Datguddio Hanes Cymru: Lansio Casgliadau Arlein 26 Mawrth 2018 Wrth i ni ddatguddio hanner miliwn o gofnodion casgliadau am y tro cyntaf, dyma rai o’r gwrthrychau rhyfedda' a mwya' diddorol o’n gwasanaeth Casgliadau Arlein newydd. Mae’r erthygl hon yn cynnwys llun o ran o sgerbwd dynol. Y Mwyaf Mae ambell i wompyn yn y casgliad – gan gynnwys Tram Ceffyl maint llawn o Gaerdydd a hofrennydd achub môr – ond y mwya’ o bell ffordd yw Institiwt y Gweithwyr o Oakdale. Agorwyd yr adeilad ym 1917, gyda neuadd ddawns, stafell gemau a llyfrgell – erbyn heddiw fe ddowch chi o hyd i’r adeilad yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae rhan helaeth o adeiladau Sain Ffagan yn rhan o’r casgliad cenedlaethol – ac yn meddu ar yr un statws cyfreithiol ag un o gampweithiau Monet neu gelc o drysor. Mae’r adeiladau’n cael eu datgymalu, eu symud a’u hail-adeiladau yn defnyddio technegau traddodiadol gan dîm o grefftwyr arbenigol. Yr Hynaf Rhain yw olion dynol hynaf Cymru Dannedd bachgen wyth oed yw’r rhain. Mae’n nhw dros 230, 000 mlwydd oed – yr olion dynol hynaf a ddarganfyddwyd yng Nghymru. Datguddiwyd nhw gan archaeolegwyr yn archwilio Ogof Pontnewydd, ger Cefn Meiriadog, ble darganfyddwyd olion arth, llew, llewpart, a dant rheinosorws. Bydd y dannedd yma i’w gweld yn arddangosfeydd newydd Sain Ffagan o Hydref 2018. Y Mwya Sgleiniog Mae pobl yng Nghymru wedi bod yn creu, ffeirio a gwisgo trysorau aur ers miloedd o flynyddoedd – fel yr addurn gwallt yma o’r Oes Efydd, a’r fodrwy enfawr hon. 'Disgen haul' yw'r enw ar y math hwn o addurn, ond nid yw pwrpas y gwrthrych yn hollol glir Mae’r Ddisgen Haul hon yn un o’r esiamplau cynharaf o addurn aur o Gymru, a darganfyddwyd hi yng Nghwmystwyth yng Ngheredigion. Credir mai addurn angladdol oedd y ddisgen hon, a'i bod yn debygol i'r ddisgen gael ei phwytho ar ddillad y person marw cyn eu hangladd. Dim ond chwech o'r disgiau yma sydd wedi eu canfod yn y DU yn gyfan. Mwyaf Dadleuol Ar yr olwg gynta, set de capel gyffredin yw hon. Ond o edrych yn agosach, fe welwn ni’r geiriau ‘Capel Celyn’ arni. Mae’r Capel a’i chymuned, wrth gwrs, o dan ddyfroedd Llyn Celyn erbyn hyn. Casglodd guraduron esiamplau o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn, cyn i'r cwm gael ei foddi yn 1965 Pan foddwyd cwm Tryweryn ym 1965 gan Gorfforaeth Lerpwl, daeth y digwyddiad yn drobwynt yn hanes ymgyrchu Cymreig. Crewyd cenhedlaeth newydd o brotestwyr, a hawliodd well triniaeth i gymunedau Cymreig gan y llywodraeth a chan gorfforaethau. Casglwyd y cwpanau hyn fel esiampl o fywyd bob dydd yng Nghapel Celyn – i’n atgoffa o gymuned wedi ei dadleoli, ac i goffau un o ddigwyddiadau gwleidyddol mwyaf pwysig Cymru’r 20ed ganrif. Gwobr Arbennig: Awyren wedi’i gwneud o Sedd Stafell Fwyta Adeiladwyd y Robin Goch ym 1909 – o gadair stafell fwyta, weiren biano ac injan 40 horsepower. Amserwr wy ger yr olwyn yrru sy’n mesur faint o