: Dyddiadur Kate

@DyddiadurKate – Ffliw ffyrnig 1915

Elen Phillips, 20 Chwefror 2015

I nifer fawr o bobl, bydd gaeaf 2014-5 yn cael ei gofio fel gaeaf y lempsip max strength. Mae bron pawb dw i’n ’nabod wedi bod yn diodde’ eleni – anwyd trwm, cur pen a pheswch sy’n anodd i’w waredu. O ddarllen cofnodion diweddar @DyddiadurKate, mae’n ymddangos mai sefyllfa go debyg oedd yma yng Nghymru canrif yn ôl. Yn Chwefror 1915, roedd nifer o deulu a chymdogion Kate yn y Sarnau a Chefnddwysarn, gan gynnwys ei thad Ellis, yn ‘clwyfo o’r influenza.’ Dyma ddetholiad o’r cofnodion:

5 Chwefror - Diwrnod braf iawn. Myfi yn dod adref. Mr E. H. Evans yn darlithio yng nghyfarfod Cymdeithas Ddirwestol. Tywydd mawr iawn min nos. Ellis yn cwyno "influenza".

8 Chwefror - Tomi yn mynd a hwch dew ir Bala. Myfi yn mynd iw phwyso. Tomi yn dod a llwyth o galch adref. Myfi yn dechreu clwyfo or influenza. Ellis ychydig yn well. Codi i nol "orange" yn y nos.

9 Chwefror - Ellis heb fod gystal. Richard yma yn "bailiff". Minnau yn reid ddrwg. Wedi cysgu.

19 Chwefror - Halltu yn y boreu. Johnny Llawr Cwm yn galw yma. Richard yma yn helpu malu gwellt. Mammam yn dod yma ar ol tê. Jane Pantymarch a finnau yn mynd ir Byrgoed min nos. Mrs Williams Derwgoed yn cwyno yn bur arw (influenza).

Er gwaetha’ sgil effeithiau’r haint, mae’n amlwg nad oedd Kate a’i chyfoedion yn swatio yn eu gwaeledd. Mewn cymuned amaethyddol fel hon, roedd bywyd bob dydd yn mynd yn ei flaen fel arfer, ffliw neu beidio. Ond mae’n amlwg o ddarllen papurau newydd y cyfnod bod ffliw 1915 yn anarferol o ffyrnig. Dyma nodyn a gyhoeddwyd yn Y Cymro ar 17 Chwefror 1915:

Salwch –  Fu erioed y fath salwch a sy’n ymdoi Penllyn yn awr. Y mae yn ffeindio cryd ymhob ty. Influenza, dyna’r enw medda nhw.

Mae ffigyrau marwolaeth y cyfnod yn ategu tôn brawychol Y Cymro. Roedd y nifer a fu farw o’r ffliw ym Mhrydain yn 1915 bron ddwywaith gymaint â’r flwyddyn flaenorol:

1914 – 5,964

1915 – 10,484

1916 – 8,791

1917 – 7,289*

Wrth gwrs, roedd gwaeth i ddod gyda’r pandemig yn 1918-9. Bu farw 112,329 o bobl ym Mhrydain o’r ffliw yn 1918 a 40 miliwn yn rhyngwladol – mwy na’r cyfanswm cyfan a fu farw ar faes y gad yn ystod y Rhyfel Mawr.

Mae’r casgliadau yma yn Sain Ffagan yn cynnwys nifer o wrthrychau ac archifau sy’n gysylltiedig â meddyginiaeth ac ymadfer. Gallwch weld rhai ohonynt ar dudalen Trydar @SF_Ystafelloedd (Mared McAleavey – Prif Guradur Ystafelloedd Hanesyddol). Un o fy hoff ddarganfyddiadau diweddar yw’r llyfryn a welir 

a oedd yn eiddo i Phryswith Matthews – merch saer olwynion pentre Sain Ffagan. Mae’r llyfryn yn llawn ryseitiau, gan gynnwys prydau bwyd addas i gleifion. Bu Phryswith mewn darlith ar ‘invalid cookery’ ar 6 Ionawr 1914 – mae’i nodiadau o’r ddarlith honno yn y llyfryn. Yn ystod y Rhyfel Mawr, roedd hi’n gweithio fel nyrs VAD yn Ysbyty’r Groes Goch ar dir Castell Sain Ffagan. Gallwch weld rhagor o wrthrychau a lluniau sy’n gysylltiedig â stori'r ysbyty ar ein gwefan.

