Amgueddfa Blog: Dyddiadur Kate

Cyn i ni ddechrau o ddifri ar y bennod nesaf ym mhrosiect @DyddiadurKate (oes, mae dilyniant!), yn y blog hwn mi fyddai’n ffarwelio â dyddiadur 1915 drwy gyflwyno stori Tomi’r Hendre.

Mae enw Tomi’r Hendre yn gyfarwydd iawn i’r rhai ohonoch sydd wedi dilyn @DyddiadurKate o’r cychwyn cyntaf. Ynghyd â’i chwaer Win, roedd Tomi yn ymwelydd cyson â Ty Hen – cartref Kate a’i rhieni – drwy gydol 1915. Fe’u magwyd yng Nghwm Main, ble roedd eu rhieni – John ac Ann Jones – yn rhedeg Siop yr Hendre. Mae llyfrau cyfrifon a thalebau’r busnes bellach yng nghasgliad yr Amgueddfa, ac os gofiwch chi, mewn blog blaenorol, fe fues i’n trafod ymgyrch John Jones i gael blwch post cyfleus i drigolion yr ardal.

Ond i droi nôl at Tomi’r mab, yn 1915 roedd yn fyfyriwr yn y Coleg Normal ym Mangor, ac eisoes wedi hyfforddi fel athro. Yn Rhagfyr y flwyddyn honno – tri mis cyn ei benblwydd yn 21 – ymunodd â’r fyddin. Nid oes cofnod o hyn yn nyddiadur Kate Rowlands.

Erbyn Ionawr 1916, roedd Tomi wedi ei leoli gydag 21ain Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng ngwersyll hyfforddi Parc Cinmel. Wrth chwilota drwy archifau Siop yr Hendre, fe ddes i ar draws cerdyn post a anfonodd Tomi at ei rieni yn ystod y cyfnod hwn.

Derbyniais y parcel ond oherwyd[d] prysurdeb yr wyf wedi bod yn anabl i atteb [sic] o’r blaen. Yr wyf wedi symud i Hut 30 fel y gwelwch ac wedi cael fy ngwneyd [sic] yn ben arno ac felly yr wyf yn hollol gartrefol. Yr wyf yn hynod o hapus a digon o fwyd ac mewn iechyd rhagorol ac yn mynd yn dew ac yn gryf. Nid wyf yn med[d]wl y byd[d] yn rhaid imi byth fynd i’r front gan y byd[d]wn yn cael ein gwneyd [sic] yn officers… Gyrwch fy nghyllell boced a fy spectol mor fuan ag a alloch.

Er nad oedd yn rhagweld cyfnod yn y ffosydd, ym Mehefin 1916 roedd Tomi ar ei ffordd i Ffrainc. Llai na mis yn ddiweddarach, ar 20 Gorffennaf, fe’i hanafwyd yn ddifrifol yn ei frest ym mrwydr Coedwig Delville. Cludwyd Tomi i ysbyty yn Boulogne, ac yna i Ysbyty Ryfel Leith, ger Caeredin. Mae’r adroddiadau gan feddygon Leith yn anodd iawn i’w darllen. Dyma grynodeb o’i gyflwr pan gyrhaeddodd yr ysbyty ar 31 Gorffennaf.

Admitted from No 18. Gen. Hospt. Boulogne. There is a small wound size of 5/ on right side about the level of the 8th rib. Dulness all over this side absolute at base, breath sounds faint over upper lobes. Pat. states that he spat blood but only very little at first. X-ray shows piece of metal at level of 8th rib.

Bu farw Tomi’r Hendre o’i anafiadau ar 27 Awst 1916.

I hereby certify that No. 29606 Pte Thomas Jones… who died to-day of Empyeme and septicaemia… stated to me that he was wounded inaction [sic] at Delville Wood on July 20th 1916. There was a wound in right side of the chest, haemothorax and X. Ray showed a piece of metal in chest. Patient was operated upon and portion of rib resected to allow of free drainage on the 13th, but septic condition was very bad. L. Stewart Sandman M.D.