danwydd sydd ar ôl yn yr awyren. Y Robin Goch wedi'i harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Bu'r awyren hon yn hedfan o gwmpas Caerdydd rhwng 1909 a 1916 - dyma lun o Horace Watkins, a adeiladodd y Robin Goch, mewn fersiwn gynharach, hyd yn oed yn fwy bregus, o’r awyren. Horace Watkins yn profi ei awyren ym 1908 Mae ein casgliadau yn llawn straeon sy’n olrhain hanes a dangos cymeriad unigryw pobl Cymru. Mae’r Robin Goch yn un o drysorau’r casgliad, ac yn eisampl o ddyfeisgarwch a menter Cymru ar ei orau. Hanner miliwn o eitemau i’w chwilio Mae lansiad Casgliadau Arlein yn datguddio hanner miliwn o gofnodion casgliad, sydd nawr ar gael ar lein i’w chwilio am y tro cyntaf. “Mae Casgliadau Arlein yn garreg filltir enfawr yn ein gwaith, wrth i ni geisio dod â rhagor o’n casgliadau arlein, i gynulleidfa ehanach, fyd eang. Dim ond dechrau’r gwaith yw hyn. Mae hi mor gyffrous meddwl beth y bydd pobl Cymru a thu hwnt yn ei wneud gyda’r cofnodion yma – archwilio gwrthrychau, llunio straeon ac ychwanegu at ein dealltwriaeth ni o’r casgliad cenedlaethol” – Chris Owen, Rheolwr y We Chwilio Casgliadau Arlein I’r dyfodol... Ein gwaith ni ‘nawr fydd i fynd trwy’r hanner miliwn o gofnodion, a’u gwella. Ysgrifennwyd rhai yn y 1940au ac felly byddwn yn ychwanegu gwybodaeth a lluniau wrth i ni fynd yn ein blaen. Fe fyddwn ni’n dadansoddi sut y mae pobl yn defnyddio’r casgliadau, i weld be sy’ fwya’ poblogaidd ymysg ein hymwelwyr, neu beth sy’n sbarcio trafodaeth. Bydd hyn yn rhoi syniad i ni o beth i dynnu llun ohono nesaf, neu beth i’w ystyried ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Mae paratoi gwrthrychau a thynnu eu lluniau yn broses sydd angen gofal, am fod llawer o'r gwrthrychau yn fregus neu'n sensitif i olau. Os hoffech chi ein cefnogi yn y gwaith yma, gwnewch rodd heddiw - mae pob cyfraniad yn cyfri. Cyfrannu Heddiw Rydym ni'n eithriadol o ddiolchgar i'r People's Postcode Lottery am eu holl gefnogaeth wrth i ni weithio i rannu'n casgliadau arlein.
Y celc o’r Oes Efydd Ddiweddar o Drefddyn: Stori am Fwyeill a Phicellau Matthew Guiseppe Knight, 16 Medi 2017 Celc Trefddyn, Torfaen Llafn uchaf y fwyell De Cymru oedd wedi torri. Dychmygwch yr olygfa. Rydych allan yn cerdded mewn cae. Rydych yn sgubo’ch datgelydd metel ffyddlon yn ôl a blaen dros y ddaear o’ch blaen wrth gerdded. Fe glywch bipian rhythmig y peiriant gyda phob cam a gymerwch. Yn sydyn, mae’r bipian yn cyflymu. Mae rhywbeth yn y ddaear. Rydych yn dechrau cloddio, i weld beth sydd yno. Wrth gloddio, daw pen bwyell hynafol i’r golwg… Dyna oedd hanes Gareth Wileman a’i ddatgelydd metel ym mis Tachwedd 2014. Dros gyfnod o ryw bythefnos, datgelodd Gareth gelc o’r Oes Efydd Ddiweddar oedd yn cynnwys tri phen bwyell socedog efydd a dau flaen picell efydd yn agos iawn at ei gilydd yng nghymuned Trefddyn, Torfaen. Roedd Gareth yn sylweddoli pa mor arwyddocaol oedd ei ganfyddiad ac fe gysylltodd yn syth â Mark Lodwick, Cydlynydd Darganfyddiadau Cynllun Henebion Cludadwy Cymru, a aeth ati i archwilio man darganfod y celc. Claddwyd y celc tua 3000 o flynyddoedd yn ôl (rhwng 950 ac 800 CC) yn yr Oes Efydd Ddiweddar. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd celciau o lawer o offer metel, yn cynnwys arfau a thŵls, eu claddu mewn gwahanol fannau. Beth sydd yn y celc? Er y gellir dosbarthu eitemau’r celc yn fras fel ‘pennau bwyeill’ a ‘phennau picellau’, mae pob un yn perthyn i ddosbarth penodol y gallwn eu defnyddio i’n helpu i ddeall sut y câi gwahanol bethau eu masnachu yn yr Oes Efydd. Un peth diddorol iawn yw soced yn perthyn i fwyell socedog ‘De Cymru’ a gladdwyd yn y celc. Cafodd yr ymyl dorri ei thynnu’n fwriadol yn yr Oes Efydd. Mae un o’r bwyeill eraill wedi’i difrodi’n fwriadol hefyd. Mae i’r bwyeill hyn dair asen fertigol ar y ddau wyneb ac maent yn arbennig o gyffredin yn … ie, rydych chi’n iawn, De Cymru! Ar y llaw arall, mae un pen picell yn eithaf prin. Cyfeirir ato fel ‘pen picell lafn lloerfwlch’ gan fod dau dwll hanner crwn yng nghanol y llafn. Mae blaen y pen picell hwn a rhan o’r soced wedi'u torri i ffwrdd, a gallai hynny fod yn fwriadol hefyd. Pam y mae’r celc yn bwysig? Daethpwyd o hyd i gelc Trefddyn mewn ardal lle na wyddem o’r blaen am weithgarwch pobl yn yr Oes Efydd. Mae’n ychwanegu at swm cynyddol o ddeunydd o’r Oes Efydd Ddiweddar a ganfuwyd ledled Cymru. Roedd casglu neu gelcio pethau a’u claddu yn draddodiad eang yn yr Oes Efydd Ddiweddar, ond nid ydym yn siŵr pam roedd pobl yn gwneud hyn. Mae cyfuniadau o arfau, fel picellau, a thŵls, fel bwyeill, yn gyffredin mewn celciau o’r Oes Efydd Ddiweddar. Ond gall eitem berthyn i fwy nag un dosbarth – gall bwyell fod yn arf peryglus hefyd a gallai rhai pennau picellau fod yn eitemau seremonïol. Mae’n bosib mai casgliad un person yw'r cyfuniad o wahanol bethau sydd mewn celc. Neu efallai bod nifer o bobl wedi dod ynghyd i gladdu pethau a oedd yn bwysig i ardal benodol. Mae’n fwy na thebyg na fyddwn ni fyth yn gwybod beth y mae celf Trefddyn yn ei gynrychioli. Y pen picell ‘lafn lloerfwlch’ prin. Yr unig fwyell gyflawn yn y celc. Daethpwyd o hyd i un fwyell wedi torri, a llawer o ddarnau llai. Roedd datgladdu’r celc yn waith mwdlyd iawn!§ Torri neu Beidio â Thorri Mae llafnau dwy o’r bwyeill yng nghelc Trefddyn fel pe baent wedi’u tynnu’n fwriadol. Mae difrod bwriadol tebyg i’w weld ar y pennau picellau. Fodd bynnag, gadawyd y drydedd fwyell yn gyfan. Pam oedd hyn? A lle mae’r darnau coll? Mae’n bosib bod y darnau yn dal yn y ddaear, yn disgwyl cael eu darganfod. Fodd bynnag, roedd difrodi eitemau cyn eu claddu mewn celc yn beth cyffredin i’w wneud. Roedd rhai darnau o eitemau’n cael eu dewis i’w claddu – yn yr achos hwn – pennau soced y bwyeill – ac roedd darnau eraill yn cael eu heithrio (y llafnau torri). Weithiau, mewn celciau