Rhwng 1943 a 1950 aeth John Piper ar siwrnai artistig ddwys drwy fynyddoedd gogledd Cymru, gan gyfleu angerdd a gweledigaeth nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen. Mae afiaith a disgleirdeb yn y donyddiaeth a'r arlliwiau a drama pur ym mhob un o'r gweithiau.
John Piper yw un o ffigyrau blaenllaw celf yr ugeinfed ganrif yng ngwledydd Prydain. Mae ei waith yn cynnwys portreadau, tirluniau, astudiaethau pensaernïol, bywyd llonydd, cerameg a chynlluniau ar gyfer tapestri a gwydr lliw. Aeth diddordeb Piper mewn tirluniau a phensaernïaeth ag ef i bob cwr o Brydain ond cafodd ei gysylltiad arwyddocaol cyntaf â gogledd Cymru tra'n gweithio fel artist rhyfel swyddogol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Chwarel Manod Mawr: storfa trysorau'r genedl yn ystod y Blitz
Ym 1943, derbyniodd Piper gomisiwn gan y Pwyllgor Cynghori Artistiaid Rhyfel i gofnodi crombil chwarel Manod Mawr. Roedd ar y pryd yn storfa i gasgliadau Oriel Genedlaethol Llundain a'r Casgliadau Brenhinol i'w gwarchod rhag dinistr bomio'r Blitz.
Roedd hi'n amhosibl tynnu lluniau na pheintio yng nghrombil yr ogof dywyll a rhoddwyd y gorau i'r comisiwn yn fuan wedyn. Er hynny, bachodd Piper ar y cyfle i grwydro'r Gogledd ymhellach. Bu hyn yn sbardun i gyfnod dwys o gofnodi mynyddoedd Cymru.
Ysbrydoliaeth Turner a Wilson
Gan ddefnyddio copi o lyfr A.C. Ramsay Old Glaciers of Switzerland and North Wales (1860) fel canllaw, teithiodd Piper drwy'r ardal yn cofnodi'r mynyddoedd. Drwy gydol ei gyfnod yng ngogledd Cymru, byddai'n aml yn defnyddio cyfeirlyfrau neu lyfrau daearegol o'r ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Edmygai'r darluniau wedi'u hengrafu ynddynt, ac roeddent hefyd yn linyn cyswllt rhyngddo â'i hoff artistiaid o'r cyfnod, Richard Wilson (1714-1782) a J.M.W. Turner (1775-1851).
Nid yn Eryri na'r Gogledd y dechreuodd teithiau peintio Piper i Gymru fodd bynnag, ond yn Sir Benfro a Sir Geredigion ym 1936. Y Flwyddyn ganlynol cynhyrchodd Pum Capel, 1937, cyfrwng cymysg ar bapur (casgliad AC-NMW).
Pensaernïaeth eglwysi o orllewin Cymru
Portreadir pum capel: Emmaus, Llanon, Rhos-goch, Rhydygwyn a Tyrhos. Cynhyrchwyd y pum collage yma drwy ddarlunio ar bapur wedi'i dorri a'i rwygo cyn ei ailadeiladu. Mae'n dangos ei ddiddordeb cynnar mewn pensaernïaeth eglwysi yn enwedig pensaernïaeth syml ond neo-glasurol capeli annibynnol Cymru.
Piper yng ngogledd Cymru
Yn ystod comisiwn aflwyddiannus Manod Mawr, dechreuodd Piper archwilio gogledd Cymru a darganfod lleoliadau fel Cader Idris a baentiwyd gan Wilson a Turner. Daeth y daith hon ag ef yn agos hefyd at Aran Fawddwy, testun ei waith olew trawiadol, Tarddle'r Ddyfi, 1943-44. Mae teitl y paentiad hwn yn cyfeirio at Greiglyn Dyfi, y llyn yn y blaendir a tharddle Afon Dyfi.
Peintiodd Turner olygfa ychydig yn wahanol o Aran Fawddwy mewn llun dyfrlliw yn dwyn y teitl A bridge over the Dyfi near Dinas Mawddwy, with Aran Fawddwy beyond (casgliad yr Amgueddfa Brydeinig). Mae'r arddull haniaethol bron, y naws dywyll fygythiol a'r arlliwiau aur, melyn, glas a choch llachar yn y gwaith hwn yn debyg iawn i arddull Turner. Taenwyd haen o geso ar y gynfas a pheintio drosto ag olew. Mae hyn yn rhoi gwead garw iawn i'r gwaith, sy'n ein hatgoffa o erwinder y creigiau a'r tywydd.
Ym 1945 dyma Piper a'i deulu yn llogi bwthyn o'r enw Pentre ac mae golygfa o'r tŷ o'r ffordd i'w weld mewn paentiad yn dwyn yr enw Nant Ffrancon Farm, 1950. Tŷ yng nghwm Nant Ffrancon ydyw, gyda bryn serth yn codi y tu ôl iddo a bu'r Pipers yn ei logi am £35 y flwyddyn. Dim ond llwybr mwdlyd oedd yn arwain at y tŷ bryd hynny, yn hytrach na'r ffordd goncrid a welir heddiw, a byddai bron yn amhosibl ei gyrraedd mewn tywydd gaeafol garw. Yn goron ar y cyfan, gan fod y tŷ wrth droed rhiw serth byddai glaw trwm yn achosi llifogydd.