Mae’n dorcalonnus meddwl am fawredd y golled i’w deulu a’i gymdogion yng Nghwm Main. Cynhaliwyd ei angladd yng Nghefnddwysarn ar 31 Awst, ac mae’n debyg fod tad Kate yn un o’r rhai fu’n talu teyrnged iddo mewn seiat gyda’r hwyr. Cyhoeddwyd adroddiad manwl, di-flewyn-ar-dafod, am yr angladd yn Y Cymro (Lerpwl a’r Wyddgrug).

Angladd Tom yr Hendre yw y condemiad mwyaf ynddo’i hun fu ar y rhyfel yng Nghefnddwysarn… Y mae ei ysbryd caredig yng nghartref Caredigrwydd ei hun. Nid oes yno orfodaeth, nid oes yno glwyfo, nid oes yno ladd a llofruddio, nid oes yno neb yn cael ei gablu a’i regi gan ei salach. Yno y mae cydwybod yn rhydd, yno ni chlwyfir cariad mam, yno rhoddir ei le i gariad tad, yno ni chwelir cartrefi, ac yno ni thorrir calonnau.

Fel y byddai’n gwneud i goffau Hedd Wyn maes o law, cyfansoddodd R. Williams Parry – cyn ysgolfeistr y Sarnau –  englynion er cof amdano.

Ger ei fron yr afon rêd – dan siarad

Yn siriol wrth fyned;

Ni wrendy ddim, ddim a ddwed

Dan y clai nid yw'n clywed.

 

Ond pridd Cefnddwysarn arno – a daenwyd

Yn dyner iawn drosto;

A daw'r adar i droedio

Oddeutu'i fedd ato fo.

 

Mae’r flwyddyn yn dod i ben a dw i’n adlewyrchu ar ddwy ran o fy ngwaith sy’n gorffen fuan. Mae @DyddiadurKate (1915) yn gorffen yn mis yma, a fy ngwaith ar Chynllun Addysg Y Rhyfel Byd yn Cyntaf dod i ben yn Mawrth 2016.

Mae Cynllun Addysg y Rhyfel Byd yn brosiect rhwng Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol, sy’n cynhyrchu adnoddau ar gyfer ysgolion. Ni'n defnyddio deunyddiau o gasgliadau’r ddau sefydliad i greu adnoddau dysgu digidol am Gymru yn ystod y Rhyfel. Trwy’r flwyddyn, gweithiais gyda chydweithwyr o’r curaduron i’r archif i ddewis y deunyddiau gorau i fynd gyda phob thema yn y cynllun. Y themâu y gweithiais arnynt yw ‘Bywyd ar Ffrynt y Gorllewin’, ‘Meddygaeth’, ‘Cymru ar draws y Byd’ a ‘Straeon Personol’.

Ar y prosiect @DyddiadurKate, dwi’n casglu'r ystadegau o Twitter a ‘di creu dau flog, un ar recriwtio yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac un ar alcohol a dirwest. Trwy’r flwyddyn mwynheais y gweithgareddau dyddiol ar y blogiau gahanol gan y curaduron a’r archif, oedd yn rhoi mwy o wybodaeth am y prosiect.

Yn Hydref ces y cyfle i ddod â’r ddau brosiect at ei gilydd, yn yr adnodd ‘Straeon Personol’. Mae’r adnodd yn edrych ar bobl dros Gymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac effaith y rhyfel arnyn nhw. Roedd stori Kate Ellis yn rhoi cyferbyniad i straeon milwyr a nyrsus, i ddangos bywyd sifiliad. Un peth sy’n ddiddorol imi yw fod pobl yn ymladd yn y rhyfel, ac ar yr un pryd, roedd llawer o’r gweithgareddau dyddiol Kate yn cario ‘mlaen heb lawer yn newid.

Dyw’r adnoddau ‘Straeon Personal’ a 'Cymru ar Draws y Byd' ddim ar yr HWB eto, ond mae llawer o’r adnoddau arall lan nawr. Dilynwch y linc i HWB i ddefnyddio’r adnoddau am ddim.