 *Ystadegau: The Lancet, rhifyn 2, Chwefror 2002, tt. 111-3.

 

 

 

@DyddiadurKate - Alcohol a Dirwest

Joe Lewis, 13 Chwefror 2015

Ar y 5ed o Chwefror, 1915, mae Dyddiadur Kate yn sôn am y Mudiad Dirwest: “Mr E. H. Evans yn darlithio yng nghyfarfod Cymdeithas Ddirwestol.”

Cymdeithas Ddirwestol
Dechreuodd Y Mudiad Dirwest yn y 19eg ganrif gyda sefydlu’r Gymdeithas Ddirwestau. Yng Nghymru, roedd Dirwest yn boblogaidd mewn cymunedau anghydffurfiol yn enwedig. Roedd y Gymdeithas Ddirwestol yn annog ymatal yn llwyr rhag yfed alcohol. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth y neges ddirwest yn bwysig a phoblogaidd unwaith eto.

Alcohol a'r Rhyfel
Ar yr 28ain o Chwefror 1915, traddododd Lloyd George araith ym Mangor a soniodd am effaith ddinistriol alcohol ar yr ymdrech ryfel. Roedd y llywodraeth yn credu bod gormodedd o alcohol a meddwdod yn cadw pobl o’u gwaith yn y ffatrïoedd. Soniodd Lloyd George am ‘the lure of the drink’ a dweud bod y ddiod gadarn yn gwneud mwy o’r difrod i Brydain na holl longau tanfor yr Almaen. Gallwch ddarllen mwy am yr araith hon ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn Saesneg).

Yn Awst 1914, cyflwynodd y Llywodraeth y ‘Defence of the Realm Act’ oedd yn ceisio atgyfnerthu ymdrech y Rhyfel. Cynhwyswyd ddeddf i leihau oriau agor tafarnau yn y ddeddf i geisio lleihau defnydd alcohol ymysg pobl. Yn 1915 penderfynodd y Llywodraeth nad oedd hynny’n ddigon felly sefydlwyd y ‘Central Control Board’ (CCB) er mwyn goruchwylio arferion yfed. Yn Hydref 1915 cyflwynwyd y ‘No Treating Order’ i atal pobl rhag prynu rownd o alcohol, neu brynu diod ar gredyd.

Dyddiadur Kate: Cyfryngau cymdeithasol, hanes cymdeithasol

Sara Huws, 9 Chwefror 2015

Mae dros fis wedi mynd heibio ers i @DyddiadurKate bostio cofnod cyntaf dyddiadur Kate Rowlands. Mi fyddwch chi wedi dysgu rhagor amdani, erbyn hyn, trwy flogiau a chyfweliadau, a thrydar yn ôl ac ymlaen ar gyfrifon fel @StFagansTextile, @archifSFarchive, @RhB1Addysg ac @sf_ystafelloedd.

Rydym ni wedi cael gor-olwg frithliw a diddorol o bob math o agweddau o hanes cyfnod y dyddiadur, sef 1915. Mae cofnodion cryno y dyddiadur wedi bod yn symbyliad i staff i archwilio eu cyd-destun, a rhannu rhagor o gasgliadau a ffynonellau, o Amgueddfa Cymru a thu hwnt. Mae ein cronfa ddata Casgliadau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn llawn pob math o wrthrychau sy'n rhoi cip ar stori fwy personol, sy'n mynd â ni i fyd y pethau bychain, fel y gall Dyddiadur Kate.

