: Dyddiadur Kate

Cyfri Kate

Sara Huws, 30 Gorffennaf 2015

Dwi'n edrych ymlaen at ein digwyddiad sgyrsiau fflach yfory - cyfle i staff o wahanol adrannau gyflwyo eu hymchwil mewn pum munud.

O ystyried amrywiaeth y disgyblaethau a'r arbenigedd sy'n bodoli 'ma (o ddaeareg gynnar i gelf modern, gofalu am esgyrn i dynnu llo...), dwi'n disgwyl dysgu rhywbeth, a'n gobeithio rhannu arfer da.

Pum Munud i Drafod Dyddiadur

Fe fydda i'n cyflwyno pum munud am @DyddiadurKate - er fod calon ymchwilydd gen i, y tîm yn Sain Ffagan sydd wedi bod yn dod â hanes Kate a'i chynefin at gynulleidfa newydd. Yn aml fe fydda i'n ymladd fy ngreddf i ymgolli mewn casgliadau a'n atgoffa fy hun mai pen hwylusydd sydd gen i - a mai fy rôl innau yw i greu gofod ar gyfer y tîm, eu hannog, a rhannu eu gwaith da ymhellach. 

Model Rhannu Casgliadau

Dwi wedi fy argyhoeddi fod model @DyddiadurKate yn un y gellir ei ddyblygu i rannu casgliadau eraill - yn enwedig y gwrthrychau cynnil hynny na fydd byth yn ennill teitl fel 'trysor' neu 'eicon'. Ond ofer fyddai mentro'r un peth eto heb ymroddiad tîm, a'r holl gynnwys cefnogol sydd gennym ar flaenau'n bysedd. 

O gronfa ddata casgliadau'r Rhyfel Mawr, i adnoddau allanol fel Papurau Newydd Cymru - a mewnbwn ein cynulleidfa - mae'r dyddiadur wedi bod yn sbringfwrdd i straeon amrywiol iawn am Gymru, a thu hwnt, gan mlynedd yn ôl.

Technoleg Gefnogol

O ran stwff nyrdlyd, technolegol, mae arferion rhannu asedau da wedi helpu, yn ogystal â phlatfform rhag-bostio, er mwyn rhyddhau'r curaduron o'r dasg ddyddiol o bostio, i greu amser iddyn nhw afael mewn pynciau perthnasol a'u hymchwilio ar gyfer y blog, neu greu cysylltiadau efo casgliadau eraill.

Y Rhife

Hyd yn hyn, mae dros 207,000 o argraffiadau wedi'u cofnodi ar y cyfri - llawer iawn mwy nag y gallen ni ei hwyluso yn gofforol, a mwy nag y gallai'r ddogfen ei ddioddef, yn gorffol, hefyd. Mae'r prosiect wedi codi traffig i flog Cymraeg yr Amgueddfa dros 800% o'i gymharu â llynedd - sy'n fy argyhoeddi mhellach o bwysigrwydd creu cynnwys gwreiddiol ar gyfer siaradwyr Cymraeg y we, i ateb galw go iawn, ac i greu cysylltiadau rhithiol ar hyd a lled y wlad, o'n swyddfa fach y tu ôl' i'r orielau celf.