Wel dyna ni, dim ond cwpl o ddyddiau sy’n weddill nes bod @DyddiadurKate 1915 yn dirwyn i ben. Ceir ei chofnod olaf ar y 15fed o Ragfyr, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef, â hithau ‘di bod mor selog yn ysgrifennu, ro’n i’n siomedig nad oedd hi wedi rhoi pen ar bapur dros gyfnod y Nadolig. Ro’n i wedi edrych ymlaen cael darllen am baratoadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac wedi bod yn dyfalu p’un â’i gŵydd yntau asen o gig eidion fyddai’r wledd? Pwy fyddai’n galw heibio? A fyddai’r teulu’n mynychu gwasanaeth y Plygain? A fyddent yn addurno Tŷ Hen? Ac a fyddai Kate yn “gwneud cyfleth” neu’n “mynd i noson gyflaith”? Yn anffodus, nid oedd i fod, ond rhaid diolch iddi am y gwledd a roddodd i ni dros y flwyddyn.

Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd i mi dderbyn copi mis Hydref 2015, o bapur bro Bala a’r cylch, Pethe Penllyn ac ynddo erthygl, ‘Noson Gyfleth Coed y Bedo, Cefnddwysarn’. Roedd cyfeiriad ynddo at deulu Yr Hendre, sef cartref genedigol mam Kate, yn ymuno yn yr hwyl. Felly, dyma fanteisio ar y cyfle i sôn am arfer hwn, oedd yn draddodiadol mewn rhannau o ogledd Cymru dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Byddai teuluoedd yr ardal yn cymryd eu tro i gynnal nosweithiau o’r fath, gan wahodd eu ffrindiau i'w cartrefi fin nos. Wedi gwledda, byddai pawb yn mwynhau rhyw fath o ‘noson lawen’, cyfle i sgwrsio, chwarae gemau, adrodd straeon, canu a thynnu coes, ond canolbwynt y noson fyddai tynnu cyflaith.

Dyma rysáit o’r Archif yn Sain Ffagan a gasglwyd o ardal Pennant, Trefaldwyn:

3 phwys o siwgr llwyd, meddal

½ pwys o fenyn hallt (wedi’i feddalu)

sudd 1 lemwn

¼ peint o ddŵr berw (neu ragor os bydd y siwgr o ansawdd sych)

  • Tywallt y siwgr a’r dŵr i’r sosban. Toddi’r siwgr yn araf uwchben tân gloyw, a’i droi'n gyson â llwy bren nes iddo doddi'n llwyr (gall gymryd ryw ugain munud).
  • Tynnu’r sosban oddi ar y tân, ychwanegu’r sudd lemwn a'r ‘menyn, a'u cymysgu'n drwyadl.
  • Berwi'r cymysgedd yn weddol gyflym am ryw chwarter awr heb ei droi o gwbl.
  • I brofi os yw’n barod - gollwng llond llwy de o'r cymysgedd i gwpaned o ddŵr oer. Os bydd yn caledu ar unwaith, mae’n barod.

Dyma gychwyn yr hwyl! Rhaid oedd tywallt y cyflaith ar lechen, carreg fawr neu garreg yr aelwyd oer wedi'i hiro â ‘menyn – dwi’n gwybod o brofiad pa mor danbaid boeth yw’r gymysgedd. Byddai pawb yn iro'i dwylo ag ymenyn (er mwyn arbed llosgi eu dwylo ac i ychwanegu at y blas a’r ansawdd) ac yn cymryd darn o'r cyflaith i'w dynnu tra byddai'n gynnes. 'Roedd hon yn grefft arbennig a’r gamp oedd tynnu'r cyflaith nes ei fod yn raff melyngoch. Byddai'r dibrofiad yn edmygu camp a medrusrwydd y profiadol, tra bo methiant ac aflwyddiant y dibrofiad yn destun hwyl i bawb. Gwyddom pa mor gymdeithasol oedd cymuned @DyddiadurKate, ac mae’n hawdd ei dychmygu’n rhan o’r hwyl a’r sbri!

