 60,000 a 40,000 o flynyddoedd yn ôl. Yna, bu'n ffau a ddefnyddid gan udfilod ar drothwy'r rhewlifiant diwethaf. Mae'n bosibl mai'r dirywiad hwn yn yr hinsawdd yw'r rheswm am dranc y bobl Neanderthalaidd, a ddiflannodd oddi ar wyneb y Ddaear tua 35,000 o flynyddoedd yn ôl. Dynol modern Yn 1823, darganfu William Buckland o Brifysgol Rhydychen sgerbwd yn yr ogof hon. Roedd yr esgyrn wedi'u staenio'n goch a gerllaw iddynt darganfuwyd breichledau a gleiniau cragen. Credai Buckland fod yr esgyrn yn weddillion gwraig, a oedd yn byw yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Bellach, mae gwyddoniaeth fodern wedi profi bod y ddamcaniaeth ddengar hon yn anghywir. Mewn gwirionedd, sgerbwd gŵr tua 25 oed ydoedd, a gladdwyd tua 26,000 o flynyddoedd yn ôl. Ymddangosodd bodau dynol modern, fel ninnau, am y tro cyntaf tua 60,000 o flynyddoedd yn ôl. Nodir ein hymddangosiad gan y defnydd o fath newydd o offer cerrig a wnaed o lafnau tenau, hir a dorrwyd oddi ar flocyn o gallestr. Y llafnau hyn a ddaeth yn sylfaen offer a oedd yn llawer mwy amlddefnydd ar gyfer hela, torri cig ac amrediad ehangach o weithgareddau eraill na'r rheini a ddefnyddid gan y bobl Neanderthalaidd. Datblygodd bodau dynol modern cynnar y gelfyddyd gyntaf hefyd. Mae paentiadau ogofâu o'r cyfnod hwn wedi goroesi yn Ffrainc a gogledd Sbaen — ardaloedd oedd y tu hwnt i derfynau'r rhewlifau. Ym Mhrydain, mae celfyddyd yr ogofâu yn brinnach o lawer, a'r unig enghraifft y gwyddys amdani hyd yma yw'r engrafiad o alpafr, o bosibl, yn un o ogofâu Creswell Crags (Swydd Nottingham). Twll yr Afr — Gladdfa ddynol gynharaf ym Mhrydain Mae gwaith cloddio a drefnwyd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi dangos bod pobl yn byw yn yr ogof hon tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl ac eto tua 12,500 o flynyddoedd yn ôl. Yng Nghymru, ni ddarganfuwyd hyd yn oed un enghraifft o gelfyddyd yr ogofâu, hyd yma ond cafwyd hyd i esgyrn ysgythredig a cherfiedig. Efallai mai Twll yr Afr (Gŵyr) yw'r safle mwyaf arwyddocaol i ildio'r math yma o ddeunydd. Yn yr ogof hon y darganfuwyd y gladdfa ddynol gynharaf ym Mhrydain, sy'n dyddio o oddeutu 26,000 o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith yr ogofâu eraill a feddiannwyd gan bobl yn ystod cyfnod cynnar y rhewlifiant diwethaf ceir Cae Gwyn a Ffynnon Beuno (y ddwy yn Sir Ddinbych), ac Ogof Hoyles Mouth (Sir Benfro) a ddefnyddiwyd tua 30,000 o flynyddoedd yn ôl. Wedi'r cyfnod cynnar hwn, ymestynnodd llenni iâ ar draws Cymru a rhwng 20,000 a 18,000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y rhewlifiant yn ei anterth, gorchuddiai'r iâ bobman ac eithrio rhannau mwyaf deheuol y wlad. Mae'n bosibl y gallai pobl fod wedi goroesi'r hinsawdd oer yn y mannau lle nad oedd iâ yn gorchuddio'r tir, drwy ddefnyddio crwyn anifeiliaid a thanau i'w cadw'n gynnes. Ond roedd eu prae wedi hen ymfudo tua'r de, gan eu gadael heb fwyd, ac felly cawsant eu gorfodi i'w