: Oes Efydd

Y pobl bicer de Cymru

26 Ebrill 2007

Bicer Gwinllan Naboth, Llanhari (Rhondda Cynon Taf).

Bicer Gwinllan Naboth, Llanhari (Rhondda Cynon Taf).

Darganfod y bedd Bicer ger Llanhari ym 1929 (mae'r bedd ger y polyn streipiog).

Bicer arall, y tro hwn o gistfaen, a oedd yn cynnwys sgerbwd merch, a ddarganfuwyd ym 1991 yn Llandaf (Caerdydd). Yn y gladdfa hon hefyd cafwyd hyd i fynawyd efydd, gwrthrych y deuir ar ei draws yn aml gyda Biceri.

Bicer arall, y tro hwn o gistfaen, a oedd yn cynnwys sgerbwd merch, a ddarganfuwyd ym 1991 yn Llandaf (Caerdydd). Yn y gladdfa hon hefyd cafwyd hyd i fynawyd efydd, gwrthrych y deuir ar ei draws yn aml gyda Biceri.

4,000 o flynyddoedd yn ôl ymddangosodd math newydd o grochenwaith ym Mhrydain - ai goresgynwyr fu'n gyfrifol amdano neu a oedd y dull yn fynegiant o ffasiwn leol?

Gwnaed y pot addurnedig cywrain hwn, a elwir yn bicer, tua 4,000 o flynyddoedd yn ôl gan gymuned gynnar oedd yn byw yn ne Cymru ac yn defnyddio haearn. Roedd potiau'n cael eu gwneud â llaw a'u tanio mewn coelcerthi yn ystod y cyfnod hwn. Darganfuwyd y pot hwn ym Medi 1929 gan weithwyr oedd yn paratoi ffordd newydd rhwng Llanharan a Llanhari.

Cafodd y bicer ei osod mewn cistfaen carreg o dan dwmpath crwn o bridd, sef crug. Roedd y bedd hefyd yn cynnwys sgerbwd dyn ar ei gwrcwd oedd tua 1.7m o daldra (5.75 troedfedd) a dan 35 oed.

Ar sail y dystiolaeth hon, a nifer o ddarganfyddiadau eraill o'r math yma, daethpwyd i'r casgliad mae potiau arbennig oedd y biceri, a gynhyrchwyd yn aml fel nwyddau claddu.

Mae eu ffurf yn awgrymu mai diodlestri oeddynt, o bosibl yn cynnwys offrymau o alcohol yr âi'r ymadawedig â hwy i'r byd nesaf. Yn wir, pan gafodd bicer hwn ei ddarganfod, roedd yn cynnwys "stwff seimllyd" - gweddillion pydredig offrwm angladdol efallai? Gwaetha'r modd, cafodd ei olchi'n lân cyn y gallai archaeolegwyr gael gafael arno a'i ddadansoddi.

Gwnaed y bicer hwn drwy rolio clai yn stribedi hir a chysylltu eu pennau i greu cylchoedd a lyfnhawyd er mwyn rhoi ffurf i'r llestr. Wedi i'r clai sychu rhyw ychydig, cafodd y llestr ei gaboli (ei lathru) ag offeryn di-awch, asgwrn o bosibl. Ychwanegwyd addurniadau gyda chymorth offeryn danheddog, gan greu patrwm arbennig oedd yn debyg i ddefnydd gweol neu ledr wedi'i drin. Yna, cafodd y bicer ei danio, gan roi iddo ei liw orenfrown, brith, cyfoethog.

Daeth potiau Bicer a chladdfeydd Bicer yn bethau cyffredin ar draws rhan helaeth o Ewrop rhwng 2800 a 2000CC. Yn aml, ceir hyd iddynt ynghyd â dagrau, pennau saeth fflint, gorchuddion arddyrnau saethwyr, wedi'u llunio o gerrig, a thlysau personol o aur, ambr, muchudd ac asgwrn. Adwaenid y casgliad hwn o wrthrychau fel "pecyn" Bicer.

Yn y gorffennol, roedd yna gred bod Biceri yn eiddo i bobl ddyfeisgar a elwid yn "Bobl y Biceri", neu "Bobl y Diodlestri", oedd wedi mudo gwmpas Ewrop a goresgyn Prydain, gan ddod â'u pecyn o arteffactau gyda hwy.