Dyddiadur Kate: Anwen a’r Groes Goch

Elen Phillips, 17 Gorffennaf 2015

Yn ei dyddiadur heddiw (17 Gorffennaf), mae Kate yn crybwyll bod ei ffrind, Anwen Roberts, wedi cael "notice i gael cowpog oddiwrth y Red Cross". Heblaw am ambell gyfeiriad at gasglu arian er budd y Belgiaid, dyma'r unig gyfeiriad yn y dyddiadur hyd yn hyn at waith gwirfoddol ar y ffrynt cartref - un o nodweddion amlycaf yr ymgyrch ryfel ym Mhrydain.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, sefydlwyd bron i 18,000 o elusennau newydd ym Mhrydain ac fe welwyd ymgyrchu gwirfoddol ar raddfa heb ei debyg o'r blaen. Ynghyd ag Urdd San Ioan, roedd y Groes Goch Brydeinig yn ganolog i'r ymgyrch hon. Yn 1909, daeth y ddwy elusen ynghyd i sefydlu cynllun y Voluntary Aid Detachment (VAD), gyda'r bwriad o roi hyfforddiant meddygol i wirfoddolwyr a'u paratoi i wasanaethu gartref a thramor mewn cyfnodau o ryfel. Yn ôl ystadegau'r Groes Goch, erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf roedd 90,000 o bobl wedi cymryd rhan yn y cynllun - yn eu plith Anwen Roberts o'r Fedwarian Isaf, Llyncil, ger y Bala.

Dim ond menywod rhwng 23 a 38 mlwydd oedd â'r hawl i wirfoddoli fel nyrs VAD gyda'r Groes Goch. Yn y lle cyntaf, roedd hi'n ofynnol i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais a chael cyfweliad o flaen panel o swyddogion. Wedi hyn, roedd y rhai llwyddiannus yn cael eu galw am brawf meddygol a'u brechu rhag heintiau peryglus. Dyma oedd yn wynebu Anwen ar 17 Gorffennaf 1915 pan gafodd "cowpog" (buchfrechiad) rhag y frech wen. Yr wythnos ganlynol, cyhoeddwyd nodyn byr yn Y Cymro am ymgais Anwen ac eraill i ymuno â'r Groes Goch:

Cynnyg eu hunain - Y mae rhyw wyth neu ddeg o ferched ieuainc wedi cynnyg eu hunain i'r Red Cross. Galwyd ar Miss Mair Roberts, Brynmelyn, Talybont, a Miss Anwen Roberts i gael arholiad feddygol i Lerpwl y dydd o'r blaen. Ni chawsant wybod y canlyniad eto. [Y Cymro 21 Gorffennaf 1915]

Mae tystiolaeth yn Amgueddfa ac Archifau'r Groes Goch ym Moorfields, Llundain, yn cadarnhau fod Anwen wedi llwyddo yn yr arholiad meddygol. Ymysg y dogfennau sydd ar gof a chadw yno mae casgliad pwysig o gardiau indecs sy'n cofnodi manylion personol nyrsys VAD o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar hyn o bryd, mae'r rhain yn cael eu trawsgrifio, fesul llythyren, gan wirfoddolwyr. Gallwch weld cyfran helaeth ohonynt ar wefan y Groes Goch.

Er nad yw manylion Anwen ar y wefan eto, mae staff y Groes Goch wedi bod yn chwilota'r archif ar ein rhan. Mae'r wybodaeth ar gardiau gwasanaeth Anwen (mae tri cherdyn i gyd) yn hynod ddiddorol ac yn anarferol o amrywiol. Ar ôl cwblhau'r meini prawf, bu'n gweithio o Hydref 1915 tan Ragfyr 1917 mewn ysbyty milwrol yng Nghasnewydd “Mil. Hosp. Newport, Cardiff" yw'r union eiriau ar gefn y cerdyn cyntaf. Cangen Casnewydd o'r 3rd Western General Hospital oedd yr ysbyty dan sylw. Roedd pencadlys yr ysbyty hwn yng Nghaerdydd, ar Ffordd Casnewydd fel mae'n digwydd.

Mae'r ail gerdyn yn dangos fod Anwen yn derbyn cyflog o £20 y flwyddyn o Dachwedd 1916 ymlaen. Fel rheol, roedd nyrsys VAD yn gweithio'n wirfoddol mewn ysbytai ymadfer (auxiliary hospitals). Ond yn Chwefror 1915 fe ganiataodd y Swyddfa Ryfel i rai, fel Anwen, weithio mewn ysbytai milwrol o dan oruchwyliaeth nyrsys proffesiynol a derbyn cyflog am eu gwasanaeth.

