: Dyddiadur Kate

@DyddiadurKate – Willie Jones a’r “hen elyn marwol”

Elen Phillips, 26 Ionawr 2015

Yn ei dyddiadur ddoe, soniodd Kate am farwolaeth gwr ifanc o Landderfel:

25 Ionawr 1915 – Diwrnod braf iawn. Marwolaeth Willie Jones Llandderfel yn 35 oed. Bob Price yma min nos. David Roberts Pentre ag Humphrey Davies yma min nos.

Yn ei harddull arferol, dyw Kate ddim yn ymhelaethu am farwolaeth Willie Jones. Ond gyda diolch i adnoddau digidol gwych y Llyfrgell Genedlaethol, gallwn wneud hynny heddiw. Cyhoeddwyd ysgrif goffa i Willie Jones yn Baner Ac Amserau Cymru ar 6 Chwefror 1915. O’r erthygl hon, cawn wybod iddo farw o’r diciâu – un Cymro ymysg y 41,800 a fu farw o’r haint yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn honno.

“Wele un etto o feibion Cymru wedi disgyn i’r bedd yn gynnar trwy yr hen elyn marwol, y darfodedigaeth. Cafodd bob gofalaeth a allasai cyfeillion a pherthynasau eu hestyn iddo. Bu am ysbaid mewn ‘Sanatorium’ ac i bob golwg dynol gallesid meddwl ei fod wedi troi ar wella, ond amser byr a fu cyn dechrau diboeni drachefn.”

Roedd y diciâu yn ofid mawr yng Nghymru ar ddechrau’r 20fed ganrif, ac ar gynnydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Penderfynodd yr Aelod Seneddol David Davies – Yr Arglwydd Davies o Landinam yn ddiweddarach – bod angen “crwsâd” yn erbyn yr haint. I’r diben hwn, yn 1910 sefydlwyd Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru (Edward VII Welsh National Memorial Association), gyda Davies yn llywydd arni. Gallwch ddarllen mwy am hanes y Gymdeithas ar wefan Archifau Cymru.

Yma yn Sain Ffagan, mae blwch yn y casgliad a ddefnyddwyd yng Ngorffennaf 1914 i gasglu arian er budd y Gymdeithas. O’i amgylch mae’r adysgrif The King Edward VII Welsh National Memorial Association – Crusade againt Consumption – No Change – 21 July 1914, 22 July 1914, 23 July 1914.

 

Dyddiadur Kate: Recriwtio yn y Rhyfel Byd Cyntaf

Joe Lewis, 19 Ionawr 2015

Ar y 19eg o Ionawr 1915 mae @dyddiadurKate yn sôn am ddynion yn ymuno â'r lluoedd arfog: ‘Ymdaith y milwyr trwy Station. Eu noson yn y Bala ymunodd 25 yng Nghorwen a 5 ym Mhenllyn’.

Mae’r cofnod hwn yn cael ei wirio gan erthygl bapur newydd. Ar yr 22ain o Ionawr mae’r ‘Cambrian News and Welsh Farmers Gazette’  yn sôn am ymdaith gan deithlen recriwtio o’r Corfflu Byddin Cymru, trwy’r Sir Feirionnydd a Sir Gaernarfon. Roedd band pib a drwm a band y ‘Royal Oakley’ yn arwain yr ymdaith ym Mlaenau Ffestiniog ar Ddydd Llun 18 Ionawr, a'r llwybr ar Ddydd Mawrth yn cynnwys Corwen a Bala. Mae’r erthygl yn sôn am y gobaith y byddai’r y milwyr yn dod yn gyfeillion gyda’r dynion o’r oedran milwrol, i’w hannog i ymuno â’r ‘lliwiau’ (enw arall ar y Corfflu). Gallwch ddarllen yr erthygl ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru (yn Saesneg).