eraill, dim ond llafnau’r bwyeill a gawn, heb y socedi. Efallai bod y rhan o’r eitem a gladdwyd yn bwysig. Mae arwyddocâd i gynnwys eitemau cyflawn hefyd. Yn Nhrefddyn, roedd y fwyell gyflawn wedi’i hogi ac mae’n debyg ei bod wedi’i defnyddio cyn ei chladdu. Byddai’n dal yn ddefnyddiol, felly pam fyddai rhywun yn claddu eitem y gellid ei defnyddio? Efallai bod y fwyell wedi’i defnyddio ers blynyddoedd a bod iddi arwyddocâd arbennig i'w pherchnogion, gan ei gwneud yn addas i'w chladdu. Mae’n bwysig meddwl am yr eitemau hyn fel pethau defnyddiol a symbolaidd. Deall yr Oes Efydd Diben archaeoleg yw dod i ddeall pobl y gorffennol. Mae celc Trefddyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar yr Oes Efydd yn y rhan hon o Gymru, lle na chanfuwyd deunyddiau cynhanesyddol o’r blaen. Mae’n dangos fod yno gymunedau yn yr Oes Efydd a’u bod yn ymwneud ag eitemau mewn ffyrdd dirgel na allwn ni ddim ond dyfalu beth oeddent. Mae pob darganfyddiad yn ein helpu i ddeall y darlun ehangach ac mae celc Trefddyn yn gam pwysig tuag at wneud hyn. Nodiadau a Diolchiadau Bu darganfyddwr y celc hwn yn ddigon cyfrifol i’w gyflwyno trwy Gynllun Henebion Cludadwy Cymru ac erbyn hyn rydym yn falch o gael ei arddangos yn Amgueddfa Pont-y-pŵl lle gall y cyhoedd ei fwynhau. Cafodd ei gaffael â chyllid gan y Prosiect Hel Trysor: Hel Straeon. Cewch weld rhagor o fanylion am waith ymchwilio’r celc, a sgwrs gyda’r darganfyddwr, Gareth Wileman, yma. Diolch i Adam Gwilt (Prif Guradur: Cynhanes yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru) a Mark Lodwick (Cydlynydd Darganfyddiadau: PAS Cymru) am ganiatáu i mi weld adroddiad oedd heb ei gyhoeddi am y celc.
Dagr Bae Abertawe Abigail Dickinson a Roqib Monsur, 21 Mehefin 2017 Yn 1971, ychydig a wyddai myfyriwr Pensaernïaeth o’r enw Paul Tambling y gallai fod ar fin gwneud darganfyddiad archaeolegol mwyaf ei fywyd ac y byddai i Ddagr Bae Abertawe (fel y’i gelwir erbyn hyn) arwyddocâd arbennig yn ei fywyd. Wrth gerdded ar draeth Abertawe, sylwodd Paul a’i bartner Angela ar yr hyn oedd yn ymddangos fel darn o fflint yn ymwthio allan o’r tywod. Mewn gwirionedd, roeddent wedi darganfod, trwy hap a damwain, ‘ddagr fflint 4200 o flynyddoedd oed’. Dywedodd Paul wrthym: “Pan godais y dagr, roeddwn i’n methu deall sut roedd wedi cyrraedd yno, yn enwedig gan nad yw fflint yn brigo’n naturiol yn unman yng Nghymru. Roedd y fflint mewn cyflwr ardderchog ac nid oedd yn ymddangos bod symudiadau’r môr wedi amharu arno. Yn ogystal â bod yn waith celf cain, mae’n grefftwaith gwych ac mae’n fy ysbrydoli wrth i mi gynllunio adeiladau, a minnau’n gwneud fy ngorau i gyrraedd yr un safon uchel yn fy nghrefft bob amser. Bron 46 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’r dagr gan y pâr o hyd. Mae'n agos at eu calonnau a chredant ei fod yn symbol unigryw o'u perthynas hirhoedlog. Dywedodd Paul: “Byth er pan oeddwn yn fyfyriwr, mae’r