Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Radicaliaeth 19 Medi 2008 Bois Breaker yn Pennsylvania. Dechreuodd nifer o fechgyn ifanc o Gymru weithio'n ifanc iawn yn America. Roedd gweithwyr diwydiannol o Gymru'n dod o ardaloedd lle'r oedd yr undebau llafur trefnus iawn. Roedden nhw'n adnabyddus am sefyll dros eu hawliau, amodau gwaith diogel a chyfogau teg. Wrth adael eu mamwlad i chwilio am waith aethon nhw â'r rhinweddau hynny – a'r parodrwydd i frwydro – gyda nhw. Ymfudodd John Owens i Ohio o Gwm Clydach pan oedd yn blentyn yn y 1890au. Collodd un o'i goesau mewn damwain ac aeth ati i gadw'n brysur trwy weithio dros yr undeb. Erbyn diwedd y 1930au roedd yn llywydd yr United Mine Workers of America yn Ohio. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth yn Drysorydd Ysgrifennydd Rhyngwladol yr UMWA, gan aros yn y swydd tan 1970. Owens fu'n gyfrifol am greu'r system iechyd a lles gyntaf ar gyfer gweithwyr UDA. Radicaliaeth Gymreig gafodd y bai am y trafferthion yn y diwydiant ceir Prydeinig ddiwedd y 1970au, er bod y rhan fwyaf o'r ffatrïoedd y tu allan i Gymru. Roedd llawer o'r gweithwyr yn y ffatrïoedd cynhyrchu ceir yn Rhydychen a Birmingham yn hanu o Gymru. Roedden nhw wedi ymfudo i chwilio am waith wrth i'n diwydiannau traddodiadol ddioddef yn sgil y dirwasgiad economaidd cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Yn America cymerodd rhai cyfogwyr yn erbyn gweithwyr o Gymru oherwydd eu henw am fod yn flwriaethus. Mary Thomas (O'Neil) Ganed Mary yng nghwm Ogwr ym 1887. Aeth i UDA ym 1913 gyda'i dau blentyn, i chwilio am ei gŵr, glöwr oedd wedi mynd â’i gadael hi. Bu'n rhan o 'Gyflafan Ludlow' yn ystod streic glowyr Colorado ym 1914, a hi oedd yr unig fenyw i gael ei harestio. Teithiodd ar hyd a lled y wlad i ddenu cefnogaeth i'r glowyr oedd yn streicio, gan annerch yr Arlywydd hyd yn oed.
Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Diwylliant Cymraeg 19 Medi 2008 Eglwys Hen Saron, yr eglwys Gymreig gyntaf yn Minnesota, 1856
Gweithio Dramor - Ymfudo o Cymru: Menywod 19 Medi 2008 Paratoi bwyd ar gyfer Cymanfa Ganu, Eglwys Peniel, Pickett, Wisconsin,1946. Er taw dynion oedd y mwyafrif o'r gweithwyr diwydiannol, roedd menywod yn bwysig iawn i'r cymunedau mudol. Yn aml iawn, byddai'r dynion yn teithio i wlad newydd ar eu pennau eu hunain i gael gwaith a sefydlu cartref. Byddai'r gwragedd a'r plant yn dilyn wedyn. Yn y cyfamser, bu'n rhaid i'r gwragedd gynnal eu hunain a'u plant. Roedd menywod yn amlwg iawn yn y gwaith o drefnu gweithgareddau cymunedol fel Eisteddfodau, addysg a diwygiadau cymdeithasol. Roedd rhai menywod yn gweithio ym maes diwydiant. Yng Nghymru, cyfogwyd llawer o fenywod mewn gweithfeydd tunplat. Ym 1895 cyfogodd gweithfeydd Tunplat Monongahela yn Pittsburgh, Pennsylvania ymfudwraig o Gymru o'r enw Hattie Williams i hyfforddi menywod i wneud yr hyn a ystyriwyd yn waith dynion. Arweiniodd hyn at brotestio yma ac yn UDA. Roedd menywod yn cyfrannu at fywyd masnachol mewn ffyrdd eraill hefyd. Yn Seland Newydd, llwyddodd Mary Jane Innes (Lewis gynt) o Lanfaches, Sir Fynwy i reoli bragdy ei diweddar ŵr am fynyddoedd lawer.
Ysbryd y mwynwyr 1 Hydref 2007 Dyw Sir Ceredigion ddim yn uniongyrchol a chysylltiad a hanes mwyngloddio. Ond fel y teithiwch tuag at Aberystwyth ar yr arfordir, gan ddilyn dyffrynnoedd mewndirol afonydd Ystwyth, Rheidol a Mynach, byddech yn camgymryd wrth gredu mai amaethyddiaeth fu economi Ceredigion ar hyd yr amser. Mae mwyngloddio am gopor, plwm, zinc ac arian wedi bod yn rhan bwysig o economi'r sir ers 4,000 o flynyddoedd. Edrychwch yn fanylach ar natur a wyneb y tirlun sy'n newid wrth i chi deithio i'r bryniau, a bydd stori arall dod i'r amlwg. Wrth deithio o un pentref i'r llall, mae'r tirwedd hynafol yn cuddio nifer o storïau, traddodiadau a cynllwynio a fu'n amlwg yn ystod y blynyddoedd gynt. Mae'r gwasgariad o gymunedau sy'n cynnwys Ponterwyd, Pontrhydfendigaid, Ffair Rhos, Cwmystwyth, Ysbyty Ystwyth, Goginan, Ystumtuen, Pontrhydygroes, Cwmsymlog, Taliesin a Thalybont heb unrhyw beth yn eu cysylltu yn ôl pob golwg. Ond maent yn cynnwys un thema sy'n berthnasol iddynt oll - diwylliant hanesyddol cloddio. Mae'r gwybodaeth hon yn rhan o'r wefan 'Ysbryd y Mwynwyr' - project adfywio cymunedol i geisio creu hunaniaeth i ogledd Ceredigion trwy fanteisio ar yr etifeddiaeth mwyngloddio metel fel thema. x