Ar ôl y dechrau'r Rhyfel yn Awst 1914 roedd ymgyrch fawr i recriwtio mwy o ddynion i’r lluoedd arfog i gynyddu'r rhengoedd. Yn ogystal ag ymdaith recriwtio, agorwyd  swyddfa recriwtio ac aeth posteri recriwtio i fyny dros Brydain. Yng Ngymru, cynhyrchodd y llywodraeth bosteri Cymraeg hefyd, i apelio at ddynion oedd yn siarad Cymraeg.

I ymuno gyda’r lluoedd arfog roedd rhaid pasio prawf meddygol. Os oedd y dynion yn iach, roedden nhw’n cael ‘Llyfr Bach’ gyda gwybodaeth fel cerdyn meddygol. Erbyn Rhagfyr 1914 roedd 62,0000 o Gymry wedi ymuno â’r lluoedd arfog ac erbyn Ionawr 1915 roedd 1,000,000 ddynion o Brydain wedi ymuno â’r lluoedd arfog. Y flwyddyn wedyn, yn 1916, dechreuodd y broses o gonsgripsiwn ym mis Mawrth.

 

@DyddiadurKate - pwy 'di pwy?

Elen Phillips, 13 Ionawr 2015

Diolch yn fawr i’r 166 ohonoch sy’n dilyn @DyddiadurKate. Mae’r ymateb wedi bod yn gret hyd yn hyn, er gwaetha’r faith mai dechre reit undonog sydd i’r dyddiadur – un cyfarfod gweddi ar ôl y llall! Diolch arbennig i un dilynwr sydd wedi cysylltu i ddweud ei fod yn perthyn i Kate Rowlands. Fel ddedodd @erddin, dim bob dydd mae rhywun yn croesawu ei hen nain i fyd y trydar.

Hanes llafar

’Da ni’n edrych ’mlaen i glywed mwy am hanes Kate gan aelodau’r teulu cyn bo hir. Ond yn y cyfamser, mae’n hen bryd i ni rannu mwy o fanylion amdani, a rhai o’r enwau sy’n cael eu crybwyll yn y dyddiadur. Yn ffodus iawn, yma yn Sain Ffagan mae gennym dapiau sain o Kate Rowlands yn trafod arferion ei milltir sgwar – coginio, golchi dillad ac ati. Nôl yn 1969, aeth Lynn Davies o'r Amgueddfa i'w chyfweld er mwyn cofnodi tafodiaith ei hardal. Yna, yn 1970 aeth Minwel Tibbott i’w recordio fel rhan o’i gwaith maes arloesol ar fywyd cartref yng Nghymru. Ar ddechre’r cyfweliad cyntaf, mae Kate yn rhoi ychydig o’i chefndir teuluol, ac o fan hyn ’da ni wedi llwyddo i ddarganfod mwy am ei bywyd a phwy ’di pwy yn y dyddiadur.

Cefndir Kate

Ganed Kate yn y Brymbo, ger Wrecsam, yn 1892. Roedd ei mam (Alice Jane) yn wreiddiol o’r Hendre, Cefnddwysarn. Bu farw ei thad –  gweithiwr yn y diwydiant dur – pan roedd hi’n naw mis oed. Wedi hynny, dychwelodd ei mam weddw at ei theulu yng Nghefnddwysarn. Mae’n amlwg i rieni ei mam ddylanwadu’n fawr arni. Mewn un cyfweliad mae’n dweud mai “y nhw oedd y canllawie gathon ni gychwyn arnyn nhw.”

Tair blynedd yn ddiweddarach, mae’i mam yn ailbriodi ag Ellis Roberts Ellis. Hyd y gwn i, dyma’r Ellis sy’n cael ei grybwyll yn y dyddiadur. Tua 1887, pan roedd Kate yn bum mlwydd oed, symudodd y teulu bach i ffermio i ardal Llantisilio, ger Llangollen. Dychwelodd y tri i’r Sarnau tua chwe mlynedd yn ddiweddarach – i fferm Tyhen. Dyma leoliad y dyddiadur.

