Breuddwydion Chwyldroadol: Celf Ffrengig gyda Phrifysgol Bryste 22 Mawrth 2012 Cerbyd Trydydd-dosbarth Honore Daumier (1808 - 1879) Gweithwyr ar y Stryd, 1838-40 Honore Daumier (1808 - 1879) Y Chwa o Wynt Jean-François Millet (1814 - 1875) Yr Enciliad Louis Eugène Benassit (1833 - 1904) Mae gan Amgueddfa Cymru un o'r casgliadau mwyaf eithriadol o gelf Ffrengig y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y DU. Yma gwelwn golwg or newydd ar gasgliad yr Amgueddfa o baentiadau'r cyfnod cyn yr Argraffiadwyr Ffrengig, gyda gwaith ymchwil a dehongli gan Brifysgol Bryste.Canrif y ChwyldroPenderfynodd arlunwyr gofnodi hanes cymdeithasol a gwleidyddol cythryblus Ffrainc ar gynfas, yn enwedig y newidiadau mewn bywyd bob dydd ac yn nisgwyliadau pobl. Esgorodd Chwyldro 1789, pan sefydlwyd y Weriniaeth Ffrengig Gyntaf, ar ganrif o wrthdaro ac ansicrwydd i'r boblogaeth. Er bod ambell artist yn ceisio portreadu digwyddiadau'r dydd, roedd eraill yn ceisio ail-gyfl eu'r hen draddodiadau coll.Chwyldro a RealaiddAcademi Celfyddyd Gain y wladwriaeth a'i harddangosfa swyddogol, y Salon, oedd yn llywio cyfeiriad celf Ffrengig o'r ail ganrif ar bymtheg ymlaen. Erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, dechreuodd llawer o arlunwyr herio'r Academi a'r Salon. Mae llawer o'r paentiadau yn dangos eu bod yn torri'r traddodiad ac yn dechrau mabwysiadu arddull fodern newydd. Dechreuodd mwy a mwy o arlunwyr gefnu ar y ffi gyrau Beiblaidd a'r arwyr Rhufeinig a oedd yn rhemp ar waliau'r Salon.Yn Cerbyd Trydydd-dosbarth, mae Honoré Daumier yn cyfeirio at ddyfais allweddol y ganrif, sef trên stêm. Ar y llaw arall, mae Y Teulu Gwerinol gan Jean-François Millet yn cyfl wyno portread o ffermwyr a delfryd o gefn gwlad Ffrainc. Er eu bod nhw'n baentiadau tra gwahanol, mae thema gyffredin iddynt, sef portreadu bywyd cyfoes a dirodres bob dydd.Dyma pryd y dechreuodd artistiaid Ffrengig beintio fel hyn; dull y cyfeirir ato'n aml fel peintio 'Realaidd'. Y newidiadau yng nghynnwys lluniau fraenarodd y tir ar gyfer yr hyn a ystyriwn yn Gelf Fodern heddiw.Ansicrwydd GwleidyddolAr ôl i'r Brenin Siarl X gael ei ddiorseddu gan Chwyldro Gorffennaf 1830, daeth Louis-Phillippe yn frenin tan iddo yntau gael ei ddisodli gan Chwyldro mis Chwefror 1848. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Ail Weriniaeth gan roi'r hawl i ddynion bleidleisio ac addewid o ddemocratiaeth. Er hynny, mae'r modd y ffrwynwyd gwrthryfel y gweithwyr yn chwyrn ym mis Mehefi n y fl wyddyn honno, les journées de Juin, yn dangos fod yr hen rwystredigaeth yno o hyd. Mae Gweithwyr ar y Stryd Daumier yn cyfl eu'r tensiynau hyn ac fel petai'n rhagweld y digwyddiadau hyn. Roedd ei luniau'n beirniadu'r gwahaniaethau parhaus rhwng y dosbarthiadau cymdeithasol.Mae llun diweddarach Millet, Yr Heuwr, yn pwysleisio'r bywyd gwerinol a llafurio ar y tir. Roedd amaethyddiaeth yn rhan ganolog o'r hunaniaeth genedlaethol Ffrengig, ac roedd Millet yn tristau'n fawr o weld cymaint yn symud o gefn gwlad i'r dinasoedd.Ym 1870, dechreuodd Ffrainc ryfela yn erbyn Prwsia gyda goblygiadau trychinebus. Ffodd llawer o arlunwyr i ddiogelwch cefn gwlad yn ystod y rhyfel, gan gynnwys Millet a adawodd Barbizon i chwilio am loches ar arfordir Normandi. Ar ôl dychwelyd, aeth ati i beintio Y Chwa o Wynt; portread