Un peth sydd wedi dod yn amlwg o gychwyn cynta'r prosiect yw pa mor werthfawr yw casgliad Papurau Newydd Cymru y Llyfrgell Genedlaethol wrth i ni geisio darganfod mwy am gofnodion cryno'r dyddiadur - yn enwedig wrth i Kate sôn am ddigwyddiadau cymdeithasol neu bynciau llosg y cyfnod, fel ei chofnod am yr 'influenza' dros y penwythnos:

Mae cronfa'r papurau newydd yn eisampl wych o sut i gyflwyno dogfennau mawrion, manwl - mae'r chwiliad yn hawdd iawn i'w lywio, sy'n golygu ei bod hi'n hawdd iawn dod o hyd i erthygl benodol, neu i ddilyn dy drwyn gan ddarllen am dy hoff bynciau (fues i'n darllen lot am gystadleuthau gweu dros y penwythnos, mwy cyffrous yn amlwg na phencampwriaeth y chwe gwlad).

Y tu cefn i'r hanes cymdeithasol a'r trafod a'r rhannu, erbyn hyn, 'mae'r dechnoleg sy'n ei gyflwyno. O safbwynt digidol, mae DyddiadurKate wedi bod yn ffordd wych imi weithio gyda thîm i roi tro ar dargedu cynnwys uniaith-gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd wedi rhoi cyfle imi arbrofi a gwerthuso rhag-bostio (yn defnyddio tweetdeck), a phlatfform analytics mewnol twitter. Dwi'n gobeithio y bydd y teclynnau hyn yn dod yn ran o waith mwy o'n trydarwyr, fesul tipyn - ac felly o ran 'pethau bychain' fy mywyd bob dydd innau, gan mlynedd yn ddiweddarach, cofnodi data fydda i, tra'n gwylio dyddiau Kate yn pasio heibio.

 

@DyddiadurKate – Recriwtio ym Meirionnydd

Elen Phillips, 6 Chwefror 2015

Fel dilynwyr @DyddiadurKate, fe wyddoch nad oes rhyw lawer o drafod y rhyfel wedi bod yn y dyddiadur hyd yn hyn. Os gofiwch chi nôl i ganol Ionawr, fe gawsom gipolwg ar y broses recriwtio pan soniodd Kate am filwyr yn gorymdeithio drwy Sir Feirionnydd:

19 Ionawr 1915 – Ymddaith y milwyr trwy Station. Eu noson yn y Bala. Ymunodd 25 yng Nghorwen a 5 ym Mhenllyn.

Ers i fy nghydweithiwr, Joe Lewis, ysgrifennu blog am y cofnod uchod, mae erthygl bapur newydd arall wedi dod i’r fei sy’n taflu goleuni ar agwedd swyddogion rhai o gapeli’r ardal at amcanion yr orymdaith hon. Mewn rhifyn o Baner ac Amserau Cymru a gyhoeddwyd ar 30 Ionawr 1915, cawn adroddiad cynhwysfawr am drafodaethau Cyfarfod Misol Methodistiaid Dwyrain Meirionnydd. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn yn y Bala dros gyfnod o 3 diwrnod, rhwng 12 – 14 Ionawr 1915. Ar y diwrnod olaf, roedd rhieni Kate yn bresennol:

14 Ionawr 1915 – Ellis a mam yn y Bala trwy’r dydd. Cyfarfod misol.

Roedd gorymdaith y milwyr yn un o bwyntiau trafod y cyfarfod. Er nad yw’r erthygl yn manylu ar y drafodaeth, mae’n nodi’r canlynol:

Pasiwyd y penderfyniad a ganlyn o berthynas i daith y milwyr trwy Feirion: (1) Yr ydym fel cyfarfod misol yn annog ein haelodau i dderbyn milwyr sydd i ymweld â rhai o’n trefi yr wythnos nesaf yn groesawus; ac i wneyd pobpeth yn eu gallu i hyrwyddo amcan eu hymdaith. (2) Yn mhellach, dymunwn adgoffa pawb o ddatganiad Arglwydd Kitchener, a’r diweddar Arglwydd Roberts, yn erbyn temptio y milwyr i yfed diodydd meddwol. (3) Credwn mai buddiol, er hyrwyddo amcan ymdaith y milwyr drwy y sir, fyddai cau y tafarndai yn gynnarach.