Mae'r cerdyn olaf yn dangos ei bod hefyd wedi gwirfoddoli mewn ysbyty ymadfer yn nes at ei chartref ym Meirionnydd. Ym Mehefin 1917 agorwyd ysbyty yn Neuadd Palé ger Llandderfel, a bu Anwen yn gwasanaethu yno o Awst 1917 tan Orffennaf 1918. Am gyfnod, roedd hi'n gweithio yn Llandderfel a Chasnewydd ar yr un pryd.

Os hoffech ddarganfod mwy am waith y Groes Goch yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, mae adnoddau gwych ar wefan y mudiad, gan gynnwys rhestr o'r holl ysbytai ymadfer a agorwyd ym Mhrydain. Mae llu o wrthrychau a delweddau perthnasol yn y casgliad yma yn Sain Ffagan hefyd. Ewch draw i'r catalog digidol i ddarganfod mwy.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

@DyddiadurKate - Pobi Bara Ceirch

Mared McAleavey, 6 Gorffennaf 2015

Dros y chwe mis diwethaf, ceir sawl cyfeiriad gan @DyddiadurKate am bobi bara ceirch:

   23 Chwefror: “Pobi bara ceirch y boreu.”

   23 Mawrth: “Bobi bara ceirch y boreu.”

   26 Mai: ”Pobi bara ceirch y boreu.”

   7 Mehefin: “Pobi bara ceirch yn y boreu.”

Ddoe, bu hi’n “Pobi bara ceirch dros y cynheuaf.”

Mae gwneud bara ceirch yn hen grefft sy’n perthyn i’r  Alban, Lloegr, Cymru ac Iwerddon. Er bod ‘na fân amrywiaethau rhwng y gwledydd, a hyd yn oed rhwng siroedd ac ardaloedd o fewn yr un wlad, yr un ydi’r grefft yn ei hanfod – creu toes allan o gymysgedd hynod o syml o flawd ceirch a dŵr, ei lunio’n dorthau, a’u crasu.  Y gamp oedd creu torth denau, gron gyda’i hymyl mor llyfn â phlât. Eto i gyd, ni chyfrai Kate hyn yn grefft:

“oedde ni’m yn gyfri o’n grefft nag o’dd e nachos o’e ni ‘di ca’l y magu iddo fo doedden. Mi fydde Mam yn gneud y chi, ie, o Nain yn gneud, dene o’n i weld erioed ‘n te.”

Yn ôl y dystiolaeth a gasglwyd, mae’n debyg fod ‘na ddau ddull gwahanol o lunio bara ceirch yng Nghymru – un oedd dal yn bodoli yn sir Feirionnydd yng nghyfnod gwaith maes Minwel Tibbott (ac oedd yn nodweddiadol o ogledd Cymru), a’r llall oedd yn perthyn i siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi.

Dyma rysáit o ardal Y Bala a gofnodwyd gan Minwel yn ei chasgliad o ryseitiau traddodiadol, Amser Bwyd:

llond cwpan wy o ddŵr claear

hanner llond llwy de o doddion cig moch

tua thri llond dwrn o flawd ceirch

Toddi’r saim yn y dŵr a gollwng y blawd ceirch iddo yn raddol gan dylino’r cymysgedd yn does meddal.

Taenu ychydig o flawd ceirch ar fwrdd pren, rhoi’r toes arno a’i foldio rhwng y ddwy law i ffurf ‘cocyn’ bychan.  Yna ei ledu â chledr y llaw a’i ffurfio’n dorth gron o dua maint soser go fawr.

Yn awr defnyddier rholbren i yrru’r dorth, ac wrth ei gyrru ei lletroi bob hyn a hyn, sef rhoi rhyw chwarter tro iddi ar y bwrdd, gan wasgu ymyl y dorth â blaen bysedd y llaw dde i’w rhwystro rhag cracio.

Rhoi’r dorth derfynol (o’r un maint â phlât cinio go fawr) o’r neilltu i galedu rhyw gymaint cyn ei chrasu.

Crasu’r dorth ar radell weddol boeth a’i throi i’w chrasu’n gyson ar y ddwy ochr.  Yna rhoi’r dorth i sychu a chaledu mewn lle cynnes.

Paratoid ail fath o fara ceirch yn siroedd y Gogledd, sef bara caled. 'Doedd y rhain ddim yn cynnwys saim, dim ond dŵr a blawd ceirch. Prif reswm gwneud y bara ceirch yma ym Meirionnydd oedd i baratoi siot. Yng ngeiriau Kate: “Ca’l y bara a’i falu o’n te ac wedyn ca’l y malwr ‘te – peth pwrpasol o’ hwnnw eto’n te yn Tŷ Hen. Rhywbeth fel rholbren ond bo ne ricie yn ‘o fo er mwyn i’r bara dorri’n fân wychi’n te … A roi o yn y fywlen a llaeth enwyn am i ben o a’i gymysgu o. Ma’ rhai’n licio fo ‘di adel o am dipyn ‘te a lleill yn licio fo’n syth.” Byddent yn ei fwyta “o flaen ‘i te bob amser bron … ‘im yn geua w’rach ‘n te ‘chos o rai chi dw’mo llaeth enwyn yn gûa’n bydde.”

Yn ystod misoedd yr haf arferid ei gario allan i'r caeau adeg y cynhaeaf fel byrbryd rhwng prydau i'r gweithwyr, ac roedd plant yn hoffo'i gario i'r ysgol ar gyfer eu cinio yn yr haf. Yn ôl tystiolaeth y gwragedd a holwyd, ‘doedd dim yn well i dorri syched ar ôl treulio oriau yn y cae gwair. Atega Kate, “pan fydde c’nûa [cynhaeaf] yn ‘i anterth o ni’n mynd â ryw tamed chwech i’dd n’w’n ‘te. ‘Dyn welish i gal siot ne fynd ag uwd w’rach ‘n ‘te.”

Bu’r grefft o yrru bara ceirch bara tan hanner cyntaf yr 1900au. Ond erbyn y cyfnod hwn, moethyn i’w fwyta yn achlysurol oedd o, yn hytrach na bara bob dydd. Y dull mwya cyffredin o fwyta’r bara ceirch hwn yn siroedd gogledd Cymru oedd rhoi darn o dorth geirch unai rhwng dwy frechdan wen neu wyneb yn wyneb ar un frechdan wen.  Amrywiai’r enwau a roddid ar y rhain, e.e., ‘brechdan gaerog,’ ‘brechdan linsi,’ brechdan fetal,’ ‘piogen’ a ‘pioden’. I gloi gyda geiriau  Kate unwaith eto: “Fydde ar y bwr’ bob pryd yn yr amser o’n i’n bodoli amser honno ‘te a’u bwyta o fewn brechdan … bechdan geurog … ‘s’licio cal un heno …”

@DyddiadurKate - Golchi Gwrthbannau

Mared McAleavey, 22 Mehefin 2015

Yn ei dyddiadur heddiw, cyfeiria @DyddiadurKate fod “Win yn mynd i’r Pentre i help Grace olchi gwithbannau.”

Gorchwyl tymhorol oedd golchi gwrthbannau (blancedi). Tasg gweddol hawdd i ni heddiw â pheiriant golchi wrth law, ond nid felly yng nghyfnod Kate. Yn anffodus, ni ddisgrifiwyd y dasg arbennig hon wrth i Kate drafod prosesau golchi gyda Minwel Tibbot, nôl ym 1970. Fodd bynnag, ceir cyfeiriadau lu yn yr archif sain at y dasg o olchi blancedi, cwrlidau a llenni.

Gan fod gofyn am gymaint o ddŵr i’w golchi, byddai nifer fawr o wragedd mewn ardaloedd gwledig yn golchi’r blancedi yn yr afon, fel yr hen Beti Bwt druan. A pham lai? Roedd hi dipyn haws mynd â’r offer a’r eitemau oedd angen eu golchi i’r afon, yn hytrach na chario bwcedi di-ri o ddŵr i’r tŷ. Wedi cynnau tân i gynhesu’r dŵr, byddai’r blancedi’n cael eu golchi dwywaith mewn dŵr cynnes, gan eu rhwbio’n ofalus gyda sebon golchi. Dodwyd y blancedi yn yr afon i gael gwared ar y sebon, yna’r cam nesaf oedd gwasgu’r dŵr. Roedd angen bôn braich dau berson i wneud hyn, y naill yn gafael ym mhob pen ac yn gwasgu yn groes i’w gilydd. Wedi’r gwasgu, ysgwyd y blancedi i adfer y gweadedd gwlanog a’i rwystro rhag ‘matio’ wrth sychu ar lwyni gerllaw.

Does ryfedd fod angen help ar Grace heddiw ‘ma!

 

 

Dyddiadur Kate: ‘Oes y dillad gore’

Elen Phillips, 18 Mehefin 2015

Ar 18 Mehefin 1915, cynhaliwyd ‘Sassiwn Plant’ yn Llidiardau, ger y Bala. Er nad oedd hi’n bresennol, fe wnaeth Kate Rowlands nodyn o’r achlysur yn ei dyddiadur:

Anfon dipyn o bysgod adref. Sassiwn Plant Llidiardau. Emrys yn cael mynd yno. Anwen ag Ella yno yn y Sassiwn Plant. Diwrnod hynod o braf. Mary Lizzie Pandy yn cael tarawiad o appendicitis.

Ar wefan Papurau Newydd Cymru Arlein, mae modd dod o hyd i erthyglau di-ri am gyfarfodydd o’u math yng nghapeli’r ardal. Yn Sasiwn Plant Moel-y-garnedd a’r Parc yn Mehefin 1914 holwyd y plant yn ‘fedrus ac i bwrpas’ am y 6ed a’r 7fed bennod o’r Rhodd Mam. Gyda’r nos, rhanwyd gwobrau a thystysgrifau, a chyn gorffen ‘anrhegwyd bob un o’r plant a ‘bun’ cyn iddynt gychwyn adref.’ Trît derbyniol ar ddiwedd diwrnod hir ddywedwn i!

Mewn cyfweliad llafar â’r Amgueddfa yn 1969, cyfeiriodd Kate Rowlands at bwysigrwydd cael dillad newydd ar gyfer rhai o brif ddigwyddiadau blynyddol y capel. Dyma ddyfyniad o’r cyfweliad dan sylw, gyda chyfeiriad penodol at un Sasiwn Plant cofiadwy o'i phlentyndod:

Lynn Davies: Oedd hi’n arferiad cael dillad newydd ar gyfer achlysuron arbennig?

Kate Rowlands: Diar oedd! A chadw dillad fyddech chi’n gael at achlysuron felly. Cadw nhw’n ddillad gore ynde. Oedd hi’n oes y dillad gore yn siwr yn de. Fydde nhw ond yn dod allan ar gyfer rwbeth hynod o bwysig ynde… cwarfodydd yn y Bala a rwbeth felly yn de… gwyl yr ysgol sul, sassiwn plant a rwbeth felly ynde wch chi… Dw i’n cofio ni’n dod i fyny ryw sassiwn plant o Llantisilio a wedi cael popeth ynde, a het wen reit smart. A wedyn mewn wageni o nhw’n mynd … a mi ddoth hi’n law mawr. Pan o’n i’n mynd adre, het goch o’genai. O’dd y papure’r trimmings wedi colli lliw i gyd! Dyne fo, dodd honno dda i ddim byd wedyn ynde.

A ninnau bron ar ddiwedd hanner cyntaf @DyddiadurKate, gobeithio eich bod yn mwynhau'r cynnwys hyd yn hyn. Mae llawer mwy i ddod, y llon a'r lleddf, felly lledaenwch y gair a chadwch lygad ar y blog.