o nerth a grym dychrynllyd y storm sy'n cyfl eu newid a dinistr rhyfel. Mae Yr Enciliad gan Louis Eugene Benassit yn dangos ymateb mwy uniongyrchol. Y Teulu Gwerinol (1871-2) Jean-François Millet (1814 - 1875) Olew ar gynfas Casgliad y Chwiorydd Davies Yr Heuwr, 1847-8 MILLET, Jean-François (1814 - 1875) Cinio yn y Wlad, 1868 Honore Daumier (1808 - 1879) Y Traeth yn Trouville, 1890 Louis Eugéne Boudin (1824 - 1898) Y Baich Trwm Honore Daumier (1808 - 1879) HamddenYn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, daeth y dosbarth canol neu'r bourgeoisie yn gyfoethocach diolch i'r newidiadau yn strwythur y dosbarthiadau cymdeithasol yn Ffrainc.Dechreuasant awchu am nwyddau moeth amrywiol, o'r rhad i'r technolegol. Yn fwy na dim, roeddynt yn hoffi paentiadau a oedd yn eu dangos yn hamddena ac yn pwysleisio'u statws newydd mewn cymdeithas. Dechreuodd arlunwyr ymateb trwy wneud paentiadau a oedd at ddant y gynulleidfa gynyddol newydd hon.Dyfeisiwyd y trên stêm ym 1804, ac o fewn hanner can mlynedd, roedd rheilffyrdd yn cael eu gosod ar hyd a lled Ffrainc. Mae Cinio yn y Wlad gan Daumier ac Y Traeth yn Trouville gan Boudin yn portreadu'r ymwelwyr dosbarth canol.Yn ogystal ag adlewyrchu'r datblygiadau chwyldroadol ym myd trafnidiaeth a thwristiaeth, dechreuodd arlunwyr frwsio'n rhydd gyda lliwiau llachar i gyfl eu awyrgylch o fwyniant a phleser pur. Cafodd y defnydd chwyldroadol hwn o olau a brwsio rhydd ddylanwad aruthrol ar arddull newydd maes o law — Argraffi adaeth.Mewnod a'r AelwydMae golygfeydd o fenywod yn rhan amlwg iawn o'n casgliad o baentiadau Ffrengig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er hynny, mae'n ddiddorol nodi mai artistiaid gwrywaidd beintiodd yr holl luniau hyn, felly rydym yn edrych arnynt o safbwynt dynion y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Felly, gallwn ddechrau deall rôl y fenyw mewn cymdeithas.Mae Y Baich Trwm gan Daumier yn dangos gweithgareddau'r ferch dosbarth gweithiol, tra bod paentiadau eraill yn portreadu merched hardd a ffasiynol o ddosbarth uwch. Dengys hyn bod rhaniadau rhwng y rhywiau a dosbarth cymdeithasol yn dal mewn grym ar ôl y Chwyldro.Boed yn brysur wrth eu gwaith neu ar eu heistedd yn oddefol, gellir dehongli'r lluniau hyn fel drych o'u sefyllfa mewn cymdeithas.Research and RevealHere we present four essays, giving a fresh look at the Museum's collection of pre-Impressionist French paintings, researched and interpreted by postgraduate students from the University of Bristol:Personalities in Paintings, by Matthew Howles Landscape Fakes, by Jessica Hoare The Landscapes of Millet, by Jessica Hoare The Paintings of Charles Bargue, by Rhian Addison CysylltiadauBrifysgol BrysteGymdeithas yr Haneswyr Celf
Blodyn cyntaf yn Yr Alban! Danielle Cowell, 12 Mawrth 2012 Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Gordon ar gyfer anfon y cofnod blodau 1af ar gyfer yr Alban! Er cael problemau gyda fandaliaeth yr wythnos hon maent wedi llwyddo i ail-poti flodau ac anfon eu cofnodion. Gwyddonwyr gwych iawn!Drwy edrych ar y map a'r dyddiadau blodeuo mae'n ymddangos bod y blodeuo wedi symud yn araf ar draws y wlad yr o'r De Orllewin i'r Gogledd Ddwyrain. Ond bod llawer o'r ardaloedd sy'n bell o'r môr yn dal i aros ar gyfer blodau?Cwestiwn yr wythnos: Pam mae