Diolch i bawb sydd wedi dilyn y dyddiadur yn ystod 2015. Cofiwch ddilyn hynt a helynt Kate o’r 1af o Ionawr 2016 ymlaen, wrth i ni agor cyfrif newydd i drydar cynnwys dyddiadur arall o’i heiddo, a roddwyd ganddi i Archif Sain Ffagan ym 1970. Dyddiadur 1946 yw hwn, gyda Kate bellach yn briod, yn fam ganol oed, sy’n cofnodi ei bywyd ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, ac os ydych am roi cynnig ar wneud cyflaith – cofiwch beidio llosgi eich dwylo!

Yn ei dyddiadur yr wythnos hon, mae Kate Rowlands yn nodi fod ‘Bob Lloyd wedi codi côr i fynd i’r Bala’. Mae Bob Lloyd yn fwy adnabyddus i ni fel Llwyd o’r Bryn (1888 - 1961) – eisteddfodwr o fri, aelod o Barti Tai'r Felin a sylfaenydd Cymdeithas y Llawr Dyrnu. Mewn cyfweliad hanes llafar â Minwel Tibbott yn 1970, soniodd Kate am ddiwylliant arbennig ei milltir sgwâr a bywyd cymdeithasol ardal y 'pethe'. Erbyn hyn, roedd Kate wedi ymadael â'r Sarnau ac yn byw yn Rhyduchaf, ger y Bala. Dyma grynodeb o’r sgwrs.

Sut gymdeithas oedd yn y Sarnau yn eich hamser chi?

Di-guro ynde, dyne’r gair fyswn i’n ddeud. Wedyn mi ddoth yn y blynyddoedd cymharol ddiweddar, mi ffurfiwyd y Llawr Dyrnu’n Sarne, a chal tair eglwys i uno efo’i gilydd. A mai’n dal’n llewyrchus ddychrynllyd eto 'fyd. Yndi, dyna’i cymdeithas nhw, Llawr Dyrnu ma nhw’n galw hi.

Pa adeg ffurfiwyd honno?

Tua nineteen… alla i’m deud. Rhoswch chi ddau funud wan i fi sidro. Yn y nineteen thirties siwr gen i. Ond cyn hynny, gneud ein cymdeithas odden ni. O’ ne bopeth yn y Sarne amser honno yn de. O’dd hi’n gymdeithas … cymdeithas y capel… Ddoth na lawer iawn o farddoni… yn y Sarne te a mai’n dal felly eto ma’n siwr. Ddoth yr WEA ’fyd yn Sarne’n flodeuog iawn, iawn yn de… O gynny nhw athrawon yn WEA. Dw i’n cofio I. B. Griffith yn athraw a gynno fo dros ddeugien yn’i ddosbarth yn Sarne…

Beth fydde yn cael ’i gynnal, hanes?

Ie, hanes. Probleme yr oes w’chi, probleme cyfoes a rwbeth debyg… Y tair blynedd ola ro’n i’n Ty Hen, ddaru mi gadw’r cwbwl heb golli dim cofiwch. Thirty six o ddosbarthiade.

Beth fydde pobol yn neud gyda’r nos yn eu cartrefi?

Wn i’m be fydda nhw’n neud, cofiwch. O’dd na ryw ysbryd iach ofnadwy… Fydde ryw swperi yn ffasiwn ofnadwy chi, mynd i gartrefi gilydd. Wn i’m be fydde nhw’n neud yno. Dw i’m yn meddwl bydde nhw’n deud ’im byd drwg am neb.

Oedd na gymdeithas glos yn Sarne?

Oedd ardderchog, bob amser. Dw i’n dal i ddeud eto mai’r Seiat a’r Cwarfod Plant, dene o’dd yn byd ni wch chi’n te. Pawb yn mynd yno chi, pawb mynd yno te. O’dd neb yn meddwl peidio… pawb yn mynd i bob peth. Dydi ’di newid dwch.