Tyhen, Sarnau

A hithe’n unig blentyn, gadawodd Kate yr ysgol yn 14 mlwydd oed i helpu ei rhieni wrth eu gwaith. Mae’n debyg mai fferm fach oedd Tyhen – rhy fach i gyflogi dynion:

“Mi gollodd nhad a mam eu iechyd i radde. Buodd hynny’n groes fawr i mi gael gyrru mlaen efo addysg ynde. Rhaid i mi fod adre ynde, ’da chi’n gweld… Dipyn o bopeth, jack of all trade ynde. O’n i’n gorfod helpu llawer iawn allan ynde, efo ceffyle a rwbeth felly ynde. Twmo’r popdy mawr i grasu bara, a chorddi fel bydde amser yno ynde, ryw ddwywaith yr wsos ynde.”

Ffermydd lleol

Penyffordd, Derwgoed, yr Hendre, Fedwarian – mae enwau’r ffermydd hyn yn cael eu crybwyll gan Kate bron yn ddyddiol. ’Da ni’n gwybod mai cartref ei mam oedd yr Hendre, ond byddwn ar drywydd y ffermydd eraill cyn hir.

Cyn gorffen, cadwch lygad am enw Bob Price, neu B.P, yn y dyddiadur.  Ar 11 Chwefror 1916, priododd Kate â Robert Price Rowlands yng Nghapel Cefnddwysarn. Felly roedd 1915 yn flwyddyn arwyddocaol i Kate. Roedd hi ar drothwy pennod newydd yn ei bywyd.

 

Cyflwyno Kate

Elen Phillips, 19 Rhagfyr 2014

Dw i wrth fy modd yn twrio yn storfeydd yr Amgueddfa. Sdim byd gwell na darganfod gwrthrychau sydd heb weld golau dydd ers degawdau. Llynedd, tra'n chwilota am gasgliadau o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, fe ddes i ar draws dyddiadur o'r flwyddyn 1915 mewn amlen yn yr archif. Wrth bori'r tudalennau, a thrafod gyda chydweithwyr, fe daeth hi'n amlwg fod stori'r perchennog yn haeddu cynulleidfa ehangach. Felly, dyma ni - croeso i brosiect @DyddiadurKate.

Eleni, i gyd-fynd a rhaglen yr Amgueddfa i goffau canmlwyddiant y Rhyfel Mawr, mi fydd tim ohonom yn trydar cynnwys y dyddiadur yn ddyddiol - canrif union ers i Kate Ellis, merch ffarm o ardal y Bala, nodi ei gweithgareddau beunyddiol yn ei blwyddlyfr bach coch. Ar y pryd, roedd Kate (Rowlands yn ddiweddarach) yn ei hugeiniau cynnar ac yn byw gyda'i rhieni - Ellis Robert Ellis a'i wraig Alice Jane Ellis - yn Tyhen, gerllaw pentre'r Sarnau. Wrth drydar y dyddiadur, byddwn yn defnyddio sillafu, atalnodi a thafodiaith y ddogfen wreiddiol.

Nid dyddiadur ymsonol mo hwn - peidiwch a disgwyl cyfrinachau o'r galon. Yn hytrach, yr hyn a gawn yw cipolwg ar fywyd dyddiol yng nghefn gwlad Meirionnydd ar ddechre'r ugeinfed ganrif - o'r tywydd a thasgau amaethyddol i brysurdeb diwylliannol y fro. Prin iawn yw cyfeiriadau Kate at y Rhyfel, er i nifer o drigolion yr ardal ymuno a'r lluoedd arfog. Ond mae hynny ynddo'i hun yn ddiddorol - iddi hi, ar yr wyneb beth bynnag, roedd bywyd yn mynd yn ei flaen fel arfer.

Cadwch lygad ar y blog am ragor o fanylion am y prosiect ac i glywed mwy am y bobl a'r digwyddiadau sy'n cael eu crybwyll yn y dyddiadur. Cofiwch hefyd ddilyn @DyddiadurKate o ddydd Calan ymlaen i olrhain ei hanes drwy gydol 2015.

Tro nesaf: Ar drywydd Kate Ellis.