blodau'r gwanwyn ger yr arfordir yn agor yn gynharach na'r rhai mewndirol? Byddaf yn datgelu'r ateb yr wythnos nesaf.Fy holl flodau wedi agor ac ar y penwythnos roedd yn wir yn teimlo fel y gwanwyn. Roedd yr haul yn tywynnu a fy nghennin Pedr yn blodeuo. Roeddwn yn falch i feddwl bod y rhan fwyaf o'r gaeaf yn tu ôl i ni a gallwn edrych ymlaen at yr haf!Mae'r blodau hefyd wedi agor yn Ysgol Eyton - diolch am y llun.Ymosodiad wlithod! Mae rhai o fy gennin Pedr wedi cael ei fwyta gan wlithod. Cymerais y gwlithod i lawr i waelod y ardd - bell oddi wrth fy cennin Pedr. Croesi bysedd byddant yn cadw i ffwrdd.www.museumwales.ac.uk/scan/bylbiauTwitter http://twitter.com/Professor_PlantFacebook Professor Plant
Blodyn cyntaf yn Lloegr! Danielle Cowell, 5 Mawrth 2012 Mae'r Crocws gyntaf Llloegr wedi ymddangos yn Ysgol Fulwood a Cadley - ar yr 2il o Fawrth.Llongyfarchiadau hefyd i Ysgol Bodfari & Ysgol Lakeside sydd wedi adrodd cennin Pedr a blodau crocws yn agor.Tybed pryd y bydd y blodau yn agor yn yr Alban? Mae mor gyffrous cael ysgolion o tair gwlad yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad Bylbiau Gwanwyn eleni! Diolch yn fawr i'r Ymddiriedolaeth Edina - ar gyfer gwneud hyn yn bosibl!Cadwch gwylio y map i weld ble mae'r blodau yn agor ac anfonwch unrhyw luniau sydd gennych i mi ac at y wasg leol.Mae'r holl ddata sy'n cael ei anfon mewn yn cael ei ddefnyddio i greu dyddiad blodeuo cyfartalog ar gyfer pob ysgol. Gwyliwch y siart crocws a chennin Pedr siart i weld y newidiadau fel mae'r data yn dod i mewn Mae'n wirioneddol bwysig bod pob disgybl yn anfon yn eu cofnod - fel y gall y we gyfrifo dyddiad blodeuo cyfartalog ar gyfer eich ysgol.www.museumwales.ac.uk/scan/bylbiauTwitter http://twitter.com/Professor_PlantFacebook Professor Plant
More flowers on the map Danielle Cowell, 2 Mawrth 2012 Flowers have popped up all over Wales this week. Crocus opened in Milford, Oakfield, Windsor Clive, Christchurch and Lakeside Primary. Daffodils opened in Ysgol Glan conwy and Christchurch! I wonder if the next flower will open in Scotland or England. Keep watching this map to see.www.museumwales.ac.uk/scan/bulbsFollow me on Twitter http://twitter.com/Professor_PlantFollow Professor Plant Facebook
1st Daffodil opens in Wales! Danielle Cowell, 1 Mawrth 2012 At long last we have our first flower record! Ysgol Glan Conwy reported their 1st Daffodil on the 24/2/12 - just in time for St.David's Day. If your flowers have opened - please send in your record in so we can all see them on the map. If you have any pictures - please send them in too.Glyncollen Primary School: Some of our daffodils and crocus have opened over half term. We enjoyed looking after them at home. Ans: Brilliant news, please send your records in!Woodplumpton Primary School: Very exciting update- three crocuses about to flower! We can see the purple petals and think they will pop open in the next couple of days. They have developed really quickly after appearing through the ground. Ans: Brilliant news! Can't wait to see them on the map!My bulbs are almost open - see my pics. My daffodils are really short this year only 10cms tall. Has anyone else noticed this?www.museumwales.ac.uk/scan/bulbsFollow me on Twitter http://twitter.com/Professor_PlantFollow Professor Plant Facebook