 

Yn ddiweddar, des i ar draws ffeithiau anhygoel ar wefan y BBC am y gwasanaeth post yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar anterth y brwydro, roedd hyd at 12 miliwn o lythyrau’r wythnos yn cael eu dosbarthu o Brydain i dir mawr Ewrop. Ar ben hyn, ar ddiwrnod arferol, roedd 19,000 o sachau post yn croesi’r Sianel a 375,000 o lythyrau yn cael eu sensori gan yr awdurdodau.

Yn naturiol, roedd derbyn cyfarchion o gartref yn hwb fawr i ysbryd y milwyr ar faes y gad. Yn yr un modd, roedd derbyn pwt o lythyr o’r ffrynt yn lleddfu gofid eu teuluoedd nôl yng Nghymru, am ryw hyd beth bynnag. Roedd Walter Vicarage o Abertawe yn ymwybodol iawn o hyn pan ysgrifennodd nodyn at ei fam o Ffrainc ym Medi 1915:

No doubt you will get my next letter from the trenches as we are expected to go in soon… I had a letter from Uncle Tom; he also told me Uncle David was there. I must write to him when I have time. I have only written to May once. I know she is in a stew about it, but I must try now and let you both have some news regular[ly] or at least as often as I can.

Bu Kate Rowlands yn llythyru â sawl cymydog oddi cartref yn 1915. Yn ei dyddiadur, mae’n nodi ei bod wedi ysgrifennu llythyron at Robert Daniel Jones (os gofiwch chi, fe ymunodd â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mawrth 1915), a’i ffrind Anwen Roberts a oedd yn nyrsio gyda’r Groes Goch lawr yng Nghasnewydd. Fwy nag unwaith, mae’n sôn am bostio llythyrau yn y Sarnau – 'mynd i’r post min nos' yw’r ymadrodd sy’n ymddangos droeon yn y dyddiadur.

I'w chyfeillion yng Nghwm Main, roedd diffyg cyfleusterau postio yn bwnc llosg. Roedd y gymuned hon yn gartref i John Jones yr Hendre, ei wraig a'u plant - yn eu plith, Thomas (Tomi'r Hendre) a Winnie (Win). Does prin wythnos pan nad yw Kate yn crybwyll y teulu hwn yn ei dyddiadur.

Yma yn Sain Ffagan, mae gennym bentwr o archifau a roddwyd i'r Amgueddfa gan Winnie Jones yn y 1960au. Ymysg y papurau mae drafft o lythyr a ysgrifennwyd gan ei thad at y postfeistr yn cwyno am ddiffyg blwch post yn ardal Cwm Main a'r Maerdy. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys traethawd yn dwyn y teitl 'Cwm Main yn yr hanner can mlynedd diwethaf' a ysgrifennwyd gan Winnie yn 1940. Ynddo, mae'n cofio ymgyrch leol i gael blwch post newydd i'r gymdogaeth:

Yn 1908 casglwyd enwai [sic] yn yr ardal a gwnaed apel daer ond gwrthodwyd eto, ond nid bobl i ildio oedd yn byw yma yr adeg hono ac anfonent i Gorwen o hyd ac yn 1921 cafwyd y letter box hir disgwyliedig i gael ei gasglu yn y bore.

I ddathlu'r achlysur, ysgrifennodd Morris Jones, Llwynonn, gerdd o fawl i'r blwch post newydd:

Bu llawer o sibrwd a siarad

A dadlau yng Nghorwen yn dost

Cael cyfle mwy hwylus i'r ardal

i roddi llythyrau y Post

Ond heddyw mae popeth yn hwylus

Rwy'n canmol John Jones am ei waith

Yn lle rhedeg a chwysu trwy'r Sarnau

I'r Cefn i bostio cyn saith.

Mae archifau Winnie Jones hefyd yn cynnwys cerdyn post a dderbyniodd ei rhieni gan ei brawd, Tomi'r Hendre, yn 1916. Ar y pryd, roedd yn hyfforddi gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mharc Cinmel. Cewch glywed mwy am hanes Tomi ar y blog cyn hir. Yn y cyfamser, cofiwch bod modd i chi weld dros wythdeg o gardiau post o gyfnod y Rhyfel Mawr ar ein gwefan, ynghyd â sawl llythyr a thelegram.