Tan yn gymharol ddiweddar, hawdd fyddai dehongli’r dyfyniad uchod fel prawf o gefnogaeth brwdfrydig y genedl at yr ymgyrch ryfel. Mae sawl un ohonom wedi ein trwytho yng ngwaith K. O. Morgan a ddywedodd yn ei gyfrol ddylanwadol Rebirth of a Nation: Wales 1880 – 1980 fod 'jingo fever' ar led yng Nghymru yn ystod y rhyfel, 'heights of hysteria rarely matched in other parts of the United Kingdom'.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae sawl hanesydd wedi herio’r farn hon, yn eu plith Robin Barlow. Mae ganddo erthygl ddiddorol yn y gyfrol A New History of Wales: Myths and Realities in Welsh History sy’n dadlau yn erbyn gor-gyffredinoli’r ymateb yma yng Nghymru – 'support was localised', meddai, 'not universal'. Gallwch ddarllen grynhoad o’r erthygl fan hyn.  

Wrth drafod y sefyllfa yng ngogledd Cymru, mae Barlow yn awgrymu nad oedd y ffigyrau recriwtio gystal yng nghadarnleoedd y Gymraeg – er enghraifft, ym Môn ac Arfon. Ond beth am y sefyllfa ym Meirionnydd?

Yn Ionawr 1915, bu dadlau yn y Cambrian News and Merionethshire Standard ynglyn â ffigyrau recriwtio’r sir. Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn y papur ar 22 Ionawr 1915, awgrymodd R. J. Lloyd Price fod Meirionnydd ar ei hôl hi o gymharu â Sir Drefaldwyn – 356 troedfilwr yn fyr o’i nod o 932. Mae’r llythyr yn cynddeiriogi un darllenydd sy’n ymateb i’r honiadau gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Meirionwr’. Gallwch ddarllen ei lythyr fan hyn. 'It seems to me', meddai Lloyd Price mewn llythyr arall, 'that the fact of its being found necessary to send a recruiting party through Merionethshire and Carnarvonshire in search of recruits… is the obvious answer to the assertions of Meirionwr.'

Beth bynnag fo’r union ffigyrau, roedd recriwtio yn amlwg yn bwnc llosg ym Meirionnydd yn ystod wythnosau cyntaf 1915. Tybed beth oedd barn Kate a'i theulu?

 

 

Dyddiadur Kate: ‘Tywydd mawr iawn’

Richard Edwards, 28 Ionawr 2015

Rhoddir llawer o sylw i’r tywydd yn wythnosau cyntaf @DyddiadurKate. Cymysgedd o law ac eira trwm sy’n disgyn yn ardal y Sarnau yn Ionawr 1915 – tywydd nodweddiadol ar gyfer yr amser yma o’r flwyddyn.

7 Ionawr: Tywydd mawr iawn. Disgwyl Mr + Mrs Hughes Parc yma ond yn ormod tywydd. Ein tri yn mynd ir Cyf. Gweddi. Pwyllgor "Cymdeithas y Tarw" ar ol y Cyf. Gweddi. Mam a finnau yn galw yn Penffordd wrth ddod adref.

Difyr yw gweld nad oedd y tywydd garw yn atal pobl rhag mynychu’r capel!

Mewn erthygl ym mhapur newydd Baner Ac Amserau Cymru ar 16 Ionawr 1915 fe ddywedir mai “Rhagolygon pur annaddawol sydd i’r tywydd yn ystod y pedwar mis cyntaf…”

Felly, fel Kate, edrychwn ymlaen at y gwanwyn!

Os hoffech ddarganfod mwy am hanes y tywydd yn eich ardal, cymerwch bip ar y ‘Tywyddiadur’ sydd i’w gweld ar wefan Prosiect Llen Natur.