dilyn. Tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl dechreuodd y llenni iâ araf encilio ac adfeddiannwyd Prydain gan bobl. Credir iddynt ddychwelyd tua 14,500 o flynyddoedd yn ôl, ond mae'r dystiolaeth gynharaf yng Nghymru, a ddaw o ogofâu fel Twll yr Afr a Hoyles Mouth, yn dyddio o oddeutu 12,500 o flynyddoedd yn ôl. Ar ôl diwedd y cyfnod rhewlifol diwethaf, tua 11,500 o flynyddoedd yn ôl, mae swmp y dystiolaeth am bresenoldeb pobl yng Nghymru yn cynyddu'n sylweddol ac yn newid o ran ei chymeriad. Defnyddir y dyddiad hwn i ddynodi diwedd y cyfnod Palaeolithig a dechrau'r Mesolithig. Darllen Cefndir Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales gan Stephen Green ac Elizabeth A. Walker. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1991). Background Reading Ice Age hunters: neanderthals and early modern hunters in Wales by Stephen Green and Elizabeth A. Walker. Published by the National Museum of Wales (1991).
Wedi'r Oes Iâ... 11 Mai 2007 Cyfnod Mesolithig Pentir Nab Head (Sir Benfro). Roedd pentir Nab Head yn wersyllfa dymhorol lle arferid gwneud gleiniau carreg. Llun: © Andrew David. Pan oedd y rhewlifiant diwethaf yn ei anterth, tua 20,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd Cymru yn anghyfannedd; roedd llenni iâ yn gorchuddio'r wlad gyfan ac eithrio rhannau o diroedd arfordirol y de. Adfeddiannwyd y tir gan bobl wrth i'r llenni iâ encilio, a daw'r dystiolaeth gynharaf - gwrthrychau tua 15,000 o flynyddoedd oed - am bresenoldeb pobl yng Nghymru o ogofâu. Tua 2,500 o flynyddoedd yn ddiweddarach, cynhesodd yr hinsawdd yn sylweddol ac o ganlyniad bu cynnydd ym mhoblogaeth Prydain. Yr enw a roddir ar y cyfnod hwn yw'r cyfnod Mesolithig, a barhaodd hyd nes i ddyn ddechrau amaethu'r tir tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod Mesolithig, roedd hinsawdd Prydain yn gynhesach ac yn wlypach na heddiw. Esgorodd hyn ar newidiadau i lystyfiant Cymru a datblygiad tirwedd goediog. Y goeden cyntaf Offer cerrig o Ruddlan (Sir Ddinbych). Mae pob offeryn tua 2.5cm (1 fodfedd) o hyd. Cafwyd hyd i nifer fawr o offer cerrig yn Rhuddlan yn ystod cloddiadau yn y dref ganoloesol. Y ferywen oedd y goeden gyntaf i ddychwelyd, ac fe'i dilynwyd ymhen dim o dro gan goed bedw, cyll, pin, helyg a gwern. Coed derw, llwyf a phin oedd yn nodweddu iseldiroedd ond roedd coed pin a bedw yn fwy cyffredin ar yr ucheldiroedd. Roedd y dirwedd goediog hon yn gartref i geirw coch, iyrchod, gwartheg gwyllt a moch, oll yn brae posibl ar gyfer helwyr Mesolithig. Yn wir, mae'n dra phosibl y cafodd rhannau o goetiroedd ucheldiroedd Cymru eu difa'n fwriadol er mwyn hyrwyddo tyfiant ir a phorfeydd a fyddai'n denu anifeiliaid y gellid eu hela a'u bwyta. Un o nodau eraill y cyfnod Mesolithig oedd y newid yn y math o offer yr oedd pobl yn eu defnyddio ar gyfer hela, pysgota a chasglu planhigion. Daeth offer cerrig, yn arbennig, yn llai o ran maint, a deuai offer a wnaed o lafnau carreg bach yn fwyfwy cyffredin. Burry Holms Trwyn Du (Ynys Môn). Saif safle Mesolithig Trwyn Du islaw carnedd a godwyd yn ystod yr Oes Efydd tua 2000CC. Fe'i cloddiwyd yn 1977 pan ddaeth i'r amlwg bod y safle dan fygythiad erydiad arfordirol. Cafwyd hyd i amrywiaeth o offer cerrig ar bentir Nab Head (Sir Benfro), safle yr ymgartrefodd dyn arno gyntaf tua 8600CC. Yn ogystal, wrth gloddio'r safle darganfuwyd dros 700 o leiniau carreg a blaenau driliau a ddefnyddid ar gyfer gwneud tyllau. Awgryma hyn y câi Nab Head ei ddefnyddio fel gweithdy arbennig a oedd yn cynhyrchu gleiniau. Darganfuwyd gwersyllfa arall sy'n dyddio o'r un cyfnod ar Burry Holms (Gŵyr). Ynys lanwol yw Burry Holms heddiw ond, yn ystod y cyfnod Mesolithig, roedd lefel y môr yn is o lawer ac roedd yr ynys yn fryncyn a godai uwchlaw gwastadeddau dyffryn Hafren. Mae'r codiad diweddaraf yn lefel y môr yn ganlyniad i enciliad ac ymdoddiad y llenni iâ ymhell tua'r gogledd. Wrth gloddio'r safle, ffeindiwyd i amrywiaeth o ddarganfyddiadau, gan gynnwys adfachau carreg bach (microlithau) fyddai'n cael eu defnyddio wrth hela, a llifiau bychain. Mae'n bosibl y byddai'r rhain yn cael eu defnyddidio i dorri coesau planhigion i wneud gwellt toi, cortyn, neu ffibr ar gyfer gweithio basgedi. Darganfuwyd offer tebyg iawn yn ystod gwaith cloddio yn Rhuddlan (Sir Ddinbych) ac ar safle Trwyn Du (Ynys Môn), sy'n awgrymu bod grwpiau ledled Cymru mewn cysylltiad agos â'i gilydd yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n bosibl y gallai grwpiau gysylltu â'i gilydd yn gymharol rwydd am y byddai pobl yn treulio rhan o'r flwyddyn yn teithio ar ôl anifeiliaid ac yn chwilio am ffynonellau pwysig eraill o fwyd yn ôl pob tebyg. Yn ystod misoedd cynnes yr haf, mae'n debygol y byddent yn crwydro perfedd gwlad, ond yn y gaeaf troai eu golygon tua'r arfordir neu'r dyffrynnoedd. Esgyrn anifeiliaid a physgod Aber afon Wysg (Casnewydd). Mae'n bosibl mai'r safle Mesolithig mwyaf arwyddocaol i'w ddarganfod yng Nghymru hyd yn hyn yw Goldcliff (Casnewydd). Heddiw, mae'r safle rhwng penllanw a distyll ond, tua 7,500 o flynyddoedd yn ôl, roedd ar gopa ynys fach goediog yng nghanol morfa heli. Yn ogystal â'r offer cerrig, cafwyd hyd i baill, ac esgyrn anifeiliaid a physgod ar y safle. Credir bod pysgod yn ffynhonnell fwyd bwysig i bobl y cyfnod Mesolithig. O'u gosod ar goesau gwaywffyn pren, byddai'r microlithau carreg (adfachau) yn ddelfrydol ar gyfer pysgota, tra bod tystiolaeth o Ddenmarc yn dangos y byddai pobl yn defnyddio maglau pysgod yn ystod y cyfnod hwn. O wybod bod digon o anifeiliaid i'w hela, pysgod i'w dal, a phlanhigion i'w casglu, mae'n anodd deall pam y dechreuodd y llwythi Mesolithig droi eu cefnau ar eu ffordd draddodiadol o fyw tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl. A siarad yn gyffredinol, dyma ddyddiad diwedd y cyfnod Mesolithig a dechrau'r cyfnod Neolithig, pan gymrodd ffermio lle hela, pysgota a chasglu fel y dull pwysicaf o ddigon o gynnal poblogaeth Cymru. Darllen Cefndir Late Stone Age hunters of the British Isles gan Christopher Smith. Cyhoeddwyd gan Routledge (1992).
Microlithau o Burry Holms 11 Mai 2007 Microlithau o Burry Holms, Gŵyr. Mae pob microlith a bortreadir yma yn llai na 50mm (2 modfedd) o hyd. Defnyddiwyd microlithau ledled Ewrop yn ystod y cyfnod Mesolithig. Mae'r cyfnod hwn yn dyddio o ddiwedd Oes yr Iâ (tua 9200CC) hyd nes y cafodd arferion amaethyddol eu cyflwyno i Gymru (4000CC). Microlith yn dangos toriad gwrthdaro ar draws ei ben blaenllym (pen ucha'r llun). Mae'n bosibl y cafodd y niwed hwn ei achosi adeg yr helfa. Cloddiadau ar safle Burry Holms Microlithau 9,000 o flynyddoedd yn ôl un o'r arfau pwysicaf a ddefnyddid i chwilio am fwyd oedd microlithau - adfachau a wnaed o gerrig a gafodd ddylanwad mawr ar fywyd yn ystod y cyfnod Mesolithig. Rhwng 9200 a 4000CC (yn ystod y cyfnod Mesolithig) roedd trigolion Cymru yn ennill eu bywoliaeth drwy hela anifeiliaid, pysgota a chasglu planhigion bwytadwy. Roedd tryferi a gwaywffyn yn arfau cyffredin a gallai'r adfachau cerrig (microlithau), oedd yn rhan annatod ohonynt, glwyfo prae ac achosi archoll ddifrifol. Câi microlithau eu cynhyrchu o lafnau fflint a châi pob un ei drin yn ofalus er mwyn creu blaen llym. Ar ei ben ei hun mae microlith yn rhy fach i achosi unrhyw niwed difrifol, ond pan gaiff dwy res ohonynt eu gosod a'u gludio ar goes gwaywffon gwnânt arf effeithiol. Rhwng 1923 a 2001 darganfuwyd dros bedwar ugain o ficrolithau ar safle Burry Holms, ynys fechan ar arfordir gogledd-orllewinol Penrhyn Gŵyr. Yma, arferai grŵp o helwyr-gasglwyr dreulio rhan o'r flwyddyn yn hela ceirw coch, yn pysgota dyfroedd afonydd cyfagos, ac yn hela cnau. Burry Holms Er bod cloddiadau diweddar gan archaeolegwyr Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi dangos nad yw coesau pren nac asgwrn arfau'r helwyr hyn yn goroesi ym mhriddoedd Burry Holms, mae gan y microlithau y cafwyd hyd iddynt stori ddifyr i'w hadrodd. Mae pennau nifer ohonynt wedi torri, gan adael ar ôl graith ddadlennol sydd, o bosibl, yn dystiolaeth o'r niwed a achoswyd ganddynt pan drawodd yr arf anifail yn ystod helfa. Yn ôl pob tebyg, byddai gwaywffyn oedd wedi torri eu cario nôl i'r gwersyll lle byddai microlithau newydd yn cael eu gosod yn lle'r rhai toredig. Yn achos ail ficrolith, sy'n cynnwys toriad gwrthdaro, y pen sydd wedi goroesi. Yn ogystal â hynny, ar wyneb y pen ceir patrwm sy'n awgrymu y bu mewn tân, rywbryd neu'i gilydd. Mae'n bosibl y cyflawnodd y microlith fflint hwn ei waith drwy ladd carw coch, ac yna goroesodd ei ben yng nghanol y cig pan gafodd hwnnw ei goginio a'i fwyta - digwyddiad tebyg heddiw fyddai dod o hyd i belen blwm mewn pastai gwningod! Darllen Cefndir 'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 40, tt88-89 (2000). 'Burry Holms (SS40019247)' gan E. A. Walker. Yn Archaeology in Wales, cyf. 41, tt126 (2001). Late Stone Age Hunters of the British Isles gan C. Smith. Cyhoeddwyd gan Routledge (1992).