fflint wedi symud gyda mi fwy na chwech o weithiau mewn hen amlen er bod cyfnodau yn fy mywyd pan oeddwn yn meddwl fy mod wedi'i golli. Serch hynny, ers i mi ddarganfod yn ddiweddar bod iddo bwysigrwydd hanesyddol enfawr, prin y mae allan o’m golwg.” Erbyn hyn, gwyddom mai ‘Dagr y Bicerwyr’ yw’r fflint a’i fod yn dyddio o’r Oes Efydd gynnar, tua 2250 i 2000 o flynyddoedd Cyn Crist, sy’n golygu ei fod tua 4200 o flynyddoedd oed. Yn ei ddydd, roedd iddo arwyddocâd symbolaidd mawr gan y byddai wedi’i gladdu gyda rhywun uchel ei statws er mwyn bod gydag ef yn y byd a ddaw. Darganfuwyd ychydig o ddagerau eraill yng Nghymru ond does dim un cystal â dagr Bae Abertawe. Yn ne-ddwyrain Lloegr y canfuwyd y nifer fwyaf o ddagerau o’r cyfnod hwn. Mae i Ddagr y Bicerwyr werth archaeolegol a symbolaidd enfawr ond beth y mae’n ei olygu i Paul ac Angela fel teulu? “Mae’r dagr yn symbol o hyd ein bywyd priodasol. Mi ddes i o hyd iddo dair blynedd cyn i ni briodi ac mae’n ein hatgoffa o’r penwythnosau hyfryd hynny roedden ni’n eu treulio yn Abertawe slawer dydd, ac yn ein clymu’n nes at ein gilydd. Roedd yn amser hudolus a does dim modd ei ailadrodd.” Mae Paul ac Angela Tambling yn rhedeg ymgynghoriaeth bensaernïol yn Aberhonddu. Nid oeddent yn sylweddoli pa mor bwysig oedd y dagr i ddechrau ond ers i’w arwyddocâd archaeolegol ddod yn amlwg, mae arbenigwyr yn dweud wrthynt yn aml pa mor lwcus oeddent i ddod o hyd i beth mor bwysig mewn lle mor annisgwyl. “Rwy’n berson lwcus,” meddai Paul. “Roeddwn i’n lwcus i briodi Angela ac yn lwcus i ddod o hyd i’r dagr pan oeddwn yng nghwmni Angela.” Dywedodd Paul wrthym ei fod yn gwybod yn reddfol bod y dagr yn beth rhyfeddol cyn gynted ag y cododd ef, ond nid oedd yn siŵr ai dagr ynteu blaen gwaywffon ydoedd. Ar hyd y blynyddoedd, mae Angela wedi bod yn dweud wrtho, “Pam nad ei di i holi?” Ar ôl cael ei blagio’n ddi-baid, penderfynodd Paul yn y diwedd fynd i Amgueddfa Brycheiniog ond pan gyrhaeddodd, gwelodd ei bod wedi cau ar gyfer gwaith adnewyddu mawr. Tua dechrau 2016, aeth y pâr i arddangosfa naddu fflint yn Amgueddfa Cyfarthfa, Merthyr Tudful, gan Phil Harding o’r Time Team. Yno, ar ôl siarad â Phil y daeth yn amlwg pa mor bwysig oedd y dagr a chyngor Phil oedd y dylai’r eitem hon o bwysigrwydd archaeolegol gael ei chofnodi gan Amgueddfa Cymru. Yn fuan wedyn, cysylltodd Mark Lodwick, Cydlynydd Darganfyddiadau Cynllun Henebion Cludadwy Cymru, yn Amgueddfa Cymru, â’r cwpwl ac yn dilyn hynny cawsant gyfarfod. Pan esboniodd Mark arwyddocâd y dagr, dywedodd Paul: “Roedd blew fy ngwegil yn sefyll i fyny pan ges i wybod am wahanol haenau arwyddocâd y dagr, wrth feddwl bod gen i rywbeth yr oedd rhywun wedi'i wneud 4200 o flynyddoedd yn ôl”. Aeth Paul ymlaen, “Roeddwn i’n dal y peth ’ma yn fy llaw, gan feddwl cyn lleied o barch roedd wedi'i gael ers 1971 a minnau'n ei gadw mewn hen amlen yng nghefn rhyw ddrôr.” Ers y cyfarfod gyda Phil Harding a Mark Lodwick, mae’r dagr wedi cael llawer mwy o sylw ac mae hyn wedi annog Paul ac Angela i gymryd mwy o ddiddordeb mewn archaeoleg a’r Bicerwyr. Ar hyn o bryd, does dim bwriad i amgueddfa gaffael dagr Bae Abertawe oherwydd mae’n eiddo i Paul ac Angela ond maen nhw wedi gwneud eu gorau, gyda help Mark Lodwick, i sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod am bwysigrwydd y dagr.