Yn ddiweddar, mae damcaniaeth arall wedi dod yn boblogaidd. Yn ôl hon, syniadau a ffasiynau Bicer a ymledodd ar draws Ewrop, yn hytrach na phobl.

Yn ôl y safbwynt hwn, mabwysiadwyd y pecyn Bicer gan frodorion Prydain wrth iddynt gysylltu a masnachu â chymunedau ar gyfandir Ewrop, datblygiad a gafodd hwb o bosibl gan fewnfudiad nifer fach o bobl oedd yn hyrwyddo'r ffasiynau newydd.

Yng Nghymru, ychydig iawn o gladdfeydd Bicer cynnar sy'n hysbys ac mae'r rheini sydd wedi'u dyddio, drwy ddefnyddio'r dull radiocarbon, yn perthyn i'r cyfnod rhwng 2300 a1800CC. Prin iawn hefyd yw aneddiadau Bicer, ac mae'r rheini a ddarganfuwyd yn awgrymu bod y preswylwyr, o ran eu ffordd o fyw, yn ffermwyr symudol oedd yn magu da byw.

Darllen Cefndir

"A Beaker-burial from Llanharry, Glamorgan" gan V. E. Nash-Williams. Yn Archaeologia Cambrensis, cyf. 85, tt402-5 (1930).

Guide catalogue of the Bronze Age collections gan H. N. Savory. Cyhoeddwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (1980).

Prehistoric Wales gan F. Lynch, S. Aldhouse-Green a J. L. Davies. Sutton Publishing (2000).

Lwnwla Llanllyfni

26 Ebrill 2007

Lwnwla Llanllyfni.

Lwnwla Llanllyfni. Mae'n pwyso 185.4g (6.5 owns) ac yn mesur 24cm (9.5 modfedd) ar ei draws. Yn ôl pob tebyg crëwyd yr addurn hwn ar lun cilgant gan grefftwr a'i morthwyliodd yn fedrus o un ingot ar ffurf rhoden. Yna, ychwanegwyd yr addurniadau cymhleth o linellau igam-ogam, llinellau a dotiau drwy ddefnyddio offeryn pigfain a phwnsh copor neu efydd. Mae'r cynlluniau hyn yn debyg iawn i'r rhai a ddefnyddiwyd i addurno crochenwaith a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Adluniad o ferch yn gwisgo lwnwla aur o Lanllyfni

Adluniad o ferch yn gwisgo lwnwla aur o Lanllyfni, ( tua'r flwyddyn 2000CC).
Aur oedd un o'r metelau cyntaf i gael ei ddefnyddio yng Nghymru, ynghyd â chopr ac aloeon megis efydd. Mae defnyddio aur ar gyfer gemwaith ac addurniadau wedi bod yn thema gyson ers y cyfnodau cynnar.

Y gwrthrych trawiadol hwn yw un o'r arteffactau aur cynharaf i'w ddarganfod yng Nghymru ac mae'n dyddio o ddechrau'r Oes Efydd (2400-2000CC).

Fe'i darganfuwyd tua 1869 ar dir fferm Llecheiddior-uchaf, ger Dolbenmaen, ychydig filltiroedd o Lanllyfni (Gwynedd). Sylwodd gwas ffarm oedd allan yn saethu ar yr hyn a dybiai oedd deilen lawryf, felen yn gwthio allan o'r mawn. Gan nad oedd yn rhy siŵr ai dyna a welodd, dychwelodd i'r safle yn ddiweddarach, gan ddatgladdu'r gwrthrych aur hwn ar lun cilgant.

Oherwydd ei ffurf gilgantaidd fe'u gelwir yn lwnwla (Yn Lladin, luna = lleuad). Cafwyd hyd i wrthrychau tebyg i hwn yn yr Alban, Cernyw, gogledd-orllewin Ffrainc, ac Iwerddon lle y daethpwyd o hyd i oddeutu 90 o enghreifftiau.