Aur 3,000 o flynyddoedd oed o Wrecsam 26 Ebrill 2007 Y celc o arteffactau'r Oes Efydd a ddarganfuwyd gan ddatguddwyr metel ger Wrecsam. Y gyllell efydd, a ddarganfuwyd mewn dau ddarn. Roedd rhiciau niferus ar hyd y llafn sy'n awgrymu, efallai, y cawsai ei defnyddio am beth amser cyn cael ei chladdu. Y fwyell efydd yr oedd ei soced yn cynnwys darnau o ddwy neu ragor o freichledau aur. Darnau o'r breichledau a wnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon. Yn Ionawr 2002, darganfuodd y datguddwyr metel Pete Williams a Mike Sheen gelc bach o waith metel o'r Oes Efydd ger Wrecsam. Mewn dim o dro, cafodd y celc hwn ei ddwyn i sylw archaeolegwyr, a aeth ati i archwilio'r safle lle y cafwyd hyd iddo. Yn Ionawr 2002, darganfuodd y datguddwyr metel Pete Williams a Mike Sheen gelc bach o waith metel o'r Oes Efydd ger Wrecsam. Mewn dim o dro, cafodd y celc hwn ei ddwyn i sylw archaeolegwyr, a aeth ati i archwilio'r safle lle y cafwyd hyd iddo. Mae'r arteffactau a ddarganfuwyd yn cynnwys cyllell efydd doredig, pen bwyell, a phedwar darn o freichledau aur. Cafodd y gwrthrychau i gyd eu llunio rhwng 1000 a 800CC. Mae'r gyllell o'r math a ddefnyddiwyd ledled de Lloegr ac Iwerddon, ac mae ei ffurf yn efelychu cleddyfau mwy o lawer a gâi eu defnyddio bryd hynny. Fodd bynnag, dyma'r gyllell gyntaf o'i math i gael ei darganfod yng Nghymru. Mae gan y pen bwyell efydd soced ar un pen iddo ac ynddo y gosodwyd coes bren, a thrwy'r ddolen sy'n rhan annatod o'r pen y gwthiwyd lledr neu gordyn er mwyn clymu'r pen yn dynn wrth y goes. Fodd bynnag, mae'n debyg y cafodd y pen bwyell ei gladdu heb y goes am y cafwyd hyd i bedwar darn o freichledau aur yn y soced. Mae'r darganfyddiadau gwerthfawr hyn yn cynnwys dwy derfynell (darnau pen) o fath a gâi ei ddefnyddio'n gyffredin yn Iwerddon, ac fe'u gwnaed, yn ôl pob tebyg, o aur Iwerddon. Mae'n debyg bod yr arteffactau hyn yn eiddo i rywun uchel iawn ei barch oherwydd ychydig iawn o bobl yr adeg hon a fyddai wedi gallu cael gafael ar aur Iwerddon ac arfau mor gywrain. Ni chawn wybod i sicrwydd pam y penderfynodd eu perchennog gael gwared arnynt, ond mae'n debyg y cawsant eu claddu fel offrwm i'r duwiau. Mae'r celc yn ychwanegu manylion gwerthfawr at ein gwybodaeth am fywyd yng Nghymru 3,000 o flynyddoedd yn ôl. Ar yr adeg hon, roedd arweinwyr yn gwisgo i greu argraff, drwy wisgo breichledau aur ac addurniadau gwallt ac roedd eu hoffer a'u arfau, pryd a gwedd eu ceffyl, a safon unrhyw wleddoedd yr oeddent yn eu trefnu'n adlewyrchu eu statws yn y gymuned. Er bod y rhan fwyaf o drigolion Cymru'n ffermwyr sefydlog neu'n fugeiliaid yn ystod y cyfnod hwn, mae darganfyddiadau fel y celc o Wrecsam yn dangos bod y cymunedau bychain hyn yn rhan o'r rhwydweithiau masnachoedd yn cysylltu Cymru ag Iwerddon, ac yn dynodi bod ein cyndeidiau'n hel meddyliau am fwy na dim ond bwyd, ffermio a byw. Mae'r eitemau hyn yn ffurfio rhan o gasgliadau Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Gleindorch Pen-y-bonc 26 Ebrill 2007 Gleindorch Pen-y-bonc (Ynys Môn). Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Sero-radiograff o leindorch Pen-y-bonc. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (yr Alban). Llun: Helen Jackson ar gyfer Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban. Lwnwla aur o Swydd Kerry, Iwerddon. Llun © Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa Brydeinig. Fel y gwyddom, roedd gan y Frenhines Fictoria gryn ddiddordeb mewn gemwaith muchudd (jet), ond mae hanes y defnydd a wnaed o'r garreg led-werthfawr hon yn hwy o lawer, fel y tystia gleindorch 4,000 o flynyddoedd oed o Ynys Môn. Yn 1828 cafwyd hyd i fedd naddedig mewn craig ym Mhen-y-bonc, 3km (1.8 milltir) i'r gorllewin o Gaergybi, ym Môn. Gwaetha'r modd, anghyflawn yw cofnodion y darganfyddiad hwn ond roedd y bedd, yn ôl pob tebyg, tua 4,000 o flynyddoedd oed ac mae ymhlith y cyfoethocaf i ddod i'r amlwg hyd yma ym Môn. Awgryma'r ffaith fod y torwyr beddau wedi mynd i'r drafferth o dorri'r bedd yn y graig mai person pwysig oedd yr ymadawedig. Ar ben hynny, yn ôl y sôn, cafwyd hyd i ddau freichdlws metel a chasgliad o leiniau du, gleiniau gwahanu a botymau yn y bedd. Mae'r Gleindorch fuchudd East Kinwhirrie, Angus (dangoswyd yn y llun) yn dangos yr enghraifft hon siâp gleindorch glain gwahanu cyflawn, ac mae'n dangos sut yr addurnwyd rhai o'r enghreifftiau gorau. Gwaetha'r modd, collwyd y breichdlysau a rhai o'r gleiniau, yn ôl pob tebyg, yn fuan wedi'r darganfyddiad ond mae'r darnau sydd wedi goroesi wedi'u cadw bellach yng nghasgliadau'r Amgueddfa Brydeinig. Mae'r darnau hyn yn perthyn i leindorch o leiniau a gleiniau gwahanu ar ffurf cilgant. Fel rheol, ceir hyd i wrthrychau fel y rhain yn gysylltiedig â chladdfeydd merched. Gwnaed y rhan fwyaf o leiniau a gleiniau gwahanu gleindorch Pen-y-bonc o lo cannwyl neu lignit (dau ddeunydd tebyg i lo sydd i'w canfod ledled Cymru). Fodd bynnag, gwnaed un glain ac un o'r botymau sydd wedi goroesi o fuchudd, deunydd sydd i'w gael yn Whitby (gogledd Swydd Efrog), 300km (186 milltir) i'r gogledd-ddwyrain o Fôn. Pren ffosiledig ysgafn a meddal yw muchudd a ymffurfiodd o goed a dyfai 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn ystod y cyfnod Jwrasig. Fe'i ceir mewn rhai rhannau o Ewrop yn unig a ddioddefodd amodau daearegol arbennig. Y modd yr ymffurfiodd sy'n ei wneud yn wahanol i ddeunyddiau tebyg, fel lignit. Dim ond rhannau o'r leindorch sydd wedi goroesi. Mae'n bosibl mai'r darnau yma yn unig a gladdwyd gan fod y gleindorchau muchudd a ddarganfyddir o'r Oes Efydd yn aml yn anghyflawn. Ar y llaw arall, efallai y gwnaed rhannau o'r leindorch o ddefnyddiau sydd wedi pydru ers hynny, neu y collwyd rhai darnau pan gafodd y gwrthrych ei gloddio. Roedd cynhyrchu gleindorchau muchudd yn waith medrus. Câi edefynnau niferus y leindorch eu crogi drwy ddefnyddio gleiniau gwahanu y gwthiwyd y llinynnau trwy'r tyllau a duriwyd ynddynt. Mae'n debyg y gwnaed y gwaith manwl hyn drwy ddefnyddio dril bwa a darn o weiar efydd. Yn achos gleindorch Pen-y-bonc, cafodd rhai o'r tyllau eu turio ar eu hyd drwy'r gleiniau gwahanu. Ond er mwyn cynyddu nifer yr edefynnau ar un ochr i'r glain gwahanu, turiwyd tyllau drwy un pen er mwyn ei gwneud hi'n bosibl clymu llinynnau newydd i mewn. Yn wahanol i nifer o emau, mae'n gynnes o'i gyffwrdd ac yn gymharol rwydd i'w weithio; yn ogystal, mae modd caboli muchudd yn loyw lân. Heddiw, mae'n ymdebygu i blastig sgleiniog ond yn ystod yr Oes Efydd mae'n siŵr y byddai arno olwg dieithr ac anarferol. Ar ben hynny, mae gan fuchudd briodoleddau electrostatig anarferol (pan gaiff ei rwbio mae'n atynnu gwallt a deunyddiau ysgafn eraill) a fyddai'n cael ei ystyried yn hudol, o bosibl, yn ystod y cyfnod cynhanesyddol ym Mhrydain. Roedd y darnau o fuchudd yng ngleindorch Pen-y-bonc wedi'u treulio'n arw sy'n awgrymu eu bod yn eitemau a drysorwyd ac a gadwyd am flynyddoedd lawer. Ond roedd llai o ôl traul ar y rhannau hynny o'r leindorch a wnaed o ddeunyddiau lleol, sy'n awgrymu eu bod yn amnewidion mwy diweddar a gafodd eu gosod yn y leindorch er mwyn estyn oes trysor teuluol. Roedd gwrthrychau a wnaed o fuchudd yn boblogaidd ledled Prydain yn ystod yr Oes Efydd Cynnar (2300-1500CC), ond wedi'r cyfnod hwn dirywiodd y defnydd ohono. Mae'n eironig meddwl, tua'r adeg y darganfuwyd gleindorch fuchudd Pen-y-bonc yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd diwydiant muchudd Whitby ar drothwy adfywiad, diolch i raddau helaeth i obsesiwn y Frenhines Fictoria â galarwisgoedd du yn dilyn marwolaeth y Tywysog Albert. Lwnwla Aur Mae lwnwlâu aur hefyd yn dyddio o'r Oes Efydd Cynnar ac yn aml caent eu harddurno mewn modd tebyg i leindorchau muchudd. Fodd bynnag, fel rheol ceir hyd i leindorchau muchudd mewn claddfeydd ond ni cheir hyd i lwnwlâu gyda'r meirw. Efallai fod muchudd yn awgrymu marwolaeth a bod aur yn cynrychioli bywyd ym meddyliau pobl 4,000 o flynyddoedd yn ôl. Darllen Cefndir 'The Welsh 'jet set' in prehistory' gan Alison Sheridan a Mary Davis. Yn Prehistoric ritual and religion gan Alex Gibson a Derek Simpson, tt148-62. Sutton Publishing (1998). 'Investigating jet and jet-like artefacts from prehistoric Scotland: the National Museums of Scotland project' gan Alison Sheridan a Mary Davis. Yn Antiquity (2002), cyf. 26, tt812-25.