Fel rheol, ceir hyd i lwnwlâu mewn mannau anghysbell, ymhell o aneddiadau hynafol, ac yn fynych fe'u darganfyddir yn ddamweiniol, megis yr enghraifft o Lanllyfni.

Yn ôl un awgrym, y bwriad oedd eu gwisgo fel dwyfronegau, ond mae'r ffaith nad oes ôl traul ar yr aur yn awgrymu na chawsant eu defnyddio fawr ddim. Mae'n bosibl eu bod yn symbol offeiriad neu'n wrthrychau a gâi eu defnyddio yn ystod defodau cymuned.

Mae'n bosibl y gwnaed lwnwla Llanllyfni o aur o Gymru, o faes aur Dolgellau, er enghraifft, neu o Ddolaucothi i'r gogledd-orllewin o Lanymddyfri, ond mae rhai'n amau ei fod yn un o'r defnyddiau crai a gâi ei fasnachu a'i fewnforio o Iwerddon.

Darllen Cefndir

'Bronze Age gold in Britain' gan J. P. Northover. Yn Prehistoric gold in Europe gan G. Morteani a J. P. Northover. Cyhoeddwyd gan Kluwer (1993).

Bronze Age goldwork of the British Isles gan J. J. Taylor. Gwasg Prifysgol Caergrawnt (1980).

'Objects mostly of prehistoric date discovered near Beddgelert and near Brynkir station' gan W. J. Hemp. Yn Proceedings of the Society of Antiquaries of London, ail gyfres, cyf. 1, tt166-83 (1918).

Y Dyn Bicer o Landaf - Bedd o'r Oes Efydd Cynnar yn Llandaf

12 Ebrill 2007

Bicer Llandaf

Bicer Llandaf

Wrth adfer tŷ yn ardal Llandaf ym 1992, dadorchuddiwyd slab carreg anghyffredin oedd wedi'i orchuddio gan dywod afon a silt. O dan y slab roedd asgwrn hir a llestr clai.

Daeth yn amlwg mai bicer oedd y llestr — llestr clai addurnedig oedd yn ffasiynol yng ngorllewin Ewrop tua 4,000 mlynedd yn ôl yn ystod 'Cyfnod y Bicer'. Mae'n bosib y byddai'r bicer wedi dal medd, cwrw neu ddiod arbennig arall yn wreiddiol. Roedd y slab cerrig yn dynodi safle bedd.

Gyda chydweithrediad ac anogaeth y perchnogion, fe gynhaliodd yr Adran Archeoleg a Niwmismateg gloddfa yn nhramwyfa'r tŷ, i ail-agor y bedd a chloddio'i gynnwys. Roedd y gistfaen amgylchynol a adeiladwyd o slabiau o graig Radyr, yn anarferol gan ei bod ar ogwydd, ei maen capan yn pwyso ar ongl o 30°, yn wahanol i'r cistfeini bicer siâp bocs mwy traddodiadol.

Ychydig iawn o'r sgerbwd sydd ar ôl. Y disgwyl oedd y câi'r sgerbwd ei ddarganfod ar ei gwrcwd, sy'n nodweddiadol o gyfnod y Biceri, ond dim ond darnau o'r craniwm (top y benglog) ac esgyrn y breichiau a'r coesau oedd wedi goroesi. Dadorchuddiwyd offer bedd ychwanegol, yn cynnwys mynawd efydd (offeryn pigfain ar gyfer torri tyllau mewn pren neu ledr), a naddyn flint — gwrthrychau a gladdwyd wrth ochr yr unigolyn i'w defnyddio yn y 'byd nesaf'. Cysylltir mynawydau â chladdedigaethau benywaidd fel arfer.

Drwy ddadansoddi'r gwaddodion sy'n llenwi'r bedd, gallwn esbonio ffurf anarferol y gistfaen, a pham mai dim ond rhan o'r sgerbwd sydd wedi goroesi. Mae presenoldeb gwaddolion graddedig, a adawyd yn y bedd gan ddŵr, yn awgrymu bod llifogydd wedi ymyrryd ac wedi erydu'r gladdfa. Heddiw, mae'r afon Taf yn llifo heibio gerllaw, a chodwyd yr adeiladau ger man darganfod y bedd ar hen safle